Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Y CYNNIG I GAU YSGOL LLANBEDR

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi’n amgaeedig) ar ganfyddiadau'r ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig i gau Ysgol Llanbedr ar 31 Awst 2014 ac ar symud y disgyblion presennol i Ysgol Borthyn, Rhuthun yn amodol ar ddewis y rhieni. Mae’r adroddiad hefyd yn gofyn am gymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo cyhoeddi rhybudd statudol ar y cynnig i gau Ysgol Llanbedr ar 31 Awst 2014 a throsglwyddo'r disgyblion i Ysgol Borthyn, Rhuthun, yn dibynnu ar ddewis y rhieni.

 

Cofnodion:

[Ar gais yr Arweinydd Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd (PGCD) i’r materion cyfreithiol a godwyd cyn y cyfarfod ynghylch y broses ymgynghori.   Cadarnhaodd y PGCD ei fod yn fodlon ein bod wedi cadw at y ddeddfwriaeth berthnasol ac nad oedd unrhyw rwystr cyfreithiol rhag gwneud penderfyniad.]

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad a oedd yn rhoi manylion canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig i gau Ysgol Llanbedr ar 31 Awst, 2014 a throsglwyddo’r disgyblion presennol i Ysgol Borthyn, Rhuthun yn amodol ar ddewis y rhieni, a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig.  Dosbarthwyd llythyr oddi wrth Esgob Llanelwy’n gwrthwynebu'r cau yn y cyfarfod.

 

Cydnabu'r Cynghorydd Williams fod hwn yn benderfyniad anodd, gan nodi bod Ysgol Llanbedr yn arfer bod yn ysgol ffyniannus, a rhoddodd ganmoliaeth i’r gofal cyflawn a ddarparwyd gan yr ysgol.  Nododd fod nifer o blant o Lanbedr wedi penderfynu peidio â mynychu’r ysgol a chyfeiriodd at anawsterau blaenorol sydd wedi effeithio ar nifer y disgyblion.  Eglurodd y Cynghorydd Williams y cyd-destun dros adolygu ysgolion a thynnodd sylw at benderfyniadau a chanlyniadau blaenorol fel rhan o'r rhaglen foderneiddio addysg.  Disgrifiodd hefyd gamau’r broses adolygu a oedd yn cynnwys cau, uno neu ffederaleiddio’r ysgol neu gynnal y drefn bresennol.

 

 Cyfeiriodd yr Arweinydd at gyfarfod diweddar gyda rhieni a llywodraethwyr i drafod y mater o chwarae teg i Lanbedr.  Roedd yn fodlon bod y broses yn un deg ac y byddai Llywodraeth Cymru wedi rhoi sylw i’r mater pe na bai wedi bod yn deg.

 

Cydnabu’r Cabinet yr angen i fynd i'r afael â lleoedd gwag fel rhan o’r adolygiad yn ardal Rhuthun a nodwyd bod 21 o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol a oedd â lle i 54. Nodwyd hefyd mai dim ond 7 o’r 21 disgybl oedd yn byw yn y gymuned ac nid oedd yn ymddangos bod unrhyw ddewis penodol dros unrhyw ysgol arall.  Roedd yr Aelodau'n cydnabod y pryderon a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad ond tynnwyd sylw at bwysigrwydd darparu addysg o ansawdd a gwneud y mwyaf o botensial addysgol pobl ifanc yn ardal Rhuthun.  Gofynnwyd am sicrwydd ynglŷn ag effaith cau ar gyrhaeddiad disgyblion a gofynnwyd am eglurhad pellach o ran dewisiadau ysgol a chymryd ymagwedd gyson tuag at ysgolion eraill.  Ymatebodd y Cynghorydd Eryl Williams a'r swyddogion fel a ganlyn -

 

·        Enwyd Ysgol Borthyn fel ysgol arall (fel ysgol ffydd Cyfrwng Saesneg) gydag ysgolion eraill yn cael eu crybwyll fel dewisiadau eraill addas gan ymatebwyr i'r ymgynghoriad, gan gynnwys Gellifor, Bro Famau a Stryd y Rhos

·        dim ond un ymatebydd gadarnhaodd y byddent yn anfon eu plentyn/plant i Ysgol Borthyn gyda'r mwyafrif yn dewis peidio â datgan dewis - os cytunwyd i gau'r ysgol, byddem yn cysylltu â rhieni ynghylch eu dewisiadau

·        eglurwyd y rhesymeg y tu ôl i benderfyniadau cynharach a wnaed mewn perthynas ag ysgolion llai a'r cynigion ar gyfer ysgolion eraill fel rhan o adolygiad ardal Rhuthun yn seiliedig ar ffactorau penodol yn ymwneud â’r ysgolion hynny

·        nid fu’r adolygiadau blaenorol yn seiliedig ar niferoedd yn llwyddiannus a gellid buddsoddi mewn ysgolion llai os oeddynt yn gynaliadwy

·         adroddwyd ar y safonau da o gyrhaeddiad yn ysgolion Rhuthun, gan dynnu sylw at y ffaith fod perfformiad y tair ysgol ffydd yn dda

·        nad oedd unrhyw broblemau gyda darpariaeth cyfrwng Saesneg na dwyieithog yn yr ardal.

 

Siaradodd y Cynghorydd Huw Williams yn erbyn cau Ysgol Llanbedr ac roedd yn siomedig bod y mater wedi’i ddwyn gerbron y Cabinet mor fuan ar ôl dyddiad cau'r ymgynghoriad.  Tynnodd sylw at y cysylltiadau cymunedol cryf rhwng yr ysgol a'r eglwys, a chefnogaeth rhieni a phlant lleol mewn digwyddiadau cymunedol.  Wrth ymateb i bwyntiau cynharach, eglurodd y Cynghorydd Huw Williams bod rhieni’n teimlo nad oeddent wedi derbyn digon o wybodaeth am ysgolion eraill i fynegi eu dewis.  Cyfeiriodd at effaith anawsterau blaenorol ar nifer y disgyblion ond roedd rhagamcanion yn dangos cynnydd i 41  disgybl yn 2014 a 47 yn 2015. Nododd hefyd bod swyddogion wedi tan adrodd niferoedd derbyniadau a gofynnodd am eglurhad ynghylch y rhesymau dros gau ac a oedd gan y Cyngor bolisi ar gyfer ysgolion bach.  Rhoddwyd yr ymatebion canlynol -

 

·        rhoddwyd eglurhad ar y broses o ddadansoddi ymatebion i'r ymgynghoriad ar ôl y dyddiad cau mewn pryd i’w cyflwyno i'r Cabinet

·        roedd rhieni wedi derbyn gwybodaeth yn ymwneud ag Ysgol Borthyn fel y dewis arall o ysgol a enwebwyd

·        roedd ffigurau derbyn yn agored i newid nes bod y rownd o dderbyniadau meithrin ar gau - mae 13 o dderbyniadau meithrin ar hyn o bryd gyda 4 o Lanbedr - fodd bynnag nid oedd yr ysgol yn cael ei hystyried yn gynaliadwy hyd yn oed gyda’r nifer llawn o 54 o ddisgyblion

·        roedd Fframwaith Polisi Moderneiddio Addysg y Cyngor a gymeradwywyd yn 2009 yn cynnwys adolygiad o bob ysgol gyda llai nac 80 o ddisgyblion

·        roedd Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau ar gyfer gostwng lleoedd gwag ac nid oedd modd defnyddio cyllid cyfalaf i wella ysgolion oni bai ein bod yn cyflawni’r targedau

·        roedd 24% o leoedd yn wag yn ardal Rhuthun felly nid oedd y Cyngor yn gwneud y defnydd gorau o'i adnoddau.

 

Tynnodd y Cynghorwyr Joe Welch a Martyn Holland sylw at adeilad a chyfleusterau ardderchog yr ysgol ynghyd â'r cynnydd a ragwelir yn nifer y disgyblion a goblygiadau’r tai ychwanegol a glustnodwyd ar gyfer yr ardal yn y CDLl.  Cwestiynwyd yr arbedion a fyddai’n deillio o gau’r ysgol a'r posibilrwydd o ffederaleiddio gydag ysgol debyg.  Awgrymodd y Cynghorydd Dewi Owens y gellid gohirio’r penderfyniad nes ein bod yn sicr o lefel y galw am leoedd yn yr ysgol.  Rhoddwyd yr ymatebion canlynol -

 

·        nid oedd unrhyw ddatblygiad tai yn debygol o ddigwydd am rai blynyddoedd ac yn seiliedig ar y galw presennol nid oedd yn debygol o olygu mwy na 2 neu 3 disgybl ychwanegol i’r ysgol

·        nodwyd arbedion blynyddol o £68k y gellid eu defnyddio i ariannu benthyca darbodus; er bod y cyfleusterau a'r adeiladau yn dda, roedd yr adolygiad yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd a byddai angen buddsoddiad yn y dyfodol

·        defnyddiwyd ystafell ddosbarth symudol yn Ysgol Borthyn ac roedd lle i fwy o ddisgyblion - byddai asesiad lleoedd yn cael ei gynnal yn yr ardal wrth ystyried niferoedd disgyblion ar gyfer ysgol newydd yn Rhuthun

·        rhoddwyd ystyriaeth i ffederaleiddio, ond byddai costau ynghlwm â chadw dau adeilad ac roedd angen lleihau'r sail asedau er mwyn buddsoddi mewn adeiladau ysgolion eraill a gwneud y defnydd gorau o adnoddau

·        cydnabuwyd y cynnydd yn niferoedd y disgyblion yn ystod y flwyddyn ond hyd yn oed pe bai’r ysgol yn llawn, ni fyddai’n gynaliadwy i’r dyfodol

·        byddai gohirio’r penderfyniad yn peryglu adolygiad ardal Rhuthun ac yn cael effaith negyddol ar ddisgyblion.

 

Yn ei ddatganiad i gloi aeth y Cynghorydd Huw Williams ati i -

 

·        ddweud pe bai’r ysgol yn cau, byddai'r safle’n dychwelyd i’r cymwynaswr ac ni fyddai'r Cyngor, yr Esgobaeth na Phentref Llanbedr yn elwa

·        mynegi pryderon nad oedd cau’r ysgol er mwyn gostwng nifer y lleoedd gwag a denu arian cyfalaf wedi’i grybwyll yn y ddogfen ymgynghori ffurfiol ac, felly, ei fod yn teimlo na ddilynwyd y broses gywir

·        roedd yn siomedig nad oedd y Corff Llywodraethu wedi derbyn unrhyw ymateb i'w papurau cyfreithiol ac roedd eu Cyfreithiwr yn bryderus ynghylch diffygion yn yr ymgynghoriad.

 

Ailadroddodd y PGCD ei farn fod y broses briodol wedi’i dilyn ac y gellid gwneud penderfyniad ar sail y wybodaeth a gyflwynwyd.  Wrth gynnig yr argymhelliad amlygodd y Cynghorydd Eryl Williams ymagwedd strategol Sir Ddinbych tuag at fuddsoddi mewn ysgolion a sicrhau darpariaeth addysg o safon ar draws y sir.  Talodd y Cabinet deyrnged i'r ymgyrch egnïol i gadw'r ysgol ar agor, ond roeddynt yn teimlo mai cymeradwyo’r argymhelliad oedd y penderfyniad cywir.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig i gau Ysgol Llanbedr ar 31 Awst 2014 a throsglwyddo’r disgyblion presennol i Ysgol Borthyn, Rhuthun, yn dibynnu ar ddewis y rhieni.

 

Ar y pwynt hwn (11.15 a.m.) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: