Eitem ar yr agenda
ADOLYGU TRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A HURIO PREIFAT – GYRRWR RHIF 048997
- Meeting of Pwyllgor Trwyddedu, Dydd Gwener, 20 Rhagfyr 2013 9.30 am (Item 5.)
- Gweld y cefndir i eitem 5.
Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi yn
amgaeedig) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau
hurio preifat mewn perthynas â Gyrrwr Rhif 048997.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD y dylid diddymu Trwydded Cerbyd Hacni a Hurio
Preifat gyrrwr rhif 048997 er mwyn diogelu’r cyhoedd.
Cofnodion:
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes) ar –
(i)
addasrwydd
Gyrwyr Rhif 048997 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio
preifat;
(ii)
gwnaed
cwyn gan Swyddog Gorfodi Sifil ynglŷn ag ymddygiad y gyrrwr trwyddedig ar
10 Hydref 2013 ar ôl rhoi Rhybudd Talu Cosb iddo mewn perthynas â cherbyd
hacni,
(iii)
roedd
y Gyrrwr wedi derbyn Hysbysiad Cosb Benodol gan Heddlu Gogledd Cymru am Drosedd
dan y Drefn Gyhoeddus yn ymwneud â’r digwyddiad (roedd crynodeb o’r ffeithiau
ynghyd â datganiadau tystion a dogfennau cysylltiedig wedi’u hatodi i’r
adroddiad), a
(iv)
gwahoddwyd
y Gyrrwr i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi ei adolygiad trwydded ac
ateb cwestiynau aelodau ar hynny.
Rhoddodd y Swyddog
Gorfodaeth Trwyddedu (SGT) grynodeb o’r adroddiad a dywedodd nad oedd y Gyrrwr
yn bresennol. Roedd y mater wedi’i ohirio ers y cyfarfod
diwethaf ar ôl derbyn gohebiaeth ysgrifenedig gan y Gyrrwr a'r cyfreithwyr a
gyfarwyddwyd ganddo yn gofyn am ohiriad. Roedd y
cyfreithwyr wedi hysbysu ers hynny nad oeddynt bellach yn cynrychioli'r Gyrrwr
dan sylw. Gan nad oedd y Gyrrwr wedi rhoi eglurhad dros ei
fethiant i fod yn bresennol, y ffaith fod y mater wedi’i ohirio yn barod ar
gais y Gyrrwr, a gan ystyried natur ddifrifol yr achos penderfynodd yr aelodau
i fwrw ymlaen â'r adolygiad yn absenoldeb y Gyrrwr.
Atgoffodd y Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd yr aelodau am y sylwadau a wnaed yn y
cyfarfod diwethaf. Darllenodd lythyr a dderbyniwyd oddi wrth y Gyrwyr
dan sylw lle’r oedd yn derbyn natur ddifrifol y digwyddiad ac yn dymuno rhoi’r
mater yn nwylo cyfreithwyr. Aeth ati i gyfleu ei
ymddiheuriadau a’i edifeirwch dwys am y digwyddiad gan nodi fod cyfres o ddigwyddiadau
anffodus wedi arwain at y diweddglo hwn. Teimlai’r Gyrrwr
fod y dystiolaeth a gyflwynwyd wedi’i rhagfarnu yn ei erbyn ac roedd eisiau
paratoi amddiffyniad a darparu datganiadau tystion.
Atebodd y SGT gwestiynau
gan aelodau gan nodi -
·
nid
oedd manylion yr aelod o’r cyhoedd oedd yn rhan o'r digwyddiad wedi’u cymryd ar
adeg y digwyddiad ac yn anffodus, nid oedd modd dod o hyd iddo
·
cadarnhaodd
bod rhai mân anghysondebau rhwng y ddau ddatganiad a roddwyd gan y Swyddogion
Gorfodaeth Sifil
·
Roedd
Swyddogion Gorfodaeth Sifil yn caniatáu i geir barcio am hyd at ddeng munud yn
y lle parcio cyn rhoi Rhybudd Talu Cosb
·
nid
oeddem yn gwybod a oedd y Gyrwyr wedi talu’r Hysbysiad Cosb Benodedig a roddwyd
gan yr Heddlu ond roedd wedi nodi yn ei ddatganiad ei fod yn bwriadu gwneud
hynny.
Ar y pwynt hwn torrodd y
pwyllgor i ystyried yr achos a -
PENDERFYNWYD diddymu Trwydded Yrru Cerbyd Hacni a Cherbydau
Hurio Preifat Gyrrwr Rhif 048997
er diogelwch y cyhoedd.
Dyma oedd y rhesymau am
benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –
Rhoddodd aelodau
ystyriaeth ofalus i’r holl dystiolaeth a gyflwynwyd, gan gynnwys sylwadau
ysgrifenedig a gyflwynwyd yn flaenorol gan y Gyrrwr fel rhan o’i gais i
ohirio’r eitem yn y cyfarfod diwethaf. Mynegwyd pryderon difrifol ynghylch
ymddygiad y Gyrwyr yn ystod y digwyddiad, ac yn arbennig ei agwedd ymosodol
tuag at y Swyddogion Gorfodaeth Sifil ac aelod o’r cyhoedd a oedd yn bresennol
ynghyd â’r iaith frwnt a sarhaus a ddefnyddiwyd a oedd yn dangos problem gyda’i
allu i reoli gwylltineb. Cododd y digwyddiad hwn tra bod y Gyrrwr ar
ddyletswydd ac mewn man cyhoeddus a dystiwyd ac a glywyd gan y cyhoedd a phlant
efallai. Nododd yr Aelodau fod
Heddlu Gogledd Cymru wedi penderfynu rhoi Hysbysiad Cosb Benodol am Drosedd dan
y Drefn Gyhoeddus a oedd yn cadarnhau i ryw raddau'r digwyddiad fel y disgrifir
yn yr adroddiad. Nodwyd fod y Gyrrwr ei hun wedi cydnabod yn ei
sylwadau ysgrifenedig fod ei ymddygiad yn annerbyniol. Nododd yr
Aelodau hefyd eu bod wedi caniatáu gohirio’r achos yn flaenorol ac nad oedd y
Gyrrwr wedi rhoi unrhyw esboniad dros ei fethiant i fod yn bresennol.
Prif ystyriaeth y pwyllgor oedd diogelwch y cyhoedd ac yn sgil ymddygiad y
Gyrrwr fel y disgrifir cytunwyd i ddiddymu’r drwydded ar unwaith er lles
diogelwch y cyhoedd.
Daeth y cyfarfod i ben am 11.00 a.m.
Dogfennau ategol:
- Restricted enclosure Gweler y rhesymau pam fod dogfen 5./1 yn gyfyngedig