Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGU TRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A HURIO PREIFAT – GYRRWR RHIF 046577

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi yn amgaeedig) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat mewn perthynas â Gyrrwr Rhif  046577.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD gwahardd gyrrwr rhif 046577 yn syth rhag gyrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat am gyfnod o un wythnos er mwyn diogelu’r cyhoedd. 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes)  ar –

 

(i)           addasrwydd Gyrwyr Rhif 046577 i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          gwybodaeth a dderbyniwyd ar 24 Medi, 2013, a chwyn ddilynol a wnaed yn erbyn y gyrrwr, ynglŷn â gosod sylwadau amhriodol ar wefan rhwydweithio cymdeithasol am deithiwr a dalodd am deithio a oedd hefyd yn cynnwys datgelu manylion personol (atodwyd crynodeb o ffeithiau ynghyd â datganiadau gan dystion a dogfennau cysylltiedig i’r adroddiad), a

(iii)          

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a threfnau’r pwyllgor.  Cyflwynodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu’r adroddiad a rhoddodd grynodeb o ffeithiau’r achos.  Atgoffwyd Aelodau fod y mater wedi’i ohirio o’r cyfarfod diwethaf ar gais y Gyrrwr gan na allai fod yn bresennol.

 

Cyflwynodd y Gyrwyr ble ysgrifenedig i liniaru ynghyd â thystlythyrau i’w gymeriad gan ei gyflogwr a rhai o’i gwsmeriaid rheolaidd (a ddosbarthwyd yn y cyfarfod).  Mynegodd edifeirwch dwys am y digwyddiad a rhoddodd sicrwydd i’r pwyllgor ynghylch ei ymddygiad da blaenorol a’i ymddygiad yn y dyfodol.  Cyfeiriodd at amgylchiadau’r digwyddiad ac eglurodd ei fod yn credu mai tynnu coes preifat rhwng ffrindiau oedd y negeseuon.  Roedd y Gyrrwr yn cydnabod fod ei ymddygiad yn annerbyniol a chynigiodd ei ymddiheuriadau i’r teithiwr dan sylw.  Yn olaf, cyfeiriodd at ei amgylchiadau teuluol gan nodi y byddai colli ei drwydded yn achosi caledi eithriadol.

 

Holodd yr Aelodau’r Gyrwyr am ei weithredoedd, gan gyfeirio’n benodol at y rhesymeg am ei ymddygiad a’i ddehongliad o’r digwyddiadau.  Roedd y Gyrrwr yn awyddus i bwysleisio nad oedd erioed yn fwriad ganddo i’w sylwadau gael eu cyhoeddi nac achosi tramgwydd a’i fod wedi credu’n ddiniwed eu bod wedi’u gwneud rhwng ffrindiau.  Ni ddatgelodd fanylion am y cyfeiriad yn fwriadol ac roedd yn bendant na fyddai fyth wedi datgelu enw na chyfeiriad llawn y teithiwr.  Yn ogystal, dywedodd y Gyrrwr ei fod bob amser yn trin ei deithwyr gyda chwrteisi a pharch.

 

Yn ei ddatganiad terfynol mynegodd y Gyrwyr edifeirwch dwys ac ymddiheurodd unwaith eto am ei weithredoedd.  Plediodd ar aelodau i beidio â diddymu ei drwydded a rhoddodd sicrwydd ynglŷn â’i ymddygiad yn y dyfodol gan dynnu sylw at ei record flaenorol ddilychwyn.

 

Ar y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PENDERFYNWYD atal Gyrwyr Rhif 046577 rhag gyrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat am gyfnod o un wythnos a fyddai’n dod i rym ar unwaith ar sail diogelwch y cyhoedd.

 

Dyma oedd y rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Rhoddodd Aelodau ystyriaeth ofalus i’r holl dystiolaeth a gyflwynwyd a datganiad y Gyrrwr i gefnogi ei achos gan gynnwys ei ble i liniaru a’r tystlythyrau cymeriad a ddarparwyd.  Mynegwyd pryderon difrifol ynghylch y sylwadau amharchus a wnaeth y Gyrrwr ynglŷn â theithiwr diamddiffyn a’r ffaith ei fod wedi datgelu rhan o’i chyfeiriad ac y gallai fod wedi peryglu’r unigolyn.  Roedd yr Aelodau wedi ystyried diddymu’r drwydded ond wedi ystyried ymddygiad y Gyrrwr a’i edifeirwch gwirioneddol ynglŷn â’r digwyddiad ynghyd â’r ffaith nad oedd y sylwadau yn rhai o natur sarhaus ac nad oedd wedi datgelu cyfeiriad llawn y teithiwr.  O ganlyniad, cytunwyd i atal y drwydded am un wythnos a fyddai’n dod i rym ar unwaith ar sail diogelwch y cyhoedd.  Yn ogystal, roedd y pwyllgor yn disgwyl i’r Gyrrwr wneud ymddiheuriad llawn i’r teithiwr dan sylw ac anfon copi at yr Adran Drwyddedu at ddibenion ffeilio.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a’u rhesymau dros hynny eu cyfleu i’r Gyrrwr ynghyd â goblygiadau’r penderfyniad hwnnw a’i hawl i apelio.  Fe’i rhybuddiwyd hefyd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar y pwynt hwn (10.20 a.m.) cafwyd egwyl ar gyfer lluniaeth.

 

 

Dogfennau ategol: