Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STRATEGAETH Y PARTH CYHOEDDUS

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus (copi ynghlwm) yn gofyn am gefnogaeth y Cabinet ar gyfer drafft Strategaeth y Parth Cyhoeddus a’r Cynllun Gwella perthnasol.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn cymeradwyo’r Strategaeth Parth Cyhoeddus ddrafft a'r Cynllun Gwella yn amodol ar gynnwys mwy o fanylion yn y Cynllun Gwella am weithgareddau gwella mewn perthynas â thipio anghyfreithlon a masnachu cwrt blaen, ac

 

(b)       yn cytuno i adolygiad o'r Cynllun Gwella yn flynyddol, gyda diweddariadau ar gynnydd i gael eu darparu drwy'r broses Herio Gwasanaeth ar gyfer y gwasanaethau perthnasol, a chyda chyfranogiad yr Aelod Arweiniol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr adroddiad yn ceisio cadarnhad y Cabinet i'r Strategaeth Parth Cyhoeddus ddrafft a'r Cynllun Gwella cysylltiedig (ynghlwm wrth yr adroddiad) yn amlinellu'r ffordd yr oedd y Cyngor yn bwriadu delio â materion sy'n effeithio ar y parth cyhoeddus o fewn y sir.

 

Roedd y Strategaeth wedi’i chynhyrchu er mwyn datblygu eglurder a chydlyniaeth, sicrhau gwell cydweithio a dull mwy corfforaethol o ymdrin â materion y parth cyhoeddus fel yr argymhellwyd mewn adroddiad Archwiliad Mewnol diweddar.  Wrth hyrwyddo’r Strategaeth ymhelaethodd y Cynghorydd Smith ar y pedair egwyddor strategol a oedd wedi'u hymgorffori yn y ddogfen.

 

Rhoddodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau, y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts drosolwg o'r ddadl craffu ar y Strategaeth yn cadarnhau bod y pwyllgor wedi bod yn hapus i gymeradwyo'r Strategaeth yn amodol ar gynnwys cyfeiriadau at ddiwylliant y Cyngor; pwysigrwydd ymgynghori ac ymagwedd gydlynol ac ar y cyd ynghyd â nodau ac amcanion allweddol a nodwyd.

 

Ystyriodd y Cabinet yr adroddiad a thrafodwyd y materion canlynol -

 

·        codwyd cyfrifoldeb am gynnal a chadw mannau chwarae a mynegodd y Cynghorydd Huw Jones bryderon bod arwyddion y Cyngor Sir wedi eu lleoli mewn rhai meysydd chwarae lle nad oeddent yn gyfrifol amdanynt a all olygu goblygiadau o ran atebolrwydd - gofynnodd i'r mater hwn gael ei archwilio ymhellach a bod y rhai sy'n atebol dros gynnal meysydd chwarae yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau cynnal a chadw a diogelwch offer chwarae.  Rhoddodd y Pennaeth Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol (HHES) sicrwydd y cynhelir archwiliadau mewn meysydd chwarae a bod y rhai sy'n atebol yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau drwy'r broses honno.  Cytunodd i adrodd yn ôl ar y nifer o feysydd chwarae o fewn y sir a'r rhai sy'n gyfrifol amdanynt.  Cytunodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol Cwsmeriaid i gysylltu â chynghorau tref/cymuned ar y mater er mwyn egluro unrhyw gamddealltwriaeth a allai fodoli

·        Bwriedir datblygu polisi a gweithdrefnau tipio anghyfreithlon yn ystod 2014/15 er mwyn rheoli'r mater

·        Amlygodd y Cynghorydd Barbara Smith nifer o faterion a godwyd yn y Cynllun Corfforaethol Chwarter 2 sy'n ymwneud â’r parth cyhoeddus a gofynnodd yn benodol i dipio anghyfreithlon gael ei gynnwys fel gweithgaredd gwella penodol o fewn y ddogfen.  Nodwyd y byddai'r Pwyllgor Craffu Cymunedau’n craffu ar reolaeth tipio anghyfreithlon yn eu cyfarfod nesaf

·        mewn ymateb i fater a godwyd gan y Cynghorydd Bobby Feeley dywedodd yr HHES am y broses dendro a dyfarnu contract ar gyfer cyflenwi basgedi crog i Ganolfan Arddio Aberchwiler

·        Amlygodd yr Arweinydd bwysigrwydd datblygu cyswllt gyda chynlluniau tref ac ardal yn fuan o fewn y strategaeth a chadarnhaodd HHES bod llawer o'r cynlluniau hynny eisoes yn cynnwys nifer o gamau ar y parth cyhoeddus

·        mewn cysylltiad â’r Archwiliad o Arwyddion Strydoedd dywedodd y Cynghorydd Huw Jones am waith y Fforwm Dwyieithrwydd er mwyn bwrw ymlaen â'r mater iaith

·        Amlygodd y Cynghorydd Joan Butterfield fasnachu blaengwrt fel mater yng Nghanol Tref Y Rhyl a gofynnodd iddo gael ei gynnwys yn y Strategaeth.  Cadarnhaodd y Cynghorydd David Smith ei fod hefyd yn fater gorfodi i swyddogion ei ymchwilio.

 

Croesawodd yr Aelodau’r strategaeth er mwyn darparu ymagwedd gydlynol a chydgysylltiedig i faterion y parth cyhoeddus a chan ystyried sylwadau a wnaed -

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cymeradwyo Strategaeth y Parth Cyhoeddus drafft a'r Cynllun Gwella yn amodol ar gynnwys mwy o fanylion am weithgareddau gwella o safbwynt tipio anghyfreithlon a masnachu blaengwrt yn y Cynllun Gwella, a

 

(b)       chytuno i adolygiad o'r Cynllun Gwella’n flynyddol, gyda diweddariadau ar gynnydd drwy'r broses Herio Gwasanaeth ar gyfer y gwasanaethau perthnasol, a chyda chyfranogiad yr Aelod Arweiniol.

 

 

Dogfennau ategol: