Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

YSGOL CLOCAENOG AC YSGOL CYFFYLLIOG

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi ynghlwm) yn nodi manylion canfyddiadau ymgynghoriad ffurfiol ynglŷn â dyfodol Ysgol Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog a gofyn am gefnogaeth i gyhoeddi’r cynigion statudol hanfodol ar gyfer cau’r ddwy ysgol a chreu ysgol newydd.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn nodi canfyddiadau'r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer cau Ysgol Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog ac agor ysgol ardal newydd ar y ddau safle presennol;

 

(b)       yn cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog ar 31 Awst 2014 ac i agor ysgol ardal newydd ar y safleoedd presennol ar 1 Medi 2014, a

 

(c)        chadarnhau'r ymrwymiad i weithio tuag at ddarparu ysgol ardal newydd ar un safle yn amodol ar argaeledd cyllid cyfalaf.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad yn manylu canfyddiadau'r ymgynghoriad ffurfiol ar ddyfodol Ysgol Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog ac yn ceisio cefnogaeth i gyhoeddi’r cynigion statudol gofynnol i gau’r ddwy ysgol a chreu ysgol ardal newydd.

 

Derbyniodd yr aelodau gefndir y cynnig sy'n codi o'r adolygiad o ysgolion cynradd yn ardal Rhuthun er mwyn caniatáu buddsoddiad i wella cyfleusterau addysgol tra hefyd yn lleihau lefel gyffredinol y lleoedd dros ben.  Roedd yr adroddiad yn ymwneud ag un o'r chwe chynnig a gymeradwywyd gan y Cabinet ar 25 Mehefin 2013.

 

Yn ystod y drafodaeth eglurwyd oherwydd maint adolygiad Rhuthun bu'n rhaid cynnal y broses mewn camau a chyflwynwyd y cynnig hwn yn ystod y cam cyntaf oherwydd yr angen am hysbysiad statudol.  Byddai cynigion pellach mewn cysylltiad ag ysgolion eraill yn cael eu cyflwyno ar yr adeg briodol yn y broses adolygu gyffredinol.  Rhoddwyd sicrwydd nad oedd yr un cynnig wedi’i flaenoriaethu dros un arall a byddai gofynion ariannu yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet ar yr un pryd.  Roedd ymrwymiadau cyllido cyfredol, ynghyd â phrosiectau dangosol a chostau’r adolygiad wedi eu hatodi i'r adroddiad.

 

Gofynnodd yr Aelodau gwestiynau a gofynnwyd am sicrwydd ynglŷn â gwahanol agweddau ar y cynnig.  Cydnabu'r Cynghorydd Bobby Feeley yr anawsterau a'r gwaith helaeth ynghlwm wrth gynnal adolygiad ardal Rhuthun ond cwestiynodd hyfywedd y cynigion.  Mynegodd amheuon ynghylch y cyfiawnhad dros gynigion penodol, gan amlygu nifer o feysydd sy'n peri pryder, a holodd am y rhesymeg y tu ôl i'r argymhellion a'r goblygiadau posibl ar gyfer ysgol newydd yn Rhuthun.

 

Cyflwynwyd yr ymatebion canlynol i faterion a godwyd gan aelodau -

 

·        byddai cyllid ar gyfer cludiant ysgol yn cael ei ddarparu i ddisgyblion i'r ysgol newydd tra’r oedd yn bodoli ar ddau safle

·        roedd pryderon ynghylch addasrwydd y rhwydwaith ffyrdd wedi eu cydnabod ac ymdrechir i sicrhau bod ffyrdd yn glir ac yn flaenoriaeth ar gyfer graeanu

·        Penderfynir ar gapasiti a nifer mynediad yn yr adeilad newydd fel rhan o'r broses ddylunio er mwyn sicrhau na grëwyd lleoedd dros ben sylweddol

·        roedd y rhesymau y tu ôl i'r penderfyniad i uno'r ddwy ysgol yn hytrach na ffedereiddio wedi eu manylu gyda’r ardal dalgylch eang; lleoliadau anghysbell, a niferoedd disgyblion yn y ddwy ysgol yn ffactorau perthnasol

·        byddai'r model arfaethedig yn cryfhau'r ddarpariaeth addysgol a sicrhau bod disgyblion yn cael y cyfleoedd a darpariaeth cwricwlwm gorau posibl

·        eglurwyd y broses gategoreiddio ar gyfer faint o addysg drwy gyfrwng y Gymraeg gafodd ei chyflwyno o fewn ysgolion yn gyffredinol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau yn ymwneud â chynigion ar gyfer ysgolion eraill yn ardal Rhuthun, rhoddodd swyddogion ddiweddariad ar gynnydd ac eglurwyd y rhesymeg y tu ôl i'r cynigion unigol yn seiliedig ar nifer o ffactorau sy'n berthnasol i'r ysgolion hynny.  Cadarnhaodd y Cynghorydd Eryl Williams ei ymrwymiad i ysgol newydd yn Rhuthun ac addawodd i sicrhau y byddai ardal Rhuthun yn derbyn addysg a chyfleusterau o ansawdd o'r radd flaenaf o ganlyniad i'r broses adolygu.

 

Amlygodd y Cynghorydd David Smith natur gymhleth yr adolygiad a chefnogodd y cynnig ar gyfer dyfodol Ysgol Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog i sicrhau addysg o ansawdd ar gyfer yr ardal.  Ychwanegodd y Cynghorydd Hugh Irving ei gefnogaeth i'r cynnig er mwyn darparu'r addysg orau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.  Cydnabu'r Arweinydd bod angen gwneud penderfyniadau anodd gan bwysleisio cyfrifoldeb aelodau i sicrhau cynaliadwyedd a gwelliant mewn safonau addysg.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       nodi canfyddiadau'r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer cau Ysgol Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog ac agor ysgol ardal newydd ar y ddau safle presennol;

 

(b)       cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog ar 31 Awst 2014 ac agor ysgol ardal newydd ar y safleoedd presennol ar 1 Medi 2014, a

 

(c)        chadarnhau'r ymrwymiad i weithio tuag at ddarparu ysgol ardal newydd ar un safle yn amodol ar argaeledd cyllid cyfalaf.

 

Roedd y Cynghorydd Bobby Feeley wedi ymatal rhag

pleidleisio ar y penderfyniad uchod.

 

 

Dogfennau ategol: