Eitem ar yr agenda
DATA LLEOEDD YSGOL
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg (copi amgaeedig) sy'n
rhoi gwybodaeth am leoedd i ddisgyblion, rhagamcanion y dyfodol, cyflwr ac
addasrwydd ysgolion a'r nifer o unedau symudol sy’n cael eu defnyddio ar hyn o
bryd.
10.50 a.m.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg (HCES),
a oedd yn rhoi gwybodaeth am leoedd i ddisgyblion, rhagamcanion y dyfodol,
cyflwr ac addasrwydd ysgolion a'r nifer o unedau symudol sy’n cael eu defnyddio
ar hyn o bryd, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Eglurodd Rheolwr y Rhaglen: Moderneiddio Addysg ( PM: ME) bod defnyddio’r Fframwaith Polisi
Moderneiddio Addysg wedi arwain y Cyngor i wneud nifer o benderfyniadau anodd
ynglŷn â dyfodol nifer o ysgolion.
Cymeradwyodd y Cyngor ei Gynllun Corfforaethol ym mis Hydref, 2012, a oedd
yn cynnwys yr ymrwymiad i "Wella Perfformiad mewn Addysg ac Ansawdd ein
Adeiladau Ysgolion". Roedd yr ymrwymiad hwn yn cynnwys cynigion cyllid i
fuddsoddi tua £96m yn ystâd yr ysgol i wella ansawdd adeiladau ysgol. Sefydlwyd
Rhaglen Moderneiddio Addysg glir ym mis Rhagfyr 2012 gyda'r nod o gyflwyno’r
uchelgais hwn. Roedd manylion am sut byddai'r Rhaglen yn cael ei
chyflwyno, y sefyllfa bresennol o ran lleoedd gwag a niferoedd mewn ysgolion,
gwybodaeth am brosiectau Ysgolion yr 21ain Ganrif a ariennir a meysydd
blaenoriaeth eraill wedi eu cynnwys yn yr adroddiad a'r atodiadau cysylltiedig.
Byddai'r Cynllun Corfforaethol o bosibl yn caniatáu i £23miliwn pellach
gael ei fuddsoddi tuag at weithredu canfyddiadau adolygiadau ardal a
phrosiectau adeiladau ysgolion eraill a gwaith gwella. Nid oes unrhyw
benderfyniadau wedi eu gwneud ynghylch lle y byddai’r buddsoddiad hwn yn cael
ei wneud.
Darparwyd yr ymatebion canlynol gan y PM:ME i gwestiynau a materion a
godwyd gan Aelodau:-
-
Darparwyd manylion ar y defnydd a chael gwared yn y
dyfodol ar ystafelloedd dosbarth symudol ac unrhyw oblygiadau ariannol
cysylltiedig. Eglurodd y Cynghorydd E.W. Williams fod LlC wedi
nodi ei fwriad i gosbi awdurdodau am ddefnyddio ystafelloedd dosbarth symudol.
-
Dwedodd y PM:ME nad oedd y ddwy ysgol arbennig wedi eu
rhestru oherwydd y gwahanol fethodoleg a'r meini prawf a ddefnyddir ar gyfer
asesu lleoedd i ddisgyblion yn yr ysgolion hynny.
-
Awgrymodd y Cynghorydd E.W. Williams bod yr Aelodau yn gofyn am eglurhad
gan y AC priodol ynghylch dynodi ysgolion arbennig rhanbarthol, gan gyfeirio'n
benodol at effaith bosibl yr adolygiadau ffiniau arfaethedig a'r goblygiadau
posibl ar gyfer darparu gwasanaeth yn Ysgol Plas Brondyffryn, Dinbych.
-
Eglurodd y PM:ME byddai’r rhagamcanion cyfradd
genedigaethau yn cael eu hadolygu gan gynnwys yr heriau a gyflwynir gan y duedd
bresennol ar i fyny a ffactoreiddio yn natblygiad y Cynllun Datblygu Lleol
(CDLl).
-
Amlinellodd y Cynghorydd E.W. y ffactorau a'r ystadegau a
ystyriwyd mewn perthynas â maint ysgolion gwledig. Cyfeiriodd at
strategaeth ariannu’r Awdurdod y byddai'n rhaid ei dilyn pe byddai darpariaeth
gyllid yn cael ei sicrhau gan LlC yn y dyfodol ar gyfer prosiectau sydd ar y
gweill.
-
Amlygwyd yr anawsterau mewn perthynas â dosbarthu
ysgolion Saesneg, Cymraeg a dwyieithog gan y Cynghorydd E.W. Williams. Cyfeiriodd y
PM:ME at y gwaith a wnaed gan Grŵp Strategol Cymru mewn perthynas â
darparu sicrwydd ansawdd o ran dosbarthiad ysgolion.
-
Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd
C. Hughes ynghylch â’r capasiti arfaethedig yn ardal Dinbych, cyfeiriodd y
Cynghorydd E.W. Williams at y Cynllun Cyfalaf a oedd yn darparu potensial ar
gyfer buddsoddi ar gyfer darparu cyfleusterau addysg gwell ym mhob ardal.
-
Mewn ymateb i faterion a godwyd, cytunodd y Pwyllgor y
byddai adroddiad gwybodaeth pellach yn cael ei ddarparu yn manylu ar gyflwr
ystâd ysgolion y Sir.
Yn dilyn trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD
-
(A) derbyn yr
adroddiad, yn amodol ar sylwadau'r Aelodau yn nodi'r sefyllfa a'r camau sy'n
cael eu cymryd fel rhan o'r Cynllun Corfforaethol i wella cyflwr cyffredinol yr
ysgolion yn Sir Ddinbych, a
(B) bod adroddiad
gwybodaeth pellach yn cael ei darparu yn manylu ar gyflwr ystâd ysgolion y Sir.
Dogfennau ategol:
- School Places Data Report, Eitem 7. PDF 86 KB
- School Places Data App 1, Eitem 7. PDF 86 KB
- School Places Data App 2, Eitem 7. PDF 42 KB