Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL - CHWARTER 2 2013/14

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad (copi ynghlwm) a oedd yn rhoi diweddariad ar y gwaith o gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd Chwarter 2 2013/14.

                                                                                                          11.30 a.m 

 

 

Cofnodion:

Roedd copi o’r adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad, a oedd yn rhoi diweddariad ar y gwaith o gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd Chwarter 2 2013/14, wedi’i ddosbarthu gyda phapurau’r cyfarfod.

 

Cyflwynodd y Swyddog Gwella Corfforaethol (SGC) a Rheolwr Swyddfa’r Rhaglen Gorfforaethol (RhSRhG) yr adroddiad a dywedodd fod adroddiadau rheolaidd yn un o ofynion monitro angenrheidiol y Cynllun Corfforaethol er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn arfer ei ddyletswydd i wella.   Mae’r Atodiad i’r adroddiad yn cyflwyno crynodeb o bob canlyniad yn y Cynllun Corfforaethol.  Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn nodi fod cynnydd derbyniol wedi’i wneud wrth gyflwyno’r Cynllun Corfforaethol.  Cydnabuwyd y byddai’n cymryd hirach i wella rhai meysydd nag eraill.  Fodd bynnag, byddai’n bwysig deall sut y dylai’r daith tuag at welliant edrych ac roedd hyn wedi’i gynnwys yn y dadansoddiad yn yr adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o agweddau perfformiad allweddol y Cynllun Corfforaethol yn chwarter 2, a darparodd y SGC grynodeb manwl o bob un o’r canlyniadau yn yr Adroddiad Perfformiad.  Cydnabu’r Pwyllgor ei bod yn dal yn gynnar yn oes y Cynllun Corfforaethol i gyflawni cynnydd sylweddol o ran cyflawni elfennau o rai o'r blaenoriaethau.  Fodd bynnag, amlygodd yr Aelodau'r pryderon canlynol yn ymwneud â phedwar o’r blaenoriaethau canlynol: -

 

Datblygu’r Economi Leol

 

·  Canlyniad 5, ‘Trefi a Chymunedau Llewyrchus’, awgrymodd y Pwyllgor y dylid ystyried defnyddio’r data diweddaraf sydd ar gael fel dangosyddion ar gyfer mesur ein llwyddiant i ‘Fynd i’r afael ag Amddifadedd a Thlodi, yn enwedig mewn rhannau o’r Rhyl a Dinbych Uchaf’.  I sicrhau cywirdeb efallai y byddai felly’n ddefnyddiol i ddefnyddio’r ffigyrau incwm canolrif 2012 ar gyfer y dangosyddion hyn.

 

·  Canlyniad 6, ‘Sir Ddinbych wedi’i hyrwyddo’n dda’:  gan ystyried nifer y tai newydd a gwblhawyd yn ystod hanner cyntaf 2013/14, roedd y Pwyllgor yn bryderus ynglŷn â gallu’r Cyngor i gyflawni ei CDLl o fewn yr amserlen ddisgwyliedig

 

Gwella Perfformiad mewn Addysg ac Ansawdd Adeiladau ein Hysgolion

 

·  roedd gan y Pwyllgor nifer o bryderon ynglŷn â’r defnydd o ystafelloedd dosbarth symudol ar draws y Sir.  O ganlyniad, gofynnwyd i adroddiad cynhwysfawr gael ei gyflwyno i’w ystyried ym mis Ionawr ar nifer, lleoliad, oed a chyflwr yr ystafelloedd dosbarth symudol yn ogystal ag ar gyflwr adeiladau ysgol yn gyffredinol ac ar ragolygon niferoedd disgyblion a lleoedd i ddelio â’r nifer o ddisgyblion a ragwelwyd yn ysgolion y sir.

 

Strydoedd Glân a Thaclus

 

·  Canlyniad 11: roedd perfformiad yn erbyn y dangosydd ar glirio achosion o dipio anghyfreithlon wedi bod yn achos pryder i’r Pwyllgor ers mis Medi 2013. Roedd gan y Pwyllgor bryderon hefyd ynglŷn â chywirdeb adroddiadau ystadegol yr Awdurdod ar y DP hwn ac wedi gofyn i adroddiad gael ei gyflwyno i’r aelodau ar y mater hwn yng nghyfarfod mis Ionawr ac y dylai’r adroddiad hefyd gynnwys diffiniad o ran sut y byddai “rhagoriaeth mewn perthynas â lleihau tipio anghyfreithlon” yn edrych.

 

·  Mynegodd yr Aelodau bryderon hefyd ynglŷn â’r nifer o  Rybuddion Cosb Benodol (RhCB) a roddwyd a’r camau gorfodi a gymerwyd mewn perthynas â baw cŵn ar draws y sir, yn enwedig o’u cymharu â’r camau a’r nifer o RhCB a roddwyd am achosi ysbwriel.  Codwyd pryderon tebyg gan y Pwyllgor Archwilio Cymunedau wrth ystyried yr adroddiad cynnydd ar y Strategaeth Atal Baw Cŵn yn ei gyfarfod ar 25 Tachwedd.

 

Sicrhau Mynediad at Dai o Ansawdd Da

 

·  Cwestiynodd y Pwyllgor berfformiad y Cyngor yn erbyn y mesur perfformiad yn ymwneud â % y ceisiadau cynllunio gan ddeiliaid tai a benderfynwyd o fewn 8 wythnos.  Roedd Swyddogion eisoes wedi adrodd ar y mater i'r Pwyllgor ym mis Hydref ac er bod yr aelodau yn fodlon â’r wybodaeth a roddwyd, cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai’n trefnu i gwrdd â'r Pennaeth Gwasanaeth i drafod y mater hwn ymhellach a gweld a ellid cymryd unrhyw gamau i wella perfformiad yn y maes hwn.

 

Moderneiddio’r cyngor i fod yn effeithlon a gwella gwasanaethau i gwsmeriaid”

 

·  Canlyniad 14: roedd gan y Pwyllgor bryderon ynglŷn â % y gwerthusiadau perfformiad a gwblhawyd a oedd yn llawer is na’r lefel dderbyniol o 95%.  Er yn cydnabod y gallai fod gwallau yn y data, mynegodd yr Aelodau ddiddordeb mewn monitro’r sefyllfa yn y dyfodol.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion ar yr agweddau ariannol, ymgynghoriadau a gynhaliwyd, Datganiad y Prif Swyddog Cyllid a’r risgiau a’r camau a gymerwyd i’w lliniaru.

 

Yn dilyn trafodaethau pellach a derbyn yr ymatebion a ddarparwyd i gwestiynau gan Aelodau:-

 

PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad:-

 

(a)    yn derbyn yr adroddiad, ac yn

(b)    Nodi’r pryderon a amlygwyd gan Aelodau ynglŷn â phump o’r blaenoriaethau corfforaethol.

 

 

Dogfennau ategol: