Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUNIAU TREF AC ARDAL

Rhoi ystyriaeth i adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans, Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol dros Ddatblygu Economaidd (copi’n amgaeedig) yn rhoi diweddariad i’r Cabinet ynglŷn â Chynlluniau Tref ac Ardal ac yn ceisio mabwysiadu Cynlluniau Ardal Llangollen, Corwen a Llanelwy a chymeradwyo cyllid ar gyfer y blaenoriaethau sydd wedi'u cynnwys o fewn y cynlluniau hynny.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn cymeradwyo mabwysiadu'r Cynlluniau Ardal (sy’n cynnwys y Cynlluniau Tref presennol) ar gyfer Llangollen, Corwen a Llanelwy;

 

(b)       yn cymeradwyo'r cyllid ar gyfer y blaenoriaethau a nodir yn y Cynlluniau Ardal a gyfeirir atynt uchod;

 

(c)        yn nodi'r amserlen ar gyfer Cynlluniau Tref ac Ardal yn y dyfodol, ac

 

(d)       yn nodi'r datganiadau sefyllfa ar sefyllfa ariannol bresennol y Cynlluniau Tref ac Ardal.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad a oedd yn rhoi’r diweddaraf i’r Cabinet am y Cynlluniau Tref ac Ardal ac yn ceisio cymeradwyaeth i fabwysiadu’r Cynlluniau Ardal ar gyfer Llangollen, Corwen a Llanelwy (sydd wedi’u hatodi wrth yr adroddiad) ac i gyllido’r blaenoriaethau a oedd wedi’u cynnwys yn y cynlluniau hynny. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys amserlen ar gyfer cymeradwyo cynlluniau yn y dyfodol a’r sefyllfa ariannol gyfredol.

 

Mae’r cynlluniau newydd yn nodi’r sefyllfa gyfredol yn y trefi a’r ardaloedd cysylltiedig, heriau a chyfleoedd allweddol ynghyd â gweledigaeth a chamau gweithredu i gyflawni’r weledigaeth honno. Roedd pob un o’r tri Chynllun Ardal wedi cael eu cymeradwyo gan eu priod Grŵp Ardal Aelodau. Ymhelaethodd y Cynghorydd Huw Jones ar y broses o gysylltu’r ardaloedd amgylchynol â threfi er mwyn adlewyrchu’r materion, camau gweithredu a blaenoriaethau o fewn y cymunedau hynny. Adroddodd y Rheolwr Datblygu Economaidd a Busnes ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran gwariant gan amlygu ymrwymiadau cyllido ac elfennau cyllid cyfatebol ynghyd â’r sefyllfa a ragwelid ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Fel pwynt o sylw hysbysodd y Cynghorydd Barbara Smith fod y wardiau yn ei hardal hi wedi cael eu cysylltu â Chynlluniau Ardal gwahanol. Roedd wedi cael ei gytuno ers hynny y byddai Cwm yn rhan o Gynllun Ardal Llanelwy ynghyd â Thremeirchion a Waen.

 

Trafododd y Cabinet y broses ar gyfer dyraniadau cyllido a oedd wedi’u cynnwys yn y Cynlluniau Ardal a oedd yn seiliedig yn bennaf ar broses gynnig ar gyfer blaenoriaethau o’i gyferbynnu â darpariaeth osod i bob ardal. Cafodd yr angen am fwy o eglurder o ran y cyllid sydd ar gael wrth bennu blaenoriaethau ei amlygu ynghyd ag elfennau cyllid cyfatebol a chyllid grant allanol. Codwyd cwestiynau hefyd am hyblygrwydd y Cynlluniau Ardal o ran ymateb i flaenoriaethau newidiol ac mewn achosion lle’r oedd y blaenoriaethau’n wahanol i bolisi’r Cyngor Sir. Fe wnaed sylwadau ynghylch yr amser a gymer i ddatblygu’r Cynlluniau Ardal a’r angen i ganlyn arni â’r blaenoriaethau heb ormod o oedi. Fe ymatebodd y swyddogion i gwestiynau a sylwadau’r aelodau fel a ganlyn –

 

·        fe ymhelaethwyd ar waith a oedd yn mynd rhagddo i sicrhau bod cyllid yn cael ei ddosbarthu’n deg ar draws y sir gyda chanllawiau pellach i drefi a chymunedau’n cael eu paratoi ar y ffynonellau cyllid amrywiol sydd ar gael a sut y gellid cael mynediad atynt – byddai trafodaeth yn y cyswllt hwnnw’n cael ei gynnal yn y Bwrdd Rhaglen Uchelgais Economaidd ym mis Rhagfyr ac adroddiad gydag argymhellion ar ddosbarthu cyllid yn cael ei ddarparu ar gyfer y Cabinet er mwyn iddo ei ystyried

·        fe gadarnhawyd y dylai cynlluniau gael eu llywio gan Grwpiau Ardal Aelodau gyda blaenoriaethau eglur yn cael eu hadnabod

·        fe hysbyswyd y byddai Cynlluniau Ardal yn ddogfennau byw a fyddai’n cael eu diwygio wrth i flaenoriaethau newid ac yn cael eu hadolygu’n rheolaidd gan Grwpiau Ardal Aelodau – roedd swyddogion wedi ymrwymo i raglen adolygu i ddatblygu’r broses honno ac i helpu aelodau i adnabod ffynonellau cyllid i ategu blaenoriaethau

·        fe eglurwyd y ffactorau a oedd wedi achosi oedi wrth ddatblygu’r cynlluniau gan gynnwys y gwaith a oedd yn gysylltiedig ag ehangu’r cynlluniau gwreiddiol, y broses ymgynghori ac amserlennu cyfarfodydd gyda chynghorau tref/cymuned.

 

Fe ychwanegodd y Prif Weithredwr y byddai adroddiad yn cael ei gomisiynu i asesu effaith y blaenoriaethau o fewn trefi a chymunedau a chanfod pa effaith a gafwyd o ganlyniad. Cafodd pwysigrwydd cysylltiadau â’r cynghorau tref/cymuned ei amlygu hefyd ynghyd â’r angen am ddull mwy cydgysylltiedig. Rhoddodd y Cabinet gymeradwyaeth i’r Cynlluniau Ardal fel y ffordd ymlaen ar gyfer cyflawni blaenoriaethau o fewn cymunedau lleol.

 

PENDERFYNWYD y dylai’r Cabinet –

 

(a)       gymeradwyo’r cynnig i fabwysiadu’r Cynlluniau Ardal (sy’n ymgorffori’r Cynlluniau Tref presennol) ar gyfer Llangollen, Corwen a Llanelwy;

 

(b)       cymeradwyo’r cyllid ar gyfer y blaenoriaethau a nodir yn y Cynlluniau Ardal y cyfeirir atynt uchod;

 

(c)        nodi amserlen ar gyfer Cynlluniau Tref ac Ardal yn y dyfodol, a

 

(d)       nodi’r datganiad safbwynt ar y sefyllfa ariannol gyfredol ar gyfer Cynlluniau Tref ac Ardal.

 

Dogfennau ategol: