Eitem ar yr agenda
MATERION BRYS FEL Y’U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD
Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Cofnodion:
Hysbysodd y
Cadeirydd fod penderfyniad a wnaed gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 14 Ionawr
2014 i gymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Llanbedr Dyffryn
Clwyd wedi cael ei alw i mewn ar gyfer adolygiad. O ganlyniad, er mwyn
cydymffurfio â Rheolau Gweithdrefn Galw-i-Mewn y Cyngor a oedd yn nodi bod yn
rhaid i bwyllgor archwilio ystyried penderfyniad a alwyd i mewn o fewn pum
niwrnod gwaith, roedd wedi cytuno i ystyried y mater fel eitem frys o fusnes ar
agenda’r cyfarfod cyfredol. Roedd holl aelodau’r Pwyllgor gan gynnwys aelodau
cyfetholedig wedi cael copïau o’r adroddiad a’r atodiadau a gafodd eu hystyried
gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 14 Ionawr.
Galw i mewn y
Cynnig Arfaethedig i gau Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd.
Yn ei gyfarfod ar
14 Ionawr 2014 fe gymeradwyodd Cabinet Sir Ddinbych yr argymhelliad canlynol:
“… cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol ar y
cynnig i gau Ysgol Llanbedr o 31 Awst 2014, gyda’r disgyblion presennol yn
trosglwyddo i Ysgol Borthyn, Rhuthun, yn amodol ar ddewis rhieni.”
Cafodd y
penderfyniad uchod ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor ar 17 Ionawr 2014 ac yn unol â
Gweithdrefn Galw-i-Mewn y Cyngor, ni chafodd y penderfyniad ei weithredu ar
unwaith, gan alluogi Cynghorwyr nad ydynt yn Aelodau o’r Cabinet i alw’r
penderfyniad i mewn ar gyfer archwiliad, os oeddent yn teimlo’i fod yn deilwng
o gael ei archwilio.
Daeth ffurflen
“Hysbysiad Galw-i-Mewn”, wedi’i lofnodi gan nifer gofynnol y Cynghorwyr nad
ydynt yn Aelodau o’r Cabinet, i law ar 20 Ionawr.
Y seiliau dros
alw’r penderfyniad i mewn oedd:
(i)
Methiant
i ymgynghori; a
(ii)
Rhagfarnu’r
penderfyniad i gau Ysgol Llanbedr D C
Gofynnwyd i
Aelodau’r Pwyllgor Archwilio Cymunedau benderfynu, yn seiliedig ar yr wybodaeth
a gyflwynwyd iddynt, a oedd y Pwyllgor yn credu y dylai’r Cabinet adolygu ei
benderfyniad gwreiddiol, ac os felly, ar ba seiliau.
Gan fod
penderfyniad y Cabinet ar 14 Ionawr yn ymwneud â darpariaeth addysg y Cyngor,
roedd gan Aelodau cyfetholedig statudol yr Awdurdod ar gyfer addysg ar y
Pwyllgor Archwilio hawl i gyfranogi’n llawn yn y drafodaeth am y penderfyniad a
Alwyd i Mewn fel Aelodau o’r Pwyllgor.
Fe wnaeth y
Cynghorydd Huw Williams gyflwyno’r cais galw-i-mewn. Fe wnaeth hefyd gyflwyno
cynrychiolwyr y Corff Llywodraethol a’r cynrychiolwyr Esgobaethol a fyddai’n
cyflwyno’u hachos, gan geisio adolygiad o’r penderfyniad i gyhoeddi hysbysiad
statudol ynghylch y bwriad i gau’r ysgol. Rhoddodd y Cynghorydd Williams
grynodeb byr o hanes Ysgol Llanbedr D C.
Roedd y Parchedig
Chew yn bresennol yn y cyfarfod i gyflwyno tystiolaeth fel Rheithor Llanbedr D
C ac yn rhinwedd ei rôl fel Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Llanbedr D
C.
Roedd Anthony
Smith yn bresennol yn y cyfarfod fel Is-gadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol
Llanbedr D C.
Roedd Rosalind
Williams yn bresennol yn y cyfarfod fel cynrychiolydd yr Esgobaeth.
Cychwynnodd y
Parchedig Chew y ddadl o blaid cadw Ysgol Llanbedr D C ar agor fel a
ganlyn:
(i)
Roedd
ef dan y ddealltwriaeth mai’r prif nod oedd gostwng nifer y lleoedd gwag. Roedd
yr ysgol ar y trywydd iawn i fod yn llawn dros y ddwy flynedd nesaf. Byddai
perygl difrifol i ddewis rhieni pe bai’r ysgol yn cael ei chau.
(ii)
Nid
oedd rhanddeiliaid allweddol, megis meithrinfa Munchkins, wedi cael eu
hystyried
(iii)
Roedd
y penderfyniad i gau Ysgol Llanbedr D C yn un a wnaed rhag blaen, a oedd yn
groes i God Ymarfer Llywodraeth Cymru.
Cododd Anthony
Smith y pwyntiau canlynol:
(i)
Hepgoriadau
yn yr adroddiad a’r ddogfen a oedd wedi cael ei chyflwyno i Aelodau’r Cabinet.
(ii)
Methiant
i ymgynghori’n ddigonol. Roedd yr ymgynghoriad ffurfiol a gwblhawyd wedi methu
ag ystyried rhagolygon genedigaethau, cynnydd rhagamcanol mewn tai newydd fel a
gynigir yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ar gyfer Llanbedr D C ac ati.
(iii) Methiant i ymgynghori â Meithrinfa Ddydd Munchkins.
(iv)
Roedd
diffyg pellach yn yr ymgynghoriad gan fod y Llywodraethwyr wedi cael eu hysbysu
nad oedd angen ymgynghori â’r Esgobaeth. Rhagderfynu oedd hyn.
(v)
Methiant
i gydymffurfio â Pholisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag addysg ffydd
(vi)
Tystiolaeth
o ragderfyniad ar ran yr Awdurdod Lleol i gau’r ysgol
(vii)
Methiant
i gynnal Asesiad o’r Effaith ar y Gymuned i fesur effaith bosib y cynnig ar y
gymuned leol
(viii) Ni wnaed unrhyw gyfeiriad ar unrhyw adeg
yn yr ymgynghoriad ffurfiol at y ffaith y byddai cau’r ysgol yn cynorthwyo’r
Awdurdod Lleol i ddenu cyllid ar gyfer buddsoddi mewn ysgolion eraill
Cododd Rosalind
Williams y pwyntiau canlynol:
(i)
Ym
mis Mawrth 2013 roedd yr Esgobaeth wedi cynnig gweithio gyda’r Cyngor, ond ni chafwyd
unrhyw ymateb. Cyfarfu swyddogion o’r Cyngor a’r Esgobaeth ym mis Mehefin, pan
gynigiodd yr Esgobaeth weithio gyda’r Cyngor unwaith eto. Cafodd yr Esgobaeth
ei hysbysu bod ymgynghoriad wedi cael ei gynnal. Ym mis Medi 2013 roedd
Rosalind Williams wedi anfon e-bost at y Tîm Moderneiddio Addysg i gynnig
gweithio ar fodelau eraill ond nid oedd wedi derbyn ymateb i’r e-bost.
(ii)
Nid
oedd yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi cael ei gwblhau nes i’r
ymgynghoriad ffurfiol ddod i ben.
(iii)
Daeth
Cod newydd i rym ym mis Medi 2013 ac nid oedd yr Awdurdod Lleol yn gweithio’n
unol â’r Cod.
(iv)
Nid
oedd unrhyw opsiynau eraill i uno neu ffederaleiddio
wedi cael eu hystyried.
Fe ymatebodd y
swyddogion a oedd yn bresennol i’r pwyntiau a godwyd fel a ganlyn:
(i)
Fe
bwysleision nhw nad y swyddogion oedd y penderfynwyr. Roedd adroddiadau a oedd
yn cynnwys gwybodaeth lawn yn cael eu cyflwyno gerbron yr Aelodau er mwyn
iddynt hwy wneud y penderfyniadau.
(ii)
Roedd
y Cyngor wedi cymeradwyo’r Fframwaith Polisi Moderneiddio Addysg yn 2009, ac o
dan y Polisi hwnnw roedd y Cyngor wedi ymrwymo i adolygu’r holl ysgolion
cynradd â llai nag 80 o ddisgyblion. Fodd bynnag nid oedd wedi cymeradwyo
polisi o gau ar gyfer yr holl ysgolion â llai nag 80 o ddisgyblion, ond yn
hytrach polisi i gynnal adolygiad o’r ysgolion hynny gan ystyried darpariaeth
addysgol addas arall yn yr ardal gyfagos.
(iii)
O ran
nifer y lleoedd a nifer y disgyblion yn yr ysgol, roedd 21 o ddisgyblion yn
mynychu ar hyn o bryd gyda 7 disgybl arall yn debygol o fynychu yn y flwyddyn ysgol
nesaf.
(iv)
Meithrinfa
breifat wedi’i lleoli yn yr ysgol oedd Munchkins. Cafodd copi o’r ymgynghoriad
ffurfiol ei anfon at Munchkins fel sy’n ofynnol gan y Cod. Ni chafodd ei anfon
at holl rieni’r plant sy’n mynychu Munchkins gan nad oedd yr wybodaeth honno
gan yr Awdurdod Lleol am mai meithrinfa breifat ydoedd.
(v)
Ynghylch
y Cod. Roedd y Cod newydd a ddaeth i rym ym mis Hydref 2013 yn cynnwys
dyfarniadau ar weithdrefnau y mae’n rhaid neu y dylid eu dilyn. Roedd yr
Awdurdod Lleol wedi dilyn yr holl weithdrefnau yr oedd yn ofynnol i’w dilyn ac
roedd wedi ceisio cydymffurfio lle’r oedd y Cod yn nodi y dylai. Mae’n rhaid
ymgynghori â phobl a phlant o oedran ysgol statudol ac fe wnaed hyn.
(vi)
Roedd
y Cod yn nodi y gallai’r Awdurdod Lleol ymgynghori’n anffurfiol, ond bod yn
rhaid iddo gynnal ymgynghoriad statudol. Roedd y Cyngor wedi cynnal
ymgynghoriad anffurfiol hefyd (nad oedd yn “rhaid” iddo’i wneud dan y Cod).
Roedd wedi cyflwyno dogfen ymgynghori, a oedd yn arfer da. Roedd hefyd wedi
cynnal yr ymgynghoriad statudol yn unol â’r Cod. Fe drefnwyd fod pob ffolder
gwybodaeth ar gael i Aelodau’r Cabinet, yn dilyn y cam anffurfiol a’r cam
ffurfiol. Roedd pob un ymateb wedi cael ei gydosod a lle rhoddwyd caniatâd
roeddent wedi cael eu cyhoeddi ar y wefan. Os oedd unrhyw un wedi gwrthod yna
ni fyddai’r manylion yn cael eu cyhoeddi ar y wefan ond roedd copïau’n cael eu
hanfon at Aelodau’r Cabinet. Fe drefnwyd fod gwybodaeth ar gael fel mater o
arfer da. Roedd yr Awdurdod Lleol wedi ymlynu wrth y Cod.
(vii) Roedd gan Lywodraeth Cymru Bolisi Ffydd
mewn Addysg. Roedd yn rhaid i’r Awdurdod Lleol roi sylw i’r Polisi hwn ac
ystyried addysg ffydd ond nid oedd yn rhwymedigaeth statudol cynnal yr holl
ddarpariaeth ffydd. Roedd yr Awdurdod Lleol wedi dangos ei gefnogaeth i addysg
ffydd oherwydd o fewn y cynnig i gau Ysgol Llanbedr roedd opsiwn, yn amodol ar
ddewis rhieni, i’r disgyblion drosglwyddo i Ysgol Borthyn, ysgol addysg ffydd
cyfrwng Saesneg o fewn 2.3 milltir ac a oedd felly’n rhoi darpariaeth addysgol
addas arall.
(viii) Yn ne’r sir roedd lleoedd gwag. Y
strategaeth a oedd yn ofynnol ar y cyfan oedd sicrhau’r nifer cywir o leoedd
o’r math cywir yn y lleoliad cywir. Felly roedd angen gostwng nifer y lleoedd
gwag ledled y sir, yn enwedig yn y De gyda golwg ar gynyddu nifer y lleoedd
sydd ar gael yng ngogledd y sir i ateb y galw ymhlith rhieni.
(ix)
Byddai’r
Awdurdod Lleol yn ystyried nifer o ffactorau cyn y byddai’n cynnig cau ysgol.
Byddai’n ystyried niferoedd cyfredol a niferoedd rhagamcanol y disgyblion,
safonau a darpariaeth addysgol a chyflwr adeiladau ysgolion. Pe tybid bod ysgol
unigol yn anghynaliadwy, byddai’r Awdurdod Lleol yn ymchwilio i’r posibilrwydd
o uno, ffederaleiddio ac yna cau’r ysgol. Ni fyddid yn rhagdybio’n awtomatig y
byddai ysgol yn cau gan fod proses i’w dilyn.
(x)
Roedd
Asesiad o’r Effaith ar y Gymuned wedi cael ei gynnal a’i gyhoeddi fel rhan o’r
broses ymgynghori Ffurfiol. Fodd bynnag, nid oedd yr Asesiad cyfredol o’r
Effaith ar Gydraddoldeb yn gallu cael ei lunio nes bod y cyfnod ymgynghori
statudol wedi dod i ben.
(xi)
Nid
oedd safonau addysgol yn Ysgol Llanbedr D C wedi bod yn ffactor a gyfrannodd at
y cynnig i gau’r ysgol. Roedd safonau addysgol yn Ysgol Llanbedr ac Ysgol
Borthyn yn gyfartal, roedd y ddwy ysgol yn y chwartel uchaf ar gyfer safonau
cyflawniad addysgol. Felly, yn unol â’r Cod Trefniadaeth Ysgolion statudol,
roedd y Sir yn cynnig darpariaeth addysgol arall â deilliannau a oedd o leiaf
yn gyfartal.
Eglurodd Pennaeth
y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd wrth y Pwyllgor, pe bai’r
penderfyniad yn cael ei atgyfeirio’n ôl at y Cabinet, y byddai’n rhaid
cyflwyno’r rhesymau dros y penderfyniad i wneud hynny hefyd. Byddai’n ofynnol
i’r Cabinet roi sylw i argymhellion y Pwyllgor ac yna wneud penderfyniad i
naill ai cadarnhau ei benderfyniad gwreiddiol neu wneud penderfyniad newydd.
Mewn ymateb i
gwestiynau aelodau’r Pwyllgor fe gadarnhaodd swyddogion:
- Bod digon o le yn Ysgol Borthyn ar gyfer
disgyblion o Ysgol Llanbedr D C
- Mai dim ond 7 o blant o Lanbedr D C sy’n
mynychu ysgol y pentref ar hyn o bryd
- Mai dim ond lleiafrif o rieni Ysgol Llanbedr
D C a oedd wedi ymateb i’r holiadur gan ddweud y byddent yn dewis Ysgol
Borthyn fel ysgol arall i’w plentyn. Cydnabuwyd fod rhieni’n tueddu i fod
yn gyndyn o ddewis darpariaeth arall nes bod penderfyniad gwirioneddol i
gau wedi cael ei wneud
- Bod cyfraddau genedigaethau a ragamcanir yn y
dyfodol ac effaith datblygiadau tai newydd posib yn Llanbedr D C wedi cael
eu cynnwys fel ffactorau yng nghyfrifiadau’r Cyngor wrth adolygu
cynaliadwyedd yr ysgol
- Bod yn rhaid i broses i ffederaleiddio’r
ysgol ag ysgol arall gael ei gwneud mewn ffordd a fyddai wrth fodd y ddwy
ysgol gyda phartner parod. Roedd yr opsiwn wedi cael ei ystyried ond ni
fyddai’n cyflawni unrhyw un o’r amcanion. Ni fyddai’n rhyddhau’r adeilad,
nac yn gwireddu arbedion refeniw digonol nac yn mynd i’r afael â’r
sefyllfa o ran lleoedd gwag. Ar hyn o bryd 24% oedd cyfradd y lleoedd gwag
yn y sector cynradd yn ardal Rhuthun, a byddai’n rhaid gostwng y gyfradd
hon i alluogi’r Cyngor i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer
buddsoddi mewn ysgolion
- Bod yr Esgobaeth yn un o’r ymgynghoreion yn y
mater hwn. Cafodd yr adroddiad i’r Cabinet ei ohirio er mwyn ymgynghori’n
briodol â’r Esgobaeth a rhoi iddynt y 28 diwrnod gofynnol i ymateb. Cafwyd
ymateb. Fodd bynnag, nid oedd y Cyngor a’r Esgobaeth yn gallu cytuno ar y
cynnig ac fe gytunwyd i anghytuno. Fe adroddwyd ar y ffaith hon wrth y
Cabinet
- Y dylai addysg i blant ag anghenion addysgol
arbennig barhau yn unol â datganiad diweddaraf y plentyn ac y byddai
gofynion cludiant yn cael eu hasesu ar sail anghenion penodol pob plentyn
unigol
- Bod niferoedd rhagamcanol y disgyblion ar
gyfer Ysgol Borthyn yn dangos bod hon yn ysgol gynaliadwy hyd y gellir
rhagweld
- Eu bod yn hyderus bod yr holl weithdrefnau
gofynnol wedi cael eu dilyn yn fanwl
- Mai nod y Rhaglen Moderneiddio Addysg oedd
sicrhau adeiladau gwell ar gyfer ysgolion ac, o ganlyniad, deilliannau
gwell i holl ddisgyblion y Sir
Cafodd y ddau
barti’r cyfle i grynhoi eu dadl cyn i’r Cadeirydd bwysleisio wrth Aelodau’r
Pwyllgor mai’r hyn yr oedd gofyn iddynt benderfynu arno oedd, a oedd y broses
ymgynghori ddyladwy a chywir wedi cael ei dilyn i alluogi’r Cabinet i wneud ei
benderfyniad.
Cynigiodd y
Cynghorydd H O Williams fod y Pwyllgor yn gofyn i’r Cabinet adolygu ei benderfyniad
ar 14 Ionawr 2014 mewn perthynas â symud ymlaen i gyhoeddi hysbysiad statudol i
gau Ysgol Llanbedr D C ar sail diffyg ymgynghori ynghylch materion cyllido ac
ariannol, ac ar sail ymgynghori annigonol â’r awdurdodau Esgobaethol. Eiliwyd y
cynnig gan y Cynghorydd J Welch. Pan gynhaliwyd pleidlais, cafodd nifer
cyfartal o bleidleisiau eu bwrw o blaid ac yn erbyn y cynnig. Yna fe
ddefnyddiodd y Cadeirydd ei bleidlais fwrw yn erbyn y cynnig. O ganlyniad,
penderfynodd y Pwyllgor fel a ganlyn:
PENDERFYNWYD: -
yn dilyn ystyried yr wybodaeth a gyflwynwyd iddo, nad oedd y penderfyniad a
wnaed gan y Cabinet ar 14 Ionawr 2014 i “gymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol
ynghylch y cynnig i gau Ysgol Llanbedr o 31 Awst 2014, gyda’r disgyblion
presennol yn trosglwyddo i Ysgol Borthyn, Rhuthun yn amodol ar ddewis rhieni”
yn deilwng o gael ei atgyfeirio’n ôl at y Cabinet ar gyfer adolygiad.
Dogfennau ategol:
- Call-in Report 230114, Eitem 3. PDF 68 KB
- Call-in Report 230114.doc - App 1, Eitem 3. PDF 120 KB
- Call-in Report 230114.doc - App 2.doc, Eitem 3. PDF 26 KB