Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF

Derbyn cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2023 (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2023.

 

Cywirdeb -

 

Tudalen 5, Eitem 2: Datgan Cysylltiad - eglurodd y Cadeirydd bod y Cynghorydd Gordon Hughes yn parhau i fod yn aelod o Gyngor Tref Corwen.   Eglurwyd bod y cofnodion wedi’u hysgrifennu yn y gorffennol ac felly bod y cofnodion yn gywir.   Gellir cofnodi bod y Cynghorydd Hughes ‘yn aelod cyfredol’ i adlewyrchu ei fod yn aelod ar adeg cynnal y cyfarfod.

 

Tudalen 7, Eitem 6: Presenoldeb mewn cyfarfodydd - i gynnwys geiriau i adlewyrchu’r sefyllfa fel a ganlyn “…. bod y clerc a’r cadeirydd yn briod i’w gilydd a holodd a ddylid cyflwyno unrhyw ddatganiad o gysylltiad…”

 

Tudalen 12, Eitem 12: Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor Safonau - tynnu’r cyfeiriad at y pwynt bwled cyntaf a oedd yn wall, gyda phresenoldeb mewn cyfarfodydd yn cael ei adrodd yn ôl ym mhob cyfarfod.        

 

Materion yn Codi –

 

Tudalen 5, Eitem 4: Cofnodion y cyfarfod diwethaf – darperid hyfforddiant i glercod drwy gyfrwng fideo-gynadledda, ond ni phennwyd dyddiad ar ei gyfer eto.

 

Tudalen 6, Eitem 4: Cofnodion y cyfarfod diwethaf - cyflwynodd y Cadeirydd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau i’r Cyngor Llawn ar 5 Medi, a darparodd adborth ar hynny.  O ystyried hyd y cyfarfod, roedd rhai aelodau wedi gadael cyn i’r eitem gael ei thrafod, ond byddai’r adroddiad a’r cofnodion ar gael i’r holl aelodau.   Eglurodd y Cadeirydd hefyd bwysigrwydd hyfforddiant ar gyfer Cynghorau Tref/Dinas/Cymuned ac y dylid gwella presenoldeb; cywiro a chadarnhau dyddiadau cyfarfodydd y Fforwm Safonau Cenedlaethol; pwysleisio pwysigrwydd Dyletswydd Arweinwyr Grwpiau a chroesawu Adroddiadau’r Arweinwyr Grwpiau, ond mynegodd siom eu bod wedi methu’r dyddiadau cyflwyno, a chyfeirio at waith pellach ar y broses yn y dyfodol; darparodd gipolwg ar y cyflwyniad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i’r Fforwm Safonau Cenedlaethol, a chyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf ar Adolygiad Penn.    Atebwyd cwestiynau am hyfforddiant gorfodol gyda’r holl gynghorwyr sir wedi cwblhau’r Hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad ar wahân i’r cynghorydd newydd, a bod y Swyddog Monitro hefyd wedi cyfeirio at hyfforddiant ehangach sy’n cael ei gyflwyno gan Un Llais Cymru a chadarnhau darn o waith i ddarparu trosolwg o’r ddarpariaeth o ran hyfforddiant.   Croesawodd yr arweinwyr gwahanol y broses o ddelio â phroblemau bychain yn anffurfiol.   Ychwanegodd y Cynghorydd Bobby Feeley y cafwyd presenoldeb da yn y cyfarfod ac y croesawyd yr adroddiad.

 

Cytunodd y Dirprwy Swyddog Monitro y byddai’n mynd â’r mater o gynnal cyfarfod blynyddol ar-lein â’r Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn ôl at y Swyddog Monitro i gael ychwaneg o gyngor.

 

Tudalen 7, Eitem 6: Presenoldeb mewn cyfarfodydd - ni chytunwyd ar unrhyw benderfyniad o ran darparu adborth yn dilyn yr adroddiadau yn ôl i’r Pwyllgor Safonau ac fe gytunwyd y dylid trafod y mater ymhellach o dan yr eitem ar y rhaglen yn y cyfarfod.

 

Tudalen 8, Eitem 8: Cymhariaeth o Gasgliadau Panel Recriwtio’r Pwyllgor Safonau - gwnaed cais bod adroddiad ar y mater yn cael ei gynnwys yn rhaglen gwaith i’r dyfodol y Cyngor a disgwylir cadarnhad o ran dyddiad.   Byddai’r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei chyflwyno i’r aelodau pan fydd ar gael.

 

Tudalen 8, Eitem 9: Hyfforddiant y Cod Ymddygiad - byddai’r Pwyllgor yn derbyn hysbysiad pan fydd y cynghorydd newydd wedi cwblhau’r hyfforddiant gorfodol.   Roedd trafodaethau ar y gweill gyda’r Gwasanaethau Democrataidd o ran recordio sesiwn hyfforddi a’i rhannu; byddai’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael yn y cyfarfod nesaf.

 

Tudalen 10, Eitem 10: Adroddiadau Arweinwyr Grwpiau i’r Pwyllgor Safonau - awgrymwyd y gellir cynnal cyfarfod y Grŵp Cyswllt Moesegol ar yr un diwrnod â’r Pwyllgor Safonau nesaf ac fe gytunwyd y dylid trafod y mater o dan eitem 9 ar y rhaglen.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2023 a chadarnhau eu bod yn gywir.

 

 

Dogfennau ategol: