Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Dim eitemau brys.

 

 

(a)  Deiseb wedi’i derbyn gan y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor, yn ymwneud â’r galw am ddarpariaeth meithrin yng nghymuned Llandrillo.  Roedd dros 600 o lofnodion ar y ddeiseb. 

 

Rhoddwyd y ddeiseb yn nwylo’r Cadeirydd a gadarnhaodd y byddai’n ei throsglwyddo i’r adran berthnasol.

 

 

(b)  Cyflwynwyd cwestiwn gan Rhys Thomas – nid yw  Ysgol Annibynnol Rhuthun yn dod o dan reolaeth yr Awdurdod Lleol. 

 

Pe bai, byddai ein swyddogion wedi gweithredu ar unwaith a,  phe bai angen, byddai gwaharddiadau a diswyddiadau wedi digwydd yn yr ysgol.  Nid ydynt yn diwallu eu cyfrifoldebau diogelu.  Mae ein swyddogion ni ein hunain yn ofalgar ac yn alluog yn eu gwaith.  Allwn ni os gwelwch yn dda gael gwybod beth yw ein cyfrifoldebau corfforaethol o ran diogelu plant sy’n mynd i Ysgol Annibynnol Rhuthun a pha gamau yr ydym wedi'u cymryd hyd yma?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts – mae deddfwriaeth yn bodoli sy'n cyfarwyddo gweithrediad ysgolion annibynnol, sydd yn amlwg yn wahanol i'r ddeddfwriaeth ar gyfer ein hysgolion awdurdod lleol ein hunain.  Mae rheoliadau’n bodoli dan Ddeddf Addysg 2002 sy’n gosod y safonau y mae’n rhaid i bob ysgol annibynnol gadw atynt.  Mae hyn yn berthnasol i les, iechyd a diogelwch disgyblion a’r amodau cysylltiedig ag addasrwydd y rhai sy’n rhedeg yr ysgol a’r staff.

 

Mae’n rhaid i bob ysgol annibynnol fod wedi’i chofrestru gyda Llywodraeth Cymru.  Os bydd ysgol annibynnol yn methu â chwrdd ag amodau'r cofrestriad, Llywodraeth Cymru, nid yr awdurdod lleol, sydd a'r pŵer i ddiddymu'r cofrestriad.

 

Ni all unrhyw ysgol annibynnol weithredu’n gyfreithlon yng Nghymru heb ddiwallu amodau’r cofrestriad.

 

Caiff ysgolion annibynnol eu harolygu gan Estyn ac os oes ganddynt ddarpariaeth breswyl, gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

 

Os bydd ysgol annibynnol yn methu â chwrdd ag amodau eu cofrestriad, bydd Llywodraeth Cymru yn mynnu bod yr ysgol yn cymryd camau penodol i fynd i’r afael â'r pryderon.  Gallai’r broses gynnwys ymgynghoriad gydag Estyn ac AGC a gall y ddau gorff gynnal arolygiad.  Os bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i fod yn anfodlon, rhoddir rhybudd o ddileu'r cofrestriad, yn amodol ar apêl.  Felly, mewn gwirionedd, gellir cau'r ysgol. 

 

Mae’n rhaid i ysgolion annibynnol gadw at ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Cymru.  Mae ar yr awdurdod lleol ddyletswydd i reoli’r broses sy’n gysylltiedig â hyn ac i weithredu mewn partneriaeth â chyrff eraill mewn perthynas â phryderon diogelu ac amddiffyn plant.  Fodd bynnag,  dim ond rhoi ystyriaeth i argymhellion yr awdurdod lleol y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol ei wneud, nid yw ysgolion annibynnol yn cael eu cynnal gan yr awdurdod lleol.     Rydym yn siarad am ein swyddogion a’u rhan yn hyn ac  mae hi wedi bod yn anodd dros ben siarad am hyn yn gyhoeddus tan rŵan.

 

Rydym wedi bod yn ymwneud ag Ysgol Rhuthun ers Ebrill 2018.  Uwch gyfeiriwyd pryderon diogelu am yr ysgol i Lywodraeth Cymru, Estyn ac AGC ym mis Ebrill 2018.  Rydw i, Karen I Evans a Nicola Stubbins wedi bod yn rhan o'r broses.  Arweiniodd hyn at archwiliad dirybudd ar y cyd gan Estyn ac AGC ym mis Mai 2018.

 

Codwyd pryderon diogelu pellach a'u cyfeirio atom ym mis Mai 2019. Cafodd y pryderon hyn eu huwch gyfeirio at Lywodraeth Cymru, Estyn ac AGC a chynhaliwyd arolwg dirybudd arall ym mis Tachwedd 2019, a arweiniodd at yr adroddiad yr wythnos ddiwethaf a’r straeon dilynol yn y wasg.

 

Mae gennyf bob hyder yn ein swyddogion a’n partneriaid sydd wedi gweithio ochr yn ochr â ni ar y siwrnai hon.  Rwy’n hynod o ddiolchgar am yr argymhellion y mae AGC wedi eu gwneud ac rwy’n erfyn ar Ysgol Rhuthun i gymryd camau priodol a phendant.  Mae diogelu plant mor bwysig ac mae’n rhaid i ni sicrhau diogelwch yr holl blant yn ein cymunedau.

 

 

(c)  Cwestiwn gan y Cynghorydd Glenn Swingler – yn dilyn diweddu contract Kingdom Securities mae gennym ddiddordeb mewn gwybod sut y mae District Enforcement Ltd yn perfformio ar ôl iddynt fod yn cyflawni eu dyletswyddau am fis. 

A fyddai’n bosib i ni gael manylion byr ynghylch faint o ddirwyon sydd wedi’u cyflwyno, am ba droseddau ac ym mha rannau o'r sir?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Mark Young – District Enforcement Ltd; wedi dechrau gweithredu ar ran y Cyngor ar 4 Rhagfyr 2019. 

 

Rhwng 4 Rhagfyr 2019 a 22 Ionawr 2020, cyflwynwyd 147 Hysbysiad Cosb Benodedig (tua 3 bob dydd).

 

Yn ychwanegol at hynny, mae District Enforcement wedi:

 

Ø  Rhoi tua 750 o fagiau baw cŵn am ddim i siopau a pherchnogion cŵn mewn mannau cyhoeddus.

Ø  Rhoi tua 500 o fagiau bonion sigarét i ysmygwyr.

Ø  Rhoi cyngor a rhybuddion i’r cyhoedd drwy gydol eu hamser ar ddyletswydd,ond nid yw'r fath rybuddion o reidrwydd yn cael eu cofnodi. 

Swyddogion yn siarad â’r cyhoedd drwy gydol y dydd.  Mae’r cyhoedd wedi dangos llawer iawn o ddiddordeb oherwydd lliw’r lifrai a’r ffaith bod swyddogion gorfodi i’w gweld unwaith eto yn y gymuned.

Ø  Mae arwyddion gorchmynion cŵn newydd wedi’u gosod ac arwyddion ychwanegol wedi’u dosbarthu mewn ardaloedd problemus, gyda rhagor o adolygiadau o ardaloedd cerdded cŵn poblogaidd wedi’u cynnal - rhywbeth yr oedd  Cynghorwr a staff CSDd  wedi gwneud cais amdano.

Ø  Chwistrellu sialc melyn mewn ardaloedd y mae swyddogion wedi’u patrolio ac wedi gweld nad yw baw cŵn yn cael ei lanhau, er gwybodaeth y cyhoedd.

Ø  Patrolio’r promenâd ac ardaloedd gwahardd yn fwy aml

Ø  Trefniadau terfynol wedi’u gwneud gyda'r Gwasanaethau Addysg i’r Swyddogion Ardal fynd i ysgolion i roi cyflwyniadau ar y cyd â Chadwch Gymru'n Daclus. 

Gobeithir y bydd y cyflwyniadau’n cychwyn ar ôl y gwyliau hanner tymor.

Ø  Yn aros am wahoddiadau i siarad â chymdeithasau a sefydliadau cyhoeddus - byddai unrhyw gymorth â’r elfen hon yn cael ei werthfawrogi.

Ø  Cynhelir cyfarfodydd briffio dyddiol gyda Tim Wynne Evans a’r Rheolwr Tîm.

 

Bydd Gweithgor yn cael ei sefydlu gyda'r Cynghorydd Mark Young yn Cadeirio, ynghyd â chynrychiolydd o bob Grŵp Ardal Aelodau, a swyddogion.  Bydd y Grŵp yn cyfarfod bob chwarter i drafod cynnydd, arfer da ac unrhyw broblemau neu bryderon perthnasol i’r contract.  Gellir hefyd dosbarthu ystadegau rheolaidd am weithgaredd i'r aelodau drwy'r cyfarfodydd Grŵp Ardal Aelodau. 

 

Rydym hefyd yn hapus i fynychu’r Pwyllgor Craffu os bydd yr aelodau’n dymuno hynny.

 

Cwestiwn atodol gan y Cynghorydd Glenn Swingler – a oes unrhyw rai o'r swyddogion gorfodi'n siarad Cymraeg?

 

Ymateb – gan y Cynghorydd Mark Young - rydym yn cadw at y gyfraith ac yn cefnogi siaradwyr Cymraeg.  Ar hyn o bryd nid os unrhyw un o’r swyddogion gorfodi’n siarad Cymraeg ond gall y cyhoedd wneud cais i gael siarad â rhywun Cymraeg.

 

 

(d)  Cwestiwn  gan y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor – a fyddai’n bosibl cael diweddariad ar bolisi graeanu Cyngor Sir Ddinbych?

 

Ymateb  gan y Cynghorydd Brian Jones – mae’r polisi graeanu i'w weld ar wefan Cyngor Sir Ddinbych ac ar gyfryngau cymdeithasol eraill.  Mae’r polisi’n cynnwys y prif ffyrdd dosbarthedig, y ffyrdd A a B; mae'r prif lwybrau bws, mynediad i’r heddlu, y gwasanaeth tân a llwybrau at ysbytai, ysgolion cynradd, pentrefi a chymunedau'n cael eu diogelu.  Mae hyn hefyd yn cael ei ymestyn i ardaloedd siopa ac ardaloedd sydd fel arfer yn cael anawsterau mewn tywydd garw megis mannau agored, gelltydd serth ac ati.

 

Yn y gorffennol mae timau wedi mynd y filltir ychwanegol ac wedi clirio’r ffyrdd mewn ardaloedd gwledig i drigolion sydd angen mynychu apwyntiad yn yr ysbyty a materion tebyg.

 

Cwestiwn Atodol -  gan y Cynghorydd Mabon ap Gwynfor – rydw i’n gwerthfawrogi gwaith y cerbydau graeanu.  O dro i dro mae rhai yn gwneud mwy na’r disgwyl.  Ond mae’n ymddangos o dro i dro hefyd nad yw ffyrdd yn yr ardaloedd gwledig yn cael eu graeanu oherwydd y rhoddir blaenoriaeth i’r priffyrdd a'r ffyrdd B.  Mae hyn yn golygu bod rhai ardaloedd gwledig yn ynysig a bod pobl sy’n byw yn yr ardaloedd hynny’n methu hyd yn oed cyrraedd y briffordd i fynd i’r gwaith.  Fyddai hi’n bosibl sicrhau bod pob cymuned yn cael ei graeanu’n drylwyr fel bod pawb yn gallu cyrraedd eu gwaith yn ddiogel?.

 

Ymateb  gan y Cynghorydd Brian Jones – y ffyrdd A a B sy’n cael blaenoriaeth.  Mae ardaloedd gwledig yn cael eu hynysu ond mae modd cyfathrebu oddi yno ac os oes argyfyngau byddant yn cael eu trin ar sail achos wrth achos. Dydi  hi ddim yn bosibl graeanu pob ffordd yn y sir o fewn awr.

 

Gallwn edrych ar hyn a dod yn ôl atoch ond rwy’n hyderus ac yn gwybod bod y swyddogion, ac yn fwy pwysig, y gweithlu, yn gwneud eu gorau pan fydd cyfnodau o dywydd gwael yn digwydd.  Gallwch fod yn dawel eich meddwl bod swyddogion yn ymwybodol o’r materion hyn.