Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Dim eitemau brys.

 

Ar y pwynt hwn, dywedwyd wrth yr Aelodau y byddai tri chwestiwn yn cael eu cyflwyno fel a ganlyn:

 

(i)            Mae Mrs Pauline Wheeler o Gorwen yn gofyn y cwestiwn canlynol:

 

“A oes modd i’r Aelod Arweiniol egluro’r polisi o ran cludiant i’r ysgol ar gyfer plant ac oedolion ifanc epileptig sydd angen meddyginiaeth achub yn Sir Ddinbych?”

 

Ymateb gan Aelod Arweiniol Priffyrdd, Cynllunio a Theithio Cynaliadwy, y Cyng. Brian Jones:

 

“Mae gan y Cyngor bolisi Cludiant i Ddysgwyr a gyhoeddir ar wefan Cyngor Sir Ddinbych. Mae Adran 3 o’r polisi yn ymdrin â threfniadau yn ôl disgresiwn ac mae Adran 3.10 yn caniatáu i'r Pennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant wneud penderfyniad yn ôl disgresiwn am resymau meddygol. Felly, mae’r polisi yn golygu y gellir gwerthuso pob achos yn ôl amgylchiadau penodol ac anghenion meddygol pob plentyn. Gellir defnyddio disgresiwn, yn seiliedig ar dystiolaeth o angen meddygol.”

 

Yna, gofynnodd Mrs Wheeler gwestiwn atodol:

 

“Beth a nodir yn benodol am feddyginiaeth achub ar gyfer epilepsi?”

 

Dywedodd y Cyng. Brian Jones y byddai’n anfon ymateb manwl at Mrs Wheeler o fewn 7 diwrnod.

 

 

(ii)          Gofynnodd y Cyng. Glenn Swingler y cwestiwn canlynol:

 

“A oes modd i’r Aelod Arweiniol ddarparu cyngor ar a fydd Cyngor Sir Ddinbych, ar ddiwedd mis Mawrth, yn atal gwestai ar lan môr y Rhyl rhag derbyn teuluoedd digartref mewn argyfwng?”

 

Dyma ymateb y Cyng. Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth:

 

“Mae’n ddyletswydd ar y Cyngor, dan Ddeddf Tai Cymru 2014, i ddarparu llety brys a thros dro i unigolion a theuluoedd sy’n bodloni meini prawf digartrefedd y Ddeddf. Fel y gwyddoch fel aelodau, mae llety o’r fath yn cael ei gynnig yn y Rhyl, yn aml mewn gwestai a sefydliadau gwely a brecwast, ac mae hynny yn cael effaith bosibl ar raglenni twristiaeth ac adfywio economaidd y dref. Rydym oll yn gwybod faint o arian rydym ni wedi’i wario ar adfywio’r Rhyl. Ar hyn o bryd mae yna 100 o aelwydydd mewn llety brys a thros dro, 58 ohonynt yn y Rhyl.

 

Ym mis Ionawr roedd dau westy ar lan y môr wedi’u llenwi gan aelwydydd digartref, sy’n groes i’w caniatâd cynllunio.

 

Mae Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yn gweithio’n agos gyda Chynllunio a Gwarchod y Cyhoedd a Chyfleusterau, Tai ac Asedau i edrych ar lety amgen, gan gynnwys datblygu darpariaeth mewn rhannau eraill o Sir Ddinbych er mwyn peidio â symud teuluoedd o’u cymunedau a’u hysgolion a’u mannau gweithio. Er mwyn hwyluso hyn mae’r Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yn ceisio darparu darpariaeth amgen i aelwydydd sy’n byw yn un o’r gwestai erbyn diwedd mis Mawrth, a helpu'r perchnogion gysylltu â chydweithwyr adfywio economaidd i dderbyn cefnogaeth i gystadlu’n well yn y farchnad westai.

 

Hoffaf ychwanegu, bod Tîm Digartrefedd Sir Ddinbych yn gweithio’n galed iawn ar atal digartrefedd ond, yn amlwg, mae hynny’n cymryd amser. Mae gennym ni gynllun gweithredu gwych. Mae gennym ni Strategaeth Digartrefedd ac rydym ni’n ceisio, ar gyfer y dyfodol, lleihau’r angen am ddarpariaeth ar gyfer pobl ddigartref.

 

Mae deddfwriaeth y llywodraeth, beth bynnag a fo, pa un ai yw’n credyd cynhwysol neu bobl dan 35 ond yn gallu talu cap o £35. Mae hyn oll wedi effeithio ar y sefyllfa o ran digartrefedd, sydd i’w weld ar draws Cymru, nid yn Sir Ddinbych yn unig.

 

Dyna’r darlun mawr, ond gobeithiaf eich bod yn deall fy mod wedi ateb y cwestiwn y gorau gallaf.

 

Yn amlwg, mae gwesty sy’n llawn o bobl ddigartref yn mynd yn groes i ddarpariaethau’r caniatâd cynllunio a gafwyd.”

 

Diolchodd y Cyng. Glenn Swingler i’r Aelod Arweiniol am ei hymateb a chytunodd bod gan y Tîm Atal Digartrefedd waith anodd ei wneud.

 

Meddai:

 

“Roedden nhw’n ceisio canfod llefydd ar gyfer y bobl yn y gwestai ond roedd yna 26 o deuluoedd yn aros yng Ngwesty Westminster. Roedd yn rhaid i ni drefnu llety brys y tu allan i’r sir. Gall y broblem gynyddu os yw siroedd eraill yn dechrau lleoli pobl ddigartref yn Sir Ddinbych. Mae digartrefedd yn fater i bawb, pa un ai yw’n wasanaethau tai, iechyd meddwl, neu’n wasanaethau plant, ac mae angen lleoli’r teuluoedd hynny mewn llety addas.”

 

 

(iii)         Gofynnodd y Cyng. Emrys Wynne y cwestiwn canlynol:

 

“O ran tlodi mislif ac mewn ymateb i e-bost y Cyng. Mabon ap Gwynfor yn amlygu arolwg yn ysgolion Wrecsam. Ym mis Tachwedd, rhoddwyd gwybod i ni... “ein bod ni’n mynd i wneud rhywbeth tebyg a chreu holiadur ar gyfer disgyblion.” A oes modd i’r Aelod Arweiniol ddarparu diweddariad ar y cynnydd hyd yma?”

 

Ymateb gan yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc, y Cyng. Huw Hilditch Roberts:

 

“Mae’r arolwg a gynhaliwyd yn Wrecsam wedi’i anfon i bob ysgol yn Sir Ddinbych, yn ogystal ag Unedau Atgyfeirio Disgyblion, ac mae Grwpiau Ffocws hefyd wedi’u cynnal. Nid yw bob ysgol wedi ymateb eto ond un neges sylfaenol yw bod gan bawb fynediad at gynnyrch mislif. Cafwyd ymateb gan 150 o un ysgol. Cafwyd hefyd adborth y byddai’n fwy hwylus gosod peiriannau gwerthu yn y ciwbicl yn hytrach na chanol y toiledau.”