Eitem ar yr agenda
PRESENOLDEB MEWN CYFARFODYDD
Nodi presenoldeb
aelodau'r Pwyllgor Safonau yng nghyfarfodydd
Cynghorau Sir, Tref a Chymuned a derbyn eu hadroddiadau.
Cofnodion:
Dyma'r Cadeirydd
yn gwahodd aelodau o'r Pwyllgor i rannu eu sylwadau o’r cyngor cymuned, dinas a
thref y maent wedi eu mynychu yn ddiweddar.
Darparodd yr
aelod Cyngor Tref a Chymuned, Gordon Hughes arsylwadau ar gyfarfod Cyngor
Cymuned Llanynys a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 2019. Dywedodd ei fod wedi derbyn
manylion y cyfarfod, yr amser a'r lleoliad yn brydlon ar ôl gofyn amdanyn nhw
ond nid oedd ganddo fynediad i agenda neu adroddiadau. Dywedodd Mr Hughes bod gan y cyngor cymuned
wefan ddwyieithog ond bod y wefan ddim yn rhoi mynediad i agendâu, cofnodion ac
adroddiadau.
Dywedodd Mr Hughes am y cyfarfod ei
fod yn cael ei arwain mewn modd derbyniol gydag awyrgylch dda a pherthynas wych
rhwng y cynghorwyr.
Roedd Mr Hughes
wedi mynychu cyfarfod Cyngor Cymuned Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch ar 25 Chwefror
2019. Fel gyda’r ymweliad blaenorol, cafodd ymholiad Mr Hughes ei ateb yn
brydlon gyda manylion y cyfarfod ac fe gafodd yr agenda a'r cofnodion hefyd.
Roedd gan y cyngor wefan ddwyieithog ond nid oedd modd cael gafael ar y
dogfennau o’r wefan.
Cynghorwyd yr
aelodau fod y cyfarfod yn cael ei arwain yn dda ac yn drefnus, yn ôl yr agenda
a phob eitem gyda phenderfyniadau a chamau gweithredu amlwg yn gysylltiedig â
nhw. Roedd yr awyrgylch a’r berthynas a arsylwyd rhwng y cynghorwyr yn wych.
Dywedodd Mr Hughes fod yr hyfforddiant yn cael ei ystyried i fod o flaenoriaeth
uchel gan y cyngor cymuned. Roedd ffurflenni datgan cysylltiad ar gael yn y
cyfarfod ac roedd rhai wedi eu cwblhau yn datgan cysylltiad i geisiadau grant
yn y gymuned leol. Yr holl aelodau wedi aros yn yr ystafell gyfarfod ar gyfer
yr eitem.
Aelodau’r
Pwyllgor, Julia Hughes a Peter Lamb wedi mynychu’r cyfarfod yng Nghyngor
Cymuned Efenechtyd a gynhaliwyd ar 2
Ionawr 2019.
Dywedodd Mrs
Hughes ei bod wedi derbyn ymateb prydlon i gais am wybodaeth cyfarfod gan y
clerc, ond nid oedd gwefan y cyngor wedi'i ddiweddaru. Roedd yr eitem ar yr agenda ar ‘gyfranogiad
cyhoeddus’ er nid oedd unrhyw aelodau o’r cyhoedd yn bresennol ar yr achlysur
hwn ac fe welodd bod y Clerc wedi rhoi llawer o gefnogaeth i’r Cadeirydd a’r
cyfarfod. Roedd y cynghorwyr wedi trafod achosion hyfforddi yn y cyfarfod.
Dywedodd Mr Lamb
fod yr eitem ar ddatgan cysylltiad gyda sgript yn amlinellu diben yr eitem.
Dywedodd y Swyddog Monitro fod Cyngor Sir Ddinbych wedi rhannu copi o’i sgript
ffurfiol a ddefnyddiwyd er budd y cyhoedd mewn cyfarfodydd wedi’i gweddarlledu.
Gofynnodd Mr Lamb
os oedd cynghorau tref a chymuned yn gweld presenoldeb aelodau o’r Pwyllgor
Safonau yn ddefnyddiol i helpu gyda threfniadau eu cyfarfodydd? Ychwanegodd hefyd fel siaradwr di-Gymraeg yn
mynychu cyfarfod lle'r oedd y rhan fwyaf ohono yn Gymraeg, roedd yn ymwybodol y
byddai ei bresenoldeb yn gallu arwain at newid yn iaith y cyfarfod ac y
byddai'n cadw hynny yn y cof y tro nesaf y byddai’n dewis pa gyfarfodydd tref a
chymuned yw mynychu.
PENDERFYNWYD bod
y Pwyllgor yn nodi presenoldeb gan ei aelodau mewn cyfarfodydd cyngor dinas,
tref a chymuned.