Eitem ar yr agenda
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD
Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Mae’r Cadeirydd wedi caniatau i’r eitemau canlynol gael eu
hystyried fel eitemau busnes brys:
(4i) Penderfyniad
y Cabinet ar 2 Mehefin 2015 yn gysylltiedig ac Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd ac
Ysgol Pentrecelyn (adroddiad yn atodedig)
(9:35am – 10:35am)
(4ii) Penderfyniad y Cabinet ar 2 Mehefin 2015 yn
gysylltiedig ac Ysgol Rhewl (adroddiad yn atodedig)
(10:45am – 11:45am)
Cofnodion:
Dywedodd y
Cadeirydd bod penderfyniadau a wnaed gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 2 Mehefin
2015 i gymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Llanfair Dyffryn
Clwyd (Llanfair DC) ac Ysgol Pentrecelyn wedi'i alw i mewn ar gyfer adolygiad. Hefyd
roedd y penderfyniad i gymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Rhewl
wedi'i alw i mewn ar gyfer adolygiad.
O ganlyniad, er mwyn
cydymffurfio â Rheolau Gweithdrefn Galw i Mewn y Cyngor, a oedd yn nodi bod
pwyllgor archwilio i ystyried galw i mewn penderfyniad o fewn pum niwrnod
gwaith, roedd wedi cytuno i ystyried y materion fel eitem o fusnes brys yn
rhaglen y cyfarfod cyfredol. Roedd pob aelod o’r Pwyllgor, gan gynnwys
aelodau cyfetholedig wedi derbyn copïau o'r adroddiadau a'r atodiadau oedd wedi
eu hystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 2 Mehefin 2015.
Gan fod
penderfyniad y Cabinet ar 2 Mehefin 2015 yn ymwneud â darpariaeth addysg y
Cyngor, caniatawyd i Aelodau cyfetholedig addysg statudol yr Awdurdod ar y
pwyllgor archwilio i gyfrannu’n llawn wrth ystyried y penderfyniadau oedd wedi
eu galw i mewn fel aelodau pleidleisio llawn o'r Pwyllgor.
Galw i mewn y penderfyniad i gyhoeddi hysbysiadau
statudol ar gyfer y cynnig i gau Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn.
Cymeradwyodd
Cabinet Sir Ddinbych yn ei gyfarfod ar 2 Mehefin 2015 yr argymhelliad canlynol:
“(a) nodi canfyddiadau'r ymgynghoriad ffurfiol ar
gyfer cau Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn ac agor ysgol ardal newydd ar
y ddau safle presennol;
(b) cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i
Gyngor Sir Ddinbych gau Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn ar 31 Awst 2016;
ac i’r Eglwys yng Nghymru sefydlu Ysgol Ardal Wirfoddol a Reolir newydd ar y
safleoedd presennol o 1 Medi 2016, a
(c) nodi’r opsiwn i rieni wneud cais i anfon eu
plant i Ysgol Pen Barras fel ysgol arall pe baent yn dymuno i’w plant aros o
fewn ysgol Categori 1.”
Cyhoeddwyd y
penderfyniad uchod ar wefan y Cyngor ar 3 Mehefin 2015, ac yn unol â Rheolau Gweithdrefn
Galw i Mewn y Cyngor, nid oedd y penderfyniad wedi cael ei weithredu ar unwaith
fel bod aelodau nad oedd yn aelodau o’r Cabinet yn gallu galw’r penderfyniad i
mewn i’w archwilio, os oeddent o'r farn bod angen ei archwilio.
Derbyniwyd
ffurflen "Hysbysiad galw i mewn", a lofnodwyd gan y nifer gofynnol o
Gynghorwyr nad oeddent yn aelodau o’r Cabinet, ar 5 Mehefin 2015.
Y rhesymau dros y
penderfyniad i alw i mewn oedd:
(i)
Diffyg
esboniad ynglŷn â beth oedd Categori 1 a 2 yn ei olygu;
(ii)
A ddilynwyd
y canllawiau ar gyfer cau ysgolion gwledig?
(iii)
A
roddwyd y data cywir ynghylch yr ysgolion – niferoedd data disgyblion?; a
(iv)
Ni
ddilynwyd y broses yn gywir yn erbyn blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.
Gofynnwyd i
Aelodau’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad benderfynu, yn seiliedig ar y
wybodaeth a gyflwynwyd iddynt, os oedd y Pwyllgor yn credu y dylai'r Cabinet
adolygu ei benderfyniad gwreiddiol, ac os felly ar ba sail.
Cyflwynodd y
Cynghorydd Arwel Roberts y cais i alw i mewn a dechreuodd y drafodaeth drwy
amlinellu’r pedwar pwynt a oedd yn sail ar gyfer y galw i mewn.
Ymatebodd yr
Aelod Arweiniol ar gyfer Addysg a swyddogion oedd yn bresennol i'r pwyntiau a
godwyd ac i gwestiynau Aelodau’r Pwyllgor fel a ganlyn:
(i)
Roedd
y Cyngor yn categoreiddio ei ddarpariaeth addysg yn unol â Dogfen Wybodaeth
Rhif 023/2007 Llywodraeth Cynulliad Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2007.
Roedd disgwyl i bob Cyngor yng Nghymru i gadw at y canllawiau wrth
gategoreiddio eu darpariaeth addysg.
Roedd ysgolion cynradd Categori 1 yn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Roedd y
cwricwlwm yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg, a’r asesiadau a’r iaith
gyfathrebu o ddydd i ddydd gyda’r disgyblion. Disgwylid y
byddai'r disgyblion yn trosglwyddo’n rhwydd i ddarpariaeth uwchradd cyfrwng
Cymraeg ar ddiwedd y cyfnod allweddol (CA) 2. Byddai disgyblion hefyd wedi
cyrraedd safon gyfatebol yn Saesneg i ddisgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg
yn bennaf.
Roedd ysgolion cynradd Categori 2 yn ysgolion cynradd dwy ffrwd. Roedd
yr ysgolion yn darparu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a Saesneg ochr yn ochr. Yn
dibynnu ar ddewis y rhieni, roedd y cwricwlwm yn cael ei gyflwyno drwy naill ai
gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Y disgwyliad ar gyfer ysgolion Categori 2 oedd
y byddai disgyblion yn y ffrwd Gymraeg yn gallu trosglwyddo i ddarpariaeth
uwchradd cyfrwng Cymraeg, yr un peth ag ysgolion Categori 1. Byddai’r
ffrwd Saesneg yn gallu trosglwyddo i ddarpariaeth uwchradd cyfrwng Saesneg yr
un fath â disgyblion o ysgol gynradd Categori 5.
Darllenodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg, y Cynghorydd Eryl Williams
ddyfyniad o'r cofnodion drafft o gyfarfod y Cabinet, a gynhaliwyd ar 2 Mehefin,
i ddangos y rhoddwyd esboniad llawn a chynhwysfawr ar y categori darpariaeth
addysg gynradd.
Roedd y derminoleg categoreiddio mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn
wahanol ac roedd gan hyn y potensial i achosi dryswch. Roedd
Categori 2 yn y sector cynradd yn ysgolion dwy ffrwd, tra bod Categori 2 yn y
sector uwchradd yn ysgolion dwyieithog.
Roedd Llywodraeth Cymru (LlC) yn awyddus i Gymru fod yn wlad ddwyieithog yn
y tymor hir, felly, disgwylir i bob ysgol ddarparu elfen o addysg Gymraeg. Roedd
pob Cyngor yn gorfod cael Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.
Roedd Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo i wella hyfedredd disgyblion ysgol
yn y Gymraeg a'r Saesneg. Roedd gan Grŵp Strategol Cymraeg mewn
Addysg y Cyngor oedd yn monitro gweithrediad y cynllun hefyd rôl wrth sicrhau
bod pob ysgol yn symud ar hyd y continwwm iaith i ddarparu rhagor o elfennau
o'r cwricwlwm drwy gyfrwng y Gymraeg.
(ii)
Y Cod
a ddilynir ar gyfer ad-drefnu darpariaeth addysg oedd Cod Trefniadaeth Ysgolion
Llywodraeth Cymru, Rhif Cod Statudol 0006/2013, cyhoeddwyd Gorffennaf 2013. Dilynwyd
y Cod hwn yn achos Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn.
Roedd y Cod yn mynnu y cynhelir asesiad effaith cymunedol (AEC) o ran
unrhyw gynigion i gau. Roedd AEC wedi'i gynnal o ran y cynnig ar
gyfer Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn.
Roedd y cynigion oedd yn ymwneud â’r ddwy ysgol yn rhan o'r adolygiad
ehangach o ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Rhuthun. Nodwyd
y cynnig a gyflwynwyd fel yr ateb gorau ar gyfer darparu addysg yn ardaloedd
Llanfair DC a Phentrecelyn gan ei fod yn darparu ysgol gymunedol a fyddai'n
darparu addysg i ddisgyblion yn newis iaith eu rhieni. Byddai
hefyd yn darparu cyfleuster ysgol newydd i’r ardal maes o law.
Oherwydd bod gan Ysgol Llanfair DC ffrwd cyfrwng Cymraeg, roedd hyn yn
cyflawni’r cwricwlwm yr un fath ag ysgol Categori 1. Barnwyd
bod dynodi’r ysgol newydd fel ysgol Categori 2 yn cael ei ystyried yn briodol
gan y byddai’n diwallu’r cynnig a ddarperir ar hyn o bryd gan Ysgol Pentrecelyn
ac Ysgol Llanfair DC. Roedd y cynnig addysgol, felly, yn diwallu
anghenion y ddwy set o ddisgyblion i safon gyfatebol – sef yr hyn oedd y Cod ei
angen.
(iii)
Y
data a ddarparwyd fel rhan o'r ymgynghoriad ar y cynigion ar gyfer ysgol ardal
newydd oedd Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (Ebrill 2014)
Llywodraeth Cymru. Hon oedd y ffynhonnell ddata cydnabyddedig a ddefnyddir ar
gyfer prosiectau ad-drefnu ysgolion, a defnyddiwyd fel sail ar gyfer yr
Adolygiad o Ardal Rhuthun cyfan.
Nid oedd yr union niferoedd sy'n trosglwyddo o Ysgol Pentrecelyn i'r ysgol
ardal newydd yn hysbys eto, byddai hyn yn gliriach unwaith y cyhoeddwyd
hysbysiadau statudol. Fodd bynnag, pe bai rhieni yn dewis anfon
eu plant i ysgol Categori 1 yn lle'r ysgol ardal newydd, byddai cludiant o'r
cartref i'r ysgol am ddim ond ar gael i’r ysgol addas agosaf.
Byddai 10% o leoedd gwag wrth gefn yn cael ei gynnwys yn y fanyleb
cynllunio ar gyfer cyfleuster newydd i Ysgol Pen Barras yn Rhuthun gyda’r
bwriad o ddarparu ar gyfer pwysau yn y dyfodol.
Byddai amrywiadau yn y boblogaeth yn cael effaith ar holl ddarpariaeth
ysgol yn y dyfodol. Oherwydd natur ansicr sy'n gysylltiedig
â’r agwedd hon, ni ellid ei ystyried fel rhan o unrhyw ffigurau rhagamcanol.
Adolygwyd y data y seiliwyd y cynigion arno gan swyddog annibynnol yn
ddiweddar, sydd wedi cadarnhau ei ddilysrwydd.
(iv)
Roedd y broses a
ddilynwyd, o ran y cynigion, yn cydymffurfio â Chod Trefniadaeth Ysgolion
(Gorffennaf 2013) Llywodraeth Cymru a’r canllawiau ar ddiffinio ysgolion yn ôl
y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg (Hydref 2007).
Nod yr adolygiad o ardal Rhuthun, yr oedd y cynnig hwn yn elfen ohono, oedd
i gyfrannu tuag at gyflawni blaenoriaeth gorfforaethol y Cyngor o "wella
perfformiad mewn addysg ac ansawdd adeiladau ysgol".
Codwyd y pwyntiau
ychwanegol canlynol:
·
Cadarnhawyd o fewn
Sir Ddinbych roedd Categori 1, Categori 2 a chategorïau eraill o ysgolion
cynradd dan reolaeth wirfoddol;
·
Roedd
y mwyafrif o'r gwrthwynebiadau i gynigion Ysgol Llanfair DC ac Ysgol
Pentrecelyn ar sail categoreiddio iaith.
Ychydig iawn o wrthwynebiadau
a dderbyniwyd o ran ei statws dan reolaeth wirfoddol arfaethedig;
·
Roedd
y Pwyllgor wedi gofyn i swyddogion wneud ymholiadau i weld a ellid
categoreiddio ysgolion yn debyg i fodel Cyngor Gwynedd o ysgolion
"dwyieithog" yn hytrach na chategoreiddio darpariaeth cyfrwng Cymraeg
a ddefnyddir ar hyn o bryd a oedd fel petai'n achosi dryswch;
·
Amcan
y polisi cenedlaethol a chynllun gweithredu "Iaith Pawb" Llywodraeth
Cymru oedd i gynnal a chynyddu nifer y bobl yn y wlad a allai siarad Cymraeg. Roedd
CSCA a pholisi addysg y Cyngor yn cydymffurfio â gweledigaeth Llywodraeth
Cymru.
Ar y pwynt hwn,
rhoddodd y Cadeirydd gyfle i gynrychiolwyr o Ysgol Llanfair DC ac Ysgol
Pentrecelyn i annerch y cyfarfod.
Codwyd y pwyntiau canlynol:
(i)
Roedd
Geraint Lewis Jones, Cadeirydd y Llywodraethwyr, Ysgol Llanfair DC wedi annerch
y Pwyllgor fel a ganlyn:
a.
Nid
oedd rhieni’r ysgol wedi cymysgu rhwng y diffiniadau Categori 1 a Chategori 2.
b.
Nid
oedd categoreiddio wedi bod yn ffenomenon diweddar. Cysylltwyd
â’r Corff Llywodraethu ar sawl achlysur â chais i newid y categorïau o 2 i 1,
ond gwrthodwyd hyn bob tro gan y teimlwyd y byddai’r ysgol yn colli disgyblion.
c.
Roedd
gan yr ysgol bolisi recriwtio staff sy'n siarad Cymraeg. Cymraeg
oedd iaith gymdeithasol yr ysgol ac roedd yr athrawon yn cyfathrebu gyda'r
plant yn Gymraeg.
d.
Nod
yr ysgol oedd sicrhau bod ganddynt y nifer uchaf posibl o siaradwyr Cymraeg yn
11 oed. O ganlyniad, roedd model Categori 2 yn gweithio'n dda ar gyfer Ysgol
Llanfair DC.
(ii)
Anerchodd
Menna Jones y Pwyllgor ar ran Ysgol Pentrecelyn fel a ganlyn:
a.
Mynegwyd
pryderon o ran colli ysgol wledig Categori 1.
b.
Roedd
pryderon wedi'u codi hefyd o ran adolygiad o’r ffrwd "N" (ystyrir yn
addas ar gyfer disgyblion a oedd wedi dysgu Cymraeg fel ail iaith ac sydd,
erbyn diwedd CA2, â dealltwriaeth dda o'r iaith) yn Ysgol Brynhyfryd o fis Medi
2015, ac effaith hyn ar ysgolion sy'n ei bwydo.
Wrth grynhoi cais
y llofnodwyr i alw i mewn y penderfyniad gwreiddiol gan y Cabinet, roedd y
Cynghorydd Arwel Roberts yn nodi ei siom, o dan gynigion ad-drefnu ysgolion, y
barnwyd darpariaeth Categori 2 i fod yn gydradd â darpariaeth Categori 1. Roedd
o'r farn y dylid ei adolygu gan Lywodraeth Cymru.
Ar ddiwedd y
drafodaeth, daeth y Pwyllgor i’r casgliad, ar ôl cael sicrwydd y byddai'r
effaith ar ddisgyblion sy'n dewis gadael y naill ysgol neu’r llall yn cael ei
fonitro'n agos ac effaith cau Ysgol Pentrecelyn ar y ddwy ysgol Categori 1
arall yn yr ardal yn hylaw, drwy fwyafrif nad oedd y mater yn teilyngu cael ei
gyfeirio yn ôl i'r Cabinet i’w ailystyried. Fodd
bynnag, gofynnodd y Pwyllgor i swyddogion edrych ar y posibilrwydd i’r Cyngor
ddynodi ysgolion yn ysgolion "dwyieithog" yn hytrach na chael ei
gyfyngu gan ganllawiau Llywodraeth Cymru ar gategoreiddio yn ôl darpariaeth
cyfrwng Cymraeg. Roedd y Pwyllgor yn:
PENDERFYNU –
ar ôl ystyried y rhesymau a roddwyd dros ofyn am adolygiad o benderfyniad y
Cabinet, a’r wybodaeth a ddarparwyd yn y cyfarfod, nad oedd digon o dystiolaeth
i ofyn i’r Cabinet ailystyried ei benderfyniad ar
2 Mehefin 2015 o ran Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd
ac Ysgol Pentrecelyn.
Galw i mewn y penderfyniad i gyhoeddi'r hysbysiad
statudol ar gyfer y cynnig i gau Ysgol Rhewl.
Roedd Cabinet Sir
Ddinbych yn ei gyfarfod ar 2 Mehefin 2015 wedi cymeradwyo’r argymhelliad
canlynol:
“(a) nodi canfyddiadau'r ymgynghoriad ffurfiol i
gau Ysgol Rhewl, a
(b) chymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i gau
Ysgol Rhewl ar 31 Awst 2017 gyda disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Pen Barras
neu Ysgol Stryd y Rhos i gyd-fynd ag agor adeiladau’r ysgol newydd."
Cyhoeddwyd y
penderfyniad uchod ar wefan y Cyngor ar 3 Mehefin 2015, ac yn unol â
Gweithdrefn Galw i Mewn y Cyngor, nid oedd y penderfyniad wedi cael ei
weithredu ar unwaith fel bod aelodau sydd ddim yn aelodau o’r Cabinet yn gallu
galw’r penderfyniad i mewn i’w archwilio, os oeddent o'r farn bod angen ei
archwilio.
Derbyniwyd
ffurflen "Hysbysiad galw i mewn", a lofnodwyd gan y nifer gofynnol o
Gynghorwyr heb fod yn aelodau o’r Cabinet ar 8 Mehefin 2015.
Roedd y rhesymau
dros y penderfyniad galw i mewn fel a ganlyn:
(i)
Bod
yr effaith ar yr iaith Gymraeg yn yr ysgol yn ogystal ag yn y sir, a godwyd yn
yr ymgynghoriad, heb dderbyn sylw gan y Cabinet;
(ii)
Colli
darpariaeth ddwyieithog yn Rhewl yn gwrthdaro â Chynllun Strategol Cymraeg mewn
Addysg y Cyngor ei hun;
(iii)
Gallu
safle Glasdir i ddarparu ar gyfer pob disgybl yn amodol ar adolygiad o ardal
Rhuthun, a diogelwch ar y ffyrdd a materion rheoli traffig; a
(iv)
Nad
oedd y broses ymgynghori yn cynnwys y cynnig ar gyfer trefniadau amgen a
thrafodaeth ar gynigion o'r fath, ni chymerodd le ac ni ymatebodd y Cabinet i
hyn yn eu cyfarfod ar
2 Mehefin 2015.
Cyflwynodd y
Cynghorydd Merfyn Parry y cais galw i mewn a dechreuodd y drafodaeth gan amlinellu'r
pwyntiau uchod fel y sail ar gyfer y galw i mewn.
Roedd y
Cynghorydd Parry yn ymhelaethu ar y pwyntiau fel a ganlyn:
·
Teimlai
rhieni disgyblion yn Ysgol Rhewl bod eu dewis o ysgol yn cael ei beryglu. Yr
unig ysgol dwy ffrwd ar gael iddynt fyddai Ysgol Llanfair DC, ond ni fyddai
cludiant am ddim ar gael i'r ysgol hon.
Roedd wedi’i gydnabod yn y
blynyddoedd diwethaf, nad oedd Ysgol Rhewl wedi bod yn cyflawni’r ddarpariaeth
addysg yn unol â dynodiad Categori 2.
Fodd bynnag, roedd hyn wedi
derbyn sylw gyda dau ddisgybl yn disgwyl cael eu hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg
eleni.
·
Pwysleisiwyd
pryderon rhieni dros ddiogelwch y plant oherwydd bod disgyblion o Rewl yn
gorfod cerdded i'r ysgolion newydd ar safle Glasdir ar hyd ffordd brysur iawn,
gyda nifer o unedau diwydiannol a’r farchnad da byw ar hyd un ochr, a safle
arall ar y llwybr eisoes wedi'i glustnodi ar gyfer datblygu diwydiannol. Er
gwaethaf natur ddiwydiannol y llwybr hwn fe'i ystyriwyd fel llwybr 'nad yw'n
beryglus' ar hyn o bryd.
·
Roedd
y Cynghorydd Parry yn gofyn i’r Pwyllgor Archwilio argymell i'r Cabinet bod y
penderfyniad i gyhoeddi hysbysiad statudol i gau’r ysgol ar 31 Awst 2017 yn
cael ei roi o'r neilltu hyd nes ceir eglurhad pellach ar gapasiti safle Glasdir
i ddarparu ar gyfer pob un o'r disgyblion yr effeithiwyd arnynt gan adolygiad
ardal Rhuthun, diogelwch ar y ffyrdd a materion rheoli traffig a rhoi digon o
amser i Ysgol Rhewl ddarparu yn ôl y disgwyl yn erbyn ei ddynodiad Categori 2.
Ymatebodd yr
Aelod Arweiniol dros Addysg a swyddogion oedd yn bresennol i'r pwyntiau a
godwyd ac i gwestiynau Aelodau’r Pwyllgor fel a ganlyn:
(i)
Roedd
y dalgylch cyfredol ar gyfer yr ysgol wedi'i ddangos mewn map a gyflwynwyd i'r
Cabinet ar 2 Mehefin. Roedd y map yn dangos bod nifer o
ddisgyblion yn yr ysgol yn teithio o rannau gogleddol a deheuol y sir. Os
bydd yr ysgol yn cau, roedd yn debygol na fyddai nifer o’r disgyblion yn
trosglwyddo i ddarpariaeth Gymraeg neu Saesneg ar safle Glasdir gan na fyddai’n
cael ei ystyried fel yr ysgol addas agosaf.
O ran cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn
holl ysgolion y sir a’u cefnogi ar hyd y continwwm iaith, hysbyswyd yr Aelodau
bod y Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg ar hyn o bryd yn gyfrifol am yr
agwedd hon o’r gwaith.
(ii)
Pwysleisiwyd
nad oedd unrhyw bryderon ynglŷn ag ansawdd y ddarpariaeth addysg yn Ysgol
Rhewl. Fodd bynnag, bu pryderon nad oedd y cwricwlwm yn
cael ei ddarparu yn unol â dynodiad Categori 2 yr ysgol. Roedd
hyn yn derbyn sylw ar hyn o bryd.
Cadarnhawyd bod materion sy’n ymwneud â chategoreiddio iaith Ysgol Rhewl
wedi codi mewn cyfarfod Pwyllgor Archwilio Cymunedau ym mis Mawrth 2015, yn
ystod y drafodaeth ar adroddiad ar "gategoreiddio iaith yn holl ysgolion
Sir Ddinbych". O ganlyniad, roedd y Grŵp Strategol
Cymraeg mewn Addysg yn cefnogi’r ysgol ac yn monitro ei chynnydd.
Tra'n cydnabod nad oedd y cynnig a gyflwynir ar gyfer Ysgol Rhewl yn
darparu cynnig 'tebyg am debyg' i’r disgyblion na’r rhieni, roedd yn unol â
gofynion Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru (Gorffennaf 2013) fel
dewis amgen "dylai cynigion sicrhau bod cydbwysedd y ddarpariaeth ysgol yn
adlewyrchu cydbwysedd y galw" ac yn darparu "o leiaf safonau a
chyfleoedd cyfwerth i wneud cynnydd yn eu cyfrwng iaith presennol". Felly,
roedd y Cyngor o'r farn bod y cynigion oedd wedi cael eu cyflwyno ar gyfer
Ysgol Rhewl yn adlewyrchu cydbwysedd y galw presennol yn Rhewl.
(iii)
Byddai
cynnydd yn y traffig ysgol i'r ysgolion newydd arfaethedig ar safle Glasdir yn
sbarduno asesiad diogelwch ffyrdd yn awtomatig. Byddai
hyn hefyd yn ffurfio rhan o'r broses ceisiadau cynllunio cyn cael caniatâd
cynllunio.
Roedd y Gwasanaeth Priffyrdd wedi cofrestru rhai pryderon cychwynnol ar
faint a diogelwch traffig ar gyfer y safle newydd arfaethedig ac roedd
ymgynghorydd wedi'i benodi i gynnal astudiaeth ddichonoldeb fel rhan o lunio'r
cais cynllunio.
(iv)
Ystyriwyd
y cynigion amgen a gyflwynwyd fel rhan o'r broses ymgynghori ac roedd ymateb y
Cyngor iddynt wedi'i amlinellu o fewn atodiad Adroddiad yr Ymgynghoriad i'r
Cabinet ar 2 Mehefin 2015.
Byddai’r ysgolion newydd i gael eu hadeiladu ar safle Glasdir yn cael eu
cynllunio i ddarparu capasiti 10% ychwanegol at nifer gwirioneddol y
disgyblion. Byddai hyn yn cydymffurfio â chanllawiau BB99 ar
adeiladau ysgol a meysydd chwarae gyda golwg ar ddiogelu anghenion yn y
dyfodol.
Byddai gan yr ysgolion newydd un dosbarth derbyniad ac un a hanner. Byddai’r
amddiffyniad hwn, ar y cyd â gweddill yr adolygiad o ardal Rhuthun, yn ddigonol
i leihau nifer y lleoedd gwag mewn ysgolion o fewn ysgolion penodol i lefel
hylaw, tra'n sicrhau ar yr un pryd y byddai cynnig addysgol o ddewis ar gael
i'r holl blant yn yr ardal o fewn pellter teithio rhesymol o'u cartref. Byddai
Polisi Derbyn Ysgolion y Cyngor yn helpu i reoli argaeledd a hygyrchedd lleoedd
mewn ysgolion ar draws y sir.
Ar y pwynt hwn,
rhoddodd y Cadeirydd gyfle i Gadeirydd y Llywodraethwyr, Ysgol Rhewl annerch y
cyfarfod. Codwyd y pwyntiau canlynol:
·
Roedd
Estyn wedi graddio Ysgol Rhewl yn "dda". Roedd y ddarpariaeth Gymraeg yn yr ysgol wedi symud ymlaen ac roedd y
cynlluniau ar gyfer datblygu pellach yn y maes hwn ar gael i bawb eu gweld.
·
Roedd
y Corff Llywodraethu yn teimlo y byddai cau’r ysgol yn cyfateb i golli cyfle i
symud y Gymraeg ymlaen yn Sir Ddinbych.
Roedd hyn yn peri pryder yn
arbennig o gofio casgliadau astudiaeth ddiweddar a gomisiynwyd gan y Cyngor ar
ddyfodol yr iaith o fewn y sir.
·
Roedd
Ysgol Rhewl wedi gweithio'n agos gydag Ysgol Brynhyfryd i fodloni eu gofynion
ar gyfer darparu addysg ddwyieithog a chefnogi disgyblion i gael mynediad i
addysg uwchradd yn yr iaith o'u dewis.
·
Roedd
gan rieni disgyblion yn Ysgol Rhewl bryderon difrifol o ran maint y traffig
sy'n defnyddio'r ffordd rhwng Rhewl a Rhuthun.
Wrth grynhoi cais y llofnodwyr i alw
penderfyniad gwreiddiol y Cabinet i mewn, dywedodd Cadeirydd y Llywodraethwyr
a’r prif lofnodwr i'r cais galw i mewn, y Cynghorydd Merfyn Parry, y teimlent
fod y penderfyniad i gau Ysgol Rhewl yn gynamserol a byddai colli ysgol gynradd
dwy ffrwd yn niweidiol i'r ardal leol, ac i'r sir gyfan. Cynlluniwyd
i adeiladu 23 o gartrefi teuluol fforddiadwy newydd yn Rhewl ac nid oedd
effeithiau posibl y cynnydd hwn yn y boblogaeth, ym marn preswylwyr wedi’i
ystyried yn llawn fel rhan o'r ymarfer ymgynghori.
Cadarnhaodd
swyddogion os byddai’r penderfyniad i gau Ysgol Rhewl yn cael ei ohirio, roedd
yna botensial y byddai’n arafu cynigion eraill nad oedd ar waith eto fel rhan
o'r adolygiad o ardal Rhuthun, gan fod pob rhan o'r adolygiad yn ddibynnol ar
elfennau eraill yn cael eu cyflawni.
Cynigiodd
swyddogion i ddarparu sesiwn ar lwybrau diogel i ysgolion i bob budd-ddeiliad,
gan gynnwys plant a rhieni i leddfu unrhyw ofnau a allai fod ganddynt.
Ar ddiwedd y
drafodaeth, roedd y Pwyllgor yn cydnabod bod yna heriau i aelodau a swyddogion
y Cyngor i sicrhau bod y ddarpariaeth addysg newydd yn cyflawni’r canlyniadau
disgwyliedig wrth benderfynu peidio â gofyn i’r Cabinet adolygu ei benderfyniad
i gau Ysgol Rhewl. Byddai angen i'r Cyngor gymryd pob cam
angenrheidiol i liniaru yn erbyn y risg o golli sgiliau iaith Gymraeg ac i
sicrhau nad oedd disgyblion o Ysgol Rhewl a'r ardal yn gyffredinol mewn unrhyw
ffordd dan anfantais oherwydd na fyddai yna ysgol Categori 2 ar gael yn y
dyfodol. Bod y Pwyllgor yn:
PENDERFYNWYD - ar
ôl ystyried y rhesymau a roddwyd dros ofyn am adolygiad o benderfyniad y
Cabinet a'r wybodaeth a ddarparwyd yn y cyfarfod, penderfynwyd nad oedd digon o
dystiolaeth i ofyn i’r Cabinet ystyried ei benderfyniad ar 2 Mehefin i gyhoeddi hysbysiad statudol i gau
Ysgol Rhewl, ond i argymell i'r Cabinet:
(a) Dylai
gyfarwyddo'r swyddogion yn ystod y cyfnod ymgynghori ar ôl cyhoeddi hysbysiadau
statudol i ymgymryd â gwaith i asesu a lliniaru effeithiau colli darpariaeth
iaith Gymraeg ar y gymuned ac i sicrhau na fyddai colli ysgol dwy ffrwd yn
anfanteisio disgyblion yr ardal yn y dyfodol;
(b) Gwneud gwaith pêl pellach gyda disgyblion, rhieni, staff a
budd-ddeiliaid eraill o Ysgol Rhewl i ymdrin â'u pryderon sy'n ymwneud â
chapasiti safle Glasdir, rheoli trafnidiaeth ar safle’r ysgol newydd a
phryderon diogelwch ffordd rhwng Rhewl a Glasdir; a
(c) Yr
adroddir ar ganfyddiadau’r gwaith a nodir yn (a) a (b) uchod i'r Cabinet yn yr
hydref 2015 pan gyflwynir yr adroddiad gwrthwynebiadau mewn ymateb i gyhoeddi’r
hysbysiad statudol.
Yn ystod y drafodaeth ar y galw i mewn
roedd cais wedi'i wneud am arweiniad ar pe byddai aelod o'r Cabinet a oedd yn
rhan o'r corff gwneud penderfyniadau yn cael eu hesgusodi gan y Pwyllgor Safonau
o fod â chysylltiad sy'n rhagfarnu os oedd ef/hi yn aelod ward ar gyfer yr
ardal yr effeithir arni gan y penderfyniad i ganiatáu iddynt fynychu cyfarfod
galw i mewn. Gofynnodd aelodau a fyddai modd rhoi caniatâd
cyffredinol ar gyfer materion o'r fath neu a fyddai angen i bob unigolyn wneud
cais o'r fath ar sail fesul pwnc.
Cytunodd y Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd i godi'r mater gyda’r Swyddog Monitro.
Dogfennau ategol:
- Call-in Report Llanfair Pentrecelyn 110615, Eitem 4. PDF 114 KB
- Call-in Report Llanfair Pentrecelyn - App 1 110615, Eitem 4. PDF 132 KB
- App 2 Call in - Pentre Celyn & Llanfair DC Schools, Eitem 4. PDF 37 KB
- Call-in Report Ysgol Rhewl 110615, Eitem 4. PDF 111 KB
- Call-in Report Rhewl - App 1 110615, Eitem 4. PDF 132 KB
- App 2 Call in - Ysgol Rhewl, Eitem 4. PDF 120 KB