Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PROSES GYLLIDEB 2015/16

Ystyried adroddiad gan y Prif Swyddog Cyllid sy'n rhoi diweddariad ar y broses i gyflawni'r gyllideb refeniw ar gyfer 2016/17 (copi’n amgaeedig).

 

 

Cofnodion:

Roedd adroddiad gan y Prif Gyfrifydd, oedd yn rhoi diweddariad ar y broses i ddarparu’r gyllideb refeniw ar gyfer 2016/17, wedi ei gylchredeg ymlaen llaw.

 

Gyda chymorth y Prif Gyfrifydd, rhoddodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill, grynodeb manwl o’r adroddiad. Eglurwyd bod yr adroddiad blaenorol ym mis Ionawr wedi crynhoi'r broses Rhyddid a Hyblygrwydd a lwyddodd i ddarparu cyllidebau cytbwys ar gyfer 2015/16 a 2016/17. Byddid yn parhau i lunio adroddiadau monitro perfformiad cyllideb misol i'r cabinet ac mae’r Grŵp Tasg a Gorffen Torri’r Brethyn ar waith i fonitro effaith penderfyniadau cyllidebol a gymerir fel rhan o'r broses.

 

Ar ôl derbyn y Setliad Terfynol ddechrau mis Mawrth roedd gwaith wedi dechrau ar ddiffinio proses newydd y gyllideb i gyflwyno cyllideb 2017/18. Sut bynnag, roedd y rhagdybiaethau a fyddai’n llywio manylion y Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) a'r broses ei hun yn dal i gael eu datblygu.  Roedd y Tybiaethau Allweddol oedd yn Llywio Datblygiad y CATC wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, ynghyd ag Egwyddorion Proses Gyllideb 2017/18.

 

Rhoddwyd gwybod i’r Aelodau bod amserlen ddrafft wedi cael ei datblygu a fyddai’n agored i newidiadau pellach (gweler Atodiad 1). Roedd yr amserlen yn ymhelaethu ar bedwar cam canlynol proses y gyllideb:-

1)            Diffinio a datblygu’r broses 

2)            Nodi cynigion cychwynnol

3)            Ymgynghori ar, a chwblhau, cynigion

4)            Y camau cymeradwyo terfynol

Eglurodd y Prif Gyfrifydd fod yr amserlen, Atodiad 1, wedi newid gan y cyflwynwyd y ffurflenni i’r UDRh cyn y dyddiad oedd wedi ei drefnu, sef 7fed Ebrill, 2016. Amlinellwyd manylion y newidiadau ar gyfer yr Aelodau a phwysleisiwyd y byddai’r broses hon yn para am flwyddyn. Cadarnhawyd y byddai bob cam yn caniatáu ar gyfer ymgynghori ac ymgysylltu â’r rhanddeiliaid perthnasol. Byddai diweddariad pellach yn cael ei roi yn y cyfarfod nesaf, ac erbyn hynny byddwn wedi ymgynghori ar broses y gyllideb a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig ac wedi eu cymeradwyo. Yn seiliedig ar dybiaethau presennol o ran pwysau ariannu a chost, rhagwelir y bydd bwlch o £4.4 miliwn yng nghyllideb 2017/18. Mae adroddiadau blaenorol wedi tynnu sylw manwl at y broses ymgynghori sylweddol a wnaed i gyflawni cyllidebau 2015/16 a 2016/17.

 

Roedd proses y gyllideb arfaethedig ar gyfer 2017/18 wedi ei chrynhoi yn Atodiad1, ynghyd â manylion y broses ymgynghori a fabwysiadwyd. Eglurwyd ei bod yn debygol y byddai gostyngiadau cyllid i awdurdodau lleol yng Nghymru yn parhau yn y tymor canolig, ac er y bydd y Cyngor bob amser yn ymdrechu i fod yn fwy effeithlon er mwyn arbed arian, efallai na fydd hyn ynddo'i hun yn ddigonol yn y dyfodol. Bydd penderfyniadau ar y gyllideb yn mynd yn galetach ac mae'n debyg y bydd angen rhagor o amser i’w cyflawni.

 

Bydd proses y gyllideb arfaethedig ar gyfer 2017/18 yn helpu i gyflwyno cyllideb gytbwys a bydd yn galluogi'r Cyngor i ystyried rhagdybiaethau cyllid allweddol, pwysau gwasanaeth, lefelau arian parod wrth gefn a lefelau ffioedd a thaliadau yn y Cyngor.

 

Eglurodd y Cadeirydd ei fod yn falch bod yr effaith ar wasanaethau wedi cael ystyriaeth. Darparodd y Prif Swyddog Cyllid amlinelliad o sut y byddai’r effaith ar wasanaethau’n cael rhannu’n ddwy elfen gyda golwg ar gyflawni targedau effeithlonrwydd. Byddai’r rhain yn cael eu cynnig ac wedyn eu mabwysiadu gan y gwasanaethau priodol.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd S.A. Davies bwysigrwydd ymrwymo Aelodau ar gychwyn y broses, gyda sylw penodol i gyfraniad Aelodau yng Ngweithdai’r Gyllideb. Mynegodd bryderon am effaith penderfyniadau sy’n ymwneud â’r gyllideb ar y cyhoedd, ynghyd â chanlyniadau yn sgil y cynnydd cyflym yn niferoedd y disgyblion yn ysgolion Sir Ddinbych a’r cyfarwyddebau a dderbynnir mewn perthynas â’r lefelau arian parod wrth gefn a ddalir gan Gynghorau. Cyfeiriodd y Cadeirydd at brosesau gosod y gyllideb a phenderfyniadau a chymeradwyodd y barnau a fynegwyd gan y Cynghorydd Davies mewn perthynas â’r angen am fwy o ymrwymiad gan Aelodau ar gychwyn proses gosod y gyllideb. Amlinellodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill anghysondeb yn y codau lliw yn Atodiad 1, ac eglurodd y dylai’r cyfeiriad at 23ain Mawrth, 2016 fod mewn melyn ac nid yn las.

 

Teimlodd y Cynghorydd H.H. Evans bod proses gosod y gyllideb a fabwysiadwyd gan Sir Ddinbych yr un mor dda ag unrhyw un yng Nghymru, ac amlygodd broblemau a brofwyd yn flaenorol o ran annog Aelodau i ymrwymo i’r broses.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y barnau a fynegwyd gan y Pwyllgor mewn perthynas ag ymrwymo Aelodau ar gychwyn proses y gyllideb, ac awgrymwyd y dylid ystyried y mater yn sesiwn yr Uwch Dîm Rheoli ar 7fed Ebrill, 2016 ac yn Sesiwn Briffio’r Cyngor ar 6ed Mehefin 2016.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y barnau a fynegwyd gan y Pwyllgor ynghylch ymrwymo Aelodau ar gychwyn proses y gyllideb, ac awgrymwyd y dylid ystyried y mater yng Nghyfarfod yr Arweinyddion Grwpiau ar 4ydd Ebrill, 2016 ac yn Sesiwn Briffio’r Cyngor ar 6ed Mehefin 2016.

 

Darparodd y Prif Swyddog Cyllid a’r Prif Gyfrifydd amlinelliad o’r amserlenni sy’n ymwneud â phroses y gyllideb a’r effaith o ran y rhaglen ar gyfer gwneud penderfyniadau gweithredol.                                                          

  

Eglurodd y Prif Swyddog Cyllid bod yr holl wybodaeth a gynhyrchwyd yn flaenorol ar gael yn llyfrgell yr Aelodau ac nad oedd yr egwyddorion wedi newid. Fodd bynnag, atgoffodd y Pwyllgor y byddai’r broses newydd yn dibynnu ar ganlyniad y Setliad Terfynol, a theimlodd efallai bod y targed arbedion yn uwch nag oedd ei angen.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, cytunodd y Cynghorydd H.H. Evans i godi’r mater yng nghyfarfod yr Arweinyddion Grwpiau ar 4ydd Ebrill. Cadarnhaodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill y byddai’n mynychu’r cyfarfod i ddarparu trosolwg ac i adrodd yn ôl i Aelodau.                 

 

PENDERFYNWYD – yn unol â’r cynigion uchod, bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad.               

    (RW, SG, Cynghorwyr HHE a JTH i Weithredu)        

 

Dogfennau ategol: