Eitem ar yr agenda
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2015 (copi ynghlwm).
Cofnodion:
Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2015.
Nid oedd y
Cynghorydd Barry Mellor wedi ymddiheuro gan ei fod ar ei wyliau pan gafodd
wybod ei fod wedi ei benodi fel aelod newydd o’r Pwyllgor. Felly, dylid tynnu
enw’r Cynghorydd Mellor dan yr ymddiheuriadau.
Materion yn
codi:-
Roedd y
Cynghorydd Bill Cowie wedi gofyn am restr wirio o’r holl Gynghorau Dinas, Tref
a Chymuned er mwyn galluogi aelodau'r Pwyllgor Safonau i nodi eu dewis o ran pa
gyfarfod i’w fynychu.
Cadarnhaodd y
Dirprwy Swyddog Monitro y byddai'n cyfarfod â’r Rheolwr Cynnwys y Gymuned er
mwyn iddo gadarnhau dyddiadau’r holl gyfarfodydd. Unwaith y bydd yr wybodaeth
hon ar gael, bydd yn cael ei dosbarthu i bob aelod o'r Pwyllgor Safonau.
Cafwyd trafodaeth
a chodwyd y pwyntiau canlynol:
(i) Gofynnwyd
am gopi o rifau ffôn a chyfeiriadau e-bost Clercod y Cynghorau Dinas, Tref a
Chymuned i hwyluso cyfathrebu.
(ii)
Ychwanegu enw'r Cyngor Dinas, Tref neu Gymuned at enwau’r Cynghorwyr mewn
cofnodion neu ohebiaeth er mwyn eu hadnabod.
(iii)
Anfon eglurhad at holl aelodau'r Pwyllgor Safonau ynghylch eu presenoldeb mewn
cyfarfodydd pan fydd eitem Rhan II yn cael ei thrafod. Eglurodd y Dirprwy
Swyddog Monitro y byddent yn bresennol fel aelod o'r Pwyllgor Safonau ac fel
aelod o'r cyhoedd, felly ni ddylent fod yn bresennol ar gyfer eitemau Rhan
II. Byddai’r mecanwaith anffurfiol yn ôl doethineb y
Cyngor.
(iv) Yn aros am ymateb gan y
Swyddog Monitro ynghylch trosglwyddo barn y Pwyllgor Safonau i Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o ran cyflwyno prawf budd y cyhoedd.
(v)
Hyfforddiant Cod Ymddygiad ar gyfer Clercod Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned
rhwng 2.00 p.m. a 5.00 p.m. ar 19 Mai 2015 yn Neuadd y Sir, Rhuthun. Mae croeso
i aelodau'r Pwyllgor Safonau hefyd fynychu. Mae nifer o glercod newydd a
gobeithio y byddant yn mynychu. Mae’r hyfforddiant hefyd yn sesiwn loywi i’r
rheiny sydd wedi bod yn glercod ers peth amser. Bydd adborth yn cael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor Safonau ar 22 Mai 2015.
(vi) Mae hysbysebu cyfarfodydd
Cynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn ddiffygiol. Argymhellodd y Pwyllgor y dylid gosod hysbysebion
ar y prif strydoedd wrth ymyl y mannau cyfarfod er mwyn annog y cyhoedd i
fynychu. Mae Clerc Cyngor Tref Rhuthun wedi e-bostio’r Dirprwy Swyddog
Monitro yn gofyn am adborth ynghylch: hysbysebu cyfarfod a lleoliad.
(vii)
E-ddysgu. Cafodd y digwyddiad hyfforddi blaenorol a gynhaliwyd gan y Swyddog
Monitro a’r Dirprwy Swyddog Monitro ei ffilmio yn y gobaith y gellid ei
ddefnyddio i ddarparu hyfforddiant yn y dyfodol. Yn anffodus, yn dilyn gwylio’r ffilm, cytunwyd nad yw ansawdd y ffilm yn
ddigonol at ddibenion hyfforddi.
(vii) Mae’r
Dirprwy Swyddog Monitro yn chwilio am hyfforddwr i ddarparu hyfforddiant ar
gyfer Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion. Bydd diweddariad yn y cyfarfod
nesaf.
PENDERFYNWYD
y dylid, yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod
a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2015 fel cofnod cywir.
Dogfennau ategol: