Eitem ar yr agenda
NEWID YN NHREFNIADAU RHEOLI’R GWASANAETH ARCHWILIO MEWNOL
Ystyried
adroddiad gan Bennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad (copi ynghlwm)
ynglŷn â newid arfaethedig i reolwyr atebol ar gyfer Pennaeth Archwilio
Mewnol ac adleoli tîm o Gyllid ac Asedau i Gynllunio Busnes a Pherfformiad.
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a
Pherfformiad (PBCPh), a fanylai ar newid arfaethedig yn y rheolaeth linell ar
gyfer y Pennaeth Archwilio Mewnol (PAM) ac ar symud y tîm o Cyllid ac Asedau
(CA) i Busnes, Cynllunio a Pherfformiad (BCPh), wedi’i gylchredeg yn flaenorol.
Cyflwynodd y PBCPh adroddiad a ddarparai wybodaeth am newid arfaethedig yn
strwythur gwasanaethau a fyddai’n effeithio ar Archwilio Mewnol (AM). Darparwyd
sicrhad na fyddai hyn yn cyfaddawdu effeithiolrwydd y swyddogaeth AM.
Roedd trefniadaeth y gwasanaethau a gyflenwir gan
yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth wedi datblygu’n barhaus i gynnal y ffocws ar
amcanion y Cyngor, ac i gadw ochr yn ochr â’r galwadau gweithredol. Roedd yr
angen i sicrhau arbedion wedi creu sialensiau nas gwelodd y Cyngor eu bath o’r
blaen, gyda phwysau penodol yn sicr o gael eu gweld yn y 2 flynedd ariannol
nesaf. Roedd yr her i’r gwasanaethau cymorth yn golygu canfod sut i wneud
pethau mor effeithlon â phosibl. Byddai’n hanfodol i wasanaethau fod yn
rhagweithiol, a bod yn gwbl barod am ostyngiadau mewn adnoddau drwy gysoni a
symleiddio prosesau pryd bynnag y bo hynny’n
bosibl, chwilio am synergeddau ac elfennau cyffredin a fyddai’n caniatáu cysoni
a gogwyddo trefn gwasanaethau’n gadarn o amgylch blaenoriaethau’r Cyngor.
Ar hyn o bryd roedd AM yn rhan o Cyllid ac Asedau
(CA) gyda’r PAM yn adrodd wrth y Pennaeth CA. Er hynny, roedd y gwaith yn
gorgyffwrdd fwyfwy gyda gwaith BCPh, yn enwedig gan fod AM wedi symud at ‘wella
gwasanaethau’ fel ffocws pwysig. Roedd y ffocws ar wella yn gam arloesi
defnyddiol i’r Cyngor, ond roedd y gorgyffwrdd gyda’r Tîm Gwella yn BCPh wedi
cyrraedd pwynt lle codwyd y mater o ddyblygu posibl. Byddai’n bwysig yn yr
hinsawdd ariannol bresennol i’r galwadau ‘corfforaethol’ ar wasanaethau sy’n
wynebu’r cwsmeriaid gael sylw a chael eu lleihau i’r eithaf.
Byddai integreiddio gwaith y ddwy swyddogaeth hyn
yn agosach yn dileu’r mater hwn, a byddai’n darparu manteision ychwanegol fel y
gwelir yn yr adroddiad. Gellid cyflawni hyn drwy fod yr AT yn dod yn rhan o
BCPh, gyda’r PAM yn rheolwr llinell ar y PBCPh. Byddai hyn yn sicrhau’r
cyfleoedd gorau posibl i gysoni rhaglenni a rhannu gwaith, yn enwedig gwaith
ymchwil, ac yn helpu i leihau’r ‘baich’ ar wasanaethau rheng flaen. Byddai’r
manteision amlycaf i’w cael ym maes gwella a gwaith cysylltiedig â
pherfformiad, ond mae manteision yn deillio o gydlyniant yn debygol ar draws
rhaglenni’r ddau dîm. Byddai’r rhan fwyaf o’r trefniadau presennol yn aros fel
y maent er hynny, gan gynnwys mesurau diogelu ar weithredu annibynnol:
·
Byddai un elfen allweddol o’r rhaglen Archwilio Mewnol yn
parhau i ganolbwyntio ar reolaeth ariannol a mewnol, dan gyfarwyddyd swyddog
Adran 151.
·
Byddai annibyniaeth y rôl yn parhau i gael ei gwarantu
gan y byddai’r PAM yn dal i gadw cyswllt adrodd drwy gyfrwng y Swyddog Adran
151 a’r Prif Weithredwr.
·
Byddai’r Pwyllgor yn parhau i oruchwylio’r swyddogaeth yn
ei chyfangorff, gan gynnwys yr adroddiad AM a chynhyrchu’r Datganiad
Llywodraethu Blynyddol.
Esboniodd y PBCPh y byddai’r symudiad yn symleiddio
gwaith gwella’r Cyngor drwy greu o bosibl gyfleoedd ar gyfer arbedion i’r
dyfodol, lleihau’r baich ar wasanaethau rheng flaen a gwella gallu’r Cyngor i
gefnogi newid trawsnewidiol gan ddiogelu’r swyddogaethau archwilio craidd ar yr
un pryd.
Mewn ymateb i gwestiynau gan Mr P.Whitham ynglŷn â darparu siart
strwythur a phroses adrodd, cyfeiriodd y PAM at y Siarter Archwilio Mewnol, a
fyddai’n cael ei diwygio a’i chyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol
i’w chymeradwyo, ochr yn ochr â’r Cynllun Archwilio Mewnol. Hysbyswyd y
Pwyllgor y disgwyliwyd y byddai’r newidiadau’n cael eu gweithredu o 1af
Ionawr 2014 ymlaen, a darparwyd manylion y cynlluniau adleoli. Darparwyd
cadarnhad y sicrheir cydymffurfiaeth â’r arferion gorau, megis y Sefydliad
Siartredig Archwilwyr Mewnol.
Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion y broses ymgynghori a wnaed a’r
camau a gymerwyd i roi sylw i unrhyw risgiau posibl.
PENDERFYNWYD – bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn nodi ac yn cefnogi’r adolygiad
arfaethedig o drefniadau rheoli gwasanaeth Archwilio Mewnol.
Dogfennau ategol: