Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

PERFFORMIAD SIR DDINBYCH AR FATERION TIPIO ANGHYFREITHLON

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol (copi'n amgaeedig) sy'n nodi sut y rhoddir gwybod am dipio anghyfreithlon ac ymdrin ag o yn Sir Ddinbych.

                                                                                                         11.25 a.m.

 

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol (HHES), a oedd yn nodi sut caiff tipio anghyfreithlon ei adrodd a'i drin yn Sir Ddinbych, wedi ei ddosbarthu gyda'r papurau ar gyfer y cyfarfod.

 

 Darparodd y Rheolwr Prosiect: Canolbwynt Gogledd Ddwyrain (PMNEH) gyflwyniad ac esboniodd y rhesymau am yr adroddiad fel y nodwyd yn yr adroddiad ei hun.

         

Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) oedd yn gweinyddu’r gronfa ddata 'Flycapture' yr oedd holl Gynghorau Cymru yn bwydo eu hystadegau tipio anghyfreithlon iddi.  CNC oedd yn rhagnodi’r gweithdrefnau ar gyfer cyflwyno'r data, gan gynnwys beth ddylid, ac na ddylid, gael ei gyfrif fel digwyddiad tipio anghyfreithlon.  Fodd bynnag, roedd cynghorau unigol yn parhau i ddefnyddio gwahanol ddulliau i gasglu a phrosesu eu hystadegau eu hunain, ac roedd hyn yn effeithio ar gymaroldeb y data a gyhoeddwyd.   Mae enghreifftiau o'r ffyrdd gwahanol y mae cynghorau unigol yn cofnodi eu digwyddiadau tipio anghyfreithlon wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Ymatebodd yr Uwch Swyddog Troseddau Amgylcheddol (SECO) i gwestiynau gan Aelodau ac eglurodd mai dim ond y gwahanol ddulliau casglu a phrosesu data a ddefnyddir gan gynghorau allai egluro’r amrywiadau enfawr yn nifer y digwyddiadau a gofnodwyd, fel y manylwyd yn yr adroddiad.  Ni ellid egluro’r amrywiadau hyn gan wahaniaethau demograffig na gwahaniaethau ymddygiad a arsylwyd.   Cadarnhaodd fod y Tîm Troseddau Amgylcheddol wedi cydnabod y ffenomenon ac wedi pwyso ar CNC am drefn adrodd fwy cyson.  Os nad yw cynghorau yn casglu data mewn modd cyson, ni fyddai adroddiad blynyddol CNC yn dangos cymariaethau tebyg, ac efallai byddai’r defnydd o ystadegau fel mesur perfformiad yn ddiffygiol.  Roedd cymhariaeth â chynghorau eraill Gogledd Cymru wedi cael eu hymgorffori yn yr adroddiad.

 Roedd digwyddiadau Sir Ddinbych ar gyfartaledd tua 2 i 2.5 gwaith yn uwch na'r niferoedd a oedd yn cael eu hadrodd gan gynghorau eraill Gogledd Cymru gan fod Sir Ddinbych yn fwriadol ceisio nodi pob un digwyddiad o wastraff sy’n cael ei dipio’n anghyfreithlon, bod hynny ar  dir cyhoeddus neu breifat, a prun a’i pheidio yr oedd yn cael ei adrodd gan aelod o'r cyhoedd.  Roedd cyfraddau adrodd uchel yn cael ei ystyried fel rhagofyniad ar gyfer lleihau gweithgaredd tipio anghyfreithlon gwirioneddol a oedd yn egwyddor bwysig.

 

Roedd manylion yn ymwneud â thueddiadau hanesyddol Sir Ddinbych wedi ei gynnwys yn yr adroddiad.  Eglurodd y SECO byddai'r Tîm Gorfodaeth tipio anghyfreithlon yn hoffi symud o system CRM y Cyngor i symud gofnodi ddaearyddol.  Byddai hyn yn symleiddio'r dulliau o brosesu’r holl faterion strydlun ac yn helpu gyda'r dadansoddiad o ddigwyddiadau yn ôl lleoliad, a fyddai'n darparu ar gyfer targedu gorfodaeth yn fwy effeithiol.   Roedd CNC hefyd wedi mynegi awydd i symud i system ddaearyddol ac ar hyn o bryd yn datblygu 'ap' i gynorthwyo gyda hyn.

 

Amlygodd y SECO yr angen i wella categoreiddio digwyddiadau ac i ynysu achosion o dipio anghyfreithlon gwirioneddol, a'r rhai yr oedd gan y Cyngor ddyletswydd i’w glanhau.   Roedd hyn ar hyn o bryd yn cael ei wneud drwy ddadansoddiad eilaidd unigol, y teimlwyd y dylai fod yn rhan o brosesau CRM arferol y Cyngor.

 

Amlinellwyd pwysigrwydd Strategaeth Gorfodaeth Sir Ddinbych ac roedd yr ymchwiliadau a/ neu erlyniadau dilynol wedi arwain at effaith ataliol sylweddol, a gafodd ei ystyried i fod yn ffactor hollbwysig wrth wneud Sir Ddinbych yn sir lân a dymunol.

 

Llongyfarchodd a diolchodd y Cadeirydd ac Aelodau'r Pwyllgor i’r Tîm Amgylchedd am y gwaith a wnaed ac yna:

 

PENDERFYNWYD - yn amodol ar sylwadau’r Aelodau, bod y Pwyllgor: -

 

(a) yn cefnogi dull cyfredol y Cyngor o gofnodi digwyddiadau tipio anghyfreithlon;

(b) cefnogi parhau â pholisi’r Cyngor o orfodaeth drylwyr ar faterion tipio anghyfreithlon:

(c) cefnogi’r cynnig dylai Sir Ddinbych barhau i lobïo Cyfoeth naturiol Cymru ynglŷn ag ansawdd y data 'Flycapture’ sy’n cael ei gasglu ar draws Cymru; a

(d) cytuno bod Cadeirydd y Pwyllgor yn ysgrifennu at Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ailadrodd pryderon y Pwyllgor mewn perthynas ag ansawdd a dibynadwyedd data 'Flycapture', a bod y Pennaeth Archwilio Mewnol hefyd yn mynegi pryderon y Pwyllgor gyda swyddogion perthnasol Cyfoeth Naturiol Cymru.

 

 

Dogfennau ategol: