Eitem ar yr agenda
DIWEDDARIAD AR Y GYLLIDEB DDRAFFT
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r trydydd diweddariad
o ran proses pennu cyllideb y Cyngor ar gyfer 2014/15.
Cofnodion:
Roedd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau, a
gylchredwyd yn flaenorol, yn darparu’r trydydd diweddariad ynglŷn â’r
broses o bennu cyllideb y Cyngor ar gyfer 2014/15.
Darparodd y Cynghorydd J. Thompson-Hill grynodeb o’r adroddiad. Esboniodd
fod dadansoddiad o’r Setliad Llywodraeth Leol Drafft
a’r canlyniadau i’r Cyngor wedi dangos y byddai arbedion o oddeutu £8.5m
yn ofynnol. Roedd proses y gyllideb hyd yma wedi arwain at fod arbedion o £1.7m
ar gyfer 2014/15 wedi cael eu cymeradwyo gan y Cyngor Sir ym Medi (Cam 1) a
£4.7m (Cam 2) ar 3ydd Rhagfyr.
Roedd yr arbedion a gynhwyswyd yng Ngham 2 wedi’u
cyflwyno gerbron Gweithdy i’r Aelodau yn Hydref gydag Aelodau Arweiniol, gan
ddarparu manylion yr arbedion, yr effaith ynghyd ag asesiad risg. Gwahoddwyd yr
Aelodau i roi sylwadau ar unrhyw rai o’r cynigion cyn y Cyngor yn Rhagfyr.
Daeth ymatebion i law o safbwynt arbedion a gynigiwyd yn y gwasanaeth
cerddoriaeth i ysgolion (£52k) ynghyd ag adolygiad o’r gwasanaeth cyfleoedd
gwaith i oedolion ag anabledd dysgu (£50k). Adroddwyd wrth y Cyngor ar fanylion
pellach i gefnogi’r arbediad yn y gwasanaeth cerddoriaeth, a sefydlwyd
Grŵp Gorchwyl a Gorffen i oruchwylio’r adolygiad o
gyfleoedd gwaith.
Roedd proses y gyllideb hyd yma wedi dynodi arbedion o £6.459m, gan adael
bwlch o oddeutu £2.0m a dyma fu dan sylw yn y Gweithdy i’r Aelodau a gynhaliwyd
ar 9fed Rhagfyr. Cynhwyswyd manylion o’r sesiwn hon yn yr Atodiad
wrth yr adroddiad a chynhwysai:-
Y Setliad Llywodraeth Leol Terfynol –
Cyhoeddwyd y Setliad ar 11eg Rhagfyr ac ni wnaed llawer o newidiadau
i’r Setliad drafft. Y newid amlycaf oedd Grant Pensiynwyr y Cynllun Gostwng y
Dreth Gyngor i’r Grant Cymorth Refeniw, a oedd yn awr yn ffurfio rhan o
gyllideb sylfaenol y Cyngor.
Y Trydydd Gweithdy Cyllideb – Cynhaliwyd y gweithdy ar 9fed
Rhagfyr, 31 o aelodau. Cyflwynodd y brif thema fanylion a dewisiadau i’w
hystyried i bontio’r bwlch £2m yn y gyllideb ar gyfer 2014/15.
Ymysg y wybodaeth allweddol a gyflwynwyd yr oedd:
·
Diweddariad ar sefyllfa canol blwyddyn y gyllideb addysg
a’r gyllideb gofal cymdeithasol
·
Dadansoddiad o gyllid ysgolion
·
Dewisiadau ar gyfer cynyddu cyllidebau ysgolion
·
Adolygu balansau ac arian wrth gefn
·
Diweddariad ar y Cynllun Corfforaethol
·
Dewisiadau o safbwynt y Dreth Gyngor
·
Cynigion ar gyfer Arbedion Ychwanegol
·
Argymhelliad
Roedd y cynigion ar gyfer arbedion ychwanegol ar gyfer 2014/15 yn ymwneud â
dwyn ymlaen arbedion a nodwyd yn flaenorol ar gyfer 2015/16 ac maent yn gwneud
cyfanswm o £395k. Roedd £95k yn ymwneud â dwyn ymlaen ailstrwythurau mewn
Busnes, Cynllunio a Pherfformiad a’r cynnig oedd symud £300k o’r cyfraniad
cyllideb i falansau flwyddyn ynghynt nag a fwriadwyd yn wreiddiol. Roedd yr argymhelliad yn cynnwys cynnig i ddefnyddio balansau cyffredinol fel rhan
o’r gyllideb yn 2014/15.
Byddai’r cynigion ar gyfer
y gyllideb derfynol yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor ar 27ain Ionawr,
2014. Byddai’n cynnwys amrediad o ddewisiadau ynghyd ag argymhelliad i lefel y
Dreth Gyngor gynyddu ar gyfer 2014/15, a byddai adroddiad manwl ar lefelau’r
Dreth Gyngor yn cael ei gymeradwyo gan y Cyngor Sir yn Chwefror. Cyfeiriodd y CA at y broses ymgynghori
ac at ffyrdd posibl i’r Pwyllgor wella cysylltiad yr Aelodau. Teimlai’r
Cadeirydd fod cylchredeg y papurau i’w hystyried, cyn y Gweithdy, wedi helpu a
hysbysu’r drafodaeth.
Mewn gweithdy cyllideb yn ddiweddar datgelwyd mai lefel y Dreth Gyngor
fyddai’r drafodaeth allweddol yng ngham olaf cymeradwyo gyllideb 2014/15.
Byddai amrywiaeth o ddewisiadau gyda’r Dreth Gyngor, a’u goblygiadau ariannol,
yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor yn Ionawr. O safbwynt proses y gyllideb,
croesewir safbwyntiau’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar ffyrdd o annog
cysylltiad a thrafodaeth gydag Aelodau unigol neu grwpiau cyn i’r adroddiad gael
ei gyflwyno i’r Cyngor.
Darparodd y swyddogion yr ymatebion canlynol i faterion a godwyd gan yr
Aelodau:-
-
Darparwyd
cadarnhad yr anogwyd yr Aelodau i godi unrhyw ystyriaethau am y cynigion gyda’r
Aelod Arweiniol neu’r Pennaeth Cyllid ac Asedau unrhyw adeg cyn i’r cynigion
ffurfiol gael eu cyflwyno i’r Cyngor i’w cymeradwyo.
- Y consensws barn
cyffredinol yn y Gweithdy diweddar oedd y dylai’r cynnydd yn y Dreth Gyngor fod
yn 3%. Esboniodd y Cynghorydd Thomson-Hill er mai hwn oedd y targed, y gellid
bod angen rhoi ystyriaeth bellach i hyn yn ddibynnol ar elfennau cydbwyso
eraill, megis yr elfen risg.
-
Trafodwyd y dylai’r Awdurdod ddileu cyllid Swyddog yr
Undeb yn flaenorol mewn cyfarfodydd Herio Gwasanaethau.
Esboniwyd y teimlwyd bod modd i ganlyniadau posibl gweithredu o’r fath fod yn
drech na’r arbedion posibl. Hysbysodd y CA yr Aelodau y gallai trafodaethau ynglŷn
â’r mater gael eu cynnal gyda’r Undebau Llafur i’r dyfodol.
-
Hysbyswyd y Pwyllgor bod y llifogydd yn y Sir wedi
effeithio ar y ffigurau presenoldeb yn y Gweithdy.
-
Darparodd y CA fanylion y cynnydd dychrynllyd mewn costau pensiwn i’r
Awdurdod a chadarnhaodd y gallai’r rhain gynyddu 20% dros y tair blynedd nesaf.
Cyfeiriwyd at y newidiadau diweddar yn y ddeddfwriaeth a effeithiai
ar y ffigurau, yn ogystal â’r newidiadau yn y rheoliadau goramser.
-
Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr P. Whitham am y risgiau
sy’n gysylltiedig â chanlyniadau methu â
bodloni’r gofynion i annog cysylltiad a thrafodaeth gyda’r Aelodau, rhoddodd y CA fanylion y prosesau
dialog ac ymgynghori a fabwysiadwyd.
- Hysbyswyd yr Aelodau fod y
cynllunio ar gyfer 2015/16 eisoes wedi dechrau ac y byddai’n dwysau ar ôl i
gyllideb 2014/15 gael ei chymeradwyo. Nododd y Pwyllgor y byddai cynllunio
cyllidebau i’r dyfodol yn eithriadol o heriol ac y byddai cyfraniad yr Aelodau
i’r broses gwneud penderfyniadau’n hanfodol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd M.L. Holland ynglŷn â chylch
gorchwyl y Pwyllgor o safbwynt rhyngweithio gyda chyrff allanol, cytunodd yr
Aelodau i faterion yn ymwneud â Hamdden Clwyd gael eu cynnwys ar yr Agenda, fel
eitem Rhan II, ar gyfer y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol nesaf.
Ar ôl trafod ymhellach:-
PENDERFYNWYD – bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:-
(a)
Yn derbyn yr adroddiad ac
yn nodi’r sefyllfa ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed hyn yma, ac
(b)
Yn cytuno bod eitem Rhan II ar
Hamdden Clwyd yn cael ei chynnwys ym Mlaenraglen Waith y Pwyllgor ar gyfer
Ionawr, 2014.
Dogfennau ategol: