Eitem ar yr agenda
ADRODDIADAU RHEOLEIDDIO MEWNOL DIWEDDAR A DDAETH I LAW
(i)
Derbyn copi o lythyr Asesu Gwelliant gan Swyddfa
Archwilio Cymru (copi ynghlwm)
(ii) Derbyn
Adroddiad gan Brif Reolwr: Cefnogi Busnes ynglŷn â Gwerthusiad ac
Adolygiad Arolwg Gwasanaethau Cymdeithasol yr Awdurdod Lleol 2012-13 (copi
ynghlwm).
Cofnodion:
(i)
Llythyr Asesu Gwelliant Blynyddol
Roedd copi o’r llythyr Asesu Gwelliant a gafwyd
oddi wrth Swyddfa Archwilio Cymru (SAC), a roddai farn ar a oedd y Cyngor wedi
cyflawni ei ddyletswyddau statudol o safbwynt cynllunio gwella, adrodd ar wella
ac wedi bodloni gofynion y Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, wedi’i
gylchredeg gyda’r papurau ar gyfer y cyfarfod.
Cyflwynodd y cynrychiolydd o
Swyddfa Archwilio Cymru yr adroddiad. Esboniodd fod y farn a fynegir yn y
llythyr gan SAC yn dod i’r casgliad bod y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau
adrodd ar wella dan y Mesur fel a ganlyn:-
·
roedd y Cyngor wedi cyhoeddi asesiad o’i
berfformiad yn ystod 2012-13 yn ei Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2012/13 cyn yr 31ain
Hydref, 2013;
·
mae’r adroddiad yn asesu perfformiad y Cyngor
yn y flwyddyn ariannol flaenorol (2012-13) ac yn datgan sut mae’r Cyngor wedi
mynd ati i gyflawni ei ddyletswyddau dan y Mesur;
·
mae’r Adroddiad yn gwerthuso llwyddiant y
Cyngor yn cyflawni ei amcanion gwella ac yn mynegi ei farn yn glir;
·
mae’r Adroddiad yn cynnwys adran fer ar gyfer
dinasyddion sydd eisiau darparu adborth neu roi sylwadau ar yr Adolygiad;
·
mae’r Adroddiad yn cynnwys manylion
perfformiad a chymariaethau wedi’u mesur gyda’r dangosyddion perfformiad
statudol cenedlaethol; ac
·
mae’r
Adroddiad yn cynnwys adran fer ar sut mae’r Cyngor wedi mynd ati i
gydweithredu.
Ni awgrymwyd dim cynigion ar gyfer gwella yn y llythyr.
Esboniwyd y byddai’r cynnydd a wna’r Cyngor yn gweithredu’r cynigion a gafodd
eu datgan mewn llythyrau ac adroddiadau blaenorol yn parhau i gael eu monitro
ac i gael adroddiadau arnynt.
Cadarnhawyd y byddai gwaith manylach yn cael ei wneud ar
y trefniadau a gefnogai prosesau rheoli perfformiad ac adrodd y Cyngor. Byddai
crynodeb o’r holl waith a wnaed gan SAC, a’r cyrff rheoleiddio perthnasol yn
2013-14, yn cael ei ddarparu mewn Adroddiad Gwella Blynyddol sydd i’w gyhoeddi
ym Mawrth, 2014.
PENDERFYNWYD – bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn llythyr Swyddfa Archwilio Cymru
ac yn nodi ei gynnwys.
(ii)
Gwerthusiad ac Adolygiad yr Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol o’r Awdurdod Lleol
2012-13
Roedd copi o’r adroddiad gan y Prif Reolwr:
Cymorth Busnes, ar y prif faterion a oedd yn codi o werthusiad Arolygiaeth
Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) o berfformiad Gwasanaethau
Cymdeithasol Sir Ddinbych yn 2012-13, wedi’i gylchredeg gyda’r papurau ar gyfer
y cyfarfod.
Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno gan y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Moderneiddio a Lles (CC:MLl) ac roedd yn cynnwys gwerthusiad o
berfformiad ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol
gan gynnwys meysydd cynnydd, meysydd i’w gwella a meysydd risg. Amlygodd y
gwerthusiad y rhaglen foderneiddio uchelgeisiol a fyddai’n siapio gwasanaethau
a phrofiadau dinasyddion, a chydnabu’r arweinyddiaeth gadarn ac effeithiol ar
bob haen gyda thystiolaeth gadarn o gynnydd parhaus er gwaethaf yr heriau a
wynebir.
Nodwyd nifer o feysydd penodol i’w gwella yn
adroddiad yr AGGCC a byddent yn cael eu trafod yn ystod cyfarfodydd cysylltu rheolaidd rhwng yr Uwch Dîm Rheoli ac AGGCC dros y flwyddyn nesaf. Ymysg y
meysydd y byddai AGGCC yn eu holrhain y flwyddyn nesaf yr oedd:-
·
Sefydlu canlyniadau mesuradwy clir i gynorthwyo gyda
gwerthuso gwasanaethau presennol a gwasanaethau arfaethedig.
·
Asesu a chefnogaeth i ofalwyr.
·
Perfformiad o safbwynt plant sy’n derbyn gofal.
·
Trefniadau
Diogelu Rhag Colli Rhyddid.
·
Lefelau salwch ymysg y staff.
·
Arolygiad thematig cenedlaethol o blant sy’n
derbyn gofal.
·
Arolygiad thematig cenedlaethol o gomisiynu gofal
cymdeithasol i bobl hŷn.
·
Gweithio mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr.
Mewn ymateb i gwestiynau
gan y Cyngorydd M.L. Holland, darparwyd y rhesymeg ar gyfer arolygiadau
thematig cenedlaethol, a gynhelir ledled Cymru gan Lywodraeth Cymru. Esboniwyd
bod trefniadau diogelu rhag colli rhyddid yn sicrhau bod trefniadau priodol
wedi’u sefydlu i ddiogelu rhyddid pobl hŷn.
Darparai Atodiad II drosolwg ar y meysydd y nodir
eu bod yn dangos cynnydd a’r meysydd i’w gwella yn y gwerthusiad o berfformiad.
Cynhwysai hefyd wybodaeth am sut ymatebodd y Cyngor i’r meysydd i’w gwella.
Roedd y meysydd y nodwyd bod angen eu gwella yn
unol â hunan asesiad y Cyfarwyddwr ac roeddent wedi’u cynnwys yng Nghynlluniau
Busnes Gwasanaethau ar gyfer 2013-14. Roedd gan bob gwasanaeth Her Perfformiad
Gwasanaeth blynyddol a oedd yn archwilio’r cynnydd yn erbyn Cynlluniau Busnes
Gwasanaethau. Gwnaed cynnydd sylweddol yn erbyn y meysydd i’w gwella a amlygwyd
yn adroddiad gwerthuso perfformiad 2011-12. Er hynny, ni wnaed cynnydd mor
sylweddol ac y disgwyliwyd yn y meysydd canlynol:-
·
Lefelau absenoldeb oherwydd
salwch. Er gwaethaf atebolrwydd cadarnach y rheolwyr, ac adrodd a monitro mwy
trylwyr yn y ddau wasanaeth, mae’r lefelau salwch ymysg y staff yn uchel o hyd
o’u cymharu â gweddill yr awdurdod. Mae hwn felly’n parhau i fod yn
flaenoriaeth i’r ddau wasanaeth.
·
Gwell cysondeb o safbwynt darparu cefnogaeth i deuluoedd
yn dilyn dadgofrestru oddi ar y gofrestr amddiffyn plant. Fodd bynnag, dylid
nodi y gwnaed cynnydd yn y maes hwn gyda threfniadau pontio clir yn y
gwasanaethau (Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd; Tîm o Amgylch y Teulu;
Teuluoedd yn Gyntaf) sy’n sicrhau ymateb priodol gan y gwasanaethau i deuluoedd
wrth i’w hanghenion wella a/ neu ddirywio.
Darparwyd cyflwyniad gan Mr Peter Graham, Cyfarwyddwr Rhanbarthol AGGCC, ar
Fframwaith Adrodd Blynyddol Cyngor Sir Ddinbych 2012/2013 a oedd yn
cynnwys:-
-
Meysydd cynnydd allweddol ar
gyfer 2012/13 a meysydd i’w gwella i’r dyfodol.
-
crynodeb o’r rhaglen foderneiddio uchelgeisiol, cynnydd
parhaus, arweinyddiaeth gadarn, defnyddio dull herio gwasanaethau, darparai
adroddiad y Cyfarwyddwr naratif cydlynol, y rhaglen foderneiddio a Swyddfa
Archwilio Cymru wedi nodi bod gan y Cyngor gynlluniau uchelgeisiol ond
cyflawnadwy gyda chynlluniau tymor canolig effeithiol.
-
Gwasanaethau Oedolion.
·
Roedd pwyslais y Cyngor ar
ymyrraeth gynnar, atal ac ail-alluogi yn golygu bod llai o bobl yn cael
cefnogaeth mewn gofal preswyl.
·
Cefnogaeth barhaus yn cael ei darparu i ddefnyddwyr
gwasanaethau yn eu cymunedau, gyda llawer yn elwa o becynnau cefnogaeth tymor byr i ailsefydlu eu hannibyniaeth.
·
Cydnabyddiaeth o’r angen i wella darparu cefnogaeth i
ofalwyr.
·
Materion yn ymwneud â sicrhau cyswllt amserol, gwneud
penderfyniadau a gweithredu ar lefel strategol gyda’r BILl. Roedd yr ymrwymiad
i sicrhau cysylltiad mwy effeithiol o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr yn amlwg o hyd.
-
Gwasanaethau Plant.
·
roedd y perfformiad yn erbyn ystod sylweddol o
ddangosyddion cenedlaethol yn uchel o hyd.
·
darparwyd ymateb effeithiol i atgyfeiriadau a
dderbyniwyd. Perfformiodd Sir Ddinbych yn dda i gyflawni’r cyfrifoldebau o
safbwynt amddiffyn plant a phlant mewn angen.
·
cydnabuwyd yr angen i wella gwasanaethau i ofalwyr ifanc
a gadawyr gofal a chymerwyd camau i gyflawni hyn.
·
roedd y Cyngor
wedi cynnal a gwella mewn nifer o ddangosyddion perfformiad yn ymwneud â phlant
sy’n derbyn gofal. Roedd nifer o berfformiadau mewn dangosyddion allweddol wedi
dirywio, roedd angen dadansoddi hyn ymhellach er mwyn deall y rhesymau sy’n
sail i’r newid mewn perfformiad a’r camau sy’n ofynnol i sicrhau gwelliant.
-
Roedd AGGCC wedi gweld y risgiau posibl canlynol:-
·
Gallu parhaus i ddylanwadu ar gynllunio strategol sy’n
canolbwyntio’n lleol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
·
Sicrhau cyfnod pontio llyfn pan fydd y Cyfarwyddwr
presennol yn ymddeol y flwyddyn nesaf.
Pwysleisiodd y Cynghorydd M.L. Holland bwysigrwydd
gwella’r cysylltiad gyda’r Bwrdd Iechyd ac amlygodd bryderon hirdymor am symud
gofal i’r gymuned.
Pwysleisiodd y Cadeirydd y
byddai’n hanfodol i’r Cyngor gysylltu â’r Awdurdod Iechyd. Cymeradwyodd y farn
a fynegwyd gan Gyfarwyddwr Rhanbarthol AGGCC fod y cysylltiadau lleol yn dda
ond bod angen gwella’r lefelau strategol. Cyfeiriodd CC:MLl at sefydlu’r Bwrdd
Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Er hynny, mynegwyd pryder ynglŷn â’r
anghysondeb yng nghynrychiolaeth y Bwrdd Iechyd, mater yr oeddent yn awr wedi
cytuno i roi sylw iddo. Roedd Cadeirydd y Bwrdd Iechyd wedi cynnal adolygiad o
bartneriaeth i bwyso a mesur eu perthynas gydag ALlau, a byddent yn mynd ar
drywydd ffurf ar reolwyr ardal ar ôl penodi’r Prif Weithredwr newydd, a byddai
hyn yn cynorthwyo’r ALl i roi trefn ar eu gwasanaethau. Hysbyswyd yr Aelodau y
byddai’r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau yn cael adroddiad ar Fframwaith ar
gyfer Gwasanaethau Integredig i Bobl Hŷn.
Gofynnodd Mr P. Whitham a fyddai crynodeb o’r
sylwadau manwl ynglŷn â risgiau yn Atodiad 2 yn cael ei nodi fel mesurau
lliniaru yn y Gofrestr Risg Gorfforaethol. Cyfeiriodd CC:MLl at Gofrestri Risg
Gwasanaethau Unigol a oedd yn darparu manylion manwl ac eglurhad o’r risgiau a
ddynodir.
Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Cadeirydd
am lefelau salwch, cyfeiriodd CC:MLl at y Broses Herio Gwasanaethau a’r
derbyniad cyffredinol bod gan y ddau wasanaeth, ar lefel uwch reolwyr a
rheolwyr canol, systemau rheoli priodol wedi’u sefydlu i reoli salwch a chafwyd
crynodeb o fanylion y broses. Darparwyd cadarnhad y byddai gweithredu’r Polisi
Presenoldeb yn helpu i roi sylw i’r mater, ac roedd hyn yn un o’r amcanion i’r
priod Aelod Arweiniol. Mynegodd Cyfarwyddwr Rhanbarthol AGGCC y farn bod y math
emosiynol o waith a geir yn y rheng flaen yn cael ei adlewyrchu yn y lefelau
salwch a welir. Pwysleisiodd bwysigrwydd bod â Pholisi Presenoldeb clir ynghyd
â strategaeth i ddarparu cefnogaeth i staff pan maent i ffwrdd
ar absenoldeb salwch. Hysbysodd CC:MLl y Pwyllgor y disgwylid i’r Polisi
Presenoldeb gael ei weithredu yn Ebrill, 2014.
Hysbysodd CC:MLl y Pwyllgor fod esboniad am y
dirywiad yng nghanran y plant a oedd â chynllun gofal iechyd wedi’i sefydlu, ac
asesiadau addysgol, wedi cael ei ddarparu gan Bennaeth y Gwasanaethau Plant a
Theuluoedd yn Atodiad 2 yr adroddiad.
Mewn ymateb i bryderon a fynegwyd am y maes a
nodwyd y dylid ei wella, sy’n ymwneud â dadgofrestru plant a oedd ar y
‘gofrestr risg’, cyfeiriodd CC:MLl at bwynt 4.6 o’r adroddiad a nodai’r cynnydd
a wnaed gyda threfniadau pontio clir yn y gwasanaethau, Gwasanaeth Integredig
Cymorth i Deuluoedd; Tîm o Amgylch y Teulu; Teuluoedd yn Gyntaf, a oedd yn
sicrhau ymateb priodol i deuluoedd wrth i’w hanghenion wella neu ddirywio.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd dymunodd y
Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor y gorau i’r CC:MLl yn ei hymddeoliad maes o
law, a diolchasant iddi am ei holl gymorth a’r gwaith a wnaeth gyda’r Pwyllgor.
Crynhodd y Cadeirydd y pwyntiau a’r materion
amlycaf a godwyd yn y drafodaeth, gan gynnwys:-
-
Nodi pwysigrwydd cysylltiad y Cyngor gyda’r Bwrdd Iechyd,
yn enwedig ar lefel strategol. Hysbysodd y Cadeirydd yr Aelodau y byddai’n
codi’r mater yng Ngrŵp y Cadeiryddion a’r Is-gadeiryddion.
-
Monitro cynnydd y Polisi Presenoldeb.
-
Monitro a sicrhau cyfnod pontio llyfn pan fydd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Moderneiddio a Lles presennol yn ymddeol, ac archwilio’r broses
sefydlu ar gyfer y Cyfarwyddwr Corfforaethol newydd.
PENDERFYNWYD – bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:-
(a)
yn derbyn ac yn
nodi cynnwys gwerthusiad AGGCC a’r adroddiad cynnydd cysylltiedig gan y
gwasanaethau cymdeithasol.
(b)
yn nodi
pwysigrwydd cysylltiad y Cyngor gyda’r Bwrdd Iechyd, yn benodol
(c)
ar lefel strategol
(d)
yn monitro
cynnydd y Polisi Presenoldeb, ac yn
(e)
monitro ac yn sicrhau
cyfnod pontio llyfn pan fydd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles
presennol yn ymddeol, ac archwilio’r broses sefydlu ar gyfer y Cyfarwyddwr
Corfforaethol newydd.
Dogfennau ategol:
- Annual Improve Assess Letter, Eitem 5. PDF 77 KB
- SS Eval Inspect Rev Report, Eitem 5. PDF 84 KB
- SS Eval Inspect Rev App 1, Eitem 5. PDF 133 KB
- SS Eval Inspect Rev App 2, Eitem 5. PDF 90 KB