Eitem ar yr agenda
ADEILADAU RHESTREDIG DAN FYGYTHIAD
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) ar
gyflwr stoc adeiladau rhestredig y Sir.
9.35 a.m
Cofnodion:
Roedd copi o
adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (PCGC), ar gyflwr y
stoc adeiladau rhestredig yn Sir Ddinbych, wedi’i gylchredeg yn flaenorol.
Rhoddodd y
Cynghorydd D.I. Smith grynodeb byr o'r adroddiad a luniwyd yn sgil sefyllfa hen
Ysbyty Gogledd Cymru. Roedd yr adroddiad yn cynnwys
dealltwriaeth glir o raddfa’r adeiladau rhestredig sydd dan fygythiad yn Sir
Ddinbych a’r goblygiadau i’r Awdurdod, ynghyd â manylion Deddf Cynllunio
(Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a chyfrifoldebau Awdurdodau
Lleol (ALl) dan y Ddeddf.
Nododd adroddiad
gan Cadw yn 2009 fod 1812 o adeiladau rhestredig yn Sir Ddinbych, a dangosodd
arolwg yn 2011 fod 148 o adeiladau Sir Ddinbych yn y categori “dan fygythiad”. Roedd
35 o adeiladau Sir Ddinbych yn y categori gwaethaf o ran y bygythiad. Darparwyd
tablau’n crynhoi nifer a chanran yr eiddo dan fygythiad yn Sir Ddinbych, ac yn
genedlaethol.
Eglurodd y PCGC fod nifer o adeiladau yn y
categori gwaethaf yn adeiladau neu adeileddau lle'r oedd y siawns y byddent yn
ased ariannol i’r perchnogion yn isel iawn. Byddai perchenogion yn fwy tebygol o ystyried
yr adeileddau’n faich ariannol yn hytrach nag yn ased a byddent yn gyndyn i
wario arian ar atgyweirio a allai arwain at ddadfeilio. O’r
35 adeiledd gyda sgôr o 1 pwynt, roedd 13 yn y categori hwn. Roedd
camau gorfodi’n debyg o arwain at gyflawni gwaith yn ddiofyn a cheisio adennill
y gost gan y perchennog neu gyflawni pryniant gorfodol ar yr adeilad/adeiledd. Ni
fyddai’r naill opsiwn na’r llan yn ddeniadol i’r Awdurdod Lleol.
Cadarnhaodd y
Pensaer Rheoli Adeiladu a Chadwraeth (PRhACh) bod grantiau yn mynd yn fwyfwy
prin. Yr unig gorff cyllido mawr sydd â chyllideb
gynyddol ar gyfer grantiau yw Cronfa Dreftadaeth y Loteri ac yn y gorffennol
maent wedi ariannu cynlluniau grant ymbarél ac nid unigolion preifat. Roedd rhai adeiladau rhestredig yn cynnig
cyfleoedd i ychwanegu gwerth drwy roi caniatâd cynllunio a chaniatâd adeilad
rhestredig i newid defnydd, a llwybr arall posibl oedd rhoi caniatâd cynllunio
ar gyfer datblygiad galluogi. Gweithio gyda pherchennog i helpu gwella
cyflwr adeiladau dan fygythiad oedd y dewis a ffafriwyd, ond mewn rhai
achosion, y perchennog yn hytrach na’r adeilad fyddai’n achosi problemau.
Eglurodd y PCGC
a’r PRhACh fod pwerau gorfodi yn cynnwys Hysbysiad Gwaith Brys a Hysbysiad
Atgyweirio. Mae elfen o risg i’r pwerau hyn i ALl o ran costau
cynnal y gwaith brys yn ddiofyn neu’r costau sy'n gysylltiedig â phrynu
gorfodol a’r cyfrifoldeb o fod yn berchennog ar adeilad adfeiliedig yn sgil
hynny. Roedd y pwerau’n ddewisol a dylid bod yn ofalus
wrth eu defnyddio, fodd bynnag, mewn amgylchiadau lle nad oedd unrhyw opsiwn
arall, a lle gallem fod yn agos i golli’r adeilad yn llwyr, gallai penderfyniad
i beidio â defnyddio pwerau gorfodi fygwth enw da’r Awdurdod .
Cyfeiriodd y
PRhACh at y broses ymgynghori oedd yn cael ei chynnal mewn perthynas â
newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru (LlC) i’r ddeddfwriaeth. Mynegodd
bryder nad yw’r pwerau dan y ddeddfwriaeth bresennol yn addas i’w pwrpas ac nad
ydynt yn rhoi’r awdurdod sydd angen i ymyrryd yn briodol. Cytunodd yr aelodau y dylai’r Cadeirydd
gyflwyno llythyr o gefnogaeth yn ategu’r farn a fynegwyd gan y PRhACh yn ei
ymateb i’r ymgynghoriad ffurfiol, a oedd yn amlygu’r risgiau sy’n gysylltiedig
ag agwedd gorfodi'r ddeddfwriaeth.
Ymatebodd y
PRhACh i gwestiynau gan nifer o Aelodau a rhoddodd fanylion yn ymwneud ag
adeileddau wedi’u lleoli yn yr ardaloedd unigol.
Roedd manylion y
risgiau posibl wedi’u hymgorffori yn yr adroddiad. Mae goblygiadau ariannol ac o ran adnoddau
wrth fynd i’r afael ag adeiladau dan fygythiad ac roedd rhaid eu rheoli fesul
achos. Mewn achosion eithriadol lliniarwyd ar y risgiau
gymaint ag y bo modd ac mae’r prosiectau wedi bod yn destun cymeradwyaeth ac
awdurdodiad ffurfiol.
Yn yr hinsawdd
economaidd sydd ohoni cydnabuwyd yr angen i dargedu’r adnoddau sydd ar gael yn
fwy effeithiol, ac felly roedd strategaeth adeiladau dan fygythiad yn cael ei
drafftio a oedd yn archwilio sut y gellid gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o
adnoddau cyfyngedig. Roedd Atodiad 1 yn amlinellu’r Adeiladau categori 1 oedd Dan fygythiad yn
Sir Ddinbych fesul cymuned.
Darparodd y swyddogion yr ymatebion canlynol
i faterion a chwestiynau a godwyd gan yr Aelodau:-
-
rhoddodd
y PRhACh fanylion y broses y bwriadwyd ei mabwysiadu mewn perthynas â chynnwys
adeiladau oedd newydd gael eu rhestru.
-
Rhagwelwyd
y byddai cronfa ddata’n cynnwys manylion yr holl adeiladau rhestredig yn cael
ei darparu yn y dyfodol a’i diweddaru’n rheolaidd.
-
nid oedd proses apelio ffurfiol ar gyfer
adeiladau rhestredig, fodd bynnag, gellid tynnu adeiladau oddi ar y rhestr os
gellid dangos bod yr wybodaeth a arweiniodd at eu rhestru’n anghywir neu’n
wallus.
-
rhoddwyd
cadarnhad y gellid rhoi Hysbysiad Cynnal i ddiogelu adeilad oedd dan fygythiad
o gael ei ddymchwel neu ei addasu’n sylweddol, cyn cael archwiliad gan Cadw.
-
rhoddodd y
PRhACh sicrwydd bod mwyafrif yr adeiladau rhestredig roedd y Cyngor Sir yn
berchen arnynt yn cael eu cynnal yn dda a’u cadw mewn cyflwr da.
-
Gofynnodd
Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus i’r Aelodau ei hysbysu ef neu’r swyddogion
perthnasol os oeddent yn clywed fod adeiladau rhestredig yn eu rhanbarth
etholiadol yn cael eu haddasu neu eu dymchwel heb y caniatâd gofynnol.
Yn dilyn trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD – fod y Pwyllgor, yn amodol ar y
sylwadau uchod yn: -
(a)
derbyn ac
yn nodi cynnwys yr adroddiad, ac yn
(b)
cytuno y
dylai’r Cadeirydd gyflwyno llythyr o gefnogaeth yn ategu’r farn a fynegwyd gan
y PRhACh yn ei ymateb i'r ymgynghoriad ffurfiol ar y newidiadau arfaethedig i’r
ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag adeiladau rhestredig.
Dogfennau ategol: