Eitem ar yr agenda
YSTYRIED SYLWADAU A PHENDERFYNIAD TERFYNOL ADRODDIAD A BARATOWYD GAN OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU DAN ADRAN 71(2)(C) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2000 (REF 2871/201002627)
Ystyried
canfyddiadau Adroddiad Ymchwiliad yr Ombwdsmon (a gylchredwyd yn flaenorol)
ynglŷn â’r honiad o beidio â chydymffurfio â Chod Ymarfer y Cyngor ac
ystyried y sylwadau a dderbyniwyd gan y cyn Gynghorwr yn ymateb i’r honiad, ac
i wneud penderfyniad terfynol ar y mater.
Cofnodion:
Estynnodd y Cadeirydd groeso cynnes i Ms Annie
Ginwalla, Swyddog Ymchwilio - Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a oedd yn
bresennol ar gyfer yr eitem hon. Cyflwynwyd pawb oedd yn bresennol ac eglurwyd dull a threfn y cyfarfod. Cadarnhaodd yr aelodau eu bod wedi derbyn copïau o
Adroddiad Ymchwiliad yr Ombwdsmon ac wedi cael cyfle i astudio'r dogfennau
ymlaen llaw.
Gofynnwyd i'r Pwyllgor ystyried
canfyddiadau Adroddiad Ymchwiliad yr Ombwdsmon ynglŷn â honiad bod y
cyn-Gynghorydd Sir Allan Pennington wedi methu â chydymffurfio â Chod Ymddygiad
y Cyngor, ynghyd ag unrhyw sylwadau a wnaed gan y cyn-Gynghorydd Pennington
mewn perthynas â'r canfyddiadau hynny, ac i wneud penderfyniad terfynol mewn perthynas
â'r mater. Nid oedd Mr Pennington yn bresennol yn y
cyfarfod ac roedd wedi methu ag ymateb i ohebiaeth gan y Cyngor na darparu
unrhyw sylwadau ysgrifenedig mewn ymateb i ganfyddiadau'r Ombwdsmon. Dywedodd y Swyddog Monitro (MO)
wrth baratoi ar gyfer y gwrandawiad, yr ysgrifennwyd at Mr Pennington ar ddau
achlysur - anfonwyd yr ail lythyr drwy ddosbarthiad wedi'i gofnodi a rhoddwyd
llofnod ar ei dderbyn er nad oedd yn glir pwy oedd y llofnodwr. Ar y sail honno roedd y Pwyllgor yn fodlon bod Mr
Pennington yn ôl pob tebyg wedi derbyn hysbysiad o'r gwrandawiad a'r holl
ddogfennaeth angenrheidiol. O ganlyniad, cytunodd y Pwyllgor i fwrw ymlaen â'r gwrandawiad yn
absenoldeb Mr Pennington.
Cyflwynodd Ms Annie Ginwalla, Swyddog Ymchwilio
adroddiad yr Ombwdsmon ar yr ymchwiliad. Rhoddodd fanylion yr honiadau, cefndir cyfreithiol a deddfwriaeth
berthnasol, a rhoddodd ddadansoddiad o'r dystiolaeth a gafwyd yn ystod yr
ymchwiliad, gan gynnwys ffeithiau dadleuol, ynghyd â chasgliadau a wnaed.
Yn gryno rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am y
canlynol -
·
Cafwyd
cwyn bod y cyn-Gynghorydd Pennington wedi methu cadw at y Cod Ymddygiad ar
gyfer aelodau Cyngor Sir Ddinbych ar 8 Rhagfyr, 2010, pan ddaeth i gyfarfod o'r
Pwyllgor Trwyddedu. Honnwyd y dylai'r cyn-Gynghorydd fod wedi
datgan cysylltiad personol yn y cyfarfod hwn o ganlyniad i’w waith fel gyrrwr
tacsi pan drafodwyd a phleidleisiwyd ar fater yn ymwneud â'r drefn profi
cerbydau Hurio Preifat.
·
Roedd
y cyn-Gynghorydd yn gwadu fod ganddo gysylltiad a'i fod wedi cymryd rhan yn y
pleidleisio ar yr eitemau dan sylw. Roedd y dystiolaeth a dderbyniwyd gan aelodau a staff yn bresennol yn y
cyfarfod yn cadarnhau nad oedd y cyn-Gynghorydd wedi datgan cysylltiad; roedd
yn rhan yn y trafodaethau ac wedi pleidleisio ar nifer o gynigion yn ymwneud
â’r busnes tacsi
·
Daeth
yr ymchwiliad i'r casgliad bod y busnes a gynhaliwyd yn y cyfarfod yn ymwneud â
neu'n debygol o effeithio ar gyflogwyr y cyn-Gynghorydd Pennington a oedd â'r
potensial i effeithio ar ei waith hefyd, gan achosi cysylltiad personol a
rhagfarnol. Nododd yr ymchwiliad hefyd fod y cyn-Gynghorydd Pennington wedi methu â
diweddaru ei gofrestr statudol o fewn 28 diwrnod ar ôl cychwyn ar ei waith fel
gyrrwr tacsi ym mis Gorffennaf 2008
·
ar
sail y dystiolaeth a gafwyd yn ystod yr ymchwiliad, roedd yr Ombwdsmon yn
fodlon y gallai ymddygiad y cyn-Gynghorydd Pennington fod wedi mynd yn groes i
baragraffau 10(1), 11(1), 14(1) (a) a 15(2) o'r Cod. O ganlyniad, cafodd yr adroddiad ei
gyfeirio i’r Swyddog Monitro i’w ystyried gan Bwyllgor Safonau’r Cyngor.
Amlygwyd hefyd bryder yr Ombwdsmon ynghylch
honiadau a wnaed gan y cyn-Gynghorydd Pennington yn erbyn swyddogion y cyngor
yn ystod yr ymchwiliad. Roedd yr honiadau hynny wedi eu hystyried yn faleisus ac yn ymgais i
danseilio swyddogion a'u tystiolaeth. Roedd yn fater i'r Pwyllgor benderfynu a oedd y
cyn-Gynghorydd wedi torri mynd yn groes i baragraff 6(1)(a) o'r Cod drwy ddwyn
anfri ar swydd aelod trwy ei ymddygiad yn ystod yr ymchwiliad.
Mewn ymateb i gwestiynau cadarnhaodd Ms Ginwalla
ei bod yn briodol i'r Pwyllgor i ystyried unrhyw doramodau pellach o'r Cod a
nodwyd yn ystod y broses ymchwilio. Cadarnhaodd hefyd fod y cyn-Gynghorydd Pennington wedi cael gwybod am y
posibilrwydd o fynd yn groes i baragraff 6(1)(a).
Ymneilltuodd y Pwyllgor i drafod yn breifat ar y
sylwadau ynglŷn â’r ffeithiau ac a oedd y cyn-Gynghorydd Pennington wedi
methu â chydymffurfio â'r Cod Ymddygiad. Ar ôl trafodaeth ar yr holl faterion a godwyd, yn arbennig y ffeithiau
dadleuol a fanylwyd ym mharagraff 52 o'r Adroddiad Ymchwiliad, cyhoeddodd y
Swyddog Monitro eu canfyddiadau unfrydol ar y ffeithiau bod y cyn-Gynghorydd
Pennington -
·
wedi
cymryd rhan yn y pleidleisio ar y materion a benderfynwyd yn y cyfarfod
·
bod
ganddo gysylltiad personol yn eitemau 3, 4 a 5 y cyfarfod
·
y
dylai fod wedi bod yn ymwybodol o'r cysylltiad hwnnw a’i ddatgan yn ystod y
cyfarfod
·
bod
ganddo gysylltiad rhagfarnol yn eitemau 3, 4 a 5 y cyfarfod
·
ni
ddylai fod wedi aros yn y cyfarfod
·
wedi
methu diweddaru ei gofrestr statudol o gysylltiadau’r aelodau yn unol â'i
rwymedigaethau o dan baragraff 15(2) o'r Cod.
Yna ystyriodd y Pwyllgor a, yn seiliedig ar y
ffeithiau a ganfuwyd, a oedd y cyn-Gynghorydd Pennington wedi methu â
chydymffurfio â'r Cod Ymddygiad. Wrth ddefnyddio’r ffeithiau a ganfuwyd,
canfu'r Pwyllgor bod y cyn-Gynghorydd wedi mynd yn groes i baragraffau 10(1),
11(1), 14(1)(a) a 15(2) o'r Cod Ymddygiad.
Ystyriodd y Pwyllgor hefyd a
aethpwyd yn groes i baragraff 6(1)(a) a bu’n arbennig o bryderus o ran yr
honiad hwn. Yn seiliedig ar ymddygiad y cyn-Gynghorydd
Pennington yn ystod yr ymchwiliad fel y disgrifiwyd yn yr adroddiad ac a nodwyd
yn yr atodiadau i'r adroddiad, cytunodd y Pwyllgor yn unfrydol fod ei ymddygiad
yn gyfystyr â mynd yn groes i baragraff 6(1)(a).
Roedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor
wedi'u seilio ar sylwadau'r Ombwdsmon a restrwyd yn yr Adroddiad Ymchwiliad a
chytunodd y Pwyllgor â'r cyflwyniadau hynny. O ran yr honiadau di-sail a wnaed gan y
cyn-Gynghorydd yn erbyn swyddogion y cyngor, roedd y Pwyllgor hefyd yn awyddus
i fynegi eu hyder yn y swyddogion hynny.
Ar y pwynt hwn gwahoddwyd Ms Ginwalla, Swyddog
Ymchwilio i wneud sylwadau ynghylch a ddylai'r Pwyllgor ddefnyddio sancsiwn a
pha ffurf y dylai unrhyw sancsiwn ei gymryd. Dywedodd fod yr Ombwdsmon o'r farn y byddai'n
briodol i roi cerydd yn yr amgylchiadau i adlewyrchu natur ddifrifol y
toramodau a bod yn nodyn atgoffa i’r cyn-Gynghorydd a chynghorwyr eraill am
bwysigrwydd y Cod a'r cyfrifoldeb y rhodda’r Cod arnynt. Gan nad oedd Mr Pennington bellach yn
gynghorydd, roedd sancsiynau yn gyfyngedig, fel arall byddai’n rhaid chwilio am
sancsiwn mwy difrifol. Gofynnodd y Cadeirydd am eglurhad ynghylch defnyddio sancsiwn ar gyfer
toramod benodol a chynghorodd y Swyddog Monitro’r Pwyllgor i ystyried yr
ymddygiad yn ei gyfanrwydd yn hytrach na thoramodau unigol. Rhoddodd fanylion y broses i'w dilyn pe
bai sancsiwn yn cael ei rhoi a chyhoeddi penderfyniad y Pwyllgor.
Ymneilltuodd y Pwyllgor i drafod yn breifat ar y
sylwadau y dylai’r cyn-Gynghorydd Pennington gael ei geryddu. O ystyried natur y toramodau, yn enwedig mewn
perthynas â mynd yn groes i baragraff 6(1)(a) o'r Cod daeth y Pwyllgor i
gasgliad unfrydol y dylid rhoi cerydd cyhoeddus i’r cyn-Gynghorydd Allan
Pennington. Roedd y Pwyllgor yn awyddus i dynnu sylw
at y ffaith y byddent wedi rhoi sancsiwn mwy difrifol pe bai’r opsiwn hwnnw
wedi bod ar gael iddynt.
PENDERFYNWYD bod y cyn-Gynghorydd Allan Pennington gael ei geryddu yn gyhoeddus.
Y rhesymau dros y penderfyniad oedd bod y Pwyllgor
wedi cytuno’n unfrydol â'r rhesymau a nodwyd yn Adroddiad Ymchwiliad yr
Ombwdsmon ar gyfer canfyddiadau’r ffeithiau a mynd yn groes i’r Cod Ymddygiad.
Diolchodd y Cadeirydd i Ms Ginwalla am ei
hadroddiad a’i chyflwyniad cynhwysfawr.
Ar y pwynt hwn (11.30am) cafwyd egwyl am baned.
Dogfennau ategol: