Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

YMGYNGHORIAD FFURFIOL - YSGOL LLANBEDR

Ystyried adroddiad gan y Cyng. Eryl Williams (copi wedi’i amgáu) sy’n darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r trafodaethau gydag Awdurdod Esgobaethol yr Eglwys yng Nghymru yn ymwneud ag arolwg ysgolion cynradd Rhuthun a’r cynnig i gau Ysgol Llanbedr.

 

 

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams adroddiad, wedi’i gylchredeg yn flaenorol oedd yn diweddaru Aelodau’r Cabinet ynglŷn â’r trafodaethau gydag Awdurdod Esgobaethol yr Eglwys yng Nghymru yn ymwneud ag arolwg ysgolion cynradd Rhuthun a’r cynnig i gau Ysgol Llanbedr.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno i gymeradwyo ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer cynigion i gau Ysgol Llanbedr ar 31 Awst 2014 gyda’r disgyblion presennol yn trosglwyddo i Ysgol Borthyn, yn amodol ar ddewis y rhieni, ac yn amodol ar gasgliadau’r trafodaethau gyda’r Eglwys yng Nghymru.

 

 

Cofnodion:

Eglurodd yr Arweinydd y byddai cwestiynau gan aelodau'r Cabinet yn cael eu caniatáu yn y lle cyntaf. Yna byddai Cynghorwyr sy’n mynychu’r cyfarfod fel sylwedyddion yn cael cyfle i ofyn cwestiynau. Ni chaniateir i aelodau o'r cyhoedd ofyn cwestiynau. Cadarnhaodd Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd rheolau gweithdrefn y Cabinet fel y nodir yn y cyfansoddiad.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams adroddiad, wedi’i gylchredeg yn flaenorol oedd yn diweddaru Aelodau’r Cabinet ynglŷn â’r trafodaethau gydag Awdurdod Esgobaethol yr Eglwys yng Nghymru yn ymwneud ag arolwg ysgolion cynradd Rhuthun a’r cynnig i gau Ysgol Llanbedr.

 

Cynhaliwyd cyfarfod gyda Swyddogion Addysg o Awdurdod yr Esgobaeth ar 25 Medi i drafod y cynnig hwn a’r materion ehangach sy’n effeithio ar Ysgol Llanfair ac Ysgol Borthyn.

 

O safbwynt y cynnig arwyddocaol hwn, y canlyniad oedd na ddaethpwyd i gytundeb rhwng Sir Ddinbych ac Esgobaeth Llanelwy ynglŷn â chau Ysgol Llanbedr. Os bydd y cynnig yn mynd yn ei flaen, bydd y Cyfarwyddwr, ar ran yr Esgobaeth, yn gwneud ymateb ffurfiol, ar ôl ymgynghori eto â’r Bwrdd Addysg.

 

Rhagwelwyd y byddai'r Ymgynghoriad ar y cynnig i gau Ysgol Llanbedr yn cael ei gynnal rhwng 11 Tachwedd 2013 a 23 Rhagfyr 2013. Byddai'r broses ymgynghori yn rhoi cyfle i rieni, disgyblion, llywodraethwyr a staff, wneud sylwadau ar y cynigion cyn y byddai penderfyniad yn cael ei wneud gan y Cabinet ar p’un ai dylid bwrw ymlaen a chyhoeddi’r cynigion yn ffurfiol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Huw Williams sawl cwestiwn ar ran Ysgol Llanbedr. Cafwyd trafodaeth ddwys lle darparwyd yr ymatebion canlynol:

 

·         Ar adeg cwblhau’r adroddiad, roedd yr awdurdod wedi prosesu 4 o geisiadau ar gyfer y dosbarth Derbyn a 5 cais ar gyfer darpariaeth Feithrin. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau meithrin a derbyn yw 29 Tachwedd 2013 a 21 Chwefror 2014 yn y drefn honno.

·         Nodwyd yn flaenorol mai'r cyfanswm lleoedd yn adeilad parhaol yr ysgol yw 77. Roedd hyn yn cynnwys 54 o leoedd Parhaol a 23 o leoedd mewn dosbarth symudol. Mae’r Corff Llywodraethu wedi cyflwyno sylwadau y dylid symud y ddarpariaeth symudol o’r ysgol, felly cyfrifwyd mai nifer y lleoedd i ddisgyblion llawn amser yw 54.

·         Er bod rhagamcaniadau disgyblion yn dangos cynnydd yn niferoedd y disgyblion dros y blynyddoedd i ddod a fyddai’n lleihau nifer y lleoedd dros ben yn yr ysgol, byddai Ysgol Llanbedr yn parhau i fod yn "ysgol fach" a byddai materion yn parhau ynghylch cynaliadwyedd a hyfywedd Ysgol Llanbedr a safonau addysg a chyrhaeddiad yn y dyfodol.

·          Mae ysgolion bychain yn aml yn golygu dosbarthiadau oedran cymysg. Roedd posibilrwydd y gallai blynyddoedd 4, 5 a 6 gael eu haddysgu mewn un dosbarth. Mae'r awdurdod yn adolygu p’un ai yw ysgol o'r maint hwn yn darparu amgylchedd dysgu addas.

·         Mae modd i 21 o ddisgyblion sy’n mynychu Ysgol Llanbedr gael eu symud i Ysgol Borthyn gan fod ganddynt gapasiti ychwanegol ar gyfer 31 o ddisgyblion.

·          Mae polisi cludiant y sector cynradd yn nodi y gall plentyn sy’n byw mwy na 2 filltir o'u hysgol agosaf neu ar hyd llwybr anniogel dderbyn cludiant am ddim i’r ysgol gan y Cyngor. Os yw rhieni yn dewis ysgol arall yna byddai'n rhaid iddynt hwy dalu am y cludiant.

·         O fewn y Cynllun Datblygu Lleol, mae cynlluniau ar gyfer datblygu 80 o gartrefi newydd yn Llanbedr. Mae polisi mynediad Ysgol Llanbedr yn cyfyngu nifer y disgyblion i 54. 

·         Yn y pen draw, bydd holl ysgolion Sir Ddinbych sydd â chynhwysedd o lai na 80 o ddisgyblion yn cael eu hadolygu. Mae'r model hwn wedi ei darparu gan Estyn i edrych ar p’un ai yw ysgolion sydd â llai na 80 o ddisgyblion yn hyfyw.

·         Cafwyd trafodaethau hefyd ynghylch a fyddai'r feithrinfa breifat yn aros yn Ysgol Llanbedr.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Huw Williams am gael gohirio’r trafodaethau ynglŷn ag Ysgol Llanbedr ac i ystyried Ffederasiwn.

 

Dywedodd Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg na fyddai Ffederasiwn yn mynd i'r afael â lleoedd dros ben.  

 

Crynhodd y Prif Weithredwr y trafodaethau a chadarnhaodd nad oedd y Cabinet yn gwneud penderfyniad heddiw ar gau Ysgol Llanbedr. Yn hytrach bydd y Cabinet yn gwneud penderfyniad ar p'un ai y dylid cymeradwyo cynnal ymgynghoriad ffurfiol ar y cynigion i gau Ysgol Llanbedr ai peidio.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cytuno i gymeradwyo ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer cynigion i gau Ysgol Llanbedr ar 31 Awst 2014 gyda’r disgyblion presennol yn trosglwyddo i Ysgol Borthyn, yn amodol ar ddewis y rhieni, ac yn amodol ar gasgliadau’r trafodaethau gyda’r Eglwys yng Nghymru.

 

 

Dogfennau ategol: