Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

TCC yn Sir Ddinbych

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd / Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (copi ynghlwm) i ymgynghori gyda’r aelodau am amrywiaeth o opsiynau ar gyfer moderneiddio, uwchraddio a gwella TCC a Thîm Cyswllt Tu Hwnt i Oriau Gwasanaeth y Cyngor. 

9.35 a.m. – 10.05 a.m.

 

 

Cofnodion:

Fe gyflwynodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, y Cynghorydd David Smith adroddiad (wedi’i ddosbarthu’n flaenorol) er mwyn ymgynghori â’r Aelodau ynglŷn â nifer o opsiynau i foderneiddio, uwchraddio a gwella Tîm TCC a Galwadau Allan o Oriau Arferol y Cyngor.

 

Gofynnodd yr Aelodau am adroddiad i'w diweddaru ar y cynnydd a wnaed gyda chynigion i ddatblygu swyddogaeth TCC a Galwadau Allan o Oriau Arferol y Cyngor yn dilyn cyfarfod ym mis Ebrill 2013.

 

Fe wnaeth y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd gyflwyno’r Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd a Goruchwyliwr y system TCC i’r aelodau.

 

Rhestrwyd 16 opsiwn posib yn atodiad cyfrinachol yr adroddiad. 

 

Roedd yr opsiynau’n sicrhau y byddai gwasanaeth TCC yn parhau i redeg er bod y gyllideb wedi’i chwtogi.  Roedd costau rhedeg y gwasanaeth TCC yn 2010/11 wedi dod i £341k ond erbyn 2014/15 bydd y gyllideb yn cael ei chwtogi i £228k. 

 

Yr adborth a gafwyd gan yr Aelodau yn ogystal â’r Partneriaid oedd bod y gwasanaeth yn dda ac yn werthfawr, ac felly roedd Sir Ddinbych eisiau rhedeg gwasanaeth ar un ai'r un lefel neu hyd yn oed uwch, a hynny trwy wneud arbedion ar yr un pryd.  Roedd yna gyfle i wella’r gwasanaeth TCC ac i redeg y gwasanaeth ar sail busnes. 

 

Ar hyn o bryd dim ond mewn rhai ardaloedd o’r sir y ceir gwasanaethau TCC cynhwysfawr, a phrin yw’r gwasanaeth TCC mewn ardaloedd eraill.

 

Yn ystod nosweithiau a phenwythnosau, gyrrwyd galwadau’r ganolfan gyswllt at y Tîm Galwadau Allan o Oriau Arferol yn ystafell reolaeth TCC a olygai fod gan y staff ddwy rôl i’w chyflawni.

 

Ymysg  yr opsiynau oedd cymysgedd o syniadau i wella’r gwasanaeth ac i ddarparu gwasanaeth i drefi sydd ar hyn o bryd heb wasanaeth TCC. Roedd cynnig i ofyn i Gynghorau Tref gyfrannu at ddarparu’r cyfleusterau hyn.  Cyflwynwyd cynllun busnes Sir Ddinbych i fusnesau hefyd lle byddai’r cyngor yn cynnig gosod TCC ar eu heiddo er mwyn creu incwm i’r Cyngor yn ogystal â gwarchod y busnes a’u heiddo ar yr un pryd.  Roedd yr opsiwn o noddi camerâu yn cael ei ystyried hefyd.

 

PENDERFYNWYD o dan Adran 100A o’r Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, i Eithrio’r Wasg a’r Cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol ar y sail gan fod posibilrwydd o orfod datgelu gwybodaeth eithriedig fel y diffinnir ym Mharagraff 14 o Adran 4 o Amserlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

RHAN II

 

Codwyd y materion canlynol yn dilyn trafodaethau:

 

·         Un o brif ddefnyddwyr y gwasanaeth TCC yw Heddlu Gogledd Cymru.  Mae’r Heddlu yn gwneud cyfraniad o £18k i bob Awdurdod Lleol.  Penderfynwyd ar y ffigwr sawl blwyddyn yn ôl.  Nid yw’r Heddlu’n fodlon ail-drafod y ffigwr ar lefel rhanbarthol nac ar lefel awdurdod lleol i gynyddu’r cyfraniad.  Un opsiwn yw defnyddio swyddogion sy’n gweithio i’r heddlu ond sydd “â dyletswyddau ysgafn” i roi cefnogaeth  i staff  TCC fel secondiad.

·         Argymhelliad i lunio cynllun busnes tair blynedd o bosib a fyddai’n cynnwys archwiliad mewnol i droi’r gwasanaeth yn wasanaeth sy’n gwneud elw. 

·         O dan y Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 roedd dyletswydd ar y cyngor i leihau trosedd ac anhrefn yn yr ardal, ond nid oedd ymrwymiad statudol i redeg gwasanaeth TCC.

·         Trafodwyd y broblem gyda strwythur staffio’r gwasanaeth TCC - roedd dau aelod staff wedi gadael yn wirfoddol ac roedd y swyddi heb eu llenwi.  Roedd hynny wedi gwneud arbediad o oddeutu £50-60k.  Felly, o ganlyniad i lai o staff roedd y rota 24 awr wedi bod yn anodd iawn i’w weithredu.

·         Mae cydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn un o’r opsiynau yn yr atodiad.   Yn y dyfodol gall cydweithio â Chonwy i rannu adnoddau yn ystod amseroedd distaw fod yn opsiwn.

·         Fe ofynnodd yr Aelodau ragor o gwestiynau ynglŷn â’r cyfraniad gan Gynghorau Tref.  Dywedodd Aelod o Gyngor Tref Rhuddlan na fyddai Cyngor Tref Rhuddlan yn gallu ariannu’r cynllun TCC. Efallai y byddai cyfraniad llai yn dderbyniol.  Y gost flynyddol ar gyfartaledd fyddai £250-£300 ar gyfer pob camera.  Byddai yna drafodaethau â’r holl Gynghorau Tref ynglŷn â’r ochr ariannol ar gyfer y gwasanaeth. 

·         Byddai cyfle i reoli’r prosiect ac i ddiweddaru a gwella rhai camerâu TCC mewn rhai trefi yn cael ei ystyried.  Byddai’r camerâu wedi eu diweddaru yn gyrru delweddau i Ystafell Reolaeth y Rhyl a byddai ffi fechan yn cael ei chodi ar gyfer pob camera yn flynyddol.

·         Mae’r ystafell reolaeth TCC yn recordio unrhyw weithgaredd ac maent yn cael eu cadw hyd at 30 diwrnod.  Roedd y recordiadau yn ddefnyddiol ar gyfer nifer o Wasanaethau’r Cyngor, yr heddlu ac i unigolion er mwyn darparu tystiolaeth eglur.  Gan fod gofyn yn aml i’r gwasanaeth TCC ddarparu fideos i gefnogi achosion erlyn neu ar gyfer gweithred unigol, a byddai modd cyflwyno cynllun codi ffi am ddarparu’r wybodaeth a recordiwyd ar ddisg neu’n electronig.

·         Ar hyn o bryd tydi Heddlu Gogledd Cymru ddim yn codi ffi ar y Cyngor i rentu’r cyfleusterau yng Ngorsaf yr Heddlu, y Rhyl.   Er hynny mae Cyngor Sir Ddinbych yn talu am y trydan.

 

Felly:

 

PENDERFYNWYD:

 

·         yn amodol ar y sylwadau uchod,  bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynigion arfaethedig ac yn cytuno bod angen Swyddogion i ymgymryd â dadansoddiad manwl ar yr achos busnes ar gyfer pob un o’r cynigion; a

·         bod adroddiad yn cael ei lunio sy’n rhoi diweddariad ar y cynnydd trwy ddatblygu achos busnes i gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor mewn chwe mis.

 

Dogfennau ategol: