Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DARPARIAETH YN SEILIEDIG AR FFYDD

Ystyried adroddiad gan y Cyng. Eryl Williams (copi wedi’i amgáu) sy’n nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol ynglŷn â’r adolygiad ffydd a rhoi ystyriaeth p'un ai i fynd ymlaen â chyhoeddi’r cynnig trwy gyfrwng hysbysiad statudol neu beidio.

 

 

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams adroddiad, wedi’i gylchredeg yn flaenorol, oedd yn nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol ynglŷn â’r adolygiad ffydd ac i ystyried a ddylid symud ymlaen a chyhoeddi’r cynnig trwy gyfrwng hysbysiad statudol.

 

PENDERFYNWYD:

 

(i)            Nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol ar gyfer cau Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ac Ysgol y Santes Ffraid ac agor  ysgol newydd;

(ii)          Cadarnhau’r ymrwymiad tuag at weithio mewn partneriaeth gydag Awdurdodau Esgobaethol yr Eglwys Gatholig a’r Eglwys yng Nghymru i gynnig ysgol newydd yn seiliedig ar ffydd;

(iii)         Cytuno i ddatblygu cynnig i alluogi ymgynghoriad ffurfiol ar adeiladu ysgol newydd yn seiliedig ar ffydd i ddisodli darpariaeth bresennol Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ac Ysgol y Santes Ffraid.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams adroddiad, wedi ei gylchredeg yn flaenorol, a oedd yn nodi canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol ynglŷn â’r adolygiad ffydd ac yn gofyn i’r Cabinet ystyried a ddylid symud ymlaen a chyhoeddi’r cynnig trwy gyfrwng hysbysiad statudol.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Williams gefndir i'r sefyllfa a thynnodd sylw at yr angen am ddull strategol a chydlynol. 

 

Gofynnodd yr Arweinydd i Esgob Llanelwy ac Esgob Wrecsam fynegi eu barn ynghylch y Ddarpariaeth yn Seiliedig ar Ffydd.

 

Diolchodd Esgob Llanelwy, y Gwir Barchedig Dr Gregory K Cameron, am y cyfle a roddwyd i Esgobaeth Llanelwy fod yn hyrwyddwr ar gyfer ysgol ffydd sengl newydd yn Sir Ddinbych. Byddai'r weledigaeth yn un ar gyfer ysgol ffydd a rennir i ddinasyddion Sir Ddinbych. Ailadroddodd yr Esgob ei fod yn credu mewn rhagoriaeth mewn addysg ac y byddai'r cynllun yn gyfle i adeiladu rhywbeth gwych ac i ddiwallu holl anghenion y gymuned. Anogodd Esgob Llanelwy’r aelodau Cabinet i dderbyn yr adroddiad.

 

Diolchodd Esgob Wrecsam, y Gwir Barchedig Monsignor Peter Brignall, hefyd am y cyfle i gyflwyno a chefnogi’r ddarpariaeth cyn i'r adroddiad gael ei gyflwyno gerbron y Cabinet. Mae Esgobaeth Wrecsam wedi bod yn ddarparwyr addysg uwchradd yn Sir Ddinbych ers hanner canrif. Soniodd yr Esgob am lwyddiant y broses o newid Ysgol Sant Joseff yn Wrecsam yn ysgol ffydd ar y cyd. Byddai'r ysgol ffydd ar y cyd yn gyfle i ddarparu'r addysg orau i'r teuluoedd hynny sy'n dewis addysg ffydd, beth bynnag yw eu crefydd. Fel darparydd presennol, gobeithir y bydd addysg ffydd yn parhau i gael ei darparu, nid yn unig mewn rhan o'r sir ond ar gyfer dalgylch cyfan ysgolion Sir Ddinbych. Mae Esgob Wrecsam yn cefnogi Esgob Llanelwy a’i ymrwymiad i addysg yn seiliedig ar ffydd ar gyfer y genhedlaeth hon o bobl ifanc a’r cenedlaethau i ddod.

 

Yn ystod y drafodaeth eglurwyd mai cam dros dro oedd Cam 1 y cynllun. Ond, yn ystod ymgynghori, roedd pryderon o ran diffyg cefnogaeth budd-ddeiliaid allweddol i Gam 1. Roedd modd datblygu Cam 1 ond roedd perygl y byddai hynny’n cael effaith negyddol ar safonau. Roedd hi’n hollbwysig nad oedd safonau yn llithro'n ôl. Gan fod hwn wedi bod yn fater o ddarparu gweithredol, yn sgil canlyniad yr ymgynghoriad, penderfynwyd canolbwyntio ar ddarparu un ysgol Gristnogol ar un safle. Yn y cyfamser, bydd Sir Ddinbych yn parhau i gefnogi pob ysgol.

 

Mae Ysgol Uwchradd y Bendigaid Edward Jones ar gyfer disgyblion 11-16 oed. Mae Ysgol y Santes Ffraid ar gyfer disgyblion 3-19 oed. Eglurwyd yn ystod y cyfarfod y byddai ystod oedran yr ysgol newydd yn derbyn mwy o ystyriaeth yn ystod Cam 2 y cynllun. Byddai'r ddarpariaeth gynradd a’r ddarpariaeth ôl-16 yn cael eu hystyried. 

 

Bydd achos busnes yn cael ei lunio gyda’r dewisiadau a’r costau cysylltiedig. Mae cyllid o £28 miliwn wedi ei gytuno arno mewn egwyddor. Ni fyddai darparu dau gyfleuster yn gwneud y defnydd gorau o’r cyfleusterau gan y byddai hynny’n llawer mwy costus. Bydd hyn yn cael ei ddangos yn yr achos busnes. Os bydd yr achos busnes a gyflwynwyd yn costio mwy na'r cais, yna byddai'n rhaid i swyddogion ddod yn ôl at yr aelodau i dderbyn penderfyniad sydd o fewn y cyllid sydd ar gael.

 

Yn ystod Cam 2 o’r cynllun a drwy weithio gyda’r hyrwyddwyr, byddai’r trafodaethau’n canolbwyntio i ddechrau ar gadarnhau ystod oed, maint a lleoliad yr ysgol newydd. Byddai’r trafodaethau hyn hefyd yn cynnig ystyriaeth lawn o’r dewisiadau o ran y modd y byddai’r galw am addysg ffydd oed cynradd yn cyfateb â’r ddarpariaeth Uwchradd. Mae chwe safle posibl i’w hystyried. Byddai'r cynlluniau cychwynnol yn cael eu datblygu er mwyn galluogi rhieni i gael syniad o edrychiad yr ysgol newydd. 

 

Roedd Ysgol y Bendigaid Edward Jones dan awdurdod Esgobaeth Gatholig Wrecsam ac roedd yn cynnig Addysg Gatholig gan gynnwys derbyn Archwiliadau Adran 50 sy’n adrodd ar addysg grefyddol, cydaddoli, addysg ysbrydol, foesol, cymdeithasol a diwylliannol y plant ac ethos yr ysgol. Roedd Ysgol y Santes Ffraid wedi ei dynodi’n ysgol sy’n Gatholig o ran ei chymeriad crefyddol. Fodd bynnag, roedd yr ysgol dan reolaeth Ymddiriedolaeth y Santes Ffraid ac nid oedd wedi ei chydnabod yn ffurfiol gan Awdurdod yr Esgobaeth Gatholig ac nid oedd yn derbyn Archwiliad Adran 50. Nid yw dynodi cymeriad crefyddol yn pennu a yw ysgol yn ysgol yr Eglwys Gatholig ai peidio yn ôl cyfraith ganonaidd.

 

Eglurodd Esgob Wrecsam bod Ysgol y Bendigaid Edward Jones wedi ei sefydlu’n wreiddiol ar gyfer Sir Ddinbych ac nid ar gyfer darparu ysgol Gatholig ar gyfer y Rhyl yn unig.

 

Darllenodd y Cynghorydd Brian Blakely ddatganiad i'r wasg ar ran cynghorwyr y Rhyl. Mynegodd eu cefnogaeth i'r cynllun ar gyfer ysgol newydd ond eu bod yn dymuno i’r ysgol gael ei hadeiladu yn agos at y Rhyl.

 

Crynhodd y Prif Weithredwr y trafodaethau.

 

Diolchodd yr Arweinydd i'r Gwir Barchedig Dr Gregory K Cameron, Esgob Llanelwy a'r Gwir Barchedig Monsignor Peter Brignall, Esgob Wrecsam am gymryd yr amser i fynychu cyfarfod y Cabinet a chynorthwyo i greu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:

 

(i)            Nodi canfyddiadau'r ymgynghoriad ffurfiol i gau Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ac Ysgol y Santes Ffraid ac i agor ysgol newydd;

(ii)          Cadarnhau'r ymrwymiad tuag at weithio mewn partneriaeth ag Awdurdodau Esgobaethol yr Eglwys Gatholig a'r Eglwys yng Nghymru i ddarparu ysgol newydd sy'n seiliedig ar ffydd;

(iii)         Cytuno i ddatblygu cynnig i alluogi ymgynghori ffurfiol ar gyfer adeiladu ysgol seiliedig ar ffydd newydd yn lle Ysgol Uwchradd Gatholig y Bendigaid Edward Jones ac Ysgol y Santes Ffraid.

 

 

Dogfennau ategol: