Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD CYNNYDD ARCHWILIO MEWNOL
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r wybodaeth
ddiweddaraf am gynnydd diweddaraf y Gwasanaeth Archwilio Mewnol, o ran
darparu’r gwasanaeth, darpariaeth sicrwydd, adolygiadau sydd wedi eu cwblhau,
perfformiad ac effeithiolrwydd o ran gwelliannau.
Cofnodion:
Roedd
copi o adroddiad gan Bennaeth Archwilio Mewnol wedi ei ddosbarthu’n flaenorol.
Cyflwynodd
y Rheolwr Archwilio’r adroddiad ar gynnydd diweddaraf y Gwasanaeth Archwilio
Mewnol o ran darparu gwasanaeth, rhoi sicrwydd, cwblhau adolygiadau,
perfformiad ac effeithiolrwydd o ran hybu gwelliannau.
Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r wybodaeth
ddiweddaraf ynglŷn â
·
darparu’r
Cynllun Sicrwydd ar gyfer 2013/14
·
adroddiadau
Archwilio Mewnol diweddar a gyflwynwyd
·
ymateb rheolwyr
i’r materion a godwyd
·
perfformiad
Archwilio Mewnol
Eglurodd y Rheolwr
Archwilio fod Atodiad 1 yn cynnwys dadansoddiad o waith a wnaed gan Archwilio
Mewnol yn ystod 2013/14, o’i gymharu â’r Strategaeth Archwilio Mewnol. Roedd yn
cynnwys sgorau sicrwydd a nifer y materion a godwyd ar gyfer yr adolygiadau a
gwblhawyd, y diffiniadau a ddefnyddiwyd i roi sicrwydd ar gyfer ein harchwiliad
a’r sgorau a ddefnyddiwyd i asesu’r lefelau risg ar gyfer y materion a godwyd.
Roedd yr adroddiadau canlynol a gyflwynwyd ers Medi
2013 wedi eu dosbarthu:-
-
Cytundebau
Setliad
-
Dirprwy Cyllid
(Llys Gwarchod))
-
Ysgol Brynhyfryd,
Rhuthun
Roedd Crynodebau Gweithredol a Chynlluniau
Gweithredu wedi eu hatodi i’r adroddiad er gwybodaeth bellach.
Roedd ymateb
rheolwyr i faterion a godwyd gan Archwilio Mewnol wedi eu crynhoi ac roedd y
rhan fwyaf o adroddiadau Archwilio Mewnol yn nodi risgiau a gwendidau o ran
rheoli. Roedd y rhain wedi eu sgorio fel risgiau critigol, mawr neu gymedrol ac
roedd rheolwyr wedi cytuno ar gamau i fynd i’r afael â’r risgiau, yn cynnwys
cyfrifoldebau ac amserlenni. Adroddwyd ynghylch pob achos lle’r oedd rheolwyr
wedi methu ag ymateb i waith dilynol, neu os oeddent yn mynd dros y dyddiad
gweithredu y cytunwyd arno o fwy na thri mis. Byddai’r Pwyllgor yn penderfynu a
oedd angen gweithredu pellach.
Roedd gwybodaeth
ynglŷn ag adroddiadau y rhoddwyd sylw dilynol iddynt wedi ei chynnwys yn
yr adroddiad. Cadarnhaodd y Rheolwr Archwilio fod dadansoddiad pellach o’r holl
faterion y rhoddwyd sylw dilynol iddynt wedi ei gynnwys yn yr adroddiad, yn
unol â’r cais mewn cyfarfod blaenorol. Ni ddaeth unrhyw ymateb i law i’r gwaith
dilynol ar dri Chynllun Gweithredu y gofynnwyd amdano ar 1 Hydref 2013.
Anfonwyd neges atgoffa ar 23 Hydref, ond ni chafwyd unrhyw ymatebion mewn pryd
ar gyfer yr adroddiad cynnydd. Fodd bynnag, dywedodd y Rheolwr Archwilio fod
cadarnhad o gynnydd hyd yma wedi ei dderbyn ym mhob achos yn dilyn terfyn amser
yr adroddiad. Roedd manylion am Berfformiad Archwilio Mewnol wedi ei gynnwys yn
yr adroddiad gyda manylion ychwanegol am ganran y gwaith sicrwydd hanfodol, fel
y gofynnwyd yn flaenorol.
Rhoddodd y Rheolwr
Archwilio grynodeb o bob adroddiad a ddosbarthwyd:-
(i)
Cytundeb
Setliad:-
Wrth
ddadansoddi taliadau cyflog ar gyfer 2012/13, fel rhan o brofi’r sicrwydd
ariannol, dywedwyd wrth Aelodau fod chwe thaliad wedi eu nodi fel cytundebau
setliad. Roedd y gwaith a wnaed wedi cynnwys dadansoddi ffeiliau achos ac
ystyried y broses gyffredinol i sicrhau bod:-
·
gan y Cyngor bolisi / cod ymarfer a gweithdrefnau ffurfiol i
ddelio â ‘chytundebau setliad’;
·
bod cytundebau o’r fath yn cael eu hystyried a’u cymeradwyo’n
ffurfiol, yn seiliedig ar achos busnes cadarn;
·
gofyn am gyngor perthnasol ym mhob achos; a
·
bod pob setliad a wnaed yn ystod 2012/13 yn rhesymol a dilys.
Cyfeiriodd
Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol (CD:ECA) at God
ACAS a phwysleisiodd fod ‘cytundebau setliad’ yn ddull cydnabyddedig o ddelio â
materion cyflogaeth, yn y sector preifat a chyhoeddus, ac nad oeddent yn cael
eu hystyried fel rhywbeth i ddisodli arfer rheoli da. Eglurwyd bod y cytundebau
wedi eu defnyddio’n briodol a’u defnyddio ar y cyfan fel y dewis olaf. Hefyd
dywedwyd wrth Aelodau fod yr Adolygiad Archwilio Mewnol wedi bod o fudd mawr ac
wedi nodi’r angen i ffurfioli’r trefniadau ar gyfer dechrau a chymeradwyo
cytundebau setliad. Byddai ffigyrau a ddyfynnwyd yn y wasg wedi cynnwys
taliadau cytundebol y byddai gan weithwyr hawl iddynt waeth beth fyddai’r
cytundeb setliad, ac eglurwyd y byddai’n gamarweiniol cyfeirio at “gytundeb
setliad” fel “gorchmynion cau ceg””.
Roedd y Farn
Archwilio wedi nodi’r angen i’r Cyngor ffurfioli ei drefniadau ar gyfer delio â
‘chytundebau setliad.’ Ar hyn o bryd nid oedd polisi ffurfiol ar gyfer delio ag
achosion nac unrhyw weithdrefnau ffurfiol i’w dilyn i sicrhau cysondeb, tegwch
a natur agored a darparu achos busnes cymeradwy ar gyfer pob cytundeb. Codwyd
tri phrif fater yn y Cynllun Gweithredu yr oedd angen eu trafod a chytuno
arnynt cyn i’r Cyngor negodi ymhellach unrhyw ‘gytundebau setliad’. Roedd copi
o’r Cynllun Gweithredu wedi ei gynnwys a chrynodeb o’r materion, a’r farn a
luniwyd cyn cytuno ar setliad, gan y CD:ECA, a
groesawodd yr argymhellion yn yr adroddiad. Cadarnhaodd y Rheolwr Archwilio fod
gwaith i baratoi’r adroddiad wedi dechrau cyn cyhoeddi erthygl ar gytundebau
setliad yn y wasg.
Cadarnhawyd nad
oedd unrhyw reswm penodol am y cynnydd mewn setliadau yn ystod 2012/13, ar
wahân i gymhlethdodau yn y berthynas rhwng y cyflogwr a’r gweithwyr. Eglurodd CD:ECA nad oedd unrhyw dueddiadau’n ymwneud ag Adrannau
penodol, a bod nifer y setliadau’n ymwneud â staff mewn ysgolion yn cyd-fynd â
chanran y staff a gyflogid yn y Gwasanaeth Addysg. Cyfeiriodd hefyd at
ddimensiwn ychwanegol rôl y Cyrff Llywodraethu Ysgolion o safbwynt rheoli
ysgolion. Dywedwyd wrth Aelodau fod Swyddog Cefnogi wedi ei benodi i roi
cymorth i Gyrff Llywodraethu Ysgolion, ynghyd â darparu hyfforddiant
ychwanegol, a bod swyddogion Cyllid ac Adnoddau Dynol wedi eu penodi i
glystyrau ysgolion i ddarparu cyngor a helpu gyda’r broses reoli. Gofynnodd y
Cadeirydd am wybodaeth ynglŷn â’r gwaith a wneir ar hyn o bryd o safbwynt
hyfforddiant ar faterion cyflogaeth.
Pwysleisiodd
y CD:ECA bwysigrwydd rheolaeth dda o ran arfer Adnoddau Dynol, ac awgrymodd fod
adolygiad yn cael ei gynnal o ddarpariaeth hyfforddiant ar gyfer Cyrff
Llywodraethu. Cyfeiriodd y Cynghorydd M.L.Holland, er ei fod yn derbyn bod
anawsterau, at y posibilrwydd o ddefnyddio arfarniadau perfformiad yn y Gwasanaeth
Addysg.
Cyfeiriodd
Mr P. Whitham at y risg i enw da’r Cyngor ac awgrymodd y dylid ystyried
cyhoeddi gwelliannau, yn y parth cyhoeddus, yn yr adroddiad archwilio. Eglurodd
Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd fod yr adroddiad archwilio’n
cynnig mabwysiadu polisi a gweithdrefn ffurfiol, i’w defnyddio ar draws y
Cyngor, a allai gael ei chyflwyno i’r Pwyllgor ar ôl ei ffurfio.
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, cytunodd Aelodau fod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad
pellach, yn cynnwys copi o’r polisi a’r gweithdrefnau drafft, yn Ionawr 2014.
Hefyd gofynnodd y Cadeirydd fod adroddiad ar faterion cyflogaeth, gweithredu’r
strategaeth Adnoddau Dynol mewn clystyrau ysgolion a darparu hyfforddiant i
Gyrff Llywodraethu Ysgolion yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn Ionawr, 2014.
(ii)
Dirprwy
Gyllid (Llys Gwarchod), ac
(iii) Ysgol Brynhyfryd, Ruthun:-
Cadarnhaodd y
Rheolwr Archwilio fod y ddau adroddiad wedi bod yn gadarnhaol iawn a bod y
Pwyllgor wedi derbyn a nodi cynnwys y ddau.
Roedd Aelodau’r Pwyllgor wedi gofyn yn flaenorol am gyfle i
drafod unrhyw adroddiadau archwilio gan roi sgôr sicrwydd oren neu goch,
sicrwydd isel neu ddim sicrwydd, a gyflwynwyd ar ôl y dyddiad cau ar gyfer
adroddiadau’r Pwyllgor. Dosbarthwyd yr adroddiad ar Gaffael Gwasanaethau
Adeiladu, a gyflwynwyd ar 29 Hydref, 2013, yn y cyfarfod.
(iv) Caffael
Gwasanaethau Adeiladu:-
Cyflwynodd
Pennaeth Cyllid ac Asedau'r adroddiad ac eglurodd fod adolygiad o Gaffael
Gwasanaethau Adeiladu wedi ei gynnal ar gais y Pennaeth Cyllid ac Asedau er
mwyn asesu’r prosesau presennol ar gyfer gwariant ar waith adeiladu a nodi
cyfleoedd i sicrhau effeithlonrwydd. Yn sgil newidiadau sylweddol, a oedd yn
cynnwys ymwneud cynyddol gan gyrff allanol fel Llywodraeth Cymru, roedd angen
diweddaru’r Strategaeth Gaffael bresennol i integreiddio â datblygiad y
Strategaeth Datblygu Economaidd. Amlinellodd yr amserlenni ar gyfer y gwaith
sy’n cael ei wneud a chadarnhaodd fod cwmpas yr adolygiad wedi cynnwys y
strategaeth gaffael, rolau a chyfrifoldebau, polisïau a gweithdrefnau, rhestrau
cymeradwy a thendro a dewis contractwyr. Pwysleisiwyd pwysigrwydd cysylltu â’r
Cyfarwyddiaethau perthynol i sicrhau cysondeb ar draws y Cyngor wrth gydlynu
gwahanol gontractau.
Mewn ymateb i
bryderon a leisiwyd gan y Cynghorydd
P.C. Duffy, eglurodd y Rheolwr Eiddo nad oedd mecanwaith yn ei le i atal
ysgolion rhan cael contractwyr o’u dewis i wneud gwaith ar eu safleoedd.
Cadarnhaodd Pennaeth Cyllid ac Asedau fod ysgolion yn gyfrifol am reoli eu
cyllidebau eu hunain ac amlinellodd yr anawsterau yn eu hwynebu o ran dirprwyo
ac ysgolion. Roedd Rheolwr Caffael Strategol Dros Dro a’r Cydlynydd Cynllunio a
Rheoli Adeiladu wedi mynychu cyfarfod rheolwyr cyllid ysgolion i amlinellu
atebolrwydd a gweithdrefnau caffael o safbwynt ysgolion yn ymgymryd â
gwasanaethau contractwyr. Paratowyd crynodeb o fanylion rolau a chylch gorchwyl
rheolwyr cyllid a busnes ysgolion, mewn perthynas â chlystyrau ysgolion, ar
gyfer Mr P. Whitham.
Mewn ymateb i
gwestiwn gan y Cadeirydd, cadarnhaodd yr Uwch Archwilydd y byddai adroddiad
dilynol ar Gaffael Gwasanaethau Adeiladu yn cael ei baratoi yn Chwefror, 2014,
a gallai adroddiad cynnydd gael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor ym Mawrth,
2014.
Yn dilyn trafodaeth
bellach:-
PENDERFYNWYD – bod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn:-
(a)
nodi
cynnydd a pherfformiad Archwilio hyd yma yn 2013/14.
(b)
derbyn
ac yn nodi’r adroddiadau Archwilio Mewnol diweddar a gyflwynwyd a’r gwaith
dilynol a wnaed.
(c)
gofyn
am adroddiad cynnydd ar Gytundebau Setliad, yn cynnwys copi o’r polisi a’r
gweithdrefnau drafft, i’w cyflwyno i’r Pwyllgor yn Ionawr, 2014, ynghyd â
chynnwys gwybodaeth am faterion cyflogaeth, gweithredu’r strategaeth Adnoddau
Dynol mewn clystyrau ysgolion a manylion am ddarparu hyfforddiant i Ysgolion
a’u Cyrff Llywodraethu, a
(d)
chytuno bod adroddiad cynnydd yn cael
ei gyflwyno yng nghyfarfod y Pwyllgor fis Mawrth, 2014 o safbwynt Caffael
Gwasanaethau Adeiladu.
(PM, IB, BS a LL i weithredu)
Dogfennau ategol:
- Int Audit Progress Report, Eitem 8. PDF 81 KB
- Int Audit Progress Report - Appendix, Eitem 8. PDF 297 KB
- Sum Int Audit Reports, Eitem 8. PDF 508 KB