Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

Y DIWEDDARAF AM Y GYLLIDEB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ddiweddaraf o ran proses pennu cyllideb y Cyngor ar gyfer 2014/15, ac ystyried y swp nesaf o arbedion i'w cynnig i’r Cyngor Sir.

 

 

Cofnodion:

Mewn adroddiad a ddosbarthwyd yn flaenorol gan Bennaeth Cyllid ac Asedau, cafwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am y broses o bennu cyllideb y Cyngor ar gyfer 2014/15, a gofynnwyd i’r Aelodau ystyried y set nesaf o arbedion i’w cyflwyno i’r Cyngor Sir.

 

Roedd gan y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol rôl o oruchwylio’r broses o bennu’r gyllideb, ac mae Atodiad 1 yn cynnwys manylion ynghylch yr arbedion a gynigir.

 

Roedd fersiwn drafft o Setliad Llywodraeth Leol ar gyfer Cymru 2014/15 wedi ei gyhoeddi ar 16 Hydref , 2013.  Y prif ffigyrau oedd:-

 

·                     Gostyngiad ariannol o 3.5% ar gyfartaledd drwy Gymru -

·                     Gan Sir Ddinbych oedd y setliad gwaethaf yng Nghymru sef - 4.6%

·                    Roedd mecanwaith lleddfu wedi ei ddefnyddio i leihau’r effaith yn 2014/15 ond byddai’n cael effaith yn 2015/16

 

Cyfeiriwyd at ansicrwydd ynglŷn â rhai manylion yn y Setliad, yn benodol yn ymwneud â chyllid y Cynllun Lleihau Treth y Cyngor a’r ymdriniaeth o grant ychwanegol Amddifadedd Disgyblion mewn perthynas â’r angen i ddiogelu cyllidebau ysgolion. Y gobaith oedd y byddai manylion yn cael eu hegluro yn dilyn cyfarfod o Gymdeithas Trysoryddion Cymru ar 25 Hydref. Yn ogystal â hyn disgwylid am adolygiad actiwaraidd o Gynllun Pensiwn Clwyd a rhagwelid y byddai adolygiad yn cynyddu costau cyflogwyr. Roedd y Setliad drafft a phwysau eraill wedi golygu bod targed o tua £8.5 wedi ei osod ar gyfer arbedion, er y gallai hwn newid wrth i fanylion ddod yn gliriach. 

 

Yn sgil y broses gyllidebol roedd y Cyngor wedi cymeradwyo arbedion o £1.7m ar gyfer 2014/15 ym Medi, ac ar 21 Hydref, cyflwynodd Gweithdy Aelodau gynigion ychwanegol yn dod i £4.5m.  Roedd Aelodau Arweiniol wedi darparu manylion am yr arbedion, yr effaith ac asesiad risg a byddai’r rhain yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor yn Rhagfyr i’w cymeradwyo. Gallai arbedion pellach i gydbwyso cyllideb 2014/15 gael eu hystyried ar wahân yng Ngweithdy nesaf yr Aelodau yn Rhagfyr, a’u cyflwyno i’r Cyngor eu cymeradwyo yn Ionawr neu Chwefror 2014.

 

Byddai’n bwysig sicrhau bod Aelodau’n cael cyfle i ofyn cwestiynau neu leisio pryderon ynglŷn ag unrhyw un o’r arbedion a oedd yn cael eu cynnig ar gyfer eu cymeradwyo yn Atodiad 1. Roedd yr Aelod Arweiniol a Phennaeth Cyllid ac Asedau wedi cytuno i drafod unrhyw un o’r cynigion yn fanwl cyn eu cyflwyno i’r Cyngor. Roedd y gyllideb yn sail i ddarparu holl flaenoriaethau a gwasanaethau’r Cyngor, ac roedd yr Atodiad yn nodi arbedion o £4.5m ar gyfer 2014/15.  Cytunwyd yn flaenorol ar arbedion o £1.7m a’r targed o ran arbedion ar gyfer 2014/15 fyddai £8.5m.

 

Cyflwynwyd copi o’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor yn y cyfarfod gan Bennaeth Cyllid ac Asedau a thynnwyd sylw at y materion a’r pwyntiau amlwg canlynol. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, eglurodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau, er gwaethaf y datganiad yn Adran Gyllid Gwefan Llywodraeth Cymru, fod gan ALl lai o ddisgresiwn ynglŷn â sut yr oedden nhw’n gwario eu harian, gan gyfeirio’n benodol at y gwahaniaethau yn gysylltiedig â chlustnodi cyllid, diogelu ysgolion a’r gyfarwyddeb gan LC i gynyddu cyllid i ysgolion o 0.9%. Crynhowyd meysydd eraill sy’n dylanwadu ar y gyllideb gan Bennaeth Cyllid ac Asedau. Roedd y rhain yn cynnwys:-

 

-               effaith Cynllun Lleihau Treth y Cyngor.

-               nifer y bobl yn y Sir a oedd yn derbyn budd-daliadau, y math o hawlwyr a lefel y cymorth a ddarparwyd.

-               ansicrwydd ynglŷn â Chynllun Treth y Cyngor.

-               peidio â chlustnodi cyllid ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol yn y flwyddyn ariannol sy’n dod.

-              cynnig Llywodraeth Leol i Lywodraeth Cymru i adolygu grantiau a dderbyniwyd er mwyn cael  mwy o hyblygrwydd.

-               effaith Grant Amddifadedd Disgyblion.

-              cynnydd arfaethedig o 2% yng nghyllideb yr Awdurdod Tân ac Achub.

-              Canlyniadau cynnydd yn nisgwyliad oes hawlwyr Cronfa Bensiwn Clwyd.

-              Manylion Treth Ystafelloedd Gwely, Newidiadau Lles heb gael cymaint o effaith ag a ragwelid.

-              Cyfrif Refeniw Tai, dyddiad gweithredu cymhorthdal tai wedi newid o Ebrill, 2014 i Ebrill, 2015.

-            manylion am braesept Heddlu Gogledd Cymru ddim ar gael eto.

-              wedi cael cadarnhad na fyddai unrhyw effaith ar y gyllideb yn sgil y penderfyniad i ohirio cau St Brigid’s.

 

Darparodd Pennaeth Cyllid ac Asesu fanylion yr amserlenni arfaethedig ynglŷn â’r broses gyllidebol a thynnwyd sylw at yr anawsterau i sicrhau cydbwysedd rhwng darparu gwybodaeth ac amseriad cyfarfodydd. Eglurodd y byddai’r adroddiad a oedd yn cael ei ystyried yn y cyfarfod hwn yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor ar 3 Rhagfyr, 2013 i’w gymeradwyo, ac y byddai’r Gweithdy a gynhelir ar 9 Rhagfyr, 2013 yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r gwahaniaeth o £2m. Teimlai’r Cadeirydd y dylid dosbarthu’r papurau i’w hystyried cyn dyddiad y Gweithdy i sicrhau nad oedd y drafodaeth yn cael ei llesteirio. Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd M.Ll. Davies, cytunwyd y byddai’r papurau o’r Gweithdy diweddar yn cael eu dosbarthu i’r holl Aelodau nad oedd yn bresennol. Pwysleisiwyd y pwysigrwydd o sicrhau presenoldeb Aelodau yn y Gweithdy nesaf, ac adborth yn dilyn hynny.

 

Cytunodd y Pennaeth Cyllid ac Asesu i ddarparu ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd P.C. Duffy ynglŷn â p’un ai a oedd y Cyngor yn gwario llai ar drwsio eu tai o ganlyniad i’r buddsoddiad diweddar.

 

Ar ôl trafodaeth bellach:-

 

PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn:-

 

(a)          derbyn yr adroddiad ac yn nodi’r sefyllfa ddiweddaraf a’r camau nesaf arfaethedig, ac yn

(b)          cymeradwyo’r cam nesaf o arbedion a gynigir gan y Cyngor Sir i’w cymeradwyo’n ffurfiol yn Rhagfyr, 2013.

   (PM i Weithredu)

 

Dogfennau ategol: