Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD ESTYN AR ADDYSG GREFYDDOL MEWN YSGOLION UWCHRADD
Derbyn adroddiad
gan Arweinydd Systemau GwE (copi wedi ei amgáu) yn cyflwyno adroddiad Estyn ar
safonau addysgu a dysgu Addysg Grefyddol o fewn ysgolion uwchradd a gyhoeddwyd
ym mis Mehefin 2013.
Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd Systemau GwE (AS) adroddiad Estyn ar safonau
addysgu a dysgu Addysg Grefyddol o fewn y sector ysgolion uwchradd a gyhoeddwyd
ym mis Mehefin 2013 (dosbarthwyd yn flaenorol). Adroddodd hefyd am
fynychu Cynhadledd CCYSAGC Genedlaethol y diwrnod blaenorol lle trafodwyd
negeseuon allweddol o'r Adolygiad Thematig Estyn ar gyfer Addysg Grefyddol
ynghyd â blaenoriaethau cenedlaethol Llythrennedd a Rhifedd trwy Addysg
Grefyddol. Y prif siaradwyr yn y Gynhadledd oedd -
-
Mark Campion, Estyn - Adolygiad Thematig Estyn ar gyfer
Addysg Grefyddol
-
Richard Roberts, CfBT - Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd
Roedd sampl o 20 o ysgolion uwchradd wedi eu harolygu yng Nghymru fel rhan
o'r astudiaeth (roedd Ofsted wedi ymweld â 70 o ysgolion yn Lloegr) ac roedd yr
adroddiad yn cynnwys safonau yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4, mae cyrhaeddiad
mewn astudiaethau crefyddol TGAU a chyfranogiad ac ymgysylltu mewn dysgu. Roedd hefyd yn
cynnwys ffactorau sy'n effeithio ar safonau gan gynnwys cynllunio'r cwricwlwm,
addysgu, asesu, arweinyddiaeth, gwella ansawdd a dylanwadau allanol. Tynnwyd sylw’r
Aelodau at y prif ganfyddiadau canlynol -
·
Roedd canlyniadau yng Nghymru wedi bod yn gadarnhaol iawn
gyda mwy o ddisgyblion yn ennill cymhwyster mewn AG nag mewn unrhyw bwnc
di-graidd eraill
·
Mae’r niferoedd sy’n cymryd y cwrs TGAU llawn a byr mewn
Astudiaethau Crefyddol wedi codi dros y pum mlynedd diwethaf, gydag ychydig
dros chwarter y disgyblion wedi cofrestru ar y cwrs llawn ac ychydig dros
hanner y disgyblion wedi cofrestru ar y cwrs byr
·
Mae cyrhaeddiad wedi codi'n gyson yn y cwrs llawn ac yn
sylweddol uwch na'r cyfartaledd ar gyfer pynciau eraill ac er bod cyrhaeddiad
wedi disgyn yn y cwrs byr mae perfformiad wedi aros yn gyson well na'r DU
·
Roedd y bwlch mewn cyrhaeddiad rhwng bechgyn a merched yn
ehangach yng Nghymru ar gyfer y ddau gwrs nag ar draws y DU
·
roedd y safonau'n dda yn y mwyafrif o ysgolion yng
Nghyfnod Allweddol 3, ond roedd ychydig o ysgolion lle'r oedd y safonau'n
anfoddhaol ac roedd argymhelliad i sicrhau bod tasgau yn ddigon heriol i
alluogi disgyblion mwy galluog i gyrraedd lefelau uwch - ers cyhoeddi'r
adroddiad darparwyd hyfforddiant ar gyfer athrawon Sir Ddinbych er mwyn gwella
cywirdeb asesiadau athrawon o lefelau disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 3
·
Defnyddiwyd athrawon anarbenigol i addysgu AG a'r cwrs
byr ond anaml y cânt yn eu defnyddio i addysgu'r cwrs llawn - nid oedd athrawon
anarbenigol wedi cael effaith negyddol ar safonau yn y rhan fwyaf o ysgolion
·
Roedd hunan-arfarnu yn dda neu'n well mewn dim ond
lleiafrif o adrannau AG ac roedd yn argymhelliad i gryfhau hunan-arfarnu a
defnyddio data i nodi ble a beth i'w wella
·
Nodwyd bod diffyg cyfleoedd ar gyfer datblygiad
proffesiynol a rhwydweithiau dysgu a oedd yn golygu nad oedd digon o rannu
arfer da ac nad aethpwyd i'r afael â heriau yn effeithiol.
Ymhelaethodd yr AS
hefyd ar yr argymhellion sy'n deillio o'r adroddiad. O ran argymhelliad Llywodraeth Cymru (LlC)
R7 y dylid trin data cyrhaeddiad ar gyfer Addysg Grefyddol ac Astudiaethau
Crefyddol yn yr un modd â phynciau di-graidd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb
na fyddai'n briodol i fwrw ymlaen â'r argymhelliad yng ngoleuni'r adolygiad
cwricwlwm parhaus ar gyfer Cyfnod Allweddol 3. Yr argymhelliad olaf A8 oedd bod
LlC yn gweithio gydag awdurdodau lleol a CYSAG i wella'r cyfleoedd ar gyfer
datblygiad proffesiynol a rhwydweithiau cefnogi dysgu ar gyfer athrawon addysg
grefyddol. Roedd rhwydweithiau wedi diflannu yn Sir Ddinbych ar ôl cael gwared ar y
swyddi ymgynghorydd dysgu ac er mwyn symud ymlaen yr argymhelliad hwnnw,
cynigiwyd y dylid anfon llythyr at Bennaeth Addysg Sir Ddinbych, Karen Evans,
yn holi am gyfleoedd a chefnogaeth i athrawon AG a chynnig cefnogaeth CYSAG
mewn perthynas â hynny. Roedd CCYSAGC hefyd yn ganolog ar ddarparu cefnogaeth ar gyfer athrawon o
dan yr argymhelliad hwnnw.
Trafododd yr Aelodau yr argymhellion ar gyfer
ysgolion a nodwyd yn yr adroddiad a sut orau i fynd i'r afael â'r bwlch
cyrhaeddiad rhwng bechgyn a merched. Nodwyd bod hwn hefyd yn broblem mewn meysydd pwnc eraill a chyfeiriodd y
Cadeirydd at strategaethau lleol a oedd wedi cael eu cyflwyno i fynd i'r afael
ag anghysondebau rhwng y rhywiau yn Sir Ddinbych gyda chanlyniadau cadarnhaol. Dywedodd yr AS fod CCYSAGC wedi
ystyried ei gyfrifoldebau o ran cefnogi athrawon ac yn awyddus i fynd i'r afael
â'r mater drwy ddarparu hyfforddiant. Cytunwyd i gysylltu â'r Pennaeth Addysg, Karen
Evans i holi ynghylch unrhyw strategaethau lleol y gellid eu gweithredu gyda
golwg ar godi cyrhaeddiad bechgyn o ran AG.
Ystyriodd CYSAG hefyd y
canfyddiad nad yw athrawon anarbenigol yn cael effaith negyddol ar safonau yn y
rhan fwyaf o ysgolion a'r angen i godi ymwybyddiaeth o'r mater hwn. Cydnabuwyd nad oedd sgiliau
addysgu yn newid ar draws y pynciau a gallai gwahanol bynciau gael eu dysgu yn
dda gan athrawon anarbenigol. Adroddodd yr AS ar ei brofiad ei hun o ddysgu
AG a phwysigrwydd cynllun gwaith cadarn a chynlluniau gwersi er mwyn rhannu
arfer da a chodi safonau. Fodd bynnag, codwyd rhai pryderon hefyd nad
oedd gan rai athrawon yr wybodaeth a'r brwdfrydedd i addysgu pynciau
anarbenigol a bod angen am athrawon arbenigol. Amlygwyd hefyd bod cyrhaeddiad yn
y cwrs TGAU llawn wedi codi dros y pum mlynedd diwethaf, lle defnyddiwyd athrawon arbenigol ond bod cyrhaeddiad yn y
cwrs TGAU byr wedi gostwng lle defnyddiwyd athrawon anarbenigol. Eglurwyd y rheswm am y cwymp mewn
cyrhaeddiad yn y cwrs byr gan rai ysgolion sy'n defnyddio'r cwrs byr i sicrhau
bod y mwyafrif o'r disgyblion yn derbyn cymhwyster mewn AG a ffrydio’r
ymgeiswyr mwy galluog i'r cwrs llawn. Cododd hyn y cwestiwn ynghylch a fyddai’r
disgyblion hynny sy'n dod i'r cwrs byr wedi cyflawni canlyniad gwell pe baent
wedi cael eu haddysgu gan athrawon arbenigol. Nododd yr Aelodau hefyd fod y cwrs TGAU byr yn werth hanner TGAU llawn
a bod ysgolion yn tueddu i ddewis y cwrs
hwnnw gan y gellid ei wneud yn yr amser sydd wedi'i neilltuo i wneud y gofyniad
cyfreithiol o ran AG – ac felly daeth yr argymhelliad (A2) i ystyried rhoi
cyfle i'r holl ddisgyblion i ennill cymhwyster priodol yng Nghyfnod Allweddol
4.
Wrth drafod safonau cyflawniad amlygodd yr aelodau
na ellid bob amser mesur manteision a gwerth AG mewn cyrhaeddiad academaidd. Awgrymwyd hefyd bod arfer blaenorol CYSAG
o dderbyn cyflwyniadau ar y ddarpariaeth AG ac addoli ar y cyd mewn ysgolion yn
cael ei adfywio.
Ar ddiwedd y drafodaeth, amlygodd Mr Gavin Craigen
ddwy agwedd ar gyflwyniad Mark Campion yn y Gynhadledd CCYSAGC Genedlaethol -
·
y ffaith bod bron pob un o'r disgyblion yn
parchu barn a chredoau pobl eraill a gwerthfawrogi'r hyn maent yn ei ddysgu yn
AG a oedd yn neges gadarnhaol y dylid ei hyrwyddo a'i rhannu ag eraill, a
·
roedd safonau addysgu mewn ysgolion yn
ardderchog gydag ychydig iawn o wersi anfoddhaol ac roedd addysgu mewn AG yn
sylweddol well nag mewn pynciau eraill.
Roedd Mr Craigen yn cefnogi'r cynnig i ysgrifennu
at y Pennaeth Addysg ynghylch rhwydweithiau dysgu ond yn teimlo y dylai'r mater
gael ei archwilio yn y gymuned ehangach a’r trefniadau consortia sydd yn eu lle
ar hyn o bryd. Teimlai hefyd y dylai'r adroddiad gael ei ddwyn i sylw ysgolion i ystyried
yr argymhellion. Wedi trafodaeth bellach -
PENDERFYNWYD:-
(a) derbyn
a chofnodi’r adroddiad, a
(b) anfon
llythyr ar ran CYSAG at y Pennaeth Addysg Sir Ddinbych, Karen Evans, yn gwneud
ymholiadau ynglŷn â’r canlynol -
-
unrhyw
strategaethau lleol y gellid eu gweithredu gyda golwg ar godi cyrhaeddiad
bechgyn o ran AG.
-
cyfleoedd
a chefnogaeth i athrawon AG o ran datblygiad proffesiynol a rhwydweithiau cefnogi
dysgu (gan gynnwys trefniadau consortia) a chynnig cefnogaeth CYSAG yn y
cyswllt hwnnw, a
-
Y
dull gorau i ddwyn yr adroddiad i sylw’r ysgolion i ystyried yr argymhellion
sy’n berthnasol iddyn nhw.
Dogfennau ategol:
- ITEM 9 - ESTYN REPORT ON RE SECONDARY SCHOOLS.W, Eitem 9. PDF 70 KB
- ITEM NO. 9 - ESTYN REPORT - REPORT W, Eitem 9. PDF 627 KB