Eitem ar yr agenda
BUDDIANNAU CYMUNEDOL, CAFFAEL A’R STRATEGAETH UCHELGAIS ECONOMAIDD A CHYMUNEDOL
Derbyn cyflwyniad
gan Caffael Strategol ar Fanteision Cymunedol a sut y maent yn cysylltu â
Chaffael a’r Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol.
Cofnodion:
Cafwyd cyflwyniad gan yr
Uned Caffael Strategol ynglŷn â Buddiannau Cymunedol a sut maent yn
cysylltu â Chaffael a’r Strategaeth Uchelgais Economaidd a Chymunedol.
Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint cafwyd crynodeb manwl
ynglŷn â’r Buddion Cymunedol a Sicrhau'r Gwerth Gorau ar gyfer Arian Cymru
gan y Rheolwr Caffael Strategol Dros Dro a Chynrychiolydd Gwerth Cymru, Adran
Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Llywodraeth Cymru a oedd yn cynnwys y
pwyntiau a'r meysydd amlwg canlynol: -
Diffinio Caffael a Buddion Cymunedol
-
Polisi
Cymunedol, Manteision/Dull Gweithredu Polisi Buddion
Ysgogwyr Buddion Cymunedol
-
Rhaglen Lywodraethu 2011-2016
-
Cynllun Gweithredu Gwrth-dlodi Cymru
-
Datganiad Polisi Caffael Cymru (Rhagfyr 2012)
Beth yw Buddion Cymunedol
-
Datblygu’r cyswllt gyda'r Uchelgais Economaidd a
Chymunedol
Strategaeth
-
Datblygu'r Strategaeth Gymunedol a’r broses ymgynghori
-
Prif Ffocws Polisi
-
Cyfraniad tuag at Addysg
-
Effeithiau Amgylcheddol
-
Cynllun Rhannu Prentisiaeth Gogledd Cymru
Prif Declynnau gogyfer â chael Buddion Cymunedol
-
Teclyn Mesur Buddion Cymunedol
-
Caffael Cynaliadwy, Contractau a Gweithdrefnau Tendro
Blaenoriaethau
Economaidd
-
Busnesau: - Isadeiledd, Hyrwyddo, Trefi a Chymunedau,
Twf a Gweithlu Medrus.
Caffael Cynaliadwy
-
Beth Cyngor Sir Ddinbych yn ei wneud
Llwyddiannau Buddion
Cymunedol a Beth Nesaf
-
Llwyddiant Buddion Cymunedol hyd yma: Ystadegau
-
Canlyniadau / Deilliannau erbyn mis Medi 2013
-
Astudiaeth Achos - Yolo Y Hendry – Gwobr Adeiladu
Arbenigrwydd yng Nghymru 2013 – Enillydd Gwobr Gwerth
Estynnodd y Cadeirydd wahoddiad i Aelodau holi cwestiynau a chafwyd yr
ymatebion canlynol gan swyddogion:-
- Cyfeiriodd y Cynghorydd J.M. McLellan at bolisi
Llywodraeth Cymru ar gaffael moesegol.
Eglurodd y Rheolwr Caffael
Strategol Dros Dro fod y Cyngor yn cael ei arwain gan reoliadau caffael y
Deyrnas Unedig ac Ewrop, a chadarnhaodd y byddai Datganiad Polisi Caffael
Llywodraeth Cymru yn gorfodi ac yn sicrhau y cedwir at brosesau a gweithdrefnau
teg, a fyddai'n cynnwys gwneud defnydd o gytundebau dim oriau. Rhoddodd
amlinelliad o’r gweithdrefnau a fabwysiadwyd er mwyn monitro contractwyr
anaddas neu rai sydd wedi eu cosbrestru a hysbysodd yr Aelodau fod swyddogion,
o ganlyniad i reoli contractau’n effeithiol, yn gweithio'n agos gyda
chontractwyr a chyflenwyr i sicrhau y cedwir at bolisïau a thelerau ac amodau.
- Darparwyd manylion ynglŷn ag achosion o
weithio ar y cyd gydag Awdurdodau cyfagos. Eglurwyd
bod canllawiau Llywodraeth Cymru ynglŷn â rheoliadau ariannol wedi cael eu
defnyddio i gynhyrchu dogfen y gellir ei haddasu a'i defnyddio gan bob un o’r
Awdurdodau.
- Cyflwynodd Cynrychiolydd Gwerth Cymru, Adran
Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, Llywodraeth Cymru fanylion cymhwyso’r
Polisi Buddion Cymunedol i gontractau sydd werth llai na £2m. Cyfeiriodd
at y ffaith fod Fframwaith Gogledd Cymru yn faes allweddol mewn perthynas â
busnesau llai, ac yn benodol mewn perthynas â chyflwyno cyfrifon banc prosiect
sydd wedi mynd i’r afael â materion sy'n ymwneud â thalu oddi fewn i’r gadwyn
gyflenwi.
-
Cafwyd
cadarnhad y byddai rhaglen o hyfforddiant yn cael ei darparu i Aelodau
Etholedig ac i swyddogion.
- Byddai datblygwyr yn y sector preifat yn cael eu
hannog i gwmpasu gofynion Buddion Cymunedol o fewn unrhyw ddatblygiadau i’r
dyfodol.
-
Sicrhawyd
yr Aelodau bod Cyngor Sir Ddinbych yn cydymffurfio â thelerau’r contractau y
cytunwyd iddynt mewn perthynas â gwneud taliadau am gyflenwi o fewn cyfnod
penodedig o 30 diwrnod.
-
Cadarnhaodd
y Rheolwr Caffael Strategol Dros Dro fod Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio'n agos
gyda Busnes Cymru i ddarparu cymorth i fusnesau bach.
-
Eglurodd
y Prif Weithredwr y gallai busnesau fod yn sicr y byddai Llywodraeth Cymru yn
setlo anfonebau, ond ni fedrai roi sicrwydd y byddai taliadau'n cael eu gwneud
o fewn yr amserlen y cytunwyd iddi.
-
Amlygodd y Cynghorydd E.W. Williams y
problemau a wynebir wrth geisio cyllid i gychwyn prosiectau cymunedol. Awgrymodd
bod y Pwyllgor Archwilio Cymunedau yn ystyried y posibilrwydd o greu cronfa i
gynorthwyo cychwyn prosiectau sydd wedi
cael sicrwydd cyllid. Eglurodd y Rheolwr Caffael Strategol Dros
Dro bod gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd gyda'r Tîm Rhaglen Corfforaethol
i fynd i'r afael â hyn.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, diolchodd y Cadeirydd a'r Aelodau i'r swyddogion
am eu cyflwyniad llawn gwybodaeth.
PENDERFYNWYD - bod y Cyngor yn
derbyn ac yn nodi cynnwys y cyflwyniad.