Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

POLISI DIOGELU CORFFORAETHOL

Ystyried adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles (copi wedi’i amgáu) sy’n cynnig mabwysiadu Polisi Diogelu Corfforaethol a sefydlu Panel Diogelu Corfforaethol Aelodau/Swyddogion ar y cyd.

 

 

Cofnodion:

 

Roedd copi o adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles, a oedd yn cynnig mabwysiadu Polisi Diogelu Corfforaethol a sefydlu Cyd-banel Diogelu Corfforaethol o blith aelodau/swyddogion, wedi ei ddosbarthu gyda phapurau’r cyfarfod.

 

Cyflwynodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles yr adroddiad ac eglurodd fod dull gweithredu rhagweithiol Cyngor Sir Ddinbych o sicrhau cydymffurfiaeth â’r cyfrifoldebau diogelu wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.  Er gwaethaf bod ag ystod o ddulliau gweithredu, ni allai Cyngor Sir Ddinbych fod yn hyderus fod arferion diogelu cadarn wedi gwreiddio ar draws holl swyddogaethau’r Cyngor.  Manylwyd ar sut y datblygwyd y dulliau gweithredu a fabwysiadwyd er mwyn cynnal proffil corfforaethol a chadw trosolwg dros faterion diogelu.

 

Esboniwyd na chafwyd erioed unrhyw eglurder nac adnoddau penodedig gogyfer â’r prif gyfrifoldeb yr oedd angen ei weithredu ledled sefydliad amlswyddogaeth cymhleth.   Mae sawl adroddiad awdurdodol o’r bron, gan gynnwys rhai Waterhouse, Laming a Sir Benfro, wedi ei gwneud yn gwbl glir fod heriau i gadernid trefniadau diogelu wedi esblygu mewn amryw o wahanol lefydd, a bod rhaid i ddiogelu fod yn "Fater i Bawb”.

 

Yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf, roedd Cyngor Sir Ddinbych wedi datblygu sawl dull gweithredu gogyfer â chynnal proffil corfforaethol a chadw trosolwg dros faterion diogelu a manylwyd ar y rhain yn yr adroddiad.   

 

Ynghyd â’r adroddiad, cylchredwyd fersiwn ddrafft o Bolisi a Chanllawiau Diogelu Corfforaethol a oedd wedi’u seilio i raddau helaeth ar yr hyn a fabwysiadwyd yng Ngwynedd yn ddiweddar yn dilyn Arolwg Estyn ac yn sgil y gofynion a amlinellwyd gan yr Arolygiaeth.  Byddai’r cynnig a gyflwynwyd yn rhoi datblygiad rhesymegol i’r gwaith yr ydym eisoes wedi’i wneud ar y Fframwaith Atebolrwydd Corfforaethol ac ar y Cynllun Gweithredu Diogelu Corfforaethol.  Nod y polisi a’r canllawiau fyddai sefydlu dull strwythuredig o sicrhau fod diogelu yn fater y mae pob gwasanaeth yn y Cyngor a phob aelod etholedig yn mynd i’r afael ag o.  Hysbyswyd yr Aelodau gan Gyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles y byddai rheolwr dynodedig ym mhob gwasanaeth a fyddai'n gyfrifol am gydlynu gweithgareddau diogelu ac am ddarparu cyngor i staff y gwasanaeth.

 

Roedd prif agweddau’r polisi a’r canllawiau wedi’u crynhoi yn yr adroddiad ac roedd rhagor o fanylion yn yr Atodiadau mewn perthynas â:-

 

-  gwybodaeth sylfaenol ynglŷn ag arwyddion o gamdriniaeth a llwybrau atgyfeirio – a fyddai’n cysylltu â gweithdrefnau diogelu plant ac oedolion.

-  adran ddefnyddiol ynglŷn â Chod Ymddygiad ac arferion Gweithio Diogel.

-  adran yn amlinellu’r gefnogaeth o ran hyfforddiant y byddid yn ei chynnig ar y dechrau, ac y byddai angen ei datblygu dros amser.

-  croesgyfeirio gyda Pholisïau Recriwtio Diogel, yr Adran Adnoddau Dynol.

-  canllawiau i Gynghorwyr ynglŷn â chyswllt diogel.

-  ymdrin â honiadau o gamdriniaeth broffesiynol, gan gynnwys cysylltiadau â gweithdrefnau diogelu plant ac oedolion.

 

Esboniodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles y byddai’r pecyn yn cynnig dull credadwy o sicrhau fod diogelu yn ystyriaeth gorfforaethol, ac yn meithrin dull gweithredu cyson ac atebolrwydd ac y byddai wedi ei deilwra i’r materion sy'n wynebu gwasanaethau penodol.   Byddai’r prif oblygiadau o ran cost yn driphlyg a chawsant eu hamlinellu yn yr adroddiad.  Cafwyd cadarnhad y gall fod goblygiadau cadarnhaol o fabwysiadu’r Polisi a’r trefnau Panel, yn enwedig gogyfer â phobl hŷn a phobl anabl, ac nid oedd unrhyw oblygiadau negyddol wedi eu dynodi.

 

Er bod y canllawiau’n brin ar hyn o bryd, roedd yr Adran Adnoddau Dynol yn gweithio i gynhyrchu polisi ynglŷn â’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol.  Cafwyd cadarnhad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles y byddai cylch gorchwyl y gwaith pellach a wneir yn y maes hwn yn cael ei ymgorffori o fewn cylch gorchwyl y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.  Hysbyswyd y Cabinet fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cynhyrchu dogfen ganllaw ynglŷn â defnydd Aelodau Etholedig o gyfryngau cymdeithasol ac y gallai hynny fod o gymorth.

 

Roedd y Cabinet a’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol wedi ystyried ac wedi mynegi eu cefnogaeth i fabwysiadu’r Polisi, y Canllawiau a’r Panel.  Fodd bynnag, tynnodd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol sylw at rai materion yn ymwneud â chysondeb mewnol y ddogfen, sydd ers hynny wedi cael eu cyfarch.  Roedd yr Aelodau wedi gwneud rhai awgrymiadau penodol ynglŷn ag ychwanegiadau i’r polisi/eitemau ar gyfer y rhaglen waith, yn benodol yn ymwneud â chyngor a chanllawiau arfer da ym maes technoleg/cyfryngau cymdeithasol. Roedd y rhain wedi eu derbyn a chynigiwyd datblygu gwaith ar bolisi sengl a fyddai’n cyfarch goblygiadau cyfreithiol, Adnoddau Dynol a diogelu.  Roedd yr awgrym y dylid adolygu’r Polisi Diogelu/Canllawiau/Panel ar ôl 3 blynedd wedi ei dderbyn, ac roedd dyddiad adolygu ffurfiol wedi'i ychwanegu at flaen y Polisi.

 

Darparodd Cyfarwyddwr Corfforaethol Moderneiddio a Lles yr wybodaeth a’r ymatebion canlynol i gwestiynau gan yr Aelodau: -

 

-               byddai rhaglen o hyfforddiant a chopi o'r Polisi Diogelu yn cael ei ddarparu i bob aelod o staff addysgu a staff ategol mewn ysgolion.

-                 roedd penaethiaid gwasanaethau wedi cael cais i ddynodi Rheolwyr Dynodedig erbyn diwedd mis Hydref, 2013.

-                mae polisïau yn ymwneud â defnyddio'r Rhyngrwyd sy'n seiliedig ar ysgol unigol eisoes yn weithredol, a byddai proses hunan-asesu yn ymwneud â diogelu ac amddiffyn plant yn cael ei chynnal ym mhob ysgol.

-               roedd materion yn ymwneud â defnyddio cyfryngau cymdeithasol wedi cael ei ddynodi fel maes o waith i'w wneud. 

-       creu Polisi Diogelu yn seiliedig ar dri maes gwaith presennol.  Roedd y rhain yn cynnwys dogfen ganllaw Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar ddefnydd Aelodau Etholedig o’r cyfryngau cymdeithasol, diweddariad gan yr Adran Adnoddau Dynol i’r Polisi Cyfryngau Cymdeithasol mewn perthynas â gweithwyr, a gwaith sy'n digwydd mewn perthynas ag Agweddau ar Ddiogelu ac ymddygiad priodol oedolion.

-      manylion yr hyfforddiant a drefnwyd gan y Gweithiwr Cymdeithasol Addysg: Arweinydd Tîm Llywodraethwyr Ysgolion. 

-          fod cynnal archwiliad blynyddol o bob ysgol yn fenter effeithiol i sicrhau y cedwir at y Cynllun Gwella Ysgolion a’r cyfrifoldebau Diogelu.

-        cyfeiriwyd at y fframwaith canllawiau statudol a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru "Diogelu Plant mewn Addysg" sy’n cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd.

-       bod ymrwymiad yn y Cynllun Mawr i fwrw ymlaen â dynodi gofalwyr ifanc.  Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid yw nifer y gofalwyr ifanc mewn ysgolion yn hysbys.

 

Mewn ymateb i bryderon a leisiwyd gan y Cynghorydd S.A. Davies ynglŷn â chynnwys bod hyfforddiant diogelu yn ofyniad gorfodol i bob Aelod Etholedig, pwysleisiodd y Prif Weithredwr bwysigrwydd yr angen ar i'r Cyngor sicrhau fod pob Aelod Etholedig yn derbyn hyfforddiant mewn Diogelu, a phwysleisiodd y gallai methu â gwneud hynny arwain at feirniadaeth hallt.  Amlygodd y Cynghorydd J.M. McLellan y goblygiadau cyfreithiol posibl pe na bai pob Aelod Etholedig yn dilyn hyfforddiant Diogelu.

 

Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd cynigiodd y Cynghorydd S.A. Davies welliant, sef bod y gair "gorfodol" yn cael ei ddileu o argymhelliad 3 yr adroddiad, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd H. Hilditch-Roberts.  O'i roi i bleidlais, collwyd y gwelliant gyda 33 pleidlais o blaid a 0 yn erbyn.  Pleidleisiodd yr Aelodau ar yr argymhelliad yn yr adroddiad ac fe’i pasiwyd o 35 pleidleisiau o blaid a 0 yn erbyn.

 

PENDERFYNWYD - y bydd y Cyngor yn:-

 

(a)           cytuno i fabwysiadu’r Polisi Diogelu Corfforaethol.

(b)           cytuno i sefydlu Panel Diogelu Corfforaethol gyda’r cylch gorchwyl a ddisgrifiwyd yn Atodiad 8 yr adroddiad, a

(c)           chadarnhau fod hyfforddiant diogelu yn ofyniad gorfodol i bob aelod etholedig o fewn 12 mis o’u hethol.

          (SE i weithredu)

 

 

Dogfennau ategol: