Eitem ar yr agenda
ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2012-13
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad (copi wedi’i atodi)
ar Adroddiad Perfformiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2012-13.
Cofnodion:
Roedd copi o
adroddiad gan y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad ynglŷn â fersiwn
ddrafft Adroddiad Perfformiad Blynyddol y Cyngor ar gyfer 2012-13 wedi cael ei
gylchredeg ynghyd â phapurau’r cyfarfod.
Roedd diweddariad yn ymwneud
ag Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2012/13 wedi cael ei gylchredeg cyn y
cyfarfod.
Eglurodd y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad fod gofyn i’r Cyngor
gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar ei berfformiad erbyn 31 Hydref bob blwyddyn. Bu angen gwneud
penderfyniad er mwyn cymeradwyo fersiwn ddrafft Adolygiad Perfformiad Blynyddol
2012-13, Atodiad I yr adroddiad.
Roedd Cynllun Corfforaethol 2012/17 y Cyngor yn nodi cyfeiriad strategol y
Cyngor a’i flaenoriaethau dros gyfnod o bum mlynedd. Roedd manylder
ynglŷn â’r hyn yr oedd y Cyngor yn bwriadu ei wneud bob blwyddyn i
gynorthwyo gyda chyflawni’r blaenoriaethau wedi eu nodi yn y Cynlluniau
Gwasanaethau Blynyddol ac yn Nogfen Gyflawni Flynyddol y Cynllun Corfforaethol. Roedd gan y
Cyngor nifer o amcanion cydraddoldeb yn y Cynllun Cydraddoldeb Strategol,
ynghyd â nifer o Gytundebau Canlyniadau gyda Llywodraeth Cymru.
Roedd yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol yn darparu
gwerthusiad ôl-syllol o lwyddiant y Cyngor wrth gyflawni’r ymrwymiadau hynny yn
ystod 2012-13, ac yn rhoi arwydd p’un ai y cyflawnwyd y rhwymedigaeth gogyfer â
gwneud trefniadau i sicrhau gwelliannau parhaus yn llwyddiannus ai peidio. Atgoffwyd yr Aelodau mai blwyddyn gyntaf y
Cynllun oedd hon ac y gellir defnyddio ffigyrau’r flwyddyn nesaf at ddibenion
cymharu.
Nid oedd angen cynnal Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb gogyfer â’r
adroddiad hwn gan mai darparu gwerthusiad ôl-syllol o berfformiad y Cyngor a
wnâi, a chan na fyddai’r penderfyniad i gymeradwyo’r adroddiad yn effeithio ar
bobl y mae’r nodweddion a ddiogelir yn gyffredin iddynt. Fodd bynnag,
cafodd Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb, Atodiad 1, ei gynnal ar y Cynllun
Corfforaethol ei hun ac roedd hwnnw wedi cael ei gyflwyno i’r Cyngor yn dilyn
ei gymeradwyo ym mis Hydref 2012.
Roedd yr adroddiad wedi cael ei ddatblygu gan y Tîm Gwella Corfforaethol,
mewn ymgynghoriad â gwasanaethau eraill y Cyngor. Roedd yr wybodaeth ynglŷn â pherfformiad a
oedd wedi ei chynnwys yn y ddogfen wedi cael ei darparu gan y gwasanaethau, ac
wedi cael eu dwyn ynghyd yn defnyddio system rheoli perfformiad Ffynnon. Ymgynghorwyd
â’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad ym mis Medi 2013
cyn cyflwyno’r adroddiad ger bron y Cyngor Sir i’w gymeradwyo.
Mewn ymateb i gwestiynau’r Cynghorydd H.Ll. Jones, eglurwyd y gallai
cyflwyno ffigyrau canran mewn perthynas â Chynghorwyr benywaidd yn Sir Ddinbych
ac yn Genedlaethol fod yn fwy cyfeillgar i'r defnyddiwr. Cadarnhawyd fod
gwaith i ddatblygu strategaeth ar gyfer cyrbiau isel yn cael ei ddatblygu ar
hyn o bryd ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno ger bron y Cyngor wedi i’r
gwaith fod wedi ei orffen.
Eglurodd y Cynghorydd H.H. Evans fod materion y mae angen eglurhad yn eu
cylch ac y byddai darlun cliriach yn dod i’r amlwg yn sgil y datblygiadau
economaidd arfaethedig a ddaw wedi i’r Grŵp Tasg a Gorffen ystyried
effaith y blaenoriaethau. Cadarnhaodd y byddai gwybodaeth fanwl mewn
perthynas â datblygu dull gweithredu strategol yn cael ei gyflwyno ger bron y
Cyngor. Hysbyswyd yr Aelodau fod y targedau a osodwyd wedi
bod yn fwy heriol a bod hynny wedi cynhyrchu disgwyliadau uwch a gwell lefel o
berfformiad.
Ymatebodd y Prif Weithredwr i
gwestiwn gan y Cynghorydd C. Hughes ynghylch y setliad llai a ragwelir oddi
wrth Lywodraeth Cymru gan gyfeirio at y ffaith i’r Cyngor fabwysiadu Cynllun
Corfforaethol uchelgeisiol. Eglurodd bod disgwyliadau’r Cyngor wedi codi a’i fod wedi
ymbellhau oddi wrth dargedau traddodiadol a theimlwyd y byddai'r gyllideb
arfaethedig sy’n cael ei chyflwyno i'r Aelodau o gymorth wrth ddiogelu prif
amcanion y Cynllun Corfforaethol. Fodd bynnag, eglurodd y gallai fod rhywfaint o ansicrwydd
o ganlyniad i ddiffyg eglurder ynghylch cytundebau setliadau i’r dyfodol.
Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd H. Hilditch-Roberts,
cyfeiriodd y Pennaeth Busnes, Cynllunio a Pherfformiad at y dull cyflwyno a
fabwysiadwyd. Esboniodd fod y lliwiau sydd wedi eu darparu yn yr
adroddiad yn dangos i ba gyfeiriad yr eir ac y gellir defnyddio hynny at
ddibenion dadansoddi, tra bo’r ffigurau a gynhyrchwyd yn dangos tueddiadau. Ymatebodd
hefyd i gwestiynau pellach gan Aelodau a rhoi manylion ynglŷn â’r Arolwg
Preswylwyr a dderbyniodd fwy na 18,000 o ymatebion.
PENDERFYNWYD - bod y Cyngor yn
cytuno ar fersiwn ddrafft Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2012-13 er mwyn
galluogi ei gyfieithu a’i gyhoeddi cyn 31 Hydref 2013.
Dogfennau ategol:
- Ann Perf Review Report, Eitem 7. PDF 55 KB
- ANnn Perf Review EIA, Eitem 7. PDF 169 KB
- Ann Perf REPORT, Eitem 7. PDF 1003 KB
- Ann Perf SUP, Eitem 7. PDF 108 KB