Eitem ar yr agenda
ADDYSG UWCH YNG NGOGLEDD ORLLEWIN CYMRU
Ystyried
cyflwyniad gan Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr yn amlinellu datblygiadau
diweddaraf addysg uwch yng ngogledd ddwyrain Cymru ac yn gofyn am sylwadau’r
Pwyllgor arnynt.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd yr Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol
Glyndŵr i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor yn dilyn adolygiad
diweddar ar Addysg Uwch - yn enwedig mewn perthynas â gweithio gyda busnesau
lleol (prentisiaethau) a'r effaith ar yr economi leol.
Teimlai’r Athro
Scott fod yr amseriad yn arwyddocaol gan fod adroddiad Syr Adrian Webb newydd
gael ei gyhoeddi. Er ei bod yn rhy gynnar i wneud sylw, teimlai na fyddai’n
cynnwys llawer o bethau annisgwyl. Y disgwyl oedd y byddai'r adroddiad yn cael
ei drafod yn fanwl ym mis Rhagfyr.
Dywedodd yr Athro
Scott iddi fod yn flwyddyn lwyddiannus gydag adolygiad gan y corff achredu
proffesiynol yn rhoi adroddiad gwych fel y gwnaeth adolygiad o raddau sylfaen.
Er i'r newid yn y
trefniadau ariannu arwain at ostyngiad yn niferoedd y myfyrwyr y llynedd - 645
o Sir Ddinbych - maent wedi cynyddu eto yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Mae
tua 22% o fyfyrwyr Sir Ddinbych yn mynd ymlaen i Addysg Uwch ym Mhrifysgol
Glyndŵr.
Mae'r Brifysgol
yn parhau i gynnal gwaith ymchwil arloesol
wrth gynhyrchu drychau ar gyfer telesgop mwyaf y byd. Ym mis Medi,
cyflawnodd y Brifysgol y lefel ofynnol o gywirdeb ar gyfer drychau caboledig,
am y tro cyntaf yn y byd - 10 nanometr. Mae'n dal angen i Arsyllfa De Ewrop
wirio eu cywirdeb, ond y gobaith yw y gallai hyn arwain at gynhyrchu, gan
gynnwys swyddi a phrentisiaethau yn Sir Ddinbych.
Prosiectau
ymchwil eraill sy’n denu sylw rhyngwladol yw'r templedi torri diemwnt – sy’n
cynhyrchu amddiffynwyr sgriniau ar gyfer cyfrifiaduron tabled ac ati – a’r
ymchwil i dechnegau cynhyrchu newydd ar gyfer creu celloedd ynni solar.
Diolchodd y
Cadeirydd i’r Athro Scott am ei gyflwyniad a gofynnodd i'r Aelodau am unrhyw
gwestiynau.
Mynegwyd pryder
ynghylch y penawdau papur newydd y bore hwnnw a oedd yn adrodd ar safle gwael
honedig y brifysgol o blith prifysgolion y DU. Eglurodd yr Athro Scott fod y
tabl safleoedd yn gamarweiniol gan mai gwirfoddol oedd y gofyniad i gyflwyno'r
wybodaeth. Nid oedd rhai sefydliadau yng Nghymru wedi cyflwyno data – gallai eu
perfformiad fod yn waeth. Roedd yn bosibl fod yr holl sefydliadau yn y DU nad
oedd wedi cyflenwi’r wybodaeth wedi gwneud yn waeth na'r rhai a gyflenwodd y
wybodaeth, a gallai hyn ystumio'r canlyniadau a nodwyd yn yr adroddiad papur
newydd.
Cafwyd trafodaeth
wedyn ynglŷn â’r ystod o gyrsiau a gynigir yn y Brifysgol, effaith y
cynnydd mewn ffioedd cyrsiau a'r rhagolygon ar gyfer graddedigion. Roedd y rhan
fwyaf o raddedigion yn dod o hyd i waith yng Nghymru, llwyddodd 94.2% o
raddedigion ddod o hyd i waith o fewn 6 mis. Y cyflog cychwynnol cyfartalog i
raddedigion oedd yr ail uchaf yng Nghymru.
Prifysgol Glyndŵr oedd y brifysgol
gyntaf i wahaniaethu rhwng cost cyrsiau, a chodwyd y ffioedd uchaf o £8000 ar
fyfyrwyr peirianneg. Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymhorthdal
tuag at ffioedd pob myfyrwyr sy’n byw yng Nghymru, ond mae rhai wedi awgrymu y
dylid ond talu’r cymhorthdal yn y dyfodol i fyfyrwyr o Gymru sy'n astudio mewn
prifysgolion yng Nghymru.
PENDERFYNWYD fod
y Pwyllgor yn gofyn i'r Athro Scott ddarparu adroddiad ysgrifenedig pellach
iddynt, er gwybodaeth, yn amlinellu'r wybodaeth ganlynol:
1. datblygiadau cyfredol a datblygiadau i
ddod ar gyfer y Brifysgol yn lleol;
2. y gwasanaethau addysg a ddarperir i
fyfyrwyr Sir Ddinbych
3. data ar fyfyrwyr o Sir Ddinbych a oedd yn
cofrestru a’u cymwysterau (gan gynnwys dilyniant e.e. prentisiaethau,
cyflogaeth neu Addysg Bellach)
4. gwybodaeth am sut y mae'r Coleg yn
gweithio gydag ysgolion a sefydliadau addysg bellach Sir Ddinbych sy'n addysgu
trigolion Sir Ddinbych;
5. gwybodaeth ariannol, h.y. cyllid a
gwariant;
6. trefniadau partneriaeth gyda sefydliadau
addysgol eraill a diwydiant
7. blaenoriaethau’r Brifysgol ar hyn o bryd,
a’i gweledigaeth a’i huchelgeisiau tymor hir
8. gwybodaeth
ar sut mae busnes craidd y Brifysgol yn cael ei ddatblygu a'i deilwra i
ddiwallu a chefnogi anghenion datblygu economaidd Gogledd-ddwyrain Cymru wrth
iddynt esblygu
9. goblygiadau casgliadau adolygiad Syr Adrian Webb i
Brifysgol Glyndŵr, gan gynnwys y cynnig y dylai'r Brifysgol ffederaleiddio
gyda Choleg Cambria, a sut y mae'r Brifysgol yn bwriadu ymateb i ganfyddiadau'r
adolygiad