Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGU TRWYDDED GYRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - RHIF 044473

Ystyried adroddiad cyfrinachol Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi'i amgáu) yn gofyn i aelodau benderfynu a yw Gyrrwr Rhif 044473 yn gymwys i dderbyn Trwydded Cerbyd Hacni a Cherbydau Hurio Preifat.    

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nad yw’r honiadau yn erbyn Gyrrwr Rhif 044473 wedi eu profi ac felly nad oes angen gweithredu pellach.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd eisoes)  ar –

 

(i)            addasrwydd Gyrrwr Rhif 044473 i ddal trwyddedau i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat;

 

(ii)          roedd y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2013 wedi gohirio ystyried yr adroddiad yn absenoldeb y Gyrrwr er mwyn rhoi cyfle pellach iddo gyflwyno ei achos (roedd dyfyniad o’r cofnodion wedi’i atodi i’r adroddiad);

 

(iii)         roedd pryderon wedi’u codi gan y Swyddogion Gorfodi Trwyddedu ynglŷn ag ymddygiad y gyrrwr trwyddedig ar nifer o achosion unigol yn dilyn digwyddiad ar 27 Chwefror 2013 (roedd crynodeb o’r ffeithiau ynghyd â datganiadau tystion wedi eu hatodi i’r adroddiad), a

 

(iv)         gofynnwyd i’r Gyrrwr i fod yn bresennol mewn cyfarfod i gefnogi ei adolygiad trwydded ac ymateb i gwestiynau aelodau ar hynny.

 

Cadarnhaodd y Gyrrwr a’i Gynrychiolydd Cyfreithiol eu bod wedi derbyn yr adroddiad a threfnau’r pwyllgor.  Gwnaed cais i oedi’r gwrandawiad ar y sail bod cyfeiriad anghywir wedi’i wneud at bwerau deddfwriaethol yr Awdurdod Lleol yn yr adroddiad.  Yn dilyn gohiriad i ystyried y cynnig, dywedodd y Cadeirydd fod y pwyllgor wedi cytuno i ohirio’r mater i gyfarfod arbennig er mwyn caniatáu i’r anghywirdeb gael ei gywiro.  Er mwyn sicrhau eglurder, ailadroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y cyngor a roddwyd ganddo yn ystod y sesiwn gaeedig.   Yn dilyn ymgynghoriad byr gyda’i glient, dywedodd y Cynrychiolydd Cyfreithiol ei fod yn barod i barhau â’r gwrandawiad er waethaf yr anghywirdeb ac ail ddechreuodd y gwrandawiad. 

 

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu (JT) yr adroddiad a manylion yr achos.

 

Darllenwyd datganiad a roddwyd gan y Gyrrwr a roddodd rywfaint o wybodaeth gefndir yn tystio i’w gymeriad gan gynnwys hanes cyflogaeth, amgylchiadau teuluol a'i waith yn y gymuned leol.  Amlygwyd nad oedd wedi bod yn destun cwyn ers dod yn yrrwr trwyddedig yn 2006. Ymatebodd y Cynrychiolydd Cyfreithiol i’r cyhuddiadau a fanylwyd yn yr adroddiad a chyflwynodd y dystiolaeth a ganlyn hefyd –

 

·        dau ddatganiad gan dystion i’r digwyddiadau ar 27 Chwefror a 26 Mawrth 2013

·        trawsgrifiad o’r sgwrs gyda Swyddog yr Heddlu ar 27 Chwefror 27 2013

·        llythyr dyddiedig 22 Mawrth 2013 gan yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr ynglŷn â’r camau a gymerwyd ar 27 Chwefror 2013

·        e-bost dyddiedig 17 Medi 2013 gan Heddlu Gogledd Cymru mewn ymateb i gŵyn ffurfiol yn ymwneud â’r digwyddiad ar 27 Chwefror 2013. 

 

Cwestiynodd yr Aelodau’r Gyrrwr ar eu fersiwn o’r digwyddiadau a’i ymddygiad gyda’r gwahanol swyddogion ar yr achlysuron a fanylwyd yn yr adroddiad.  Ymatebodd y Gyrrwr hefyd i gwestiynau a godwyd ynglŷn â’i ymwneud â’r swyddogion trwyddedu.

 

Yn ei ddatganiad terfynol, ategodd y Cynrychiolydd Cyfreithiol nad oedd gweithdrefnau cywir wedi’u dilyn gan swyddogion penodol ar 27 Chwefror a oedd wedi arwain at y digwyddiadau dilynol.

 

Ar y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PENDERFYNWYD nad oedd yr honiadau a wnaed yn erbyn Gyrrwr Rhif 044473 wedi’u profi ac na ddylid gweithredu o gwbl.

 

Dyma oedd y rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Roedd yr Aelodau wedi ystyried yr adroddiad a’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr achos hwn yn ofalus.  Ni ddaeth y pwyllgor o hyd i unrhyw dystiolaeth i gyfiawnhau cyflwyno’r gosb ac nid oeddynt wedi’u bodloni fod prawf o’r cyhuddiadau a wnaed mewn perthynas ag ymddygiad y Gyrrwr.  O ganlyniad, nid oedd angen cymryd unrhyw gamau pellach.

 

Cyfleodd y Cadeirydd benderfyniad y pwyllgor a’r rhesymau dros hynny i Yrrwr Rhif 044473 a’i Gynrychiolydd.  Gofynnodd hefyd i’r Gyrrwr gydweithredu’n llawn gyda swyddogion trwyddedu mewn unrhyw gyswllt yn y dyfodol.

 

Ar y pwynt hwn (10.50 am) cafwyd egwyl.

 

 

Dogfennau ategol: