Eitem ar yr agenda
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR
Derbyn yr
wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr Pwyllgor sy’n aelodau o Fyrddau a
Grwpiau'r Cyngor.
12.05 p.m. – 12.10 p.m.
Cofnodion:
Cafwyd crynodeb
byr gan y Cynghorydd Richard Davies ar yr Her Gwasanaethau Cwsmer a Chefnogaeth
Addysg a fynychodd. Trafodwyd y pynciau canlynol.
Addysg:
·
Roedd pob ysgol angen bod yn addas i’r pwrpas. Mae angen
cyfeirio at y lleihad mewn niferoedd a gweithio ar sut i leihau’r nifer o
leoedd yn weddill ac sydd ar hyn o bryd yn 21% yn uwch na tharged LlC.
·
Ysgol
Ffydd Newydd
·
Ystafelloedd
Dosbarth Symudol
·
Buddsoddi
mewn ysgolion hŷn
·
Buddsoddi
mewn ysgolion arbennig (yn arbennig oherwydd y risg gyda lleihad mewn niferoedd yn y dyfodol yn Ysgol Plas
Brondyffryn o ganlyniad i’r buddsoddiad diweddar yn Ysgol y Gogarth).
·
Roedd cynllun gweithredu yn ei le ar gyfer absenoliaeth
ac roedd hynny bellach yn gwella.
·
Darpariaeth
a thâl tuag at gludiant ôl 16. O
bosib byddai'n mynd allan i dendr y flwyddyn nesaf.
Gwasanaeth
Cwsmer:
·
Roedd
yna wella parhaus
·
Herio
gwasanaeth Rheoli Cyswllt Cwsmer a'i fonitro trwy gydol y 12 mis nesaf.
·
Gwefan
newydd sy’n haws i’w defnyddio
·
Disgwylir
arbedion effeithlonrwydd arfaethedig o
gwmpas £30K
Adroddodd y Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams ei fod wedi mynychu cyfarfod
yn ddiweddar gyda’r Pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden. Trafodwyd y
risgiau o gwmnïau hyd braich. Gofynnodd y Cynghorydd Lloyd-Williams a oedd modd
cyflwyno adroddiad i Archwilio ynglŷn â pherfformiad y cwmnïau hyn. Cadarnhaodd y
Cyfarwyddwyr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol, y byddai’n
cyflwyno’r mater i’r Tîm Corfforaeth Gweithredol (TCG) i drafod perfformiad y
cwmnïau hyd braich ac i benderfynu ar ba agweddau y dylai archwilio edrych arno
a phryd y dylid gwneud hynny. Byddai angen llunio rhestr lawn o’r holl gwmnïau
hyd braich.
Cadarnhaodd y
Cynghorydd Geraint Lloyd-Williams bod cwmni wedi dod at y Cyngor yn dangos
diddordeb mewn cynnal hanner marathon yn y Rhyl. Roedd yna hefyd bosibilrwydd o gynnal pedwar
digwyddiad enfawr ar draws y sir.
Fe fynychodd y
Cynghorydd Gareth Sandilands y Grŵp Buddsoddi Strategol yn ddiweddar. Roedd
trafodaethau'r Grŵp yn cynnwys:
·
Dechrau’n
Deg
·
Rhaglen
Dai Gorllewin y Rhyl
·
Agor
Ffos Ail Ryfel Byd yng Nghastell Bodelwyddan
Mynychodd y Cynghorydd Arwel Roberts gyfarfod o Grŵp Monitro Safonau
Ysgolion (SSMG) yn ddiweddar a dywedodd
fod yr Arweinydd Arweiniol a'r Pennaeth Addysg wedi bod yn drylwyr iawn wrth
gwestiynu a herio’r unigolion a oedd yn cynrychioli’r ysgolion. Yr ysgolion a fynychodd oedd Ysgol Esgob Morgan,
Llanelwy - dyma ysgol hynod o hapus ac yn ysgol dda - ac Ysgol Gallt Melyd -
dyma ysgol dda iawn. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 11 Tachwedd 2013 a
bydd Ysgol Stryd y Rhos ac Ysgol Brynhyfryd yn mynychu.
Hysbysodd y
Cynghorydd Huw Jones yr aelodau o'i ymweliad â'r Rhyl ar ddydd Mercher 23
Hydref. Bu mewn cyfarfod ‘Ras Dynol’ i drafod y ras Etape. Roedd
y cwmni yn eiddgar i symud pethau ymlaen. Gwelodd gynrychiolwyr o gwmnïau yr Arena Digwyddiadau, y Llyn Morol a Phont y Ddraig ac maent wedi
dangos diddordeb brwd mewn trefnu digwyddiad o Gonwy i Brestatyn, o bosib yn
cynnwys rhedeg, beicio a sgiliau BMX.
Mynegodd y
Cynghorydd Bill Cowie ei bryder ar y pwynt hwn fod ystafelloedd dosbarth dros
dro yn broblem enfawr yn y sir.