Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DEDDF DELWYR METEL SGRAP 2013

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd David Smith (copi wedi’i amgáu) ar drefn rheoleiddio ddiwygiedig ar gyfer delio mewn metel sgrap a diwydiannau datgymalu cerbydau

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cyng. David Smith yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, a oedd yn manylu ar ddarpariaethau Deddf Delwyr Metel Sgrap 2-13 ac yn gofyn am gymeradwyo'r pwerau wedi eu dirprwyo a ffioedd yr Awdurdod. 

 

PENDERFYNWYD - bod y Cabinet yn:-

 

(a)          dirprwyo pwerau Deddf Delwyr Metel Sgrap i Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd. 

(b)          dirprwyo’r penderfyniad i fabwysiadu lefel y ffi ar gyfer trwyddedau Metel Sgrap i Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, gyda chymeradwyaeth gan yr Aelod Arweiniol, a

(c)          caniatáu i Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd adolygu'r ddeddfwriaeth o ran Delwyr Metel Sgrap yn dangos bathodynnau adnabod.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr adroddiad, a ddosbarthwyd yn flaenorol, oedd yn manylu ar ddarpariaethau Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013 a gofyn am gymeradwyo’r pwerau dirprwyol a gosod ffioedd a awgrymwyd i’r Awdurdod.

 

Esboniodd yr PCGC bod y Ddeddf Delwyr Metel Sgrap 2013 yn diddymu Deddf Delwyr Metel Sgrap 1964 a Rhan 1 o Ddeddf Cerbydau (Trosedd) 2001 ac yn cyflwyno trefn reoleiddio ddiwygiedig ar gyfer diwydiannau delwyr metel sgrap a datgymalu cerbydau, a bydd yn darparu fframwaith deddfwriaethol cryf yr oedd y Cyngor ei hangen er mwyn rhoi pŵer i’r Cyngor a’r Heddlu i frwydro yn erbyn troseddwyr sy’n anrheithio’r wlad o fetel, ac yn cryfhau a chefnogi delwyr metel sgrap cyfreithlon.   Mae rheoleiddio delwyr metel sgrap wedi’i ddiwygio i fynd i’r afael â'r effaith fawr y mae ladradau metel yn ei gael ar yr economi, trwy gyflwyno Deddf Delwyr Metel Sgrap 2013.

 

Mae’r Ddeddf yn rhoi pŵer i Awdurdodau Lleol i reoleiddio’r diwydiannau drwy ddarparu pŵer i wrthod rhoi trwydded a thynnu trwydded yn ôl os yr ystyrir fod y deliwr yn anaddas.   Byddai penderfynu a ydynt yn anaddas yn dibynnu ar nifer o ffactorau gan gynnwys unrhyw euogfarn troseddol perthnasol.   Bydd y Ddeddf yn rhoi pŵer mynediad ac arolygu addas i’r awdurdodau lleol a swyddogion yr heddlu ac yn rhoi pŵer i gau safleoedd heb awdurdod.  

 

Bydd y Ddeddf yn creu dau fath gwahanol o Drwydded Metel Sgrap, un ai “Trwydded Safle” neu “Trwydded Casglwyr Symudol”.   Bydd yn rhaid i Gasglwr Symudol gael trwydded ym mhob ardal Awdurdod Lleol y maent yn gweithredu ynddynt.   Bydd Corff Cyfoeth Naturiol Cymru yn cadw cofrestr gyhoeddus.  Bydd unrhyw ddeliwr sydd wedi’u cofrestru dan Ddeddf Delwyr Metel Sgrap 1964, neu weithredwr arbed ceir sydd wedi cofrestru dan Ddeddf Cerbydau (Trosedd) 2001, yn cael parhau i weithredu’n gyfreithlon, gyda’r amod eu bod yn gwneud cais am drwydded o dan y Ddeddf newydd erbyn 15 Hydref 2013. Bydd eu trwyddedau cyfredol yn parhau i fod yn ddilys nes bod yr Awdurdod Lleol yn rhoi trwydded newydd, ac mae trefniadau trosglwyddo wedi’u gweithredu trwy Orchymyn Dechrau.

 

Esboniodd y PCGC, ar ôl 1 Hydref 2013 na all ymgeiswyr sydd heb gofrestru o dan Ddeddf Delwyr Metel Sgrap 1964 neu Ddeddf Cerbydau (Trosedd) 2001 weithredu’n gyfreithlon nes y bydd ganddynt drwydded.   Bydd y gwaith o orfodi darpariaethau Deddf 2013 yn llawn yn dechrau o 1 Rhagfyr 2013. Dan Ddeddf 1964 roedd rhaid i Awdurdodau Lleol gofrestru unrhyw un sy’n rhoi gwybod iddynt eu bod yn gweithredu fel deliwr metel sgrap.  Dan Ddeddf 2013 bydd yr Awdurdodau Lleol yn gallu gwrthod rhoi trwydded pan benderfynir nad yw’r ymgeisydd yn unigolyn addas i weithredu fel deliwr metel sgrap.   Mae canllawiau ar gael i asesu addasrwydd ymgeiswyr.

 

Pan fydd y Cyngor yn ystyried ei bod yn hanfodol gwrthod rhoi trwydded, amrywio trwydded neu dynnu trwydded yn ôl yna mae’n rhaid iddynt roi cyfle i’r ymgeisydd / trwyddedai wneud sylwadau ar lafar.   Mae Canllawiau Cymdeithas Llywodraeth Leol ynglŷn â’r Ddeddf yn argymell mai Pwyllgor Trwyddedu’r Awdurdod Lelol yw’r corff priodol i wrando ar y fath sylwadau.   Gall unigolyn sy’n anfodlon gydag unrhyw benderfyniad gyflwyno apêl i Lys yr Ynadon.

 

Gellir dirprwyo’r gwaith o ddyfarnu ceisiadau sydd heb wrthwynebiad, neu mewn achosion lle nad oes amheuaeth ynglŷn ag addasrwydd ymgeisydd, i’r Swyddogion Trwyddedu.

 

Mae pwerau eraill sydd wedi’u cynnwys yn y Ddeddf yn cynnwys:-

 

·                Arddangos trwyddedau

·                Delwyr i gynnal gwiriadau cerdyn adnabod ar ddarparwyr metel sgrap

·                Delwyr i gadw cofnodion o unrhyw sgrap a dderbyniwyd neu a waredwyd

·                Gwahardd taliadau arian parod.  Dim ond siec na ellir ei drosglwyddo neu drosglwyddiad arian y gellir ei dderbyn fel taliad.

·                Awdurdodau Lleol a’r Heddlu i fynd i arolygu safleoedd trwyddedig

·                Addasu neu wrthod addasu trwydded

·                Tynnu trwydded yn ôl

·                Cau safleoedd gyda Gorchymyn Cau gan Lys Ynadon

·                Sefydlu Cofrestr Cyhoeddus, gan Asiantaeth yr Amgylchedd a Chyfoeth Naturiol Cymru, o’r holl unigolion a busnesau sydd wedi’u trwyddedu fel delwyr metel sgrap.   

 

I roi amser i Awdurdodau Lleol brosesu ceisiadau, mae’r Swyddfa Gartref wedi gweithredu proses drosglwyddo.  Bydd y trefniadau trosglwyddo yn cael eu gweithredu drwy orchymyn cychwyn gan ganiatáu i Gynghorau osod ffi trwydded ar gyfer ceisiadau o 1 Medi.   Bydd hefyd yn nodi fod adrannau eraill y Ddeddf yn dechrau ar 1 Hydref, ar wahân i’r rhan fwyaf o’r prif droseddau a gofynion yn ymwneud â gorfodaeth, fydd yn dechrau ar 1 Rhagfyr.   Eithriad i hyn fydd gwahardd defnyddio arian parod i dalu am fetel sgrap fydd yn dod i rym ar 1 Hydref hefyd.  

 

Roedd Deddf 2013 yn creu pŵer codi ffioedd i ganiatáu i Awdurdodau Lleol adennill costau ac mae canllawiau wedi’u darparu gan y Swyddfa Gartref.  Bydd rhaid i’r Awdurdodau Lleol gydymffurfio â Chyfarwyddiaeth Gwasanaethau’r UE a Rheoliadau Darpariaeth Gwasanaethau 2009. Gall yr Awdurdod godi ffi sy’n adlewyrchu gwir gost prosesu cais trwydded yn unig a gwirio cydymffurfiaeth ag amodau’r drwydded a gofynion y Ddeddf.   Cyhoeddwyd canllawiau’r LGA a’r Swyddfa Gartref yn ymwneud â gweithredu’r Ddeddf a gosod ffioedd ym mis Awst ar ôl oedi sylweddol. 

 

Esboniodd y PGCD y drefn ddeddfwriaethol mewn perthynas â’r broses awdurdodi a chadarnhaodd y bydd y mater yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Sir i’w gymeradwyo.  Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Arweinydd, amlinellodd y PCGC y broses ymgynghori a chadarnhaodd yr ymgynghorir â’r Delwyr Metel Sgrap ynglŷn â’r broses sefydlu ffioedd.

 

Cytunodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd i gais gan y Cynghorydd D. Simmons i archwilio’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r angen i Ddelwyr Metel Sgrap arddangos bathodynnau adnabod ac awdurdodi.

 

 

PENDERFYNWYD - bod y Cabinet yn cymeradwyo:-

 

(a)          dirprwyo pwerau Deddf Delwyr Metel Sgrap i Bennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd. 

(b)          dirprwyo’r penderfyniad i fabwysiadu lefel y ffi ar gyfer trwyddedau Metel Sgrap i’r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, gyda chymeradwyaeth gan yr Aelod Arweiniol, a

(c)          dylai’r Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd archwilio’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â’r angen i Ddelwyr Metel Sgrap arddangos bathodynnau adnabod.

 

 

Dogfennau ategol: