Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD CWYNION BLYNYDDOL

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid ac Addysg (copi ynghlwm) a oedd yn darparu trosolwg o gŵynion, canmoliaethau ac adborth a gafwyd yn ystod y cyfnod rhwng 01.04.12 a 31.03.13.

 

 

Cofnodion:

Roedd copi o adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid ac Addysg (PCA), sy’n rhoi trosolwg o gwynion, canmoliaethau ac adborth a dderbyniwyd gan Sir Ddinbych yn ystod y cyfnod o 01.04.12 tan 31.03.13, wedi’i gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod.

 

Cyflwynodd y PCA yr adroddiad a chadarnhaodd y byddai aelodau’r cyhoedd yn cael eu hannog i anfon cwynion.  Eglurodd na ddylid ystyried y nifer o gwynion a dderbyniwyd yn beth negyddol gan fod hwn yn fodd o dderbyn gwybodaeth ddefnyddiol y gellid ei defnyddio i wella safon y gwasanaethau a ddarparwyd.   Mynegodd y Cynghorydd M.L. Holland ei gefnogaeth i’r polisi ac amlygodd y rhinweddau o ran rhoi cyfle a dull o ddadansoddi cwynion a dderbyniwyd.    

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o’r nifer a’r math o adborth a dderbyniwyd yn ystod 2012/13, gwybodaeth ynglŷn ag adroddiad blynyddol a llythyr ategol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a manylion datblygiad polisi yn y dyfodol a fyddai’n effeithio ar ‘Eich Llais’.  Clywodd Aelodau fod y polisi wedi’i hyrwyddo a’i gyhoeddi fel ‘Eich Llais’.

 

Roedd y penawdau ar gyfer 2012/13 wedi’u rhestru yn Atodiad 1 yr adroddiad:-

 

·                Roedd nifer yr adborth a gofnodwyd wedi cynyddu o’i gymharu â 2011/12:

 

§  cwynion o 12%, o 587 i 660

§  canmoliaethau o 88%, o 436 i 820

§  nid oedd newid o ran awgrymiadau ar 16 o awgrymiadau

 

·                Cynyddodd y nifer o gwynion a ddeliwyd yn llwyddiannus â nhw ar gam 1 i 94.2%, cynnydd o 2.6% ers y llynedd.

·                Roedd nifer y cwynion y deliwyd â nhw o fewn y terfynau amser yn parhau i wella, gan gyflawni 91%, er na chyflawnwyd y targed corfforaethol o 95%.

·                Roedd 51% o'r holl gwynion wedi’u cadarnhau neu eu cadarnhau’n rhannol, cynnydd o 13% ers y llynedd.

 

Nododd Aelodau fod 38 o gwynion wedi’u gwneud i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.  Roedd y nifer hwn yn uwch na’r cyfartaledd o 25 ar gyfer Awdurdodau Lleol Cymru, ac roedd y manylion wedi’u cynnwys yn Atodiad 2.

 

Roedd tri adroddiad Adran 21 wedi’u rhoi.  Rhoddwyd yr adroddiadau hyn pan fod corff cyhoeddus yn cytuno i weithredu unrhyw argymhellion a wnaed gan yr Ombwdsmon.  Cafwyd cadarnhad ei fod yn fodlon nad oedd lles y cyhoedd wedi’i gynnwys.  Roedd crynodebau o’r adroddiadau wedi’u cynnwys fel Atodiad 3.

 

Cafwyd llai o gwynion ynglŷn ag Aelodau yn mynd yn groes i’r cod ymddygiad.  Derbyniwyd 4 yn 2012/13 o’i gymharu â 9 a dderbyniwyd yn 2011/12.

 

Roedd amlinelliad o’r newidiadau bwriedig i ‘Eich Llais’ wedi’i gynnwys yn Atodiad 4. Cyfeiriwyd at y diwygiad i ‘Eich Llais' a oedd yn ymgorffori’r polisi cwynion, canmoliaethau ac adborth.

 

Roedd manylion y broses ymgynghori wedi’u hymgorffori yn yr adroddiad ac yn cynnwys:-

 

·      Rhoi gwybod yn fisol i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth.

·      Adroddiadau Chwarterol i’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad.

·      Rhoi gwybod yn flynyddol i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.

·      Ymgynghori gyda’r Gwasanaethau Cyfreithiol a swyddogion cwynion y gwasanaethau ynglŷn â newidiadau i ‘Eich Llais’.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd a’r Cynghorydd S.A. Davies, rhoddodd y PCA fanylion ymgysylltiad a rhan Aelodau yn y broses gwynion, ac amlinellodd y dull wedi’i gydlynu a fabwysiadwyd ar gyfer delio â chwynwyr blinderus posibl, a oedd yn cynnwys enwebu swyddog penodol i ddelio â mater penodol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Mr P. Whitham, eglurwyd fod adroddiadau yn cael eu cyflwyno yn fisol i’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth, y Pwyllgorau Archwilio a gellid eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor.  Roedd cwynion yn ymwneud ag ysgolion, gan gyfeirio’n benodol at dderbyniadau ysgol, yn cael eu monitro gan yr ysgolion a chytunwyd y gellid darparu gwybodaeth ar dueddiadau’n ymwneud â blynyddoedd blaenorol ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor a’u cynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD – fod:-

 

(a)          y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn ac yn nodi’r newidiadau a arweiniodd at y polisi cwynion, canmoliaethau diwygiedig – ‘Eich Llais’, a

(b)           darparu gwybodaeth ar dueddiadau yn ymwneud â blynyddoedd cynt i Aelodau’r Pwyllgor a’u cynnwys mewn adroddiadau yn y dyfodol.

(JW i Weithredu)

 

 

Dogfennau ategol: