Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHEOLI TRYSORLYS

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill (copi wedi’i amgáu) sy’n sôn am fuddsoddiadau a benthyciadau’r Cyngor yn ystod 2012/13 ac yn darparu manylion o ran y sefyllfa economaidd bryd hynny a sut bu i’r Cyngor gydymffurfio â’i Ddangosyddion Darbodus

 

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cyng. Julian Thompson-Hill yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, ar weithgareddau Rheoli Trysorlys y Cyngor, buddsoddiadau a benthyciadau 2012/13 gan gynnwys trosolwg o gefndir economaidd y flwyddyn.

 

PENDERFYNWYD - bod y Cabinet yn:-

 

(a)  nodi’r Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2012/13.

(b)  gofyn i’r pryderon a godwyd o ran Benthyca Darbodus yr HRH gael eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad, a ddosbarthwyd yn flaenorol, ynglŷn â gweithgareddau Rheoli Trysorlys y Cyngor, buddsoddi a benthyca yn ystod 2012/13, a rhoddodd drosolwg o gefndir economaidd y flwyddyn. 

 

Esboniodd y Cynghorydd Thompson-Hill bod Cod Ymarfer Rheoli Trysorlys CIPFA yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Cyngor baratoi adroddiad blynyddol ar weithgarwch y trysorlys yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol.    Gofynnir i’r Cyngor nodi perfformiad dull Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2012/13 a’i gydymffurfiaeth â’r Dangosyddion Darbodus, fel yr adroddwyd yn yr Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2012/13.

 

Mae RhT yn cynnwys rheoli benthyca, buddsoddiadau a llif arian y Cyngor, gydag oddeutu £0.5bn yn llifo drwy gyfrifon banc y Cyngor yn flynyddol.  Swm y benthyciadau cyfredol oedd £133.26m, gyda thâl cyfradd llog blynyddol cyfartalog o 5.77%.    Ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn byddai gan y Cyngor rhwng £20-£35m i’w fuddsoddi a oedd ar hyn o bryd yn ennill 0.80% ar gyfartaledd.

 

Cadarnhawyd bod y Cyngor wedi ymgynghori gyda’i ymgynghorwyr trysorlys, Arlingclose Ltd. Mae llywodraethu RhT yn cael ei graffu gan y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn ystod y flwyddyn ac maent wedi adolygu’r Adroddiad RhT Blynyddol ar gyfer 2012/13 cyn ei gyflwyno i’r Cabinet.  Cadarnhaodd y Cynghorydd J.M. McLellan, Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol, bod y Pwyllgor wedi cefnogi perfformiad swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2012/13 a’i gydymffurfiaeth â’r Dangosyddion Darbodus, fel yr adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2012/13.

 

Ymatebodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau i gwestiwn gan y Cynghorydd H. Ll. Jones a rhoddodd esboniad ynglŷn â pham na chaniateir i’r Cyngor ailgyllido dyledion.

 

Pwysleisiwyd bod RhT yn rhan hanfodol o waith y Cyngor.  Roedd yn gofyn am strategaeth gadarn a rheolaethau priodol i ddiogelu arian y Cyngor, i sicrhau ein bod yn derbyn adenillion ar fuddsoddiadau a’n bod yn rheoli dyled yn effeithiol ac yn ddoeth.   Cyfeiriodd y Pennaeth Cyllid ac Asedau at y pedwar prif ysgogwr twf ac eglurodd bod hyder defnyddwyr wedi arwain at rywfaint o dwf yn ddiweddar.  Bydd penderfyniadau buddsoddi a benthyca da yn caniatáu symud adnoddau ychwanegol i wasanaethau eraill.   Amlygwyd effaith y Cyfrif Refeniw Tai ar Gyllideb Refeniw’r Cyngor i’r Aelodau a chyfeiriwyd yn benodol at Atodiad B, cydymffurfio â dangosyddion darbodus 2012/13:-

 

·                     Rhagamcan a Gwir Wariant Cyfalaf.

·                     Rhagamcan a Gwir Gymhareb costau ariannu i’r llif refeniw net.

·                     Gofyniad Cyllido Cyfalaf.

·                     Cyfyngiad a Awdurdodwyd a Therfyn Gweithredol ar gyfer Dyledion Allanol.

·                    Terfynau Uchaf ar gyfer Cyfraddau Llog Sefydlog a Chyfraddau Llog Amrywiol.

·                     Strwythur Aeddfedu benthyca ar Gyfradd Sefydlog.

·                     Cyfanswm y prif symiau a fuddsoddwyd am gyfnodau hirach na 364 diwrnod.

·                     Mabwysiadu Cod Rheoli Trysorlys CIPFA

      

Roedd yr adroddiad yn crynhoi pwrpas yr Adroddiad RhT Blynyddol sef:-

 

·                    cyflwyno manylion cyllid cyfalaf, benthyca, ad-drefnu dyledion a thrafodion buddsoddi yn 2012/13.

·                    adrodd ar oblygiadau risg penderfyniadau a thrafodion trysorlys.

·                    cadarnhau cydymffurfiad â therfynau trysorlys a Dangosyddion Darbodus.

 

Mae risg cynhennid yn perthyn i RhT ac mae’r Cyngor yn monitro a rheoli’r risgiau posibl fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ond cadarnhawyd y byddai’n amhosibl cael gwared ar y risgiau yn gyfan gwbl.  Caiff strategaeth a threfnau RhT y Cyngor eu harchwilio’n flynyddol a bu’r adolygiad archwilio mewnol diweddaraf yn gadarnhaol ac nid oedd unrhyw faterion sylweddol yn codi.

 

Gwnaed cyfeiriad at ddiddymu’r System Cymhorthdal Tai yng Nghymru.  Roedd Llywodraeth Cymru wedi trafod fod y Trysorlys yn rhoi swm iddynt am adael y System Gymhorthdal, ac  effaith hyn ar Sir Ddinbych fyddai swm cyfalaf o £40m a fyddai’n cael ei fenthyca ar ddyddiad penodol.   Eglurodd y Prif Gyfrifydd y byddai’r swm am adael y system yn well cytundeb na’r System Gymhorthdal.

 

Cefnogodd y Cabinet farn y Cynghorydd E.W. Williams y bydd Sir Ddinbych yn cael eu cosbi am geisio sicrhau arfer gwaith da a chytunodd y dylid mynegi’r pryderon a godwyd ynglŷn â Benthyca Darbodus mewn perthynas â’r Cyfrif Refeniw Tai i Lywodraeth Cymru.

 

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet: -

 

(a)  yn nodi’r Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2012/13, ac yn

(b)  gofyn am gael cyfleu pryderon ynglŷn â Benthyca Darbodus mewn perthynas â’r Cyfrif Refeniw Tai i Lywodraeth Cymru.

 

 

Dogfennau ategol: