Eitem ar yr agenda
AROLWG LLETY SWYDDFA GOGLEDD CYMRU
Ystyried
adroddiad gan y Cyng. Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau,
(copi’n amgaeedig) yn gofyn i’r Cabinet gymeradwyo cynigion rhesymoliad
swyddfeydd ar gyfer gogledd Sir Ddinbych ynghyd â fformwleiddiad cynlluniau
datblygu tymor hir.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet -
(a) yn cymeradwyo
symud o swyddfeydd Tŷ Nant, Prestatyn (yn amodol ar ganfod defnydd arall
i’r adeilad) fel y dewis a ffafrir (dewis 3, paragraffau 4.7-4.9) ar gyfer
ad-drefnu swyddfeydd yng ngogledd y Sir.
(b) yn cymeradwyo
cynnal ymarfer marchnata ar gyfer adeilad Tŷ Nant, Prestatyn, ar sail les
tymor canolig er mwyn hwyluso symud staff Cyngor Sir Ddinbych o’r adeilad, a
(c) yn cymeradwyo
ffurfio Briff Cynllunio i hwyluso cynllun datblygu tymor hir ar gyfer safle Prestatyn
(amlinellwyd mewn coch yn Atodiad 1) a datblygu briff dylunio ac astudiaeth
ddichonolrwydd ar gyfer swyddfeydd newydd yn y Rhyl.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, yr Aelod Arweiniol dros
Gyllid ac Asedau’r adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i gynigion
rhesymoli swyddfeydd Gogledd Sir Ddinbych ynghyd â ffurfio cynlluniau datblygu
tymor hir.
Amlinellodd yr adroddiad y gwaith a gynhaliwyd mewn perthynas ag
Adolygiad Llety Swyddfa Gogledd Sir Ddinbych ynghyd ag amlinelliad o’r
ystyriaethau a’r argymhellion strategol. Ymhelaethodd y Cynghorydd
Thompson-Hill ar y rhesymeg y tu cefn i’r cynigion terfynol a oedd yn cynnwys
gwagio swyddfeydd Tŷ Nant, Prestatyn yn amodol ar nodi defnydd arall.
Roedd y cynigion tymor hir yn cynnwys datblygiad posibl i safle Prestatyn ac
adeilad swyddfa newydd yn y Rhyl. Cyfeiriwyd hefyd at yr ymarfer ymgynghori a’r
pryderon a godwyd ynghyd â’r ymatebion i’r rheiny. Cynghorodd y Cynghorydd
Barbara Smith fod yr adolygiad yn rhan o’r strategaeth foderneiddio ac amlygodd
ymwneud y Bwrdd Moderneiddio yn y broses a phwysigrwydd bwrw ymlaen â’r
cynigion cyn gynted â phosibl.
Roedd y Cabinet yn hapus bod cynnydd yn cael ei
wneud wrth adolygu asedau a mynd i’r afael â’r mater o adeiladau dros ben.
Cwestiynodd yr aelodau amryw agweddau ar y broses adolygu llety swyddfa a’r
canfyddiadau er mwyn bodloni eu hunain bod y cynigion terfynol wedi rhoi’r
ffordd orau ymlaen. Wrth roi sylwadau ar yr adroddiad, mynegodd yr aelodau
bryder penodol mewn perthynas â’r cyflwr gwael a’r costau uchel sy’n
gysylltiedig â 6 – 8 Ffordd Llys y Nant. Ymatebodd y Cynghorydd Julian
Thompson-Hill a’r swyddogion i gwestiynau a sylwadau’r aelodau fel a ganlyn –
·
cydnabuwyd
pryderon mewn perthynas â chyflwr gwael a chost uchel 6 – 8 Ffordd Llys y Nant
gan roi manylion y rhesymau pam na chafodd ei gynnwys yn y cam cychwynnol ond
yr eir i’r afael â nhw fel rhan o’r cynigion tymor hwy
·
dan
yr arfer presennol, byddai costau symud yn cael eu talu i staff sy’n cael eu
heffeithio a fyddai’n teithio ymhellach i’r gwaith o ganlyniad i’r cynigion
·
cytunwyd
y gallai ansicrwydd o gwmpas y cynigion fod yn annifyr i’r staff ac os bydd y
Cabinet yn cymeradwyo’r argymhellion, byddent yn cael eu symud ymlaen cyn
gynted â phosibl gan fod yn sensitif i’r staff a chan ddefnyddio cyn lleied o
ymyrraeth â phosibl
·
ymhelaethwyd
ar rôl y Gwasanaethau Eiddo, Adnoddau Dynol a TGCh yn y broses i sicrhau trawsnewid
llyfn a hwyluso arferion gwaith eraill
·
darparwyd
sicrwydd mewn perthynas â’r trefniadau prydlesu ar gyfer Ffordd Brighton gan
fod y landlord yn dymuno cadw’r Cyngor fel tenant
·
darparwyd
rhai arbedion dangosol oedd yn codi o’r cynigion o ran costau gweithredu a
phrydlesu ond byddai ffigurau mwy pendant yn cael eu cynhyrchu yn dilyn yr
ymarfer marchnata a ffurfio’r achos
busnes.
Roedd y Cynghorydd Hugh Irving yn ystyried Tŷ Nant yn ased gan
ddangos ymrwymiad a phresenoldeb y Cyngor yn y dref a chododd bryderon mewn
perthynas ag effaith economaidd y cynigion. Teimlai nad oedd yn gwneud synnwyr
busnes i barhau i brydlesu 64 Ffordd Brighton pan oedd y Cyngor yn berchen ar
Dŷ Nant yn gyfan gwbl ac awgrymwyd y gallai Ffordd Brighton gael ei
wagio’n rhannol a’i symud i Brestatyn i leihau costau rhent. Mynegodd amheuon
hefyd am ddod o hyd i denant ar gyfer Tŷ Nant a gofynnodd am sicrwydd,
petai’r cynigion yn cael eu cymeradwyo, y byddai Tŷ Nant yn aros i gael ei
ddefnyddio hyd nes y deuir o hyd i denant. Darparwyd yr ymatebion canlynol:
·
rhoddwyd
sicrwydd y byddai Tŷ Nant yn parhau’n barod i’w ddefnyddio hyd nes i’r
ymarfer marchnata gael ei gyflawni i benderfynu ar ddiddordeb a gwerth
·
rhagwelwyd,
ar yr amod bod y Cyngor yn hyblyg, y gellid dod o hyd i denant yn gyflym – ond
os na ellid dod o hyd i denant, byddai’r mater yn mynd nôl i’r Cabinet i’w
ystyried ymhellach
·
cynigiwyd
nad oedd staff yn Nhŷ Nant yn cyfrannu’n sylweddol at economi’r dref a
fyddai’n cael ei liniaru mewn unrhyw ddigwyddiad yn sgil sicrhau tenant newydd
a buddsoddiad sylweddol potensial o ddatblygu’r safle i’r dyfodol
·
roedd
prydlesu 64 Ffordd Brighton yn cynrychioli gwerth da am arian.
Yn ystod dadl, derbyniwyd bod gan y Cyngor ormod o
le swyddfa ac roedd angen iddo gael ei ostwng yn unol ag anghenion cyflawni
gwasanaethau ac er mwyn gwneud arbedion ar gostau. Yng ngoleuni canfyddiadau’r
adolygiad llety, y consensws oedd nad oedd achos busnes i gadw Tŷ Nant a
chefnogodd y Cabinet yr argymhellion fel a osodwyd yn yr adroddiad fel y dewis
gorau i resymoli llety swyddfa yng Ngogledd y sir.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet –
(a) yn cymeradwyo gwagio swyddfeydd Tŷ
Nant Prestatyn (yn amodol ar nodi a gweithredu’r defnydd arall) fel y dewis
sy’n cael ei ffafrio (dewis 3 fel yr amlinellir ym mharagraffau 4.7 – 4.9 fel a
osodwyd yn yr adroddiad) ar gyfer rhesymoli swyddfeydd yng Ngogledd y Sir;
(b) yn cymeradwyo’r gwaith o gyflawni ymarfer
marchnata i adeilad Tŷ Nant Prestatyn ar sail prydles tymor canolig i
hwyluso gwagio’r adeilad gan staff Cyngor Sir Ddinbych, ac
(c) yn cymeradwyo ffurfio
Brîff Cynllunio i hwyluso cynllun datblygu tymor hir ar gyfer safle Prestatyn
fel yr amlinellir yn goch yn Atodiad 1 i’r adroddiad a datblygu brîff dylunio ac
astudiaeth ddichonoldeb i ddarparu adeilad swyddfa newydd yn y Rhyl.
Gohiriwyd y cyfarfod yn y fan hon am 11.55 a.m. am
egwyl lluniaeth.
Dogfennau ategol:
- OFFICE ACCOMMODATION REVIEW W, Eitem 9. PDF 89 KB
- OFFICE ACCOMMODATION REVIEW APP 1, Eitem 9. PDF 338 KB
- OFFICE ACCOMMODATION REVIEW APP 2, Eitem 9. PDF 59 KB
- OFFICE ACCOMMODATION REVIEW APP 3, Eitem 9. PDF 20 KB
- OFFICE ACCOMMODATION REVIEW APP 4, Eitem 9. PDF 17 KB
- OFFICE ACCOMMODATION REVIEW APP 5, Eitem 9. PDF 48 KB
- OFFICE ACCOMMODATION REVIEW APP 6, Eitem 9. PDF 53 KB
- OFFICE ACCOMMODATION REVIEW APP 7, Eitem 9. PDF 98 KB