Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DATBLYGU ‘CYNGOR ARDDERCHOG, SY’N AGOS AT Y GYMUNED’

Ystyried adroddiad gan y Cyng. Hugh Irving, Aelod Arweiniol Cwsmeriaid a Chymunedau, (copi'n amgaeedig) yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo dull y Cyngor i ddatblygu'r thema o Ddod â’r Cyngor yn Nes at y Gymuned.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet -

 

(a)       yn cefnogi’r agwedd newydd at y diffiniad o fod yn Gyngor Ardderchog sy’n Agos at y Gymuned, fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad;

 

(b)       yn ei gwneud yn ofynnol i bob gwasanaeth ddatblygu eu cynlluniau eu hunain er mwyn ymateb yn gadarnhaol i’r pedwar thema a amlinellwyd yn y cynllun trosolwg a nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad, ac

 

 (c)       chefnogi adolygiad gweithgareddau’r Grwpiau Ardal Aelodau i sicrhau bod cyfleoedd i roi adborth a chael barn y gymuned ar lefel leol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Irving, yr Aelod Arweiniol dros Gwsmeriaid a Chymunedau’r adroddiad oedd yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddull y Cyngor o ddatblygu’r uchelgais o ‘Ddod â’r Cyngor yn Agosach at y Gymuned’. Manylwyd ar drosolwg o sut cysylltodd y Cyngor gyda chymunedau a’i ddull diwygiedig yn yr atodiadau i’r adroddiad.

 

Ymhelaethodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid ar y blaenoriaethau dynodedig ar gyfer y Cyngor er mwyn dod â’r Cyngor yn agosach at y gymuned gyda phedair thema newydd a’r camau cysylltiedig. Amlygodd ran pob gwasanaeth wrth gefnogi’r dull corfforaethol. Byddai hyn yn cael ei fonitro’n barhaus trwy’r Cynllun Gweithredu, y Cynllun Corfforaethol a thrwy’r Broses Herio’r Gwasanaeth.

 

Cydnabu’r Cyngor y cyflawniadau a ddyluniwyd i ddod â’r cyngor yn agosach at y gymuned a rhoddodd rai enghreifftiau cadarnhaol o ymgysylltiad llwyddiannus gyda’r cyhoedd. Amlygwyd pwysigrwydd ymgysylltu a rhyngweithio gyda chymunedau ond cydnabuwyd hefyd fod amgyffrediad y cyhoedd yn llai cadarnhaol pan oedd yr ymgynghori’n canolbwyntio ar faterion penodol lle bu rhaid gwneud penderfyniadau anodd ac amhoblogaidd. Amlygodd y Cynghorydd Eryl Williams y naws negyddol oedd yn perthyn i adolygiadau ysgol yn arbennig a theimlai y byddai rhyw fath o deilyngdod mewn dileu’r cyfeiriad yn ‘agos at y gymuned’ yn y datganiad o fwriad ac i ganolbwyntio ar yr agwedd fwy cadarnhaol o fod yn ‘Gyngor Ardderchog’. Yng ngoleuni’r hinsawdd ariannol sy’n gwaethygu, byddai angen gwneud penderfyniadau anos ac amhoblogaidd a fyddai’n effeithio’n negyddol hefyd ar amgyffrediad y cyhoedd. Yn ystod y ddadl a aeth rhagddo, derbyniwyd yn gyffredinol y byddai amgyffrediad cyhoeddus negyddol yn codi o faterion penodol ond roedd angen i’r Cyngor ddangos eu hymrwymiad i fynd yn agos at y gymuned. Amlygwyd y pwysigrwydd i’r Cyngor fod yn agored ac yn dryloyw yn ei fusnes ac yn y ffordd yr oedd yn cynnal ymgyngoriadau ac yn gwrando ac yn ymgysylltu â’r gymuned. Derbyniwyd y gallai’r cyngor fod yn agos at y gymuned ond gallai barhau i fod yn amhoblogaidd oherwydd ni fyddai eu penderfyniadau’n cael cefnogaeth pawb. Teimlai’r Cynghorydd Bobby Feeley ei bod hi’n bwysig sicrhau bod y cyhoedd yn deall bod rhaid gwneud penderfyniadau anodd.

 

Tynnodd yr Aelodau sylw hefyd at yr anawsterau wrth fesur llwyddiant y dull newydd a cheisiodd gael canlyniadau mesuradwy mwy pendant. Er bod amryw strategaethau monitro wedi’u crybwyll, gan gynnwys y cynllun gweithredu, adborth o amryw fforymau a chwynion/canmoliaeth ac arolygon, cydnabuwyd nad oedd mesur llwyddiant pendant. Gan fod y mater yn ymwneud â newid mewn diwylliant, roedd hi’n anodd ei fesur ond roedd ymrwymiad a disgwyliad i lwyddo, a defnyddiwyd strategaethau i gyflawni’r uchelgais. Ymatebodd y swyddogion i gwestiynau pellach fel a ganlyn -

 

·         cydnabuwyd yr angen am ymrwymiad gan swyddogion gan amlygu ymwneud y gwasanaethau yn y broses

·         ymhelaethwyd ar broses ddwy ffordd Siarter y Cyngor Dinas/Tref/Cymuned a monitro’i effeithiolrwydd yn barhaus

·         roedd dau gyngor tref/cymuned wedi methu arwyddo’r Siarter, un o’r rhain oedd Llandrillo a oedd heb arwyddo oherwydd adolygiad ysgolion eu hardal

·         byddai’r rhestr wirio (dosbarthwyd Atodiad 3 yn y cyfarfod) yn cael ei defnyddio i fonitro sut roedd gwasanaethau’n ymateb i anghenion y cwsmeriaid, a

·         byddai’r wefan newydd yn cael ei lansio’n gyhoeddus ar 19 Awst a byddai’n fwy rhyngweithiol i alluogi’r cyhoedd i gyfathrebu’n haws gyda’r Cyngor.

 

Adroddodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts ar safbwyntiau cymysg y Pwyllgor Archwilio Cymunedau wrth ystyried yr adroddiad ac amlygodd yr angen am gynllun ymgysylltu â’r gymuned effeithiol ac am ailwampio Siarter y Cynghorau Tref/Cymuned i’w gwneud hi’n fwy deniadol. Amlygodd hefyd yr angen i wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg i ymgysylltu â chymunedau, yn enwedig gyda phobl ifanc. Teimlai’r Cynghorydd Colin Hughes fod rhaid i gynghorwyr ymgysylltu â’u cymunedau a dylai’r agwedd honno gael ei chynnwys yn gryfach yn hyfforddiant yr aelodau.

 

Cytunodd yr aelodau ei bod hi’n bwysig cynnal a diwallu uchelgais y cyngor o fynd yn agosach at y gymuned a –

 

PHENDERFYNWYD bod y Cabinet –

 

(a)       yn cymeradwyo’r dull newydd o droi at y diffiniad o fod yn Gyngor Ardderchog sy’n Agos at y Gymuned fel y nodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad;

 

(b)       yn gofyn i bob gwasanaeth ddatblygu eu cynlluniau eu hunain er mwyn ymateb yn gadarnhaol i’r pedair thema a amlinellwyd yn y cynllun  trosolwg a osodwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad, ac yn

 

(c)        cymeradwyo adolygiad o weithgarwch Grŵp Ardal Aelodau i sicrhau bod cyfleoedd i gael adborth ac i fesur safbwyntiau’r gymuned ar lefel ardal.

 

 

Dogfennau ategol: