Eitem ar yr agenda
POLISI A PHANEL DIOGELU CORFFORAETHOL BWRIEDIG
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley (copi wedi’i amgáu) sy’n cynnig mabwysiadu Polisi Diogelu Corfforaethol a sefydlu Panel Diogelu Corfforaethol Aelodau/Swyddogion ar y cyd
Penderfyniad:
Cyflwynodd y Cyng. Bobby Feeley yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol,
ar y cynnig i fabwysiadu Polisi Diogelu Corfforaethol a sefydlu Panel Diogelu
Corfforaethol aelodau/swyddogion ar y cyd.
PENDERFYNWYD -
bod y Cabinet yn:-
(a)
mabwysiadu’r
Polisi Diogelu Corfforaethol.
(b)
sefydlu
Panel Diogelu Corfforaethol gyda’r cylch gorchwyl a ddisgrifiwyd yn Atodiad 8,
a
(c)
gwneud
mynychu hyfforddiant ar ddiogelu yn orfodol i Aelodau Etholedig o fewn y
deuddeg mis cyntaf.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cyng. Bobby Feeley yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol,
ar y cynnig i fabwysiadu Polisi Diogelu Corfforaethol a sefydlu Panel Diogelu
Corfforaethol aelodau/swyddogion ar y cyd.
Esboniodd y Cynghorydd Feeley ymagwedd ragweithiol Sir Ddinbych i sicrhau
cydymffurfiad â’i gyfrifoldebau diogelu yn yr adroddiad. Er iddynt ymdrin â
hyn mewn amryw o wahanol ffyrdd, ni all Sir Ddinbych fod yn hyderus bod arfer
diogelu cadarn wedi’i chynnwys yn holl swyddogaethau’r Cyngor. Roedd manylion
ynglŷn â datblygiad yr ymagweddau a fabwysiadwyd i gynnal proffil
corfforaethol a throsolwg ar gyfer materion diogelu wedi’u rhoi mewn manylder.
Eglurodd y CCMLl
nad oedd y prif gyfrifoldeb i’w gyflawni, ar draws sefydliad amlswyddogaeth
cymhleth erioed wedi’i esbonio nac wedi derbyn adnoddau ar wahân. Mae sawl adroddiad
awdurdodol olynol gan gynnwys Waterhouse, Laming, Sir Benfro wedi ei gwneud yn
hollol glir bod heriau i gadernid trefniadau diogelu yn codi mewn amryw o
wahanol lefydd, a bod rhaid i ddiogelu fod yn "Fater i Bawb”.
Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae
Sir Ddinbych wedi datblygu sawl agwedd at gynnal proffil corfforaethol a
throsolwg ar gyfer materion diogelu, ac mae’r rhain wedi’u manylu yn yr
adroddiad.
Roedd Polisi a
Chanllawiau Diogelu Corfforaethol drafft wedi’u seilio i raddau helaeth ar yr
hyn a fabwysiadwyd yn ddiweddar yng Ngwynedd yn dilyn Arolwg Estyn ac yn sgil
gofynion a amlinellwyd gan yr Arolygiaeth, oedd wedi’u cylchredeg gyda’r
adroddiad. Byddai’r cynnig a gyflwynwyd yn cynnig datblygiad
rhesymegol i’r gwaith rydym wedi’i wneud eisoes gyda’r Fframwaith Atebolrwydd
Corfforaethol ac ar y Cynllun Gweithredu Diogelu Corfforaethol. Nod y polisi a’r
canllawiau fyddai sefydlu dull strwythuredig ar gyfer sicrhau bod diogelu yn
fater sy’n cael ei ystyried gan bob gwasanaeth yn y Cyngor, yn ogystal â gan
bob aelod etholedig.
Mae agweddau allweddol y polisi a’r
canllawiau wedi’u crynhoi yn yr adroddiad ac mae’r Atodiadau wedi rhoi manylion
pellach mewn perthynas â:-
-
gwybodaeth sylfaenol am arwyddion o
gamdriniaeth a llwybrau atgyfeirio – sy’n cysylltu â threfnau diogelu plant ac
oedolion.
-
adran ddefnyddiol ar y Cod Ymddygiad a
threfnau Gweithio Diogel.
-
adran yn amlinellu’r gefnogaeth o ran
hyfforddiant a fyddai’n cael ei gynnig i ddechrau, ac y byddai angen eu datblygu
dros amser.
-
croesgyfeirio gyda’n Polisïau Recriwtio
Diogel (Adnoddau Dynol).
-
canllawiau i gynghorwyr ar gyswllt
diogel.
-
ymdrin â honiadau o gamdriniaeth
broffesiynol gan gynnwys cysylltiadau â threfnau diogelu plant ac oedolion.
Esboniodd y CCMLl y
byddai’r pecyn yn cynnig dull credadwy o wneud diogelu’n realiti fel pryder
corfforaethol, a byddai’n meithrin agwedd gyson ac atebolrwydd ac yn cael ei
deilwra i’r materion sy'n wynebu gwasanaethau penodol. Roedd y prif oblygiadau o ran cost, a fyddai’n
driphlyg, wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad. Rhoddwyd cadarnhad
y gallai mabwysiadu trefniadau’r Polisi a’r Panel gynnig goblygiadau positif,
yn enwedig ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl, ac na nodwyd unrhyw oblygiadau
negyddol.
Er bod y canllawiau’n
brin ar hyn o bryd, mae AD yn gwneud gwaith i gynhyrchu polisi ar y defnydd o
gyfryngau cymdeithasol. Cadarnhaodd y CCMLl y byddai cylch y gwaith
pellach yn y maes hwn yn cael ei ymgorffori yng nghylch gorchwyl y PDC. Rhoddwyd gwybod i’r
Cabinet fod CLlLC wedi cynhyrchu canllawiau ar ddefnydd Aelodau Etholedig o
gyfryngau cymdeithasol a allai fod o gymorth.
Mae’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol wedi ystyried a mynegi eu cefnogaeth i fabwysiadu’r Polisi, y
canllawiau a’r Panel. Ond, codwyd rhai problemau ynglŷn â
chysondeb mewnol y ddogfen a gafodd eu datrys wedi hyn. Gwnaeth aelodau
awgrymiadau penodol ynglŷn ag ychwanegiadau i’r polisi/ eitemau ar gyfer y
rhaglen waith, yn enwedig yn ymwneud â chyngor a chanllawiau arfer da ar y
mater o dechnoleg / cyfryngau cymdeithasol. Derbynnir hyn a chynigir fod gwaith
yn cael ei wneud ar bolisi sengl yn cynnwys goblygiadau cyfreithiol, AD a
diogelu. Derbyniwyd yr awgrym y dylid adolygu’r Polisi
Diogelu/canllawiau/panel ar ôl 3 blynedd, ac mae dyddiad adolygu ffurfiol
wedi'i ychwanegu at flaen y Polisi.
Ystyriodd yr
Aelodau argymhelliad 3.3 yr adroddiad a chytunwyd y dylai hyfforddiant ar
ddiogelu fod yn orfodol ar gyfer pob Aelod Etholedig o fewn eu deuddeg mis
cyntaf yn eu swydd.
PENDERFYNWYD -
bod y Cabinet yn cytuno i:-
(a)
fabwysiadu’r
Polisi Diogelu Corfforaethol.
(b)
sefydlu
Panel Diogelu Corfforaethol gyda’r cylch gorchwyl a ddisgrifiwyd yn Atodiad 8,
a
(c)
bod
mynychu hyfforddiant ar ddiogelu yn orfodol ar gyfer pob Aelod Etholedig o fewn
eu deuddeg mis cyntaf yn eu swydd.
Dogfennau ategol:
- Safeguard Policy Report, Eitem 8. PDF 92 KB
- Safeguard Policy Guidelines, Eitem 8. PDF 925 KB
- Safeguard Policy EIA, Eitem 8. PDF 99 KB