Eitem ar yr agenda
PROTOCOL TAI Â CHEFNOGAETH
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Bobby Feeley (copi wedi’i amgáu) ar broses i alluogi i’r cyngor wneud penderfyniadau cytbwys am leoliad "tai â chefnogaeth"
Penderfyniad:
Cyflwynodd y Cyng. Bobby Feeley yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol,
sy’n nodi proses i alluogi'r Cyngor i wneud penderfyniadau teg a chytbwys am
leoliad “tai â chefnogaeth”.
PENDERFYNWYD
- bod y
Cabinet yn cytuno:-
(a)
mabwysiadu'r protocol sydd ynghlwm wrth
Atodiad 1.
(b)
bod gwaith y panel a'r gwaith o ran
gweithredu’r protocol yn cael ei fonitro a’i adolygu’n flynyddol gyda
chanlyniad yr adolygiad yn cael ei adrodd i’r Cabinet, a
(c)
cynnal
archwiliad o leoliad a nifer y cynlluniau tal â chefnogaeth yn Sir Ddinbych.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley yr adroddiad, a gylchredwyd yn
flaenorol, sy’n nodi proses i alluogi'r Cyngor i wneud penderfyniadau teg a
chytbwys am leoliad “tai â chefnogaeth”.
Cyflwynodd a
darparodd y Cynghorwyr R.L. Feeley a H.C. Irving grynodeb manwl o’r adroddiad. Esboniwyd
bod angen penderfyniad ar fabwysiadu'r protocol sydd ynghlwm yn Atodiad 1. Rhoddwyd
gwybod i’r Aelodau y gallai SH ddarparu cynlluniau ar gyfer ystod eang o
grwpiau oedd yn cynnwys:-
·
Pobl hŷn bregus
·
Pobl gyda chyflyrau meddygol
·
Pobl ifanc nad ydynt eto’n barod ar gyfer byw'n
annibynnol
·
Pobl sy'n ffoi rhag trais domestig
·
Rheiny sy’n gadael sefydliadau, gan gynnwys
cyn-droseddwyr, a
·
Rheiny gyda phroblemau sy’n ymwneud ag alcohol a
chyffuriau
Mae manylion y
cyrff sydd â hawl i gyflwyno cynigion ar gyfer Tai â Chefnogaeth wedi’u
hamlinellu yn yr adroddiad ac yn cynnwys cyrff allanol fel y Bail Accommodation
and Support Service neu BIPBC. Rhoddwyd cadarnhad y bydd tai â
chefnogaeth yn cael ei ddarparu ar gyfer pobl leol ym mhob achos. Roedd
yr Aelodau yn cytuno â barn y Cynghorydd Feeley y dylid monitro ac adolygu
gweithrediad y protocol a’r Panel ar ôl deuddeg mis, gyda chanlyniad yr
adolygiad yn cael ei adrodd i’r Cabinet.
Gall ddod o hyd i
leoliadau addas ar gyfer Tai â Chefnogaeth fod yn ddadleuol iawn mewn cymunedau
lleol am nifer o resymau. Gall achosi gwrthdaro, arwain at
ddrwgdybiaeth o’r Cyngor ac ymddygiad sy’n gwahaniaethu, gan gynnwys yn erbyn
grwpiau a ddiogelir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Pwysleisiwyd yr angen am
letyau addas ar gyfer unigolion diamddiffyn yn ogystal â chanlyniadau peidio
diwallu’r anghenion.
Cadarnhaodd y
CCMLl nad oes system ffurfiol ar gyfer y Cyngor i ystyried yr holl safbwyntiau
a gwneud penderfyniad rhesymegol am leoliad arfaethedig. Mae'r
protocol, Atodiad 1, wedi cael ei ddatblygu gan swyddogion ar y cyd â'r ddau
Aelod Arweiniol perthnasol, cynrychiolwyr o bob un o'r grwpiau gwleidyddol a’r
Cefnogwr Digartrefedd. Mae wedi defnyddio deunydd o brotocol
tebyg a ddatblygwyd yn Wigan ond mae'n seiliedig ar brofiad swyddogion ac
aelodau Sir Ddinbych dros nifer o flynyddoedd a thrwy gynigion syml a hynod
ddadleuol.
Mae'r protocol yn
nodi ymagwedd ofalus er mwyn gwneud penderfyniadau ynglŷn â lleoliad
arfaethedig tai â chefnogaeth. Mae’r nodweddion allweddol yn cynnwys:-
·
diffinio
pa wybodaeth fydd yn cael ei rhannu gyda phwy ac ar ba gam.
·
ymagwedd
strwythuredig tuag at gasglu gwybodaeth am safle penodol dan sylw a'i gryfderau
a’i wendidau
·
ymagwedd
strwythuredig tuag at nodi unrhyw faterion cynllunio yn gynnar
·
dull
clir i nodi “sensitifrwydd” posibl cynllun posibl er mwyn sicrhau bod pawb sy’n
gysylltiedig yn cael eu hystyried a'u trin yn deg
·
dulliau
a argymhellir ar gyfer rhannu gwybodaeth am gynlluniau gyda'r rhai yr effeithir
arnynt fwyaf
·
Sefydlu
“Panel Tai â Chefnogaeth”, sy'n adrodd i'r Cabinet, a fyddai'n gwneud
argymhellion ar leoliad arfaethedig ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a’r
safbwyntiau
Mae manylion
costau, y broses ymgynghori a’r risgiau a mesurau i fynd i’r afael â nhw wedi’u
cynnwys yn yr adroddiad. Mae copi o’r Asesiad Effaith ar
Gydraddoldeb wedi ei gynnwys fel Atodiad i’r adroddiad.
Roedd yr Aelodau yn cytuno â barn y Cynghorydd Feeley y dylid monitro ac
adolygu gweithrediad y protocol a’r Panel ar ôl deuddeg mis, gyda chanlyniad yr
adolygiad yn cael ei adrodd i’r Cabinet.
Esboniodd y
Cynghorydd J. Butterfield bod Grŵp Ardal Aelodau y Rhyl wedi ystyried a
gwrthwynebu i’r cynllun, gan fynegi’r farn bod gan breswylwyr y Rhyl ac Aelodau
Etholedig ran gyfyngedig i’w chwarae wrth lunio’r cynllun a’i weithredu. Esboniodd
bod gan Ochr Orllewinol y Rhyl nifer helaeth o gynlluniau tai eisoes sy’n
cynnwys nifer fawr o dai amlfeddiannaeth. Roedd
y Cynghorydd Butterfield yn cydnabod y gofyniad i ddarparu tai i bobl gydag
anghenion arbennig. Ond, pwysleisiodd yr angen i gynnal
archwiliad o leoliad a nifer y cynlluniau tai â chefnogaeth yn Sir Ddinbych cyn
gwneud unrhyw benderfyniad ynglŷn â mabwysiadu’r protocol.
Cefnogodd y
Cynghorydd D. Simmons y farn a fynegwyd gan y Cynghorydd Butterfield a nododd
bwysigrwydd cynnwys Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ar y Gofrestr.
Cytunodd y Prif Weithredwr bod lleoliadau yn y sector preifat yn fater y gellir
ei archwilio.
Rhoddodd y CCMLl
gadarnhad bod materion a godwyd gan y RMAG wedi’u hadlewyrchu yn adran
ymgynghoriad yr adroddiad. Esboniodd bod yr Aelodau Etholedig ar y
Gweithgor wedi mynegi’r farn y byddai mabwysiadu protocol sy'n esbonio'r broses
o edrych ar leoli cynlluniau yn welliant sylweddol i'r sefyllfa bresennol lle
nad oes canllawiau. Yn dilyn trafodaeth gyda’r RMAG, mae
proses ymgynghori dau gam cynnar rŵan wedi’i gweithredu, yn ogystal â
Phanel Traws Sirol o Aelodau Etholedig fyddai’n archwilio cynigion yn
wrthrychol, ac yn gyson a cheisio lleoli datblygiadau sensitif yn deg ledled y
Sir.
Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau, rhoddodd y PGCD grynodeb o gylch
gorchwyl y Panel, sydd yn Atodiad 4 y Protocol. Mynegodd yr Arweinydd
bryder ynglŷn â’r sefyllfa bresennol ac esboniodd y byddai mabwysiadu’r
Protocol yn rhoi eglurder, arweiniad a chydraddoldeb mewn perthynas ag ystyried
cynlluniau i’r dyfodol yn y Sir. Cefnogodd yr Aelodau Cabinet y farn a fynegwyd gan
yr Arweinydd ynglŷn â’r angen i weithredu Protocol, a chynnal archwiliad o
leoliad a nifer y cynlluniau tai â chefnogaeth yn Sir Ddinbych.
Esboniodd y Prif
Weithredwr bod darparu Tai â Chefnogaeth yn debygol o ddod yn fwy cyffredin, a
rhoddwyd gwybod i'r Aelodau am ddigwyddiadau oedd yn annerbyniol ac wedi arwain
at ymgyrchu lleol ac amhriodol. Esboniodd bod diffyg Protocol wedi creu
problemau a phwysleisiodd yr angen i gyflwyno Protocol i sicrhau agwedd eglur a
darparu cyfle ar gyfer craffu a herio.
Roedd y Prif Weithredwr yn
cefnogi cyflwyno Protocol a Phanel y gellir eu monitro a’u hadolygu ar ôl
deuddeg mis gyda chanlyniad yr adolygiad yn cael ei adrodd i’r Cabinet.
Mewn ymateb i
gwestiwn gan y Cynghorydd Butterfield, esboniodd y CCMLl y byddai angen sefydlu
protocol i fonitro Landlordiaid Cymdeithasol fel rhan o gynllun ar wahân.
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, crynhodd y PGCD farn yr Aelodau sef:-
PENDERFYNWYD
- bod y Cabinet yn cytuno i:-
(a) fabwysiadu'r
protocol sydd ynghlwm wrth Atodiad 1.
(b) bod
gwaith y panel a'r gwaith o ran gweithredu’r protocol yn cael ei fonitro a’i
adolygu’n flynyddol gyda chanlyniad yr adolygiad yn cael ei adrodd i’r Cabinet,
a
(c) chynnal archwiliad o leoliad a nifer y cynlluniau
tai â chefnogaeth yn Sir Ddinbych.
Dogfennau ategol:
- Sup House Report, Eitem 7. PDF 88 KB
- Sup House Appendix, Eitem 7. PDF 602 KB
- Sup House EIA, Eitem 7. PDF 136 KB