Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL 2012/13

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Barbara Smith (copi wedi’i amgáu) ynglŷn ag Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft 2012/13

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cyng. Barbara Smith yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, a oedd yn rhoi cyfle i’r Cabinet graffu ar ddogfen ddrafft yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2012/13, Atodiad I, cyn i’r ddogfen derfynol cael ei chyflwyno i'r Cyngor ym mis Hydref 2013.

 

PENDERFYNWYD – bod y Cabinet yn cytuno i ganiatáu cyflwyno Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2012/13 i’r Cyngor Sir er cymeradwyaeth.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. Barbara Smith yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, a oedd yn rhoi cyfle i’r Cabinet graffu ar ddogfen ddrafft yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2012/13, Atodiad I, cyn i’r ddogfen derfynol cael ei chyflwyno i'r Cyngor ym mis Hydref 2013.

 

Roedd Cynllun Corfforaethol 2012-17 yn amlinellu cyfeiriad strategol a blaenoriaeth y Cyngor ar gyfer y cyfnod pum mlynedd.  Mae bwriad yr Awdurdod i helpu wrth gyflawni’r blaenoriaethau wedi’u nodi yn y Cynlluniau Gwasanaeth Blynyddol a Dogfen Darparu Blynyddol y Cynllun Corfforaethol.   Roedd gan y Cyngor hefyd nifer o amcanion cydraddoldeb yn ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol, a set o Gytundebau Canlyniadau gyda Llywodraeth Cymru. 

Rhoddodd yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol werthusiad ôl-weithredol o lwyddiant yr Awdurdod wrth gyflawni yn erbyn ei ymrwymiadau yn ystod 2012-13, ac a oedd wedi cyflawni ei rwymedigaeth yn llwyddiannus i wneud trefniadau i sicrhau gwelliannau parhaus.  Cafwyd problemau wrth gael gwybodaeth oherwydd y system rheoli perfformiad mwy soffistigedig sy'n seiliedig ar drothwyon rhagoriaeth yn hytrach na thargedau lleol. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan Aelodau, esboniodd y HBPP bod gwybodaeth nad oedd ar gael, yn ymwneud yn bennaf â’r Arolwg Preswylwyr ac wedi’i nodi fel “i’w gadarnhau”, yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad cyn ei gyflwyno i’r Cyngor llawn.   Cadarnhaodd bod gorfodaeth ar y Cyngor i gyhoeddi’r Adolygiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer eu Rheolyddion sy’n disgwyl i’r Awdurdod ddarparu swm sylweddol a chynhwysfawr o wybodaeth mewn perthynas â’i berfformiad.  Atgoffwyd yr Aelodau mai dyma blwyddyn gyntaf y Cynllun ac y gellir defnyddio ffigurau y flwyddyn nesaf fel cymhariaeth.  Esboniwyd y gellir defnyddio’r lliwiau yn yr adroddiad er mwyn dadansoddi a bod ffigurau yn darparu tueddiadau.  Nododd yr HBPP yr angen i adnabod sefyllfa’r Cyngor o ran uchelgais, targedau ac adlewyrchu ansawdd mewn perthynas ag Awdurdodau eraill a sefydliadau.  Pwysleisiodd y Cynghorydd H.Ll. Jones bwysigrwydd cynnwys datblygu ardaloedd gwledig a chyfeiriodd at ddangosyddion yn ymwneud â Sir Ddinbych Wledig. 

 

Cynhaliwyd Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb (AoEaG), Atodiad 2, ar y Cynllun Corfforaethol a cafodd ei gyflwyno i’r Cyngor ar ôl ei gymeradwyo ym mis Hydref, 2012.

 

Mae’r wybodaeth perfformiad yn y ddogfen wedi’i darparu gan wasanaethau a’i thynnu o system rheoli perfformiad Ffynnon.  Ymgynghorwyd â’r Uwch Dîm Arweiniol (UDA) a’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad.  Mae’r risg o gael adroddiadau negyddol sylweddol gan reolyddion allanol wedi’i nodi yn y Gofrestr Risg Corfforaethol.  Byddai methiant i gyhoeddi’r Adolygiad Blynyddol erbyn y dyddiad terfyn o 31 Hydref yn debygol o arwain at argymhellion statudol gan Swyddfa Archwilio Cymru, gyda goblygiadau sylweddol ar gyfer enw da’r Cyngor.

 

Esboniodd y Prif Weithredwr bod disgwyliadau’r Awdurdod wedi codi a symud oddi wrth dargedau traddodiadau ac felly gellir disgwyl cynnydd mewn dangosyddion coch.   Cadarnhaodd nad oedd dangosyddion coch o reidrwydd yn ddangosydd bod yr Awdurdod yn tangyflawni ond bod y Cyngor wedi gosod targedau mwy heriol nag yn flaenorol a'u bod yn fwy uchelgeisiol.   Pwysleisiwyd pwysigrwydd mesur rhagoriaeth o’i gymharu â’r safon cyhoeddus sector preifat ehangach os bydd safonau uwch yn cael eu cyflawni gan yr Awdurdod.  Mae’r Prif Weithredwr yn cydnabod bod meysydd y mae angen mynd i'r afael â nhw, a chyfeiriwyd yn benodol at gynnal Asesiadau Cydraddoldeb a darparu ymyl palmentydd uwch a bod peidio mynd i'r afael â materion o'r fath yn annerbyniol.

 

Ymatebodd y PGCD i bryderon a godwyd gan nifer o Aelodau ac esboniodd nad oedd graddfeydd amser yn caniatáu ar gyfer cynnwys diweddariad gan y Pwyllgor Archwilio yn yr adroddiad i’r Cabinet.  Awgrymodd y Prif Weithredwr y dylid adolygu pryderon ac efallai edrych ar y posibilrwydd o wahodd y Cadeirydd neu gynrychiolydd Archwilio i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet.

 

 

PENDERFYNWYD – bod y Cabinet yn cytuno i ganiatáu cyflwyno Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft 2012/13 i’r Cyngor Sir er cymeradwyaeth.

 

 

Dogfennau ategol: