Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

YR WYBODAETH DDIWEDDARAF AM YR ADRODDIAD ARIANNOL

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill (copi wedi’i amgáu) sy’n rhoi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf, a chynnydd yn erbyn y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni

Penderfyniad:

Cyflwynodd y Cyng. Julian Thompson-Hill yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar sefyllfa ariannol bresennol y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD -

 

(a)  bod y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi’r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni, a

(b)  cyflwyno adroddiad diweddaru ar ddarpariaeth cludiant ôl 16 yng nghyfarfod nesaf y Cabinet.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. J. Thompson Hill yr adroddiad, a gylchredwyd yn flaenorol, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar sefyllfa ariannol bresennol y Cyngor.

 

Mae’r adroddiad yn rhoi crynodeb o gyllideb refeniw ac arbedion y Cyngor ar gyfer 2013/14, Atodiad 1, a’r gyllideb net yw £192m.   Ar ddiwedd mis Awst, rhagwelwyd tanwariant ar gyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol o £501k sy’n cynrychioli amrywiad o 0.55%.  Mae sefyllfa cyllidebau ysgolion yn rhagamcan symudiad cadarnhaol ar falansau o £190k, £352k y mis diwethaf.

 

Roedd Atodiad 2 yn nodi’r cynnydd hyd yma yn erbyn yr arbedion a amlygwyd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ar gyfer 2012/13. Cytunwyd ar darged arbedion o £3.061 miliwn ar gyfer y flwyddyn ac mae 54% o’r targed £1.666, wedi ei gyrraedd.

 

Esboniwyd y byddai angen rhagolygon gwasanaethau cefnogi fel y nodwyd yn yr adroddiad:-

 

Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden – y rhagolygon presennol yw y byddant yn adennill costau ond mae gan y gwasanaeth sawl cyllideb cyfnewidiol sy’n ddibynnol ar ddiwallu targedau incwm mawr. Yn seiliedig ar ffigurau presennol, roedd pob cyllideb yn unol â’r targed.

 

Cwsmeriaid a Chefnogaeth Addysg – Bu rhagamcan tanwariant o £110k, ac roedd £58k yn ymwneud ag oedi wrth weithredu’r ailstrwythuro Gwasanaethau Cwsmer yn llawn.

 

Trawsnewid Busnes/TGCh – y rhagolygon yw y bydd y gyllideb ychydig, £1k, yn is na'r targed.   Bydd unrhyw danwariant ar ddiwedd y flwyddyn o’r gwasanaeth i helpu i ariannu unrhyw fylchau yng ngham nesaf strategaeth TGCh y Cyngor, yn enwedig mewn perthynas â’r Cytundeb Menter Microsoft.

 

Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylchedd – rhagamcan gorwariant o £194k gyda’r mwyafrif yn ymwneud â’r Gwasanaeth Cludiant Ysgol.  Mae hyn wedi’i ddylanwadu gan nifer y diwrnodau ysgol ym mlwyddyn ariannol 2013/14 yn rhannol oherwydd amseru’r gwyliau Pasg.  Mae’r pwysau wedi lleihau yn dilyn adolygiad o gronfeydd wrth gefn sy’n arwain at ryddhau £106k.  Mae’r pwysau hwn wedi lleihau yn dilyn adolygiad o gronfeydd wrth gefn sy’n arwain at rhyddhau £106k, yn bennaf y Gronfa Bws melyn o £101k nad oes ei angen bellach.

 

Gwasanaethau Oedolion a Busnes – rhagwelwyd y bydd £45k o danwariant yng nghanlyniad 2013/14.   Mae’r gofyniad cenedlaethol i ddiogelu cyllidebau gofal cymdeithasol wedi arwain at £905k ychwanegol yn ystod y flwyddyn.   

 

Gwasanaethau Plant a Theuluoedd – y sefyllfa bresennol y rhoddwyd gwybod amdani yw tanwariant o £539k, a £285k o hwnnw ar gyllidebau staffio, £94k o danwariant ar leoliadau arbenigol, £61k wedi’i glustnodi ar gyfer lleoliad maethu nad oes ei angen bellach a £99k o danwariant wedi cario drosodd o 12/13 ac sydd heb ei ymrwymo eto.  Mae arbedion wedi’u cynnig ar gyfer 2014/15 ar gyfer rhai o’r cyllidebau hyn ac mae trafodaethau ar y gweill gyda’r Gwasanaethau Hamdden i ystyried modelau darparu gwasanaeth i’r dyfodol i ddarparu rhaglenni egniol i Blant ag Anableddau.  Cynnig y gwasanaeth oedd y byddai £250k o unrhyw danwariant yn cael ei neilltuo mewn Cronfa Plant ag Anableddau i’w ddefnyddio yn y dyfodol.

 

Ysgolion – ar ddiwedd mis Awst y rhagamcan ar gyfer balansau ysgolion oedd £3.060 miliwn, sy’n symudiad positif o £190k ar falansau a ddygwyd ymlaen o 2012/13, sef £2.870m. Roedd y canlyniad hwn yn cynnwys diogelwch o £775k a ddarparwyd fel cymorth ariannol trosglwyddo ar gyfer ysgolion sydd wedi'u heffeithio gan newidiadau mewn fformwlâu ariannu.

 

Rhagwelir y bydd Cyllidebau Corfforaethol yn cynhyrchu tanwariant o £350k.   Roedd ansicrwydd ynglŷn â dyraniadau canolog ar gyfer ynni, pensiynau a chostau eraill ond rhagdybiwyd argaeledd £350k, ond pe byddai angen cronfeydd wrth gefn byddai’r rhagdybiaeth yn cael ei hadolygu.

 

Cariwyd cronfeydd Cynllun Corfforaethol o £10.3m ymlaen i 2013/14, gan adael gofyniad arian o tua £11.7m i ddarparu’r cynllun.  Roedd cyllideb 2013/14 yn clustnodi adnoddau cyllidebol newydd penodol o £600k i Gronfa’r Cynllun Corfforaethol ac yn rhagdybio y byddai o leiaf £1.3m o’r adnoddau a ganfuwyd eisoes yn cael eu trosglwyddo i ariannu’r Cynllun Corfforaethol os bydd amgylchiadau yn caniatáu.

 

Roedd cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai (CRT) hefyd wedi’i chynnwys yn Atodiad 1 er hwylustod, ond mae’r rhain yn gronfeydd ar wahân, a gellir ond eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau tai cyngor.  Roedd y sefyllfa refeniw ddiweddaraf yn rhagdybio cynnydd o £5k yn y balansau ar ddiwedd y flwyddyn, sy’n welliant o £107k ar y rhagdybiaeth cyllideb.  Roedd y Cynllun Cyfalaf Tai ar y targed i wario 8.1m a chyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn diwedd 2013/14. Mewn ymateb i gwestiwn gan yr Arweinydd, nododd y Cynghorydd Thompson-Hill y newidiadau i’r Cyfrif Refeniw Tai ac esboniodd y rhagwelir y bydd y System Cymhorthdal Tai yng Nghymru yn cael ei diddymu o fis Ebrill 2014, a bod trafodaethau ar y gweill ynglŷn â phrynu allan.

 

Mae manylion y Cynllun Cyfalaf wedi'i amgáu yn Atodiad 3. Roedd y Cynllun Cyfalaf cyffredinol a gymeradwywyd yn £45.8 miliwn a’r gwariant hyd at ddiwedd mis Awst yn £7.6 miliwn.  Mae’r Cynllun wedi cynyddu £5m o fis diwethaf oherwydd bod grantiau ychwanegol wedi'u cadarnhau.  Mae Atodiad 3 yn nodi’r gwariant arfaethedig o £6.8m ar y Cynllun Corfforaethol ac Atodiad 4 yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am brosiectau cyfalaf mawr yn y Cynllun Cyfalaf.

 

Cyflwynwyd crynodeb o’r Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb i’r Cyngor ym mis Chwefror 2013 ac mae manylion y broses ymgynghori, y risgiau posibl a’r mesurau a weithredwyd i fynd i’r afael â nhw a’r Datganiad Prif Swyddog Cyllid wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Mewn ymateb i gais gan yr Arweinydd, cytunodd y Pennaeth Cyllid a Chyfrifeg y gellir rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn y Gweithdy sydd i ddod mewn perthynas â’r gofyniad ariannu a’r ymrwymiad i ddiwallu nodau ac amcanion y Cynllun Corfforaethol. 

 

Ymatebodd y Cynghorydd D.I. Smith i gwestiynau gan yr Aelodau ac esboniodd y byddai TAITH, fel rhan o’r adolygiad i’w strwythur, yn archwilio darpariaeth teithio i’r ysgol a cholegau ledled Gogledd Cymru ar y cyd.  Cytunodd yr Aelodau gyda’r awgrym gan y Prif Weithredwr y dylid gofyn am ragor o wybodaeth gan TAITH, a bod adroddiad diweddaru ar ddarpariaeth cludiant ôl 16 yn cael ei gyflwyno yn ystod cyfarfod nesaf y Cabinet.

 

PENDERFYNWYD:-

 

(a)  dylai’r Cabinet dderbyn yr adroddiad a nodi’r cynnydd yn erbyn y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni, a

(b)  bod adroddiad diweddaru ar ddarpariaeth cludiant ôl 16 yn cael ei gyflwyno yn ystod cyfarfod nesaf y Cabinet.

 

 

Dogfennau ategol: