Eitem ar yr agenda
POLISI A PHANEL DIOGELU CORFFORAETHOL BWRIEDIG
Ystyried adroddiad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol: Moderneiddio a Lles (copi ynghlwm). Mae’r adroddiad yn cynnig mabwysiadu Polisi Diogelu Corfforaethol a sefydlu Panel Diogelu Corfforaethol aelodau/swyddogion ar y cyd.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan y Cyfarwyddwr
Corfforaethol: Moderneiddio a Lles (CCMLl) (cylchredwyd yn flaenorol) ar y
cynnig i fabwysiadu Polisi Diogelu Corfforaethol a sefydlu Panel Diogelu Corfforaethol (PDC) Aelodau/Swyddogion ar y cyd.
Eglurodd y CCMLl
nad oedd y prif gyfrifoldeb i’w gyflawni, ar draws sefydliad amlswyddogaeth
cymhleth erioed wedi derbyn adnoddau ar wahân.
Mae sawl adroddiad awdurdodol olynol dros y 10 mlynedd
diwethaf gan gynnwys Waterhouse, Laming,
Sir Benfro wedi ei gwneud yn hollol glir bod heriau i gadernid trefniadau
diogelu yn codi mewn amryw o wahanol lefydd, a bod rhaid i ddiogelu fod yn
"Fater i Bawb”.
Amlinellwyd
ymagwedd ragweithiol Sir Ddinbych i sicrhau cydymffurfiad â’i gyfrifoldebau
diogelu yn yr adroddiad. Eglurwyd, er iddynt ymdrin â hyn mewn amryw o
wahanol ffyrdd, ni all Sir Ddinbych fod yn hyderus bod arfer diogelu cadarn
wedi’i chynnwys yn holl swyddogaethau’r Cyngor. Roedd manylion
ynglŷn â datblygiad yr ymagweddau a fabwysiadwyd i gynnal proffil
corfforaethol a throsolwg ar gyfer materion diogelu wedi’u rhoi mewn manylder.
Roedd Polisi a
Chanllawiau Diogelu Corfforaethol drafft wedi’u seilio i raddau helaeth ar yr
hyn a fabwysiadwyd yn ddiweddar yng Ngwynedd yn dilyn Arolwg Estyn ac yn sgil
gofynion a amlinellwyd gan yr Arolygiaeth, oedd wedi’u cylchredeg gyda’r
adroddiad. Byddai’r cynnig a gyflwynwyd yn cynnig datblygiad
rhesymegol i’r gwaith rydym wedi’i wneud eisoes gyda’r Fframwaith Atebolrwydd Corfforaethol
ac ar y Cynllun Gweithredu Diogelu Corfforaethol. Nod y polisi a’r
canllawiau fyddai sefydlu dull strwythuredig ar gyfer sicrhau bod diogelu yn
fater sy’n cael ei ystyried gan bob gwasanaeth yn y Cyngor, yn ogystal â gan
bob aelod etholedig.
Agweddau allweddol y polisi a’r
canllawiau yw bod:-
- plant ac oedolion yn cael eu cynnwys.
- roedd yn seiliedig ar ddiogelu, ac nid
amddiffyn yn unig.
- mae’n cynnwys y syniad bod Rheolwyr Dynodedig
ym mhob gwasanaeth yn ymdrin â materion diogelu (ar ôl cael yr hyfforddiant
priodol).
- daw rheolwyr dynodedig ynghyd gydag uwch
swyddogion ac Aelodau Arweiniol i ffurfio Panel Diogelu Corfforaethol (PDC)
sy’n atebol i’r Cabinet. Disgwylir i’r PDC lunio Adroddiad Blynyddol
ar gyfer rhoi gwybod yn fewnol a rhoi gwybod i’r BLlDP.
- byddai disgwyl i bob gwasanaeth sefydlu
polisïau a threfnau diogelu sy’n ymdrin â’u maes busnes nhw.
- byddai cyfrifoldebau Aelodau Etholedig yn
cael eu cynnwys.
- byddai’n cynnwys data craidd er mwyn rhoi
gwybod. Byddai hyn yn cynnwys rhai o’r Dangosyddion Perfformiad
arferol a data AD allweddol (gwiriadau CRB, cydymffurfio â geirdaon a chanran y
cynghorwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant diogelu). Byddai rhywfaint o orgyffwrdd
yma gyda rhoi gwybod am y Cynllun Corfforaethol a bydd angen i’r data esblygu i
sicrhau ei fod yn ychwanegu gwerth at drefnau rhoi gwybod presennol.
Mae’r atodiadau’n
rhoi manylion pellach yn ymwneud â:-
- gwybodaeth sylfaenol am arwyddion o gamdriniaeth
a llwybrau atgyfeirio – sy’n cysylltu â threfnau diogelu plant ac oedolion.
- adran ddefnyddiol ar y Cod Ymddygiad a
threfnau Gweithio Diogel.
- adran yn amlinellu’r gefnogaeth o ran
hyfforddiant a fyddai’n cael ei gynnig i ddechrau, y byddai angen eu datblygu
dros amser.
- croesgyfeirio gyda’n Polisïau Recriwtio
Diogel (Adnoddau Dynol).
- canllawiau i gynghorwyr ar gyswllt diogel.
- ymdrin â honiadau o gamdriniaeth broffesiynol
gan gynnwys cysylltiadau â threfnau diogelu plant ac oedolion.
Teimlwyd y byddai’r
pecyn yn cynnig dull credadwy o wneud diogelu’n realiti fel pryder
corfforaethol, a byddai’n meithrin agwedd gyson ac atebolrwydd ac yn cael ei
deilwra i’r materion sy'n wynebu gwasanaethau penodol. Roedd y prif oblygiadau o ran cost, a
fyddai’n driphlyg, wedi'u hamlinellu yn yr adroddiad. Rhoddwyd cadarnhad
y gallai mabwysiadu trefniadau’r Polisi a’r Panel gynnig goblygiadau positif yn
enwedig ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl, ac na nodwyd unrhyw oblygiadau
negyddol.
Er bod y canllawiau’n brin ar hyn
o bryd, clywodd y pwyllgor fod AD yn cyflawni gwaith i gynhyrchu polisi ar y
defnydd o gyfryngau cymdeithasol. Cadarnhaodd y CCMLl y byddai cylch y gwaith pellach yn y maes hwn yn cael
ei ymgorffori yng nghylch gorchwyl y PDC. Dywedodd y PGCD wrth y Pwyllgor fod CLlLC
wedi cynhyrchu canllawiau ar ddefnydd Aelodau Etholedig o gyfryngau
cymdeithasol a allai fod o gymorth.
Mewn ymateb i’r
pryder a ganlyn a fynegwyd gan Mr P. Whitham:-
-
cytunodd y CCMLl y
dylid newid Atodiad 7 i gynnwys cyfeiriad at y ffaith y byddai’r Cabinet yn
derbyn Adroddiad Blynyddol gan y PDC.
-
yr angen i
adolygu’r Polisi a’r Canllawiau yn rheolaidd, a chynnwys cyfnod adolygu penodol
o fewn y Cylch Gorchwyl.
-
nid oes cyfeiriad yn
y Cylch Gorchwyl at y ffaith fod y PDC yn monitro cynnydd technoleg.
Eglurodd y CCMLl na ellid mynd
i’r afael â'r materion a godwyd a bod rôl y PDC yn cynnwys canfod unrhyw
fylchau posibl yn y Polisi.
Mynegodd y
Cynghorydd M.L. Holland y farn y dylai presenoldeb yn y sesiynau hyfforddiant
Diogelu fod yn orfodol. Fodd bynnag, teimlai'r Cynghorydd S.A. Davies
y dylai’r penderfyniad i fynd i sesiynau hyfforddi o’r fath barhau i fod yn
nwylo’r Aelod dan sylw.
Yn ystod y drafodaeth a ddilynodd, cytunodd
Aelodau y byddai’r Polisi a’r Panel Diogelu yn cael eu hadolygu wedi 3 blynedd.
PENDERFYNWYD – fod y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn cytuno:-
(a)
mabwysiadu’r Polisi
Diogelu Corfforaethol.
(b)
sefydlu Panel Diogelu Corfforaethol
gyda chylch gorchwyl fel sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad, yn amodol ar y
newidiadau a awgrymwyd, a
(c)
adolygu’r Polisi a’r
Panel Diogelu ar ôl 3 blynedd.
(SE i Weithredu)
Dogfennau ategol:
- Safeguard Policy Report, Eitem 9. PDF 92 KB
- Safeguard Policy App 1, Eitem 9. PDF 931 KB
- Safeguard Policy EIA, Eitem 9. PDF 99 KB