Eitem ar yr agenda
ADRODDIAD ARCHWILIAD MEWNOL ADNODDAU DYNOL STRATEGOL
Ystyried
adroddiad gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) sy’n rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf am gynnydd yn Adnoddau Dynol Strategol ar y cynllun gweithredu yn
yr adroddiad Archwilio Mewnol o fis Hydref 2012.
Cofnodion:
Roedd copi o adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau
Archwilio Mewnol (a gylchredwyd eisoes) yn amlinellu’r cynnydd o fewn Adnoddau
Dynol Strategol ar y Cynllun Gweithredu oedd wedi’i gynnwys yn yr adroddiad
Archwilio Mewnol ym fis Hydref, 2012.
Roedd y PLlC wedi monitro cynnydd ar weithredu’r camau gwella a nodwyd gan
AD Strategol o ganlyniad i adolygiad Archwilio Mewnol. Roedd Archwilio Mewnol wedi
adolygu sawl maes o fewn AD Strategol yn ystod 2012/13, gan ryddhau eu
hadroddiad ym mis Hydref, 2012. Cododd y cynllun gweithredu o fewn yr adroddiad
11 o faterion, ac roedd AD Strategol wedi dynodi 45 o weithredoedd mewn ymateb
iddynt a fyddai’n cael eu cyflwyno o fewn gwahanol derfynau amser. Cynhaliodd Archwilio Mewnol
adolygiad dilynol ar y cynllun gweithredu ym mis Chwefror, 2013 a’u canfyddiad
oedd, er bod rhywfaint o gynnydd wedi bod, roedd lefel y cynnydd yn “siomedig o
araf” a gwnaed cais am adroddiad cynnydd pellach.
Nododd AD Strategol gynnydd arwyddocaol. Fodd bynnag, er bod
camau penodol a nodwyd yn y cynllun gweithredu wedi’u cwblhau, roedd y PAM wedi
awgrymu na ellid gwybod eto pa mor effeithiol y bu’r camau hyn wrth fynd i’r
afael â’r materion yn yr adroddiad Archwilio Mewnol. Roedd y ddau
wasanaeth wedi cyfarfod i drafod y materion oedd yn weddill ac wedi cytuno
gweithio’n agosach at ei gilydd i gynnig sicrwydd i’r PAM fod gwelliannau’n
cael eu gwneud a'u bod yn mynd i'r afael â materion yn effeithiol.
Eglurwyd fod AD Strategol yn mynd drwy gyfnod o newid a gwelliant
arwyddocaol ac y byddai’r camau oedd wedi’u tafod yn yr adroddiad yn rhan o
gynllun gweithredu mwy ar gyfer gwella, ac roedd y prosiect yn cael ei reoli
drwy broses methodoleg rheoli prosiect y Cyngor ar Verto.
Roedd
tabl yn nodi’r sefyllfa ddiweddaraf ar gyfer pob un o’r 45 o weithredoedd a
nodwyd gan AD Strategol i fynd i’r afael â chynllun gweithredu'r adroddiad
Archwilio Mewnol wedi’i gynnwys yn Atodiad 1. Roedd y tabl yn manylu ar:-
·
y materion oedd angen mynd i’r afael â nhw
·
y camau a nodwyd i fynd i’r afael â’r materion
·
diweddariad AD Strategol ar y cynnydd diweddaraf
·
sylwadau – gan gynnwys barn ar i ba raddau mae’r camau yn
mynd i’r afael â’r mater
Cadarnhaodd y PAM fod AD Strategol wedi cyflawni
cynnydd sylweddol ar y cyfan wrth fynd i’r afael â’r materion a godwyd gan
Archwilio Mewnol. Er bod bron pob un o’r camau wedi’u gweithredu bellach, mewn rhai achosion
byddai’n cymryd amser i asesu a fu’r rhain yn hollol effeithiol ac roedd
rhywfaint o’r llwyddiant yn dibynnu ar gydymffurfiad o fewn gwasanaethau
eraill. Er mwyn cynnig sicrwydd atodol, byddai Archwilio
Mewnol yn cynnal adolygiad pellach o brosiect gwella AD Strategol yn ystod mis
Ebrill, 2014, a fyddai'n cynnwys asesiad o effeithiolrwydd rhai o’r
gweithredoedd tymor hirach a nodwyd yn Atodiad 1. Yn enwedig, byddai’r
adolygiad yn archwilio’r meysydd canlynol:-
·
a yw cywirdeb data am weithwyr wedi gwella;
·
gweithredu prosesau a gweithdrefnau newydd yn
llwyddiannus fel rhan o adolygiadau’r broses Meddylfryd Systemau;
·
cydymffurfiad gyda pholisïau a gweithdrefnau AD o fewn
gwasanaethau;
·
cywirdeb data a anfonir at yr adran Gyflogau gan AD;
·
effeithiolrwydd Desg Gymorth Civica i wella gwasanaeth
cwsmeriaid;
·
gweithredu fframwaith recriwtio newydd yn llwyddiannus;
·
datblygu cynlluniau olyniaeth ar gyfer swyddi allweddol
mewn gwasanaethau.
Amlygodd y Cynghorydd M.L. Holland bwysigrwydd sicrhau fod data a
ddychwelwyd yn gywir ac yn cael ei dderbyn o fewn y terfynau amser a nodwyd, a
theimlai y gallai cyflwyno awtomatiaeth gynorthwyo i ddileu gwallau a gwella
lefel y gwasanaeth a ddarparwyd. Rhoddodd y swyddogion fanylion y gwiriadau a’r
gweithdrefnau a fabwysiadwyd, gan ddefnyddio TRENT a chynnwys adroddiadau
rheolwyr, i liniaru problemau o’r fath.
Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan Mr P. Whitham
ynglŷn â chydymffurfiad gwasanaethau o ran darparu data o fewn terfynau
amser, eglurodd y swyddogion y byddai unrhyw fethiant rheolaidd i gydymffurfio
yn cael ei ganfod a’i herio drwy’r broses Herio Gwasanaethau. Eglurodd y PGCD y byddai
adroddiad yn cael ei gynhyrchu, fel rhan o’r broses Herio Gwasanaethau, ar
berfformiad gwasanaethau unigol mewn perthynas â gwahanol faterion AD.
Cadarnhaodd y PAM y byddai adolygiad yn cael ei gynnal ym mis Ebrill 2014,
a byddai adroddiad cynnydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol ym mis Mai, 2014.
PENDERFYNWYD – fod:-
(a) y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn derbyn yr
adroddiad ac yn cydnabod y cynnydd a wnaed, ac
(b) yn cytuno y dylid cyflwyno adroddiad cynnydd pellach ym
mis Mai, 2014.
(IB i
Weithredu)
Dogfennau ategol: