Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIWEDDARIAD CYLLIDEB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ddiweddaraf o ran proses pennu cyllideb y Cyngor ar gyfer 2014/15.

 

 

Cofnodion:

Roedd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ac Asedau, a oedd yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran y broses o bennu cyllideb y Cyngor ar gyfer 2014/15, wedi’i gylchredeg yn barod.

 

Roedd y mwyafrif o gyllid y cyngor, oddeutu 78%, yn dod gan Lywodraeth Cymru trwy’r Grant Cynnal Refeniw ac ailddosbarthu’r Trethi Annomestig Cenedlaethol. Yn 2013/14, y setliad terfynol ar gyfer Sir Ddinbych oedd £150.821 miliwn.  Roedd gweddill y cyllid yn cael ei ddarparu drwy Dreth y Cyngor, £40.7 miliwn yn y gyllideb yn 2013/14. Roedd effaith y symudiad ar y setliad yn cael effaith llawer mwy arwyddocaol na symudiad ar lefelau Treth y Cyngor.

 

Rhoddodd y Prif Gyfrifydd (PG) gyflwyniad yn canolbwyntio ar yr adroddiad, a gylchredwyd gyda phapurau'r cyfarfod, a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Cyngor ar 10 Medi, 2013. Roedd adroddiad wedi’i gyflwyno ym mis Mehefin, 2013 yn amlinellu rhagdybiaethau mewn perthynas â setliad cyllideb refeniw bosibl y Cyngor a’r goblygiadau ariannol posibl.   Nes y cyhoeddwyd y Setliad Llywodraeth Leol Drafft ym mis Hydref, byddai’r sefyllfa yn aneglur er bod popeth yn awgrymu y byddai’r setliad yn un gwael, gyda’r CLlLC wedi argymell y dylai Cynghorau ragdybio gostyngiad o -4% yn 2014/15. Eglurodd y PG fod gormod o ansicrwydd yn parhau i roi union ffigwr ond pe bai gostyngiad i setliad refeniw’r Cyngor ar lefel o -4% a phe bai effaith y newid yn sgil y cyfrifiad yn cael ei weithredu ym mlwyddyn un, yna ni fyddai rhagdybiaeth cynllunio o ostyngiad o rwng £8-9m yn bosibilrwydd afresymol.  Bydd y cyngor hefyd yn wynebu pwysau chwyddiant mewn meysydd fel tâl, pensiynau, ynni a phwysau o ran y galw am wasanaethau.  

 

Mewn ymateb i’r setliad gwael tebygol, mae pob gwasanaeth yn gwneud cynnydd wrth ddynodi cynigion ar gyfer arbedion ar gyfer y tair blynedd nesaf.  Byddai cynigion newydd i arbed, gyda thri gwasanaeth yn dal i’w hadolygu, yn cael eu hystyried ym mis Medi gyda’r Aelodau Arweiniol perthnasol cyn eu cyflwyno i aelodau etholedig mewn gweithdy ym mis Hydref.

 

Mae’r broses Herio Gwasanaethau ar gyfer 2012/13 a 2013/14 wedi dynodi arbedion posibl o £1.716m ar gyfer 2014/15. Roedd y cynigion wedi’u hystyried yn fanwl yn y cyfarfodydd Herio Gwasanaethau ac wedi’u cadarnhau mewn cyfarfodydd diweddar gyda Phenaethiaid Gwasanaeth.  Roedd y cynigion arbed wedi’u cynnwys yn Atodiad 1 ac wedi’u disgrifio fel Cam 1 y broses o gyflawni targed a allai fod yn arwyddocaol ar gyfer 2014/15.

 

Mae’r adroddiad i’r Cyngor wedi dynodi arbediad o £1.7m gyda £782k ohono wedi’i gynnig gan wasanaethau a £963k ohono yn arbedion wedi’u harwain yn  gorfforaethol, gyda £663k ohono’n cael ei gyflawni gan wasanaethau.  Roedd y cynigion ar gyfer arbedion 2014/15 eisoes wedi eu hystyried mewn cyfarfodydd herio gwasanaeth yn 2011 ac yn 2012 ac wedi’u cynnwys fel rhan o’r targedau tair blynedd a ddynodwyd yn y Cynllun Ariannol Tymor Canolig.  Bydd cytundeb ffurfiol o’r arbedion sydd eisoes wedi eu dynodi’n caniatáu i ymdrechion gwleidyddol a chorfforaethol ganolbwyntio at y dasg heriol o osod gweddill y gyllideb ar gyfer 2014/15.

Mae’r arbedion corfforaethol a amlygwyd fel Moderneiddio’r Cyngor yn rhan o darged i gyflawni gwerth £3.0 miliwn o arbedion yn y 3 blynedd nesaf wrth ddatblygu prosiectau i gyflawni arbedion effeithlonrwydd a meithrin cymhwysedd mewn gwasanaethau.  Mae sawl prosiect effeithlonrwydd yn cael eu datblygu, gan gynnwys buddsoddi mewn Rheoli Dogfennau a Chofnodion Electronig a Chofrestr Anfonebau Ganolog  a phrosiectau eraill sy’n cynyddu’r defnydd o dechnoleg er mwyn cyflawni arbedion trwy leihau’r angen i deithio, cynyddu hyblygrwydd a gweithredu systemau gweinyddol mwy effeithlon. Yn y pen draw bydd targedau arbedion moderneiddio yn cael eu cyflawni gan y gwasanaethau.  

 

Mae’r grynodeb o Asesiad o Effaith ar Gydraddoldeb cam 1 rhaglen effeithlonrwydd 2014/15 mewn perthynas ag effaith y cynigion arbed wedi’i chynnwys yn Atodiad 2.

 

Mynegwyd pryderon ynglŷn ag effaith pobl nad ydynt yn talu treth y cyngor mewn perthynas â chanlyniad data’r cyfrifiad a gynhyrchwyd, gan gyfeirio’n benodol at boblogaeth symudol sy’n byw mewn carafanau neu gartrefi gwyliau.  Amlinellodd y PG y rhesymau dros yr amrywiad yn ffigyrau’r cyfrifiad a chadarnhaodd fod Cymdeithas Trysoryddion Cymru yn cynnal trafodaethau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), sy’n ceisio sicrhau lliniariad mewn perthynas ag effaith y ffigyrau, ac amlygodd y posibilrwydd y byddai angen diwygio ffigyrau’r setliad.  Cytunodd y PG y gellir rhoi manylion y trafodaethau gyda CLlLC ac ymatebodd i bryder a fynegwyd gan Mr P. Whitham ynglŷn â’r risgiau posibl oedd ynghlwm â hyn.   Eglurodd fod eitem sefydlog ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol ynglŷn â gosod cyllideb gytbwys, a chytunodd i roi rhagor o wybodaeth i Mr Whitham ar y mater hwn.   Rhoddodd yr PGCD fanylion am yr eitem ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol, a chadarnhaodd y PAM y byddai Archwilio Mewnol yn archwilio’r camau sy’n cael eu cymryd ac yn adrodd ar eu cynnydd.

 

Awgrymodd y Cynghorydd G.M. Kensler y byddai’n bwysig archwilio uchelgeisiau'r Cyngor yn fanwl cyn gosod y praesept treth y cyngor, a sicrhau gymaint â phosibl o gyllid allanol a manteisio ar unrhyw grantiau sydd ar gael.

 

Mynegodd y Cynghorydd M.Ll. Davies y farn y dylid darparu rhagor o fanylion mewn perthynas â cholli incwm yn deillio o gau amryw o gyfleusterau’r Cyngor.  Cytunodd y PG i gynnig ymateb i’r Cynghorydd B. Blakeley ynglŷn â cholli incwm yn sgil cau’r maes parcio ar Stryd y Cei.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd S.A. Davies at estyniad yr AHNE a mynegodd y farn y dylai ei haelodaeth gynnwys dau Aelod Ward Llangollen.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, rhoddodd y PG fanylion yr arbedion ar y gyllideb ac arbedion effeithlonrwydd fyddai’n cael eu creu mewn perthynas â chynlluniau tymor canolig a hir o safbwynt prosiectau cydweithio a phartneriaethau.  Cadarnhaodd nad oedd unrhyw gynlluniau partneriaeth o bwys wedi’u cynllunio ar hyn o bryd mewn perthynas â gostyngiadau yn y gyllideb.

 

PENDERFYNWYD - bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol yn nodi’r sefyllfa ddiweddaraf a'r camau bwriedig nesaf ac yn ystyried y cynigion ar gyfer arbedion sy’n mynd ger bron y Cyngor Sir i’w cymeradwyo’n ffurfiol.

 

 

Dogfennau ategol: