Eitem ar yr agenda
HUNANASESIAD Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU CORFFORAETHOL
Derbyn cyflwyniad
gan y Pennaeth Archwilio Mewnol (copi ynghlwm) ar hunanasesiad o wybodaeth,
sgiliau a phrofiad y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i gyflawni’i rôl yn
effeithiol.
Cofnodion:
Roedd yr adroddiad yn cyd-fynd â chyflwyniad y
Pennaeth Archwilio Mewnol o hunanasesiad o wybodaeth, sgiliau a phrofiad y
Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol i gyflawni ei rôl yn effeithiol, a
gynhaliwyd fel rhan o gynllun hyfforddiant Aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol.
Fel rhan o Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol y
Cyngor, i sicrhau effeithiolrwydd y Pwyllgor Archwilio, cynhaliwyd hunanasesiad
blynyddol gan Bwyllgorau Archwilio Awdurdodau Lleol i ganfod unrhyw wendidau,
anghenion hyfforddi a datblygu.
Bu’r ymdrech i gynnal yr hunanasesiad drwy holiadur
yn aflwyddiannus a chadarnhawyd y byddai’r cyflwyniad yn cynnwys gofynion
allweddol Pwyllgor Archwilio effeithiol a nodi unrhyw feysydd lle’r oedd angen
Cynllun Gweithredu gwelliant.
Teimlai’r PAM y dylid ymateb i gwestiynau ynglŷn â lefel y sicrwydd y
teimlai Aelodau fyddai ei angen fel Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
Corfforaethol, ac a fyddai sicrwydd yn cael ei roi ac o ble a gan bwy.
Teimlai aelodau fod sicrwydd yn cael ei roi gan uwch swyddogion drwy ymateb
i gwestiynau a gyflwynwyd yng nghyfarfodydd
y Pwyllgor. Rhoddwyd tystiolaeth o gydymffurfiad a her gan Archwilio Mewnol ac Allanol
ac asiantaethau eraill, ac eglurodd y PAM y byddai sicrwydd hefyd yn cael ei
roi drwy’r Fframwaith Llywodraethu.
Awgrymodd y Cadeirydd y dylid ailadrodd y rhaglen hyfforddiant a roddwyd i
Aelodau Etholedig yn dilyn etholiadau’r Cyngor Sir. Cytunodd y Pwyllgor y dylid
cynnig sesiwn hyfforddiant gyffredinol i bob Aelod Etholedig ac y dylid cynnal
sesiwn hyfforddiant uwch, ac y dylid ail gylchredeg canllaw hawdd y pecyn
cyflwyno Aelodau. Awgrymodd Aelodau’r Pwyllgor hefyd y dylid darparu
hyfforddiant i Aelodau newydd a benodwyd i’r Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd B. Blakeley, cyfeiriodd y Pennaeth
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democratiaeth (PGCD) at Gylch Gorchwyl y Pwyllgor a
rhoddodd fanylion i’r Is-Gadeirydd am aelodaeth y Cyngor o’r Pwyllgor, a
chadarnhaodd y gellid adolygu’r rhain.
Gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint, cyfeiriodd y
Pennaeth Archwilio Mewnol (PAM) at ofynion allweddol Pwyllgor Archwilio a
nododd feysydd i'w gwella yn y cynllun gweithredu lle bod angen hynny.
Amlygodd y cyflwyniad feysydd yn ymwneud â:-
·
Darparu sicrwydd.
·
Fframwaith Llywodraethu.
·
Partneriaethau.
·
Archwilio Mewnol.
·
Herio.
·
Rheoli Risg.
·
Twyll.
·
Rheolaeth Ariannol.
·
Archwilio Allanol.
·
Gwybodaeth, cefnogaeth ac effeithiolrwydd y Pwyllgor.
Rhoddodd y swyddogion yr ymatebion a ganlyn i
faterion a chwestiynau a godwyd gan Aelodau o’r Pwyllgor yn ystod y
cyflwyniad:-
-
Mynegodd y PAM ei bryderon ynglŷn â threfniadau
Llywodraethu Partneriaethau a chadarnhaodd fod angen gwella rhai meysydd. Amlinellodd y gwaith sy’n
cael ei wneud ar hyn o bryd i ymateb i’r mater hwn a chyfeiriodd at ddechrau'r
hyfforddiant Tystysgrif Llywodraethu Corfforaethol, y byddai’n cymryd rhan
ynddo. Cyfeiriodd y Cynghorydd M. L. Holland at y risgiau posibl oedd yn
gysylltiedig â gwaith partneriaeth, gan gyfeirio’n benodol at grwpiau a chyrff
allanol sy’n derbyn arian gan y Cyngor.
-
Mewn ymateb i gwestiwn gan Mr P. Whitham, cadarnhaodd y
PAM y byddai’n archwilio darpariaeth hyfforddiant i swyddogion mewn perthynas
â’r Fframwaith Bartneriaethau newydd.
-
Cytunodd Aelodau y dylid cyflwyno adroddiad blynyddol,
tebyg i’r un a gynhyrchwyd gan y Pwyllgorau Archwilio, yn manylu ar y gwaith a
wnaed gan y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.
-
Amlygodd Mr P. Whitham yr angen am ragor o fanylion mewn
perthynas ag adroddiadau dilynol, cynnig eglurder mewn perthynas â chanrannau
sicrwydd hanfodol a chyflwyniad amgen y Cynllun Gweithredu Llywodraethu
Blynyddol a’r Datganiad Monitro Llywodraethu Blynyddol i gyfarfodydd y
Pwyllgor.
-
Cyfeiriodd y PAM at ddatblygiad Cynllun Sicrwydd Twyll a fyddai’n cael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor. Cytunodd Aelodau y byddai swyddogion o adrannau allweddol
a nodwyd yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd y Pwyllgor.
Yn dilyn trafodaeth bellach:-
PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol:-
(a)
yn derbyn ac yn nodi
cynnwys Cynllun Gweithredu’r Fframwaith Llywodraethu Corfforaethol drafft.
(b)
yn gofyn i sesiwn
hyfforddiant gyffredinol gael ei darparu i bob Aelod etholedig, cyn cynnal
sesiwn uwch i Aelodau o’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol.
(c)
Yn cytuno fod copi o
ganllaw hawdd y pecyn cyflwyno yn cael ei gylchredeg i Aelodau.
yn gofyn i
adroddiad yn rhoi manylion am waith y Pwyllgor gael ei gyflwyno yn flynyddol,
ac
(d)
y Cynllun Sicrwydd Twyll yn
cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor a bod swyddogion o’r adrannau allweddol a nodir
yn cael eu gwahodd i fod yn bresennol.
(IB, GW ac RW i Weithredu)
Dogfennau ategol:
- Corp Gov Self-Assess Report, Eitem 5. PDF 60 KB
- Corp Gov Ctte Self-Assess Presentation, Eitem 5. PDF 198 KB