Eitem ar yr agenda
PARATOI AR GYFER CYNNAL A CHADW DROS Y GAEAF TYMOR 2013/14
Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Asedau a Risg (copi ynghlwm) sy’n gofyn am
arsylwadau Aelodau ar y trefniadau arfaethedig ar gyfer cynnal a chadw dros y
gaeaf i ymdrin ag amodau tywydd gwael a difrifol ar ffyrdd y sir.
Cofnodion:
Cafodd copi o’r adroddiad gan Bennaeth yr Amgylchedd, sy’n gofyn am
sylwadau’r Aelodau ar drefniadau cynnal a chadw dros y gaeaf i ymdrin ag amodau
tywydd gwael a garw ar ffyrdd y sir, ei gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod.
Mae’r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth ar ddarparu llwybrau diogelach i
drigolion y sir ac ar gadw'r sir ar agor pan fo tywydd garw. Gofynnwyd i’r
Aelodau ystyried yr wybodaeth a rhoi sylwadau ar y trefniadau Cynnal a Chadw
dros y Gaeaf a p’un ai ydynt yn ddigonol ar gyfer gaeaf cyffredin, gyda
chynlluniau wrth gefn ar gyfer amodau mwy difrifol.
Mae mân newidiadau wedi eu gwneud i drefniadau cynnal a chadw dros y gaeaf
ar gyfer 2013/14 ac mae’r adroddiad yn amlygu’r newidiadau a’r gwelliannau.
Fodd bynnag, bydd arferion da’r blynyddoedd blaenorol yn cael eu cadw. Bydd yr
11 llwybr graeanu yn cael eu cadw. Fodd bynnag nid yw'r llwybrau hyn yn
adlewyrchu'r prif rwydwaith bws ac felly mae tri llwybr wedi eu diwygio a’u
hymestyn i ddarparu gwell gwasanaeth yn y Cwm, Llangwyfan/Llangynhafal a
Derwen/Clawddnewydd.
Ymatebodd Pennaeth yr Amgylchedd i gwestiwn gan y Cyng. J.S. Welch a
chadarnhaodd na fyddai dod â gwasanaeth bws Nantglyn i ben yn effeithio ar y
llwybr graeanu yn yr ardal honno. Eglurodd hefyd y byddai nifer o lwybrau
bysiau trefol yn cael eu trin yn ôl yr angen.
Byddai angen o leiaf 33 gyrrwr i fodloni gofynion y ddeddfwriaeth yn
ymwneud ag oriau gweithio gyrwyr a byddai angen rhywfaint o yrwyr wrth gefn i
ddarparu gwasanaethau ychwanegol. O ran cerbydau, bydd pedwar cerbyd graeanu
ychwanegol i’r fflyd ac felly byddai yna dri cherbyd wrth gefn. Bydd nifer o
Gontractwyr Amaethyddol yn dal i gael eu defnyddio i raeanu'r ffyrdd gwledig
pan fo eira. Bydd un yn graeanu yn ardal Llangollen a bydd o leiaf un
ychwanegol yn graeanu yn ardal Bryneglwys. Bydd y gwasanaeth yn cael ei ymestyn
ymhellach yn y blynyddoedd nesaf.
Mae’r gwaith o osod llawr caled yn nepo Rhuthun wedi gwneud lle i fwy o
raean, a bydd mwy yn cael ei gludo yno wrth i’r tymor fynd rhagddo. Yn ystod y
blynyddoedd diwethaf mae graean wedi ei drin wedi ei ddefnyddio yn nepo Cinmel.
Fodd bynnag, oherwydd newidiadau i amlder a graddfeydd gwasgaru graean ac yn
sgil adolygu’r costau, penderfynwyd defnyddio graean sych. Mae’r cyflenwr wedi
adeiladu stoc strategol yn y chwarel yn Sir Gaer ac, yn ogystal, mae Llywodraeth
Cymru yn adeiladu Storfa Graean Strategol yn Rhuallt a byddai modd i Sir
Ddinbych ei defnyddio os oes angen. Bydd ail-lenwi’r storfeydd a’r biniau
graean yn dechrau ym mis Medi a bydd y gwaith wedi ei gwblhau cyn diwedd mis
Hydref, gyda’r storfeydd a’r biniau wedyn yn cael eu hail-lenwi yn ôl yr angen.
Ni fydd y trefniadau arferol ar gyfer cadw golwg ar y tywydd a goruchwylio
24 awr y dydd yn newid ond bydd modd eu cynyddu os oes angen. Bydd y
strategaeth gyfathrebu effeithiol, sydd wedi ei datblygu dros y blynyddoedd
diwethaf ar y cyd â thîm Parth Cyhoeddus, yn cael ei defnyddio eto.
Mae darparu ffyrdd diogel i drigolion ac ymwelwyr yn flaenoriaeth i’r
gwasanaeth ac felly mae darparu rhaglen gynnal a chadw effeithiol dros y gaeaf
yn allweddol. Mae’r gyllideb sylfaenol o ddyraniad refeniw Priffyrdd (£709 mil)
yn aros, gyda £226 mil ychwanegol wrth gefn ar gyfer tywydd garw iawn. Mewn
ymateb i gwestiwn gan y Cyng. P.A. Evans, cadarnhaodd Pennaeth yr Amgylchedd
nad oedd tanwariant a phryderodd ynglŷn â'r swm wrth gefn pan fo tywydd
garw. Yn sgil yr eira a’r rhew ym mis Mawrth bu gorfod defnyddio’r arian wrth
gefn a bu i ddeng niwrnod o glirio eira gostio £176,000.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cyng. C.H. Williams yn ymwneud â chlirio eira
ar lonydd a ffyrdd preifat, darparodd Pennaeth yr Amgylchedd fanylion
ynglŷn â chyfrifoldebau’r Cyngor a’r Polisi Cynnal a Chadw dros y Gaeaf,
ac eglurodd bod adain gynnal a chadw dros y gaeaf yn gweithio gyda’r
Gwasanaethau Cymdeithasol, os oes materion lles yn codi, a chyda mudiadau fel y
Gwasanaeth Achub Mynydd a’r Groes Goch.
Ymatebodd Pennaeth yr Amgylchedd i gwestiwn gan y Cyng. G.M. Kensler ac
eglurodd bod Llywodraeth Cymru yn ad-dalu cost cynnal a chadw cefnffyrdd dros y
gaeaf. Cadarnhaodd, pan fo tywydd garw, y byddai staff parth cyhoeddus yn
clirio eira yng nghanol trefi ac yn cysylltu â pherchnogion siopau i glirio
mannau cerdded. Cadarnhaodd Pennaeth yr Amgylchedd bod trefniadau graeanu yn eu
lle gydag awdurdodau cyfagos.
Ar gais y Cadeirydd
cytunwyd i gylchredeg adroddiad ar drefniadau’r Cyngor o ran mynd i’r afael â
mân lifogydd a llifogydd cymedrol i Aelodau’r Pwyllgor.
PENDERFYNWYD –fod:-
(a) y
trefniadau ar gyfer cynnal a chadw dros y gaeaf yn ddigonol ar gyfer gaeaf
cyffredin, gyda chynlluniau wrth gefn ar gyfer amodau mwy eithafol; a bod
(b) adroddiad
yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yn amlinellu trefniadau’r Cyngor o ran delio â
mân lifogydd a llifogydd cymedrol.
Dogfennau ategol: