Eitem ar yr agenda
STRATEGAETH PARTH CYHOEDDUS AR GYFER SIR DDINBYCH
Ystyried
adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cwsmeriaid (copi ynghlwm) sy’n gofyn
am farn Aelodau ar strwythur a chynnwys y Strategaeth Parth Cyhoeddus drafft ar gyfer y Cyngor.
Cofnodion:
Cafodd copi o
adroddiad Cyfarwyddwr Corfforaethol Cwsmeriaid, sy’n gofyn am farn y Pwyllgor
ar strwythur a chynnwys Strategaeth Parth Cyhoeddus ddrafft y Cyngor, Atodiad
1, ei gylchredeg gyda phapurau’r cyfarfod.
Cyflwynodd Pennaeth yr
Amgylchedd a Phennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yr adroddiad. Eglurwyd
bod yr Archwiliad Mewnol i reolaeth parth cyhoeddus wedi argymell llunio
strategaeth i gael eglurder a chydlyniad ynglŷn â sut mae’r Cyngor yn
delio gyda’r maes pwysig yma. Mae
ail argymhelliad yn nodi bod angen gwell cydweithio rhwng gwasanaethau
allweddol a dull mwy corfforaethol ar gyfer cynllunio ac ymateb i faterion sy’n
gysylltiedig â pharth cyhoeddus.
Cafodd y Strategaeth Parth Cyhoeddus ddrafft ei
datblygu mewn gweithdy yn dilyn ymchwil i strategaethau tebyg yng Nghymru a thu
hwnt. Mae’r ddogfen strategol yn diffinio beth yw parth cyhoeddus a sut gall y
Cyngor reoli a dylanwadu ar y gwaith. Mae’r Strategaeth yn diffinio pwysigrwydd
gweithio mewn partneriaeth wrth weithredu newid sy’n gwella parth
cyhoeddus.
Mae rôl a chyfrifoldeb aelodau allweddol
Archwilio, Grwpiau Ardal yr Aelodau a swyddogion allweddol wedi eu diffinio.
Mae pedair egwyddor strategol wedi eu hadnabod, sef:-
Ø
Parth Cyhoeddus sy’n gyraeddadwy a chyda cysylltiadau da
Ø
Amgylchedd glân a thaclus
Ø
Cadw a datblygu hunaniaeth leol
Ø
Amgylchedd diogel
Mae disgrifiadau manwl o’r pedair egwyddor
strategol wedi eu hamlinellu yn y ddogfen ddrafft, ynghyd ag enghreifftiau o
ddatblygiadau diweddar. Byddai’r Strategaeth yn cynorthwyo i gyflawni
Blaenoriaethau Corfforaethol “Strydoedd Glân a Thaclus" a "Datblygu'r
Economi Leol" a byddai'n effeithio ar drigolion, gweithwyr ac ymwelwyr Sir
Ddinbych. Rhagwelir y bydd y rhan fwyaf o’r gwaith o ran darparu’r Strategaeth
o fewn y cyllidebau gwasanaeth cyfredol ac o fewn y gyllideb sydd wedi ei
neilltuo yn y Cynllun Corfforaethol ar gyfer y ddwy flaenoriaeth uchod.
Hyd yma rydym ni wedi ymgynghori â swyddogion
perthnasol o'r gwasanaethau amrywiol sy'n ymdrin â Pharth Cyhoeddus, yr Aelod
Arweiniol a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth. Mae’r Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned,
y sector gwirfoddol a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi derbyn copïau o’r sylwadau
hefyd.
Pwysleisiodd y Cyng. J.M.
Davies yr angen i gynnwys cyfeiriad cyffredinol at ddiwylliant y Cyngor mewn
perthynas â chynnwys unigolion yn y mecanwaith adrodd. Eglurodd Pennaeth yr
Amgylchedd y byddai manylion y newidiadau o ran cael pwynt cyswllt unigol yn
cael eu cyflwyno yng Ngweithdy’r Aelodau Arweiniol ym mis Hydref.
Soniodd y Cyng. H.O.
Williams am y gwaith caled sydd wedi ei wneud i fynd i’r afael â baw cŵn
yn ei Ward. Amlygodd y Cynghr. R.M. Murray a P.A. Evans y problemau sydd i’w
gweld yn eu wardiau nhw. Amlinellodd Pennaeth yr Amgylchedd yr anawsterau o ran
dal troseddwyr. Fodd bynnag, pwysleisiodd bod gwasanaethau yn gweithio mewn
partneriaeth i fynd i’r afael â’r mater hwn a chyfeiriodd at yr Ymgyrch Atal
Baw Cŵn a lansiwyd ym mis Chwefror 2013.
Ymatebodd Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd i gwestiwn gan y Cynghorydd J.M. Davies a
chyfeiriodd at dudalen 7 y Strategaeth, Canllawiau ar gyfer Hunaniaeth Leol yn
y Parth Cyhoeddus, sy’n cydnabod y cwmpas ar gyfer gweithio mewn partneriaeth
ac ymgynghori gyda Chynghorau Tref a Chymuned ac sy’n cyfeirio’n benodol at
arwyddion a dodrefn stryd.
Cefnogodd y Cadeirydd y
Strategaeth ond amlygodd yr angen i gynnwys proses ar gyfer asesu llwyddiant a
mesur canlyniadau a chynnydd a chynnwys trefnau ar gyfer adrodd a chyfathrebu.
Amlygodd Pennaeth yr Amgylchedd yr anawsterau o ran mesur cynnydd rhai elfennau
o'r Strategaeth, e.e. newid diwylliannol. Eglurodd Pennaeth Cynllunio a
Gwarchod y Cyhoedd bod Strategaeth Parth Cyhoeddus yn ddogfen strategol ac y
byddai angen gweithredu proses neu fecanwaith ychwanegol i fesur cynnydd.
Yn dilyn y drafodaeth a
ddilynwyd, darparwyd yr ymatebion canlynol i gwestiynau a materion a godwyd gan
yr Aelodau:-
-
Rhoddwyd gwybod i’r aelodau na fydd beicwyr yn cael eu
gorfodi i ddefnyddio llwybrau beicio sydd wedi eu darparu fel llwybr amgen i
briffordd. Eglurodd y Cyng. C.H. Williams bod beicio ar balmentydd yn drosedd
ond nad yw’r camau gorfodi’n cael eu cymryd yn aml iawn. Dylid annog unigolion
sy’n beicio yn eu hamser hamdden i ddefnyddio llwybrau beicio.
-
Mewn ymateb i bryderon ynglŷn â gweddillion torri
cloddiau yn achosi pynjars ac yn atal beicwyr rhag defnyddio rhai llwybrau
beicio, eglurodd Pennaeth yr Amgylchedd, yn yr achosion lle mae gan y Cyngor
cytundeb â’r perchnogion i dorri cloddiau, bod y cytundeb hefyd yn cynnwys
clirio’r gweddillion o’r llwybrau beicio.
-
Eglurwyd nad yw'r Cyngor Sir yn gyfrifol am bob ardal
chwarae. Mae rhai ardaloedd chwarae yn rhan o ddatblygiadau tai neu yng ngofal
Cynghorau Tref neu Gymuned. Amlygodd yr Aelodau bwysigrwydd sicrhau, pan fo
ardaloedd chwarae’n cael eu hadeiladu, eu bod yn cynnwys rhaglen gynnal a chadw
llawn ac yn cael eu monitro’n ofalus. Holodd yr Aelodau ynglŷn â chynnwys
materion cosmetig, fel peintio a thacluso, yn yr archwiliad blynyddol o
ardaloedd chwarae gan y byddai’r rhain yn gwella edrychiad ardaloedd chwarae
a’u gwneud yn fwy deniadol i breswylwyr ac ymwelwyr. Eglurodd Pennaeth
Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd, o ran cynllunio ac ar ôl ystyried y sefyllfa
economaidd sydd ohoni, y byddai’n bwysig sicrhau cydbwysedd rhwng y
ddarpariaeth o fannau agored ac ardaloedd chwarae a’r costau i ddarparwyr
gwasanaethau eraill.
-
Cyfeiriodd Pennaeth yr Amgylchedd at gyflwyno trefnau
arfaethedig i’w dilyn pan fo aelodau o’r cyhoedd yn methu torri neu gynnal a
chadw clawdd sydd wedi gordyfu ac yn rhwystr i eraill. Rhoddwyd gwybod i’r
Pwyllgor y byddai’r trefnau arfaethedig, a fyddai’n golygu anfon llythyr
rhybudd i’r troseddwyr yn yr achos cyntaf, yn cael eu trafod yng Ngweithdy’r
Aelodau ym mis Hydref.
-
Cyfeiriodd Pennaeth yr Amgylchedd at y ddadl bosib yn
ymwneud â thorri neu drimio coed. Pwysleisiodd y Cadeirydd bod angen sicrhau
bod Aelodau lleol yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â materion
Parth Cyhoeddus yn eu wardiau.
-
Roedd Pennaeth yr Amgylchedd yn cydnabod pryderon yr
Aelodau o ran gorchuddion gyliau. Eglurodd nad oedd anghenion cynnal a chadw
wedi eu hystyried yn ystod y cam dylunio.
-
Pwysleisiodd yr Aelodau yr angen i gael trefniadau adrodd
a monitro Rheoli Cyswllt Cwsmer effeithiol i sicrhau effeithlonrwydd y
Strategaeth. Gofynnwyd hefyd am gynnwys rhai nodau ac amcanion lefel uchel yn y
Strategaeth.
PENDERFYNWYD –
fod y Pwyllgor yn:-
(a) derbyn ac yn nodi cynnwys yr adroddiad; ac,
(b) yn amodol ar gynnwys yr argymhellion a’r
newidiadau uchod, cefnogi’r Strategaeth Parth Cyhoeddus a’i chyflwyno i’r
Cabinet er cymeradwyaeth.
Dogfennau ategol:
- Pub Realm Strat Report, Eitem 5. PDF 93 KB
- Pub Realm Strat App 1, Eitem 5. PDF 441 KB
- Pub Realm Strat App 2, Eitem 5. PDF 144 KB