Eitem ar yr agenda
ADOLYGU TRWYDDED GYRRU CERBYD HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT – GYRRWR RHIF 043844
Cofnodion:
[Credwyd fod yr eitem hon yn fater brys, a rhoddwyd
rhybudd o hynny gan y Cadeirydd ar ddechrau’r cyfarfod]
Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth
Gwasanaethau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a gylchredwyd yn y cyfarfod) ar –
(i)
addasrwydd Gyrrwr Rhif 043844 i ddal trwydded i yrru cerbyd hacni a
cherbydau hurio preifat;
(ii)
roedd y Pwyllgor
Trwyddedu a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2012 wedi gwahardd Gyrrwr Rhif 043844 ar
sail diogelwch y cyhoedd wedi ei groniad o bwyntiau cosb, tri ohonynt yn
ymwneud â defnyddio ffôn symudol wrth yrru [caniatawyd y Gyrrwr i gadw ei
drwydded DVLA gan Ynadon Prestatyn a oedd wedi derbyn y byddai gwaharddiad wedi
achosi caledi eithriadol];
(iii)
apeliodd y Gyrrwr yn erbyn penderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu ac ar 19
Rhagfyr 2012 gwrthododd yr Ynadol yr Apêl ond cyfeiriwyd y mater yn ôl at y
Pwyllgor Trwyddedu ar y cyfle cyntaf posibl er mwyn caniatáu iddynt adolygu
cyfnod y gwaharddiad;
(iv)
roedd y Pwyllgor Trwyddedu arbennig a gynhaliwyd ar 24 Ionawr 2012 wedi
codi’r gwaharddiad a osodwyd ar y Gyrrwr ac wedi cyflwyno rhybudd o ran ei
ymddygiad yn y dyfodol;
(v)
derbyniwyd llythyr ar 25 Mehefin 2013 gan Yrrwr Rhif 043844 yn nodi ei fod
wedi’i gael yn euog ar 13 Mehefin 2013 o oryrru gan Ynadon Llandudno a dan y
drefn o gronni pwyntiau roedd wedi’i wahardd rhag gyrru am gyfnod o chwe mis,
ac
(vi)
roedd Gyrrwr Rhif 043844 wedi’i wahodd i ddod i’r cyfarfod i gefnogi’r
adolygiad o’i drwydded ac ateb cwestiynau aelodau ar hynny.
Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod a chyflwynwyd
pawb oedd yn bresennol iddo. Oherwydd
natur brys yr adolygiad, nid oedd yr adroddiad pwyllgor wedi bod ar gael ymlaen
llaw ac wedi’i gyflwyno yn y cyfarfod.
Anerchodd Gyrrwr Rhif 043884 y pwyllgor i gefnogi ei
achos, gan egluro amgylchiadau’r drosedd yrru a oedd wedi arwain at ei
waharddiad. Clywyd fod y drosedd wedi’i
chyflawni ym mis Rhagfyr 2012 ond roedd wedi cymryd tan fis Mehefin 2013 i’r
Ynadon glywed yr achos. Dywedodd y
Gyrrwr ei fod ond wedi’i gael yn euog o oryrru ar un achlysur arall yn 2010 a’i
fod yn arfer gyrru o fewn y cyfyngiad cyflymder. Unwaith y byddai ei Drwydded DVLA yn cael ei
hadfer ym mis Rhagfyr 2013 ni fyddai unrhyw euogfarnau arni. Dywedodd hefyd fod cyfeiriad yn yr ohebiaeth
a dderbyniwyd ynglŷn â’r euogfarn at y drosedd fel mân drosedd dan y
Ddeddf Traffig Ffyrdd. Roedd y gyrrwr yn
awyddus i roi gwybod i’r pwyllgor mai bod yn yrrwr tacsi oedd ei fywoliaeth a’i
fod mwynhau hynny ac yn ei chymryd o ddifrif.
Er ei fod yn derbyn na allai gyflawni ei ddyletswyddau fel gyrrwr
trwyddedig ar hyn o bryd, roedd yn gobeithio parhau yn y proffesiwn pan gaiff
ei Drwydded DVLA ei hadfer.
Manteisiodd Aelodau ar y cyfle i gwestiynu’r Gyrrwr
ynglŷn â’i euogfarn am oryrru a gofynnwyd iddo pam na wnaeth ddatgelu am
ei ymddangosiad yn y llys pan ddaethpwyd â mater ei drwydded ger bron y
pwyllgor ar gyfer yr adolygiad blaenorol.
Ymatebodd y Gyrrwr gan ddweud nad oedd wedi’i gael yn euog o unrhyw
drosedd ar y pryd ac nad oedd yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu
ym mis Rhagfyr 2012. Eglurodd
amgylchiadau’r cyfeiriad at ddefnydd priodol o gyflymder yn yr Adroddiad Asesu
Gyrrwr a gynhyrchwyd ar ôl cwblhau’r Cwrs Ymwybyddiaeth Gyrru. O safbwynt euogfarnau moduro hanesyddol,
cadarnhaodd y Gyrrwr ddwy drosedd flaenorol a’r amgylchiadau ym mhob un
ohonynt.
Yn ei ddatganiad terfynol gofynnodd y Gyrrwr am drugaredd
gan nodi ei fod wedi dysgu o’i droseddau.
Rhoddodd sicrwydd i’r pwyllgor na fyddai’n dod ger eu bron eto pe baent
yn caniatáu iddo gadw ei drwydded.
Torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos ac ar ôl
trafodaethau –
PENDERFYNWYD y dylid diddymu’r Drwydded Gyrrwr Cerbyd Hanci a
Cherbydau Hurio Preifat a roddwyd i’r Gyrrwr Rhif 043884 ar sail diogelwch y
cyhoedd.
Dyma oedd y
rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –
Wrth
benderfynu, rhoddodd aelodau ystyriaeth i’r holl dystiolaeth a gyflwynwyd a
datganiadau’r Gyrrwr i gefnogi ei achos.
Yn ystod y trafodaethau, mynegwyd pryder fod (1) y Gyrrwr eisoes wedi
bod ger bron y pwyllgor a’i fod wedi derbyn rhybudd ynglŷn â’i ymddygiad;
(2) er yn dechnegol nad oedd unrhyw ofyniad cyfreithiol, nid oedd y Gyrrwr wedi
datgelu ei fod yn wynebu achos llys am oryrru ar yr achlysur blaenorol pan fu
ger bron y pwyllgor a gellid bod wedi ystyried hynny ar y pryd, a (3) y gyfres
o droseddau traffig ffordd a natur y troseddau hynny a oedd wedi arwain at i’r
Gyrrwr gael ei wahardd am chwe mis. Yn
sgil y pryderon hynny, a’r ffaith na allai’r Gyrrwr gyflawni ei ddyletswyddau
fel gyrrwr trwyddedig yn ystod cyfnod y gwaharddiad, nid oedd y pwyllgor yn ei
ystyried yn berson addas a phriodol i ddal trwydded. O gofio mai prif ystyriaeth y pwyllgor oedd
diogelwch y cyhoedd ac yn sgil y pryderon a fynegwyd, penderfynwyd y dylid
diddymu’r drwydded ar unwaith ar y sail honno.
Cafodd
penderfyniad y pwyllgor a’r rhesymau dros y penderfyniad eu cyfleu i’r Gyrrwr a
rhoddwyd gwybod iddo fod ganddo hawl i apelio.
Esboniwyd iddo nad oedd diddymu’r drwydded yn ei atal rhag ymgeisio am
drwydded ar ôl cwblhau ei waharddiad.
Daeth y cyfarfod i ben am 2.45 p.m.